Cynyddu maint testun

Golwg360



Lledu’r Cyfnod Sylfaen – Carwyn yn croesawu

Medi 1, 2010 07:30

Mae’r Prif Weinidog wedi croesawu’r ffaith bod y drefn newydd ar gyfer plant bach yn cael ei ledu heddiw i ddisgyblion rhwng 5 a 6 oed.

Ac mae’r Llywodraeth yn dweud bod y cynllun eisoes yn llwyddiant ac y bydd y broses o’i gyflwyno wedi gorffen o fewn y flwyddyn.

Fe fu’n rhaid arafu’r broses o gyflwyno’r Cyfnod Sylfaen newydd oherwydd diffyg arian ond, yn ôl Carwyn Jones, mae’r system, sy’n canolbwyntio ar ddysgu trwy chwarae, wedi “trawsnewid addysg blynyddoedd cynnar yng Nghymru”.

“Mae wedi sicrhau bod cysondeb a dilyniant yn addysg ein plant, a hynny ar adeg bwysig yn eu bywydau,” meddai.

“Trwy’r Cyfnod Sylfaen, rydyn ni’n rhoi’r cyfle i blant ddysgu trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol sy’n cynnig tipyn o hwyl a sbri.”

Rhagor o adnoddau

Roedd y drefn newydd wedi ei chyflwyno i blant rhwng 3 a 5 oed yn 2008, ond mae’n gofyn am adnoddau i chwarae yn yr awyr iach ac am lefelau uwch o staffio.

“Mae’r plant yn cael dysgu o brofiad uniongyrchol trwy chwarae a gwneud gweithgareddau ymarferol sy’n eu sbarduno i fod yn greadigol ac i ddefnyddio’u dychymyg,” meddai’r Prif Weinidog.

“Mae’r ffordd hon o addysgu plant yn bendant yn torri tir newydd. Mae brwdfrydedd ac ymateb athrawon, staff cymorth, ymarferwyr, rhieni/gofalwyr, ac yn bwysicach fyth y plant eu hunain, wedi bod yn gadarnhaol ac yn galonogol iawn.”

‘Manteision i’w gweld’

Mae’r Gweinidog Addysg yn dweud bod effeithiau’r Cyfnod Sylfaen i’w gweld eisoes ac y bydd mwy o fudd yn y dyfodol.

“Mae mwy o bwyslais ar gael y plant i ddeall sut mae pethau’n gweithio ac ar ddod o hyd i wahanol ffyrdd o ddatrys problemau,” meddai Leighton Andrews.

“Erbyn mis Medi 2011, bydd y gwaith o gyflwyno’r Cyfnod Sylfaen wedi’i gwblhau, a bydd pob plentyn rhwng tair a saith mlwydd oed yn gallu manteisio ar ein polisi addysg ar gyfer y blynyddoedd cynnar.

“Roedd cyflwyno’r Cyfnod Sylfaen yn gam mawr ymlaen i Gymru. Ond fel mae’r ddwy flynedd diwethaf wedi dangos i ni, roedd yn gam i’r cyfeiriad iawn.”

Llun: Carwyn Jones (Gwifren PA)