Cynyddu maint testun

Golwg360



Coelcerth cwangos Lloegr am effeithio ar Gymru

Hydref 14, 2010 08:32

Fe fydd Lloegr yn cael gwybod am fanylion ‘coelcerth y cwangos’ yno heddiw – ond fe allai’r newidiadau gael effaith fawr ar Gymru hefyd.

Ymhlith y newidiadau, fe fydd mesur newydd i’w gwneud hi’n haws i gael gwared a newid rheolaeth cyrff o’r fath.

Fe allai hynny gynnwys yr hawl i newid y ddeddf sy’n gwarchod arian S4C, gan agor y drws i dorri 25% o’i chyllid.

Mae yna bryder hefyd y bydd rhai o’r newidiadau’n effeithio ar gyrff yng Nghymru, er nad oes unrhyw ymgynghori wedi bod.

Un syniad yw uno English Heritage a Chronfa Treftadaeth y Loteri, er bod y Gronfa’n berthnasol i wledydd Prydain i gyd – gan gynnwys Cymru – ac yn gweithio’n agos gyda chyrff fel Cadw.

Effaith ar Gymru

Fe fyddai newidiadau posib i gyrff gwarchod defnyddwyr yn Lloegr hefyd yn debyg o effeithio ar gyrff tebyg yma.

Mae disgwyl y bydd y Gweinidog yn Swyddfa’r Cabinet, Francis Maude, yn cyhoeddi rhestr o’r cwangos a fydd yn cael eu torri.

Mae 700 corff o’r fath ac roedd rhestr gynharach, a aeth i ddwylo’r BBC, yn awgrymu y byddai 180 yn mynd, 124 yn gorfod uno gyda chyrff eraill a 56 yn cael eu diwygio’n sylweddol.

Yn ôl y Llywodraeth yn Llundain, fydd yna ddim gwybodaeth fanwl heddiw am nifer y swyddi sy’n debyg o gael eu colli.

Dadl David Cameron

“Y broblem yma yw bod nifer y cyrff wedi cynyddu tros y blynyddoedd ac, mewn sawl achos, does gyda ni ddim o’r grym i wneud dim amdanyn nhw,” meddai llefarydd ar ran Prif Weinidog Prydain, David Cameron.

“Ein nod yma yw delio gyda’r gormodedd a’r llanast o gael llwythi o gyrff yn adrannau’r llywodraeth – fe gafodd rhai eu creu at un pwrpas ond mae’r byd wedi newid.”

Llun: Francis Maude (o’i wefan)