Fe fydd Barack Obama’n mynnu ei fod wedi cadw addewid mewn araith heddiw – trwy ddweud yn ffurfiol bod milwyr ymladd yr Unol Daleithiau wedi gadael Irac.
Fe fydd hefyd yn datgan fod ganddo ffydd yng ngallu’r awdurdodau yn Irac i gadw’r heddwch eu hunain.
Erbyn hyn, dim ond 50,000 o filwyr Americanaidd sy’n aros yn y wlad, er mwyn rhoi cymorth a hyfforddiant i luoedd Irac. Ond, yn ystod yr wythnos ddiwetha’, mae 50 o bobol wedi eu lladd mewn cyfres o ymosodiadau.
Gaddo
Roedd yr Arlywydd wedi gado y byddai pawb ond milwyr cadw heddwch wedi gadael erbyn heddiw – fe adawodd yr ola’ o’r 90,000 o ymladdwyr yn ystod y pythefnos diwetha’.
Yn ogystal â’r ffaith ei fod wedi gwrthwynebu’r rhyfel o’r dechrau, mae sylwebwyr yn yr Unol Daleithiau’n credo fod Obama’n chwilio am hwb mawr cyn etholiadau’r Gyngres.
Mae wedi bod yn colli poblogrwydd yn y polau piniwn – oherwydd yr economi a helyntion llygredd olew BP – ac mae’r etholiadau pwysig yn digwydd ymhen deufis.
Llun: Barack Obama (AP Photo)