Fe gafodd wyau ac esgidiau eu taflu at Tony Blair wrth iddo fynd i arwyddo copïau o’i hunangofiant yn Iwerddon.
Mae’n ymddangos na chafodd y cyn Brif Weinidog ei daro ond roedd gwrthdaro rhwng heddlu a phrotestwyr heddwch.
Roedd Tony Blair ar ei ffordd i arwyddo’r llyfr, A Journey, yn siop Easons yn y brifddinas, Dulyn.
Wrth lansio’r gyfrol, mae wedi pwysleisio ei fod yn dal i gredu yn y penderfyniad i fynd i ryfel yn Irac ac Afghanistan, er ei fod yn drist am nifer y milwyr Prydeinig sydd wedi’u lladd.
Roedd mesurau diogelwch llym ynglŷn â’r arwyddo, gyda gwaharddiad ar fagiau a ffonau symudol a phawb yn gorfod cael band garddwrn cyn cael arwyddo’r llyfr.
Llun: Tony Blair adeg Ymchwiliad Chilcot i’r rhyfel yn Irac (Gwifren PA)