Cynyddu maint testun

Golwg360



Blair yn barnu Brown – a bygwth rhyfel

Medi 1, 2010 07:09

Wrth i hunangofiant Tony Blair gael ei gyhoeddi am wyth o’r gloch y bore yma, mae dyfyniadau a chyfweliadau’n dangos dyfnder y gwrthdaro rhyngddo a’i olynydd, Gordon Brown.

Ond mae’r gyfrol hefyd yn debyg o gythruddo llawer o aelodau’r Blaid Lafur heddiw, ac yntau’n cael ei gyhoeddi ar yr union ddiwrnod y mae’r pleidleisio’n dechrau ar gyfer arweinyddiaeth y blaid.

Mae’r cyn Brif Weinidog yn dweud ei fod yn gwybod y byddai’n “drychineb” pe bai ei Ganghellor yn mynd i rif 10 Downing Street yn ei le.

Ar adegau, meddai mewn cyfweliad gyda’r BBC sy’n cael ei ddarlledu heddiw, roedd y berthynas rhwng y ddau yn “anodd” ac erbyn y diwedd “fwy neu lai’n amhosib”.

Roedd hefyd wedi bod yn berthynas glos ac am gyfnod maith, roedd Gordon Brown wedi bod yn gryfder iddo – er iddo ystyried ei sacio.

Yn y llyfr, A Journey, dyma yw ei ddadansoddiad o Gordon Brown: “Gallu i gynllwynio’n wleidyddol. Oes. Teimladau gwleidyddol. Na. Deallusrwydd dadansoddol. Yn bendant. Deallusrwydd emosiynol. Dim.”

Camgymeriad

Mewn cyfweliad gyda phapur y Guardian, mae’n dweud mai camgymeriad Llafur cyn yr etholiad diwethaf oedd symud i ffwrdd oddi wrth syniadau Llafur Newydd.

Fe fydd sylwadau o’r fath yn cael eu gweld yn ergyd i obeithion Ed Miliband ac yn gefnogaeth i David Miliband wrth i’r ddau frawd arwain y ras am arweinyddiaeth y blaid.

Fe fydd y Gynghrair Atal Rhyfel hefyd yn protestio adeg lansio’r llyfr, oherwydd penderfyniad Tony Blair i fynd i ryfel yn erbyn Irac.

Tra bod y cyn Brif Weinidog yn dweud fod yn “ddrwg iawn ganddo” tros deuluoedd milwyr a fu farw, mae’n gwrthod ymddiheuro am y penderfyniad, gan ddweud y byddai gadael Saddam Hussein mewn grym yn Irac wedi bod yn fwy peryglus.

Iran – gweithredu milwrol

Mae’n rhybuddio hefyd y gallai fod angen gweithredu yn erbyn Iran, os yw hi’n symud tuag at gael arfau niwclear.

“Dw i’n credu bod rhaid i ni fod yn barod i’w gwrthwynebu nhw,” meddai. “Yn filwrol os oes rhaid.”

Llun: Tony Blair