Fe fydd £23.6m yn cael ei fuddsoddi mewn ymchwil i ddiwydiannau sy’n gysylltiedig â’r môr yn y gobaith o greu cannoedd o swyddi a busnesau newydd yn y Gogledd.
Mae prosiect SEACAMS Prifysgol Bangor wedi cael £12.6m o Gronfa Datblygu Rhanbarthau Ewropeaidd trwy Lywodraeth y Cynulliad.
Fe fydd y prosiect sy’n cael ei arwain gan yr Ysgol Gwyddorau Naturiol yn annog twf mewn 450 o fusnesau gan greu swyddi newydd ac ennill mwy o gytundebau.
Hanfodol creu cyswllt rhwng ymchwil a busnes
Fel rhan o’r prosiect fe fydd Canolfan newydd yn cael ei sefydlu ar Ynys Môn.
Fe ddywedodd y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ieuan Wyn Jones, y bydd cynyddu gweithgarwch masnachol a hyrwyddo buddsoddiadau yn y sector gwyddorau morol yn helpu sicrhau swyddi.
Mae’r Athro Colin Jago o Ysgol Gwyddorau Naturiol Prifysgol Bangor yn dweud ei bod hi’n hanfodol datblygu cydweithio rhwng mentrau ymchwil a’r byd busnes.
“Mae Cymru mewn lle da iawn i fanteisio ar yr ehangu sylweddol sy’n digwydd yn diwydiant ynni oddi ar arfordir Môr yr Iwerydd,” meddai’r Athro Colin Jago.
Mae rheolwr prosiect SEACAMS, Dr Gay Mitchelson-Jacob yn credu y bydd y prosiectau yma’n sicrhau bod graddedigion mewn gwyddorau morol yn gallu parhau gyda’i gyrfaoedd yng Nghymru yn hytrach na gorfod gadael i chwilio am swyddi rhywle arall.
Llun gan Prifysgol Bangor