Cynyddu maint testun

Golwg360



Gobaith o roi bywyd newydd i safle pwysig

Medi 5, 2010 16:36

Mae gobaith o warchod a datblygu un o safleoedd pwysica’r Chwyldro Diwydiannol yng Nghymru.

Fe gyhoeddodd Cyngor Dinas Abertawe eu bod yn gweithio gyda chwmni preifat ar gynlluniau i wneud defnydd o safle hen waith copr yr Hafod ger canol y ddinas.

Fe fyddai’n golygu diogelu a gwarchod rhai o’r adeiladau sydd wedi eu rhestru gan Cadw a dod o hyd i ddefnydd newydd i adeiladau hanesyddol.

Roedd y Cyngor wedi gofyn i ddatblygwyr fynegi diddordeb ac roedd arweinydd y Cyngor, Chris Holley, yn falch iawn bod un cwmni wedi ymateb er gwaetha’r hinsawdd ariannol.

Fe fyddai tai fforddiadwy ac arwyddion i egluro hanes y safle yn rhan o’r datblygiad: “Y nod yw creu ardal ar lan y dŵr lle gall pobol ymweld a byw yn ogystal â gweithio,” meddai.

Hafod – y cefndir

Mae’r Hafod yn agos at lannau afon Tawe ac at Stadiwm Liberty – yn yr 19fed ganrif, y gwaith copr yno oedd y mwyaf yn y byd.

Fe gafodd ei adeiladu tua 1809 gan John Vivian, dyn o Gernyw a ddechreuodd ddatblygu cyfoeth diwydiannol Abertawe. Roedd yn gweithio tan 1980 ac mae dau hen dŷ peiriant a simneiau yno o hyd, yn ogystal â rhan o fur a wnaed o slag copr.

Llun: Hen waith copr yr Hafod (Cyngor Dinas Abertawe)