Cynyddu maint testun

Golwg360



Gwrthwynebu cynllun i greu darnau arian rhatach

Medi 4, 2010 13:24

Mae’r Trysorlys wedi dweud heddiw eu bod n nhw’n ystyried creu darnau arian 5c a 10c o fetelau rhatach, er mwyn arbed £8 miliwn y flwyddyn.

Ond fe allai’r newid gostio £100 miliwn i’r wlad wrth i gwmnïau orfod addasu peiriannau gwerthu a mesuryddion parcio fel eu bod nhw’n derbyn yr arian newydd.

Mae’r Bathdy Brenhinol, sydd yn Llantrisant, Rhondda Cynon Taf, eisiau dechrau creu darnau allan o ddur a nicel yn hytrach nag o gopr a nicel – ar ôl cynnydd mawr ym mhris copr.

Trychineb’

Ond dywedodd Jonathan Hilder, prif weithredwr Cymdeithas y Peiriannau Gwerthu Awtomatig, wrth bapur newydd y Daily Telegraph y byddai’r newid yn un costus dros ben.

“Rydyn ni wedi dweud wrth y Trysorlys a’r Bathdy Brenhinol y bydd y newid yn drychineb, ond dydyn nhw ddim wedi cymryd sylw,” meddai.

“Mae hyn i fod i arbed arian, ond fe fydd yn costio £42 miliwn i’r diwydiant peiriannau gwerthu a hyd at £100 miliwn i’r diwydiant peiriannau sy’n derbyn darnau arian.”

Dywedodd fod peiriannau sy’n derbyn arian parod yn fwy soffistigedig nag y mae pobol yn ei feddwl. Maen nhw’n mesur pwysau, siâp a magnetedd y darnau arian er mwyn atal pobol rhag defnyddio arian ffug.

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys eu bod nhw’n ystyried defnyddio dur a nicel mewn darnau arian “er mwyn lleihau’r diffyg ariannol”.