Cadarnhaodd cyn swyddog y Gymdeithas Bêl Droed , David Davies, fod yr heddlu wedi dod o hyd i dystiolaeth fod ei ffôn wedi cael ei hacio.
Davies yw’r enw diweddaraf i gael ei gysylltu â’r honiadau hacio yn erbyn y News of The World yn ôl adroddiad gan Sky.
Mae’r achos wedi codi ei ben eto yn dilyn honiadau gan un o gyn-ohebwyr y papur fod yr hacio ffônau yn digwydd pan oedd pennaeth cyfathrebu presennol Downing Street, Andy Coulson, yn olygydd ar y News of the World – a’i fod e’n gwybod ei fod yn digwydd.
Dau eisioes wedi eu carcharu
Pan gynhaliwyd yr achos gwreiddiol yn erbyn y papur yn 2007, fe garcharwyd cyn ohebydd brenhinol y papur ac un ymchwilydd preifat ar gyhuddiadau o hacio ffônau wyth o bobl, gan gynnwys yr AS Simon Hughes, a’r model Elle Macpherson.
Ond yn ôl John Yates o’r Heddlu Metropolitan, roedd heddlu Llundain yn amau fod mwy o bobl wedi cael eu targedu gan yr hacio yn ystod yr achos yn 2007, ond nad oedd ganddyn nhw’r dystiolaeth ar y pryd i fynd â’r achosion hynny ymhellach.
Mae’r dystiolaeth yn dangos fod yr hacio wedi digwydd tua’r un adeg â’r cyhuddiadau o boenydio rhywiol a wnaed yn erbyn David Davies gan Faria Alam – cyn ysgrifenyddes a gafodd berthynas gyda Sven-Goran Eriksson.
Yn ôl Sky News, mae Mr Davies yn bryderus iawn ynglŷn â’r ymyrraeth ar ei breifatrwydd, ac yn awyddus i wybod pa wybodaeth a gasglwyd gan y News of the World.
Llun: Andy Coulson gan AP Photo