Cynyddu maint testun

Golwg360



Y Nationwide yn ystyried cau asiantaethau

Medi 5, 2010 12:44

Fe allai cannoedd o swyddi fod mewn peryg os yw honiadau’n gywir bod Cymdeithas Adeiladu’r Nationwide am gau cymaint â 150 o asiantaethau.

Dyw’r Gymdeithas ei hun ddim wedi cadarnhau’r adroddiadau ym mhapur newydd y Mail on Sunday ond fe ddywedodd y Prif Weithredwr eu bod yn ail ystyried natur eu rhwydwaith.

Fe allai’r cyhoeddiad ddod cyn gynted â dydd Mawrth pan fydd y Gymdeithas yn cyhoeddi ei chanlyniadau diweddara’.

Dyw’r asiantaethau ddim yn ganghennau llawn – yn hytrach mae’r Gymdeithas yn cynnig ei gwasanaethau trwy swyddfeydd twrneiod a gwerthwyr tai.

Lloyds hefyd

Eisoes fe gyhoeddodd Banc Lloyds eu bod nhw’n rhoi’r gorau i’r asiantaethau sydd ganddyn nhw yn enw’r Halifax.

Er nad yw’r Nationwide yn cyflogi pobol yn uniongyrchol yn yr asiantaethau, eu busnes nhw sy’n cynnal llawer o’r swyddi.

Mae’r Gymdeithas eisoes wedi cyhoeddi ei bod yn ystyried dyfodol rhai o’r 850 o ganghennau sydd ganddyn nhw.

Llun: Un o ganghennau’r Nationwide (thisisace CCA 3.0)