Cynyddu maint testun

Golwg360



‘Defnyddiwch y drwydded i dalu am S4C’

Medi 5, 2010 08:05

Mae Aelod Cynulliad dylanwadol wedi galw am ddefnyddio arian y drwydded deledu i dalu am S4C.

Dyna un ffordd i’r sianel sicrhau digon o arian ac annibyniaeth, meddai Alun Davies, yr AC Llafur a fu’n gadeirydd Pwyllgor Darlledu’r Cynulliad.

Er y byddai’r BBC yn casáu’r syniad, meddai, fe ddylen nhw dderbyn hynny: “Mae arian y drwydded yn cynnig cronfa o gyllid i ddarlledu cyhoeddus ac, yn ogystal â rhoi arian i’r Bîb gall hefyd helpu i gynnal darlledu cyhoeddus yn fwy eang.”

Mewn colofn ar y wefan WalesHome, mae’r AC a fu’n gweithio i’r sianel yn honni nad yw Awdurdod S4C mewn cyflwr i “symud y sianel ymlaen” ar ôl diswyddo ei Phrif Weithredwr, Iona Jones – “yr argyfwng mwya’ difrifol yn ei hanes”.

Eisiau Huw Jones yn ôl

Yn ogystal â chael aelodau newydd ar yr Awdurdod, mae’n dweud y byddai hefyd yn galw cyn Brif Weithrdwr y sianel, Huw Jones, yn ôl i gynnig “sefydlogrwydd” ac “ail-ennill ymddiriedaeth”.

Mae Alun Davies hefyd yn condemnio polisïau darlledu’r Llywodraeth newydd yn Llundain, gan eu cyhuddo o chwalu amrywiaeth o ran teledu yng Nghymru ac o gynnig atebion sy’n siwtio de-ddwyrain Lloegr.