Cynyddu maint testun

Golwg360



Rhybuddio rhag ‘opera sebon’ y brodyr Miliband

Awst 31, 2010 07:45

Mae peryg bod y frwydr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn troi’n opera sebon rhwng y brodyr Miliband, meddai un o’r ymgeiswyr eraill.

Roedd cefnogwyr y ddau’n ceisio troi’r ornest yn ras rhwng dau geffyl, meddai Ed Balls mewn erthygl ar wefan Labourlist.

Ddoe, roedd y cyn arweinydd Llafur, Neil Kinnock, wedi ymuno yn y ddadl trwy ymosod ar ei gyn-weithiwr, Peter Mandelson.

Yn ôl yr Arglwydd Kinnock, sy’n cefnogi Ed Miliband, roedd yr Arglwydd Mandelson, sy’n cefnogi David Miliband, yn euog o “garfanu personol”.

‘Stryd unffordd’

Roedd Peter Mandelson wedi ymosod ar Ed Miliband gan ddweud y byddai’n arwain Llafur i lawr stryd unffordd trwy roi’r pwyslais ar gefnogwyr traddodiadol y blaid.

Mae David Miliband wedi pwysleisio fod angen apelio at bobol ddosbarth canol a chefnogwyr newydd yn ogystal â’r dosbarth gwaith ac mae’r frwydr rhwng y ddau frawd yn cael ei gweld yn frwydr rhwng Hen Lafur a Llafur Newydd.

“Efallai bod ymgolli mewn dadleuon rhwng Llafur Newydd a Hen Lafur yn creu llawer o benawdau ond fydd hynny’n arwain i unman gyda’r bobol,” meddai Ed Balls.

Fe alwodd y cyn Ysgrifennydd Ysgolion am wario £6 biliwn ar godi tai fforddiadwy – cyfanswm 0 100,000 o dai newydd.

Llun: Ed Balls (Gwifren PA)