Cynyddu maint testun

Golwg360



Karen yn cael y dwbl

Awst 31, 2010 07:13

Mae bardd o Wynedd wedi cipio’r dwbl yn eisteddfod fawr Llanbedr Pont Steffan eleni.

Ddydd Sadwrn, fe gafodd Karen Owen o Benygroes ei choroni am gasgliad o gerddi ar y testun ‘Drysau’. Ddydd Llun, roedd hi’n cael ei chadeirio am saith o englynion i ddiarhebion.

Eisteddfod Rhys Thomas James yn Llanbed yw un o’r eisteddfodau sy’n cael ei hystyried nesa’ at y Genedlaethol ei hun.

Mae Karen yn 36 mlwydd oed, a threuliodd 12 mlynedd yn gweithio i gwmni Golwg yn Llanbed pan oedd yn byw yn y dref.

Fe fu’n olygydd ar gylchgrawn Golwg am saith mlynedd ac mae bellach yn sgrifennu a gweithio ar ei liwt ei hun, gan gynnwys gweithio’n achlysurol ar Golwg 360.

• Enillwyd y fedal Ryddiaith dydd Sadwrn gan Arwel Emlyn Jones o Ruthun ond doedd dim teilyngdod yng nghystadleuaeth bardd ifanc dan 25ain oed.

• Enillydd cystadleuaeth llenor ifanc dan 25ain oedd Catrin Haf Jones o Cei Bach, Aberaeron – enillydd coron Eisteddfod yr Urdd Llannerch Aeron eleni.

Llu: Karen Owen gyda’i chadair a’i choron