Cynyddu maint testun

Golwg360



Soned am golli’r Gymraeg mewn casgliad Prydeinig

Medi 8, 2010 14:51

Mewn tua wyth mlynedd, bydd tua 40 o sonedau newydd wedi’u hysgrifennu gan wahanol feirdd o amgylch Prydain fel rhan o gynllun barddonol. Yn eu plith bydd cerdd am y Gymraeg.

Mae Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke yn cydweithio â’r Bardd Llawryfog presennol Carol Anne Duffy ar y cynllun newydd – ‘The Landmark Sonnets.’

Yn ogystal â sonedau gan feirdd gwahanol, bydd darnau celf o’r gweithiau yn cael eu creu a’u gosod yn y tirlun ar ddiwedd y cynllun, meddai Gillian Clarke wrth Golwg360.

“’Dw i wedi ysgrifennu fy ngherdd i yn barod sef soned am Ddinas Caerdydd o dan y teitl ‘The Fish Path.’

“Fe ges i fy ngeni yng Nghaerdydd – fy ninas i yw Caerdydd,” meddai. “Ro’ ni wedi meddwl am Geredigion neu Sir Benfro – ond fe wnes i feddwl wedyn y byddwn i’n gadael y llefydd hynny i’r beirdd Cymraeg.”

Mae’r bardd yn gobeithio y bydd pobl yn mynd i’r ardaloedd gwahanol ar deithiau cerdded i weld y gweithiau.

‘Dyheu’ a ‘cholli’r Gymraeg’

Yn ei soned, Mae Gillian Clarke yn darlunio Afon Taf ac Afon Elai gan sôn am yr eog yn mynd yn ôl adref.

“Trosiad yw hyn am bobl….fel fi, sydd wedi colli’r iaith Gymraeg am resymau hanesyddol neu ddemograffig,” meddai.

Yn ôl y bardd, doedd ei mam, a oedd yn un o 10 o blant o Ogledd Ddwyrain Cymru, ddim wedi pasio’r Gymraeg ymlaen iddi.

“Peth cenhedlaeth oedd o. Roedd fy mam yn meddwl y byddwn i’n well hebddo. A ‘dw i’n credu iddi deimlo’n wirion yn siarad yng Nghaerdydd.”

Y bwriad yw torri llythrennau’r soned mewn carreg a’i gosod yn y tirlun.

Llun : Gillian Clarke ( gan yr Academi)