Fe ddaeth y chwilio i ben am y ganw-wraig goll ar ôl dod o hyd i gorff yn y môr ym Mae Caernarfon.
Er nad yw’r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol, y gred yw mai Elizabeth Ashbee yw hi – y ganw-wraig 53 oed o’r Amwythig sydd wedi bod ar goll ers deuddydd.
Fe ddaethpwyd o hyd i’r corff ddiwedd y prynhawn ddoe, tuag 20 milltir o’r fan lle’r aeth ar goll, ger Ynys Meurig yn ardal Rhosneigr, Ynys Môn.
Ynghynt yn y dydd, roedd ei chayak coch wedi ei ffeindio ger Morfa Nefyn ar Benrhyn Llŷn – roedd wedi cael ei gwahanu oddi wrth bedwar canwiwr arall mewn tonnau mawr brynhawn Sul.
Roedd cyd-aelodau o glwb canwio’r Amwythig wedi dod draw i ogledd Cymru i ymuno gyda’r gwasanaethau achub wrth chwilio amdani.
Mae aelodau o’i theulu bellach ar eu ffordd i adnabod y corff yn ffurfiol. Roedd ganddi ddau o blant.
Llun: Bae Caernarfon, ble daethpwyd o hyd i’r corff