Bydd penaethiaid S4C yn wynebu’r cyhoedd ar raglen arbennig ar y sianel ddiwedd y mis.
Bydd cyfle i wylwyr y sianel fynegi eu barn yn fyw mewn rhaglen arbennig Noson Gwylwyr S4C nos Lun 25 Hydref.
Bydd panel yn cynrychioli Awdurdod S4C a Phrif Weithredwr y Sianel yn ateb cwestiynau’r gwylwyr a bydd cyfle i’r cyhoedd ffonio, gysylltu ar-lein, drydaru neu ysgrifennu i mewn i ddweud eu dweud am raglenni a gwasanaethau’r Sianel.
Mae S4C yn mynd trwy un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn ei hanes, gan wynebu toriad o hyd at 25% yn ei chyllideb £100m pan fydd yr adolygiad gwario cynhwysfawr yn cael ei chyhoeddi’r wythnos nesaf.
Bydd Noson Gwylwyr S4C yn gyfle i’r gynulleidfa roi eu barn am raglenni a gwasanaethau S4C ac am ddyfodol y Sianel.
‘Cyfle cyson i fynegi barn’
Un o wynebau mwyaf poblogaidd S4C, Angharad Mair, fydd yn llywio’r rhaglen awr. Bydd John Walter Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C, Arwel Ellis Owen, Prif Weithredwr y Sianel, yn ogystal ag aelodau’r Awdurdod yn ymddangos ar y panel.
“Mae barn y gwylwyr yn holl bwysig i S4C ac mae nosweithiau gwylwyr S4C yn cael eu cynnal yn rheolaidd ledled Cymru,” meddai John Walter Jones.
“Yn y flwyddyn aeth heibio cafwyd ymateb arbennig o dda i gyfarfodydd yn Llangefni, Caerfyrddin, Yr Wyddgrug, Machynlleth, Abertyleri a Glyn Ebwy. Rydym hefyd yn ddiweddar wedi gwahodd sylwadau gan wylwyr ac mae dros 200 wedi cysylltu â ni.
“Bwriad y rhaglen Noson Gwylwyr S4C yw rhoi cyfle i’r gwylwyr ar draws Cymru a thu hwnt gyfrannu i’r drafodaeth am y Sianel a’i dyfodol.
“Mae cyfathrebu gyda’r gynulleidfa yn holl bwysig i S4C. Mae’n gynulleidfa sy’n meddwl am yr arlwy ac nid rhywbeth mympwyol yw eu barn.
“Yma er lles y gwylwyr mae S4C a rhaid sicrhau cyfleoedd cyson iddynt fynegi eu barn. Mae gan Awdurdod S4C ddyletswydd i wrando ac i gadw mewn cysylltiad â’r gwylwyr ac rydym yn manteisio ar bob cyfle i wneud hynny.”
Os am fynegi eich barn neu ofyn cwestiwn ar y rhaglen cysylltwch drwy ffonio 0800 45 10 10, ar-lein ar s4c.co.uk/gwylwyr, drwy drydaru ar @s4carlein drwy ddefnyddio’r tag #gwylwyr, neu drwy ysgrifennu at Noson Gwylwyr S4C, Parc Tŷ Glas, Llanisien, Caerdydd, CF14 5DU.