Cynyddu maint testun

Golwg360



Chwilio am ganw-wraig yn ‘parhau’

Awst 31, 2010 08:55

Mae’r chwilio’n parhau am ganŵ-wraig sydd ar goll oddi yn y môr ger Ynys Môn ers prynhawn ddoe, meddai Gwylwyr y Glannau wrth Golwg360.

Maen nhw’n dweud eu bod yn “pryderu’n fawr am ei diogelwch” erbyn hyn a hithau wedi bod ar goll tros nos.

Mae ei henw wedi ei gyhoeddi hefyd – Elizabeth Ashby, 53 oed, o’r Amwythig – ac mae ei pherthnasau wedi cael gwybod.

Apelio

Mae Gwylwyr y Glannau Caergybi’n apelio ar i gerddwyr a hwylwyr gadw llygad am y wraig a gafodd ei gweld ddiwethaf mewn kayak coch gerllaw Rhosneigr tua 2.30 y prynhawn.

Yn ôl ei chyfeillion, mae hi’n ganŵ-wraig brofiadol a hi oedd yn arwain criw o bump o rwyfwyr.

Dyw’r criwiau achub ddim wedi ffeindio “dim eto,” meddai’r llefarydd, gan ddweud y bydden nhw’n chwilio hyd y glannau heddiw mewn dŵr bas.

Gan fod “llawer o ymwelwyr o gwmpas,” mae Gwylwyr y Glannau wedi bod yn eu hysbysu nhw o’r digwyddiad a’r hyn i’w wneud os ydyn nhw’n gweld rhywbeth.

Fe fydd y criwiau’n “parhau i chwilio drwy’r dydd,” meddai’r llefarydd.

Y digwyddiad

Roedd hi allan yn y môr gyda phedwar o gyfeillion brynhawn ddoe pryd y trodd y tywydd yn ddrwg.

Y gred yw ei bod wedi mynd oddi wrthynt er mwyn ceisio cyrraedd y lan i gael help. Cafodd y pedwar arall eu golchi i’r lan yn ddiweddarach.

Dechreuodd y chwilio’n fuan ac mae hofrenyddion, badau achub a gwylwyr y glannau wedi bod ar waith.

Mae Gwylwyr y Glannau’n apelio ar i unrhyw un sy’n gweld rhywbeth anarferol i’w ffonio ar 01407 762 051.

Llun: Rhosneigr (Eric Jones CCA2.0)