Cynyddu maint testun

Golwg360



D am David i’r Mirror

Medi 1, 2010 07:54

Mae’r prif bapur Llafur wedi cyhoeddi ei fod yn cefnogi David Miliband yn y ras am arweinyddiaeth y blaid.

Wrth i’r papurau pleidleisio gael eu hanfon allan heddiw, mae’r Daily Mirror yn dweud mai’r cyn Ysgrifennydd Tramor yw’r ymgeisydd cryfa’.

Er bod ei frawd bach, Ed, wedi eu synnu, mae’r papur yn dweud mai gan David Miliband y mae’r profiad a bod y Ceidwadwyr yn ei “ofni”.

David Miliband yw’r ffefryn ers dechrau’r ras ac mae wedi ennill mwy o gefnogaeth ymhlith ASau a changhennau’r blaid.

Blair yn ymyrryd hefyd

Mae’r cyn Brif Weinidog, Tony Blair, hefyd wedi rhoi awgrym cry’ ei fod yn cefnogi’r brawd hynaf, gan rybuddio y byddai mynd ymhellach i’r chwith yn arwain at “grasfa waeth fyth”.

Mae hefyd yn dweud bod beirniadu toriadau gwario’r Ceidwadwyr yn gamgymeriad yn y tymor hir, hyd yn oed os bydd yn rhoi mantais tros dro.

Ymateb yn swta wnaeth rhai o’r ymgeiswyr eraill. Doedd dim gwahaniaeth pwy yr oedd Tony Blair yn ei gefnogi, meddai Ed Balls, tra bod Andy Burnham yn mynnu ei fod yntau yn y ras o hyd, “yn drydydd cry’ ac yn ennill tir”.