Cynyddu maint testun

Golwg360



Stampiau ‘Wallace and Gromit’ yn Anghristnogol

Tachwedd 15, 2010 14:54

Mae un o arweinwyr crefyddol Cymru wedi galw ar y Swyddfa Bost i argraffu stampiau Cristnogol yn unig dros y Nadolig.

Roedd y Parch Andrew Lenny, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn ymateb i stampiau newydd ‘Wallace and Gromit’ y Swyddfa Bost a fydd ar gael dros yr ŵyl.

Dywedodd y byddai’n apelio ar bobl i ddewis stampiau sydd â thema Gristnogol ar gyfer anfon cardiau a llythyrau’r Nadolig hwn.

Er mai Wallace and Gromit ac nid y baban Iesu a’r Forwyn Fair fydd ar stampiau’r Post Brenhinol eleni, fe fydd stampiau Cristnogol o flynyddoedd blaenorol ar gael hefyd.

“Mae’r stampiau ‘Wallace & Gromit ‘ yn ddigon lliwgar, ond pam fod cymeriadau clai yn cael blaenoriaeth ar stampiau sydd wedi eu cynhyrchu yn arbennig ar gyfer gŵyl sy’n dathlu genedigaeth ein Harglwydd Iesu Grist?” meddai llefarydd ar ran yr enwad wrth Golwg 360.

Dywedodd y Post Brenhinol fod ganddyn nhw bolisi o greu stampiau gyda themâu Cristnogol a seciwlar bob yn ail.

“Roedd stampiau 2009 yn dangos genedigaeth Iesu mewn ffenestri gwydr lliw, felly eleni rydym ni wedi mynd am themâu seciwlar,” medden nhw.

Dywedodd Andrew Lenny y dylai’r Swyddfa Bost ofyn i bobol a oedden nhw eisiau’r casgliad newydd neu stampiau Cristnogol pan maen nhw’n eu prynu.

‘Dim drwgdeimlad’

“Dw i’n credu bod yr Iddewon a’r Mwslemiaid yn parchu mai Gŵyl Gristnogol yw’r Nadolig. Ni fyddai stampiau Cristnogol yn achosi unrhyw ddrwgdeimlad.

“Yn ôl y cyfrifiad diwethaf roedd tua 70% o bobol Cymru yn ystyried eu hunain yn Gristnogion.

“Felly ry’n ni’n teimlo na fyddai’n afresymol disgwyl i’r Swyddfa Bost gyhoeddi stampiau o’r Geni yn unig a dim byd arall,” meddai.

“Amser y Nadolig yw un o’r ychydig adegau o’r flwyddyn pan mae pobl yn sgwennu llythyron ac yn postio, erbyn hyn.

“Yn y pen draw, mae bron i bawb yn dathlu’r ‘Dolig ac er bod yr ŵyl wedi ei seciwlareiddio, tarddiad Cristnogol sydd ganddi ac mae’r rhan fwyaf yn derbyn mai gŵyl Gristnogol yw hi.

“Yn yr oes yma, lle mae pobl yn amharod i siarad ynglŷn â’u ffydd y tu allan i’r eglwys, mae stampiau Cristnogol yn un peth bach er mwyn cyfleu’r neges hwnnw.”