Fe fydd camau newydd yn cael eu cymryd i ddiogelu un o drysorau penna’ llenyddiaeth Gymraeg.
Ddydd Iau, mae disgwyl i Gyngor Dinas Caerdydd benderfynu trosglwyddo Llyfr Aneirin i’r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
Yn ôl llefarydd ar ran y cyngor, mae’n fwy tebyg o gael ei warchod yn iawn yno, yn hytrach nag yn Llyfrgell Ganolog y ddinas.
Ar hyn o bryd, mae’r copi’n rhy frau i neb allu ei astudio ond, o dan y cytundeb newydd, fe fydd copïau ffacsimili yn cael eu cynhyrchu i’w gosod yn y llyfrgell yng Nghaerdydd.
Y cefndir
Llyfr Aneirin yw un o’r cyfrolau cynta’ o lenyddiaeth Gymraeg ac mae’n cynnwys cerdd Y Gododdin sy’n disgrifio ymgyrch aflwyddiannus milwyr Cymreig yng Nghatraeth yng ngogledd Lloegr.
Er bod y gyfrol ei hun wedi’i sgrifennu tua 1265, y gred yw bod y cynnwys wedi ei drosglwyddo’n llafar am ganrifoedd cyn hynny.
Y llynedd, fe weithredodd Llywodraeth y Cynulliad a Phrifysgol Caerdydd i arbed casgliad o lawysgrifau gwerthfawr oedd ar fin cael eu gwerthu gan Gyngor Dinas Caerdydd.
Roedd llawer o’r cyfrolau pwysig wedi eu crynhoi yng Nghaerdydd ar adeg pan oedd y ddinas yn gobeithio bod yn gartref i’r Llyfrgell Genedlaethol.
Llun: Tudalen o Lyfr Aneirin