Cynyddu maint testun

Golwg360



Ymchwiliad Iechyd y Cymoedd

Medi 8, 2010 15:34

Mae’r awdurdodau iechyd yn parhau i chwilio safleoedd diwydiannol yn ne Cymru wrth iddyn nhw geisio canfod tarddiad clefyd y llengfilwyr ym Mlaenau’r Cymoedd.

Mae swyddogion o’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch, Iechyd Cyhoeddus Cymru a saith awdurdod lleol yn ymchwilio i’r mater.

Un posibiliad sy’n cael ei ystyried yw y gallai’r clefyd fod wedi dechrau mewn systemau tymheru aer neu dyrau oeri ar safleoedd diwydiannol.

Mae un fenyw eisoes wedi marw ar ôl dioddef o’r clefyd ac mae ‘na 13 o achosion wedi cael eu hadrodd.

Clefyd prin ond un sy’n gallu lladd

Mae’r clefyd yn fath o niwmonia, sy’n gallu bod yn farwol, yn enwedig ymhlith pobol oedrannus neu rai sy’n dioddef o gyflwr iechyd arall.

Mae’n cael ei ledaenu mewn gwlybaniaeth yn yr awyr ond, yn ôl yr arbenigwyr, dyw e ddim yn cael ei drosglwyddo o un person i’r llall.

“Mae clefyd y llengfilwyr yn glefyd prin ond mae’n salwch sy’n gallu lladd,” meddai Dr Gwen Lowe ymgynghorydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Mae pobl yn cael eu heintio trwy anadlu bacteria Legionella sy’n cael ei ledaenu trwy’r aer fel niwl neu hefyd o fewn dŵr sydd wedi’i lygru.

“Ond dyw’r clefyd ddim yn gallu cael ei drosglwyddo o un person i’r llall.”

Pwysig archwilio systemau dwr

Mae Steve Brown, cyfarwyddwr cwmni iechyd a diogelwch Protect Health and Saftey Limited wedi dweud bod ‘na modd diogelu safleoedd rhag y clefyd.

Yn ôl Steve Brown mae’n bwysig bod systemau dŵr yn cael eu cynnal i’r safon briodol yn ôl canllawiau Gweithgor Iechyd a Diogelwch.

Fe ddywedodd y cyfarwyddwr bod y Gweithgor Iechyd a Diogelwch yn argymell cynnal asesiad risg Legionella o leia’ unwaith bob dwy flynedd.

Llun: O daflen am y clefyd gan y Gweithgor Iechyd a Diogelwch