Cynyddu maint testun

Golwg360



Beilïod yn bwlio – stori gwraig o Sir Benfro

Medi 4, 2010 17:47

Mae gwraig o Sir Benfro wedi dweud fel y cafodd ei herlid yn annheg yn ei chartre’ gan gwmnïau casglu dyledion.

Bellach, mae Sian Meredith, sy’n gyfrifydd, yn rhy ofnus i fod yn ei chartref yng Nghilgerran ar ei phen ei hun.

Fe ddywedodd wrth bapur newydd y Times ei bod hi wedi prynu tŷ yn y pentre’ ac wedyn wedi cael ei phoeni i dalu dirwyon parcio’r cyn-berchennog.

Roedd y beilïod, meddai, wedi ei chyhuddo o ddweud celwydd ac wedi bygwth torri i mewn i’w char neu glampio’i char.

“Maen nhw’n dibynnu ar fwlio, bygwth a diffyg gwybodaeth pobol am y gyfraith,” meddai’r wraig 50 oed.”

Astudiaeth yn dangos effaith ar iechyd meddwl

Fe ddaeth ei stori wrth i astudiaeth gan yr elusen iechyd meddwl, Mind, ddangos bod 80% o bobol a oedd wedi cael ymweliad gan gwmnïau o’r fath yn dweud eu bod wedi cael eu bygwth.

Yn ôl yr astudiaeth o 453 o oedolion, roedd 96% o’r dioddefwyr yn teimlo’n fwy gofidus, 87% yn teimlo’n fwy isel a 50% yn teimlo fel gwneud amdanyn nhw eu hunain.

Mae Mind yn awr yn galw am reolau mwy caeth i atal y bwlian.