Mae Gavin Henson wedi gwisgo crys rygbi Cymru am y tro cyntaf ers Pencampwriaeth Chwe Cwlad 2009- nid ar gyfer gem ond er mwyn modelu crys newydd y tîm rhyngwladol.
Bydd Gavin Henson yn cymryd rhan yng nghyfres diweddaraf y gystadleuaeth ddawnsio, Strictly Come Dancing.
Ond mae’r Cymro hefyd wedi dweud yn y dyddiau diwethaf ei fod yn awyddus i chwarae i Gymru yng Nghwpan y Byd blwyddyn nesaf.
Mae Undeb Rygbi Cymru wedi dweud bod sêr presennol a gorffennol rygbi Cymru yn cael eu defnyddio i farchnata’r crysau newydd- ond dyw hi ddim yn glir i mha categori mae Henson!
“Doedd dim rhaid i mi feddwl dwywaith pan ofynnodd Undeb Rygbi Cymru i mi fod yn un o’r rhai cyntaf i wisgo’r crys newydd,” meddai Henson.
“Fel Cymro angerddol rwyf wastad wedi teimlo balchder pan rwyf wedi bod yn ddigon breintiedig i gael gwisgo’r crys, a doeddd yr achlysur yma ddim yn wahanol.”
Llun: Gavin Henson gan Undeb Rygbi Cymru