Datgelwyd heddiw y bydd hyfforddwr Cymru, John Toshack, yn gadael ei swydd ym mis Hydref.
Yn ol adroddiadau yn y papurau newydd a’r cyfryngau, mae wedi penderfynu ymddiswyddo yn dilyn siom colli 1-0 yn erbyn Montenegro yng ngemau rhagbrofol Ewro 2012 nos Wener.
Montenegro oedd y tîm hawsa’ i’w curo mewn grŵp sy’n cynnwys Lloegr, y Swistir a Bwlgaria hefyd.
Mae Toshack wedi cael clod am ddatblygu a chyflwyno criw o chwaraewyr ifanc ond mae hefyd wedi ffraeo gyda nifer o chwaraewyr profiadol.
Mae disgwyl iddo oruchwylio dwy gêm nesaf Cymru, yn erbyn Bwlgaria yng Nghaerdydd a’r Swistir yn Basle, ym mis Hydref, os nad yw Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dod o hyd i olynydd cyn hynny.
Y cefndir
Cafodd ei benodi i swydd rheolwr Cymru yn 2004 gan olynu Mark Hughes.
Wrth gymryd y swydd, roedd wedi dweud y dylai gael ei farnu ar ei ganlyniadau yng Nghwpan y Byd – fe fethodd Cymru â chyrraedd y rowndiau terfynol bryd hynny.
Dyma ei ail gyfnod fel rheolwr Cymru, ar ôl 41 diwrnod yn y swydd yn 1994. Ymddiswyddodd yn dilyn colled o 3-1 yn erbyn Norwy.
Mae seren Man United, Ryan Giggs, a Brian Flynn, rheolwr tîm dan 21 Cymru, yn cael eu crybwyll yn hyfforddwyr newydd posib.
Cliciwch yma i weld pam bod y cefnogwr Iwan Williams ym meddwl bod ymadawiad Toshack yn newyddion da i Gymru.
Cliciwch yma i weld dadansoddiad o’r enwau sy’n cael eu hystyried fel olynydd i Toshack.