Mae David Cameron wedi hedfan i Ffrainc i fod gyda’i rieni ar ôl i’w dad, Ian, gael strôc ar ei wyliau.
Yn ôl llefarydd ar ran Downing Street, “Cafodd y Prif Weinidog wybod y bore ‘ma fod ei dad, Ian, yn ddifrifol wael ar ôl dioddef strôc a chymhlethdodau ar y galon tra ar ei wyliau yn Ffrainc.”
Mewn cyfweliad gydag ITV cyn yr etholiad cyffredinol, fe ddisgrifiodd Mr Cameron ei dad, sy’n 77 oed, fel “arwr mawr” iddo.
“Wedi siarad gyda doctoriaid yn yr ysbyty,” meddai’r llefarydd, “mae’r Prif Weinidog wedi penderfynu hedfan i Ffrainc i fod gyda’i rieni.”
Y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, fydd yn cymryd lle Mr Cameron yn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog am hanner dydd heddiw yn Nhŷ’r Cyffredin.
Llun: Cameron a’i Dad gan AP Photo