Fe gafodd cricedwyr Pacistan eu curo yn eu gêm Ugain20 yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd y prynhawn yma.
Ond mae’r trafod mwya’ yn parhau ynglŷn â’r honiadau o dwyll yn erbyn chwaraewyr y wlad, gyda chyhuddiadau pellach wedi eu gwneud ym mhapur y News of the World hedddiw.
Y gred yw bod un o fatwyr y tîm wedi cael ei holi gan swyddogion Pacistan heddiw ar ôl i’r papur gyhoeddi ei fod wedi cyfadde’ bod llawer o dwyllo’n digwydd.
Mae Yasir Hameed wedi gwadu gwneud y sylwadau ond mae’r papur wedi cyhoeddi fideo o’r cyfweliad a wnaed ar y slei.
Y gêm
Yn y gêm ei hun, fe enillodd Lloegr yn gyfforddus gyda 17 pelen i’w sbario.
Roedd y troellwr Graeme Swann wedi bowlio’n arbennig o dynn gyda 2 am 14 i helpu i gyfyngu Pacistan i 126 am 4 erbyn diwedd eu 20 pelawd.
Fe sgoriodd Steven Davies, Eoin Morgan a Michael Yardy fwy na 30 yr un wrth i Loegr gyrraedd 129 am 5.
Llun: Stadiwm Swalec