Cynyddu maint testun

Golwg360

Hystings Plaid Cymru yng Nghaerdydd


Y tri ymgeisydd
Anna Glyn fu’n mynychu hystings Plaid Cymru yng Nghaerdydd nos Fawrth gan roi ei barn hi am y tri ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid…

Hogan ysgol, boring a thrahaus. Dyna ddisgrifiad un person fues i’n siarad efo fo o’r tri ymgeisydd am arweinyddiaeth Plaid Cymru ar ôl eu gweld nhw’n perfformio yn ystod un o’r hystings.

Chydig yn gignoeth efallai, ond does dim angen athrylith i ddyfalu p’run oedd p’run. Tan neithiwr, dim ond aelodau y blaid oedd wedi cael mynychu’r hystings led led Cymru. Ond gyda’r cyfle yn codi i’r wasg fynd i’r un yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd  doedd dim angen gofyn ddwywaith.

Mi oedden ni i gyd yno yn barod gyda’n camerâu a’n llyfrau nodiadau i gofnodi pob manylyn. Oce, mi oedd rhai gwleidyddion yno, timau y tri ymgeisydd a phobl bwysig y sefydliadau. Ond mi roedd Joe Bloggs yn llenwi’r seddi hefyd, y lle dan ei sang ac mi o’n i yn synnu faint o wynebau ifanc oedd yno.

Roedd na ryw awyrgylch ddisgwylgar cyn i’r mân siarad dawelu. Dechrau fel mae nhw yn gwneud yn America gyda’r araith agoriadol a phodiwm yr un i’r ymgeiswyr. Dafydd Êl yn cyfeirio at y Cynulliad ac yn dweud rhyw jôc neu ddwy.

Elin Jones wedyn yn sôn am annibyniaeth yn yr ail frawddeg. Defnyddio dipyn o Saesneg, er mwyn trio pwysleisio bod ei hapêl hi yn ymestyn ymhellach na joscins Ceredigion efallai?

A Leanne Wood yn ei gwneud hi yn glir mai sosialwraig yw hi trwy gyfeirio at y bancwyr drwg yn y Ddinas. Ac ymlaen at y cwestiynau.

Cwestiynau

Roedd y cwestiynau wedi eu trefnu ymlaen llaw er mawr siom i un gŵr ar y diwedd oedd yn daer eisiau gofyn ei gwestiwn o. Er mor slic oedd y paratoadau tu ôl i’r llenni allwch chi ddim paratoi ar gyfer popeth!

Addysg, annibyniaeth, blaenoriaethau oedd y rhai disgwyliadwy. Ond fe gafwyd perl o gwestiwn gan un fenyw yn y gynulleidfa. A dweud y gwir mi oedd o mor dda nes i fi ddiawlio’n hun mod i ddim wedi meddwl ei ofyn wrth eu cyfweld fesul un yn y gorffennol.

Beth fyddech chi ddim yn fodlon cyfaddawdu, hyd yn oed os y byddai hynny yn golygu colli yr arweinyddiaeth? Neu rhywbeth felly oedd y cwestiwn. Does dim angen cyfaddawdu, oedd ateb Elin Jones am fod yr hyn mae hi yn gredu ynddo yn egwyddorion sydd i’w gweld yn y Blaid.

Heddwch oedd ateb Greenpeace Leanne Wood. A dyma oedd cyfle Dafydd Êl i dawelu’r rhai hynny sydd wedi ei gyhuddo o fod yn rebel o fewn y blaid a pheidio a dilyn y lein swyddogol am ynni niwclear. Oedd , mi oedd o wedi cefnogi atomfa Trawsfynydd ac o blaid Wylfa B. Ond doedd o ddim yn tynnu’n groes, meddai , oherwydd ni fyddai o am weld datblygiadau fel hyn mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.

Adele

Roedd y rownd o gwestiynau bachog ymhlith y mwyaf diddorol gydol y noson, gyda’r cwestiynau yn datgelu mwy na’r disgwyl am y gwleidyddion. Y peth gorau i ddod o Gymru? Cig oen, meddai Leanne Wood, llais Richard Burton meddai Dafydd Êl. Yn ôl ymateb y gynulleidfa ateb Elin Jones oedd yn plesio orau – dŵr.  Pwy ddylai ennill gwobr yn y Brits? Mi fyddai rhywun yn disgwyl i’r ferch o’r Cymoedd serennu yma gan mai apelio at yr ifanc y mae hi, yn ôl llawer. Ond doedd hi ddim hyd yn oed yn gwybod beth oedd y Brits heb sôn am y bandiau mwyaf hip a cŵl y dyddiau yma! Ar ôl ychydig o help gan Helen Mary fe ddywedodd hi’r ateb cywir, Adele. Ail adrodd hynny wnaeth Dafydd Êl tra roedd Elin Jones yn amlwg wedi gwneud ei gwaith cartref gan ddweud mai Adele oedd yn siŵr o ennill ar ôl iddi wneud cystal yn y Grammys ryw wythnos yn ôl.

Ymateb cymysg

Fe gafwyd digon o chwerthin yng Ngwesty’r Dewi Sant ond cymysg oedd y farn wrth i mi holi hwn a llall ar ddiwedd y noson. Rhai yn daer mai Dafydd Êl ydy y boi iawn – yr un efo gravitas. Eraill yn danbaid dros Leanne.

“Ydy hi ddim yn rhy naїf?” gofynnais. “Mae’n rhaid i ti fod yn naїf i fod yn wleidydd neu fysa nhw ddim yn cyflawni dim byd,” oedd yr ateb.

Un yn dweud mai ras rhwng y ddwy ferch fydd hi yn bendant tra bod un arall yn dweud mai’r cwestiwn pwysig ydy pwy fydd yr un gorau i herio Carwyn Jones? Wn i ddim. Mae’n rhaid cyfaddef mod i yn ffeindio fy hun yn talu sylw pan oedd yr hen ben yn siarad. Mae ganddo fo’r presenoldeb hwnnw. Ond pa mor bwysig ydy hynny mewn gwirionedd?  Ai dyn ddoe ydy o? A beth am Elin Jones? Hi oedd yr unig un gafodd chwerthiniad a chymeradwyaeth wrth ymateb i gwestiwn.

Elin yw’r un mae mwyafrif gwleidyddion ei phlaid yn ei gefnogi ac fel Gweinidog yn y Llywodraeth Glymblaid o’r blaen roedd hi yn cyflawni pethau a ddim ofn mynd i’r afael â phynciau dadleuol  – megis moch daear. “Dw i yn fwy na phâr saff o ddwylo,” oedd ei phle.

Ac wedyn Leanne Wood. Merch o’r Rhondda. Oes  angen gwaed newydd ar y blaid? Ffordd i apelio tu allan i’r cadarnleoedd? Paratoi’r ffordd ar gyfer y Meseia? Wyddoch chi be, dw i’n falch mod i ddim yn aelod, neu, wir yr, mi fyswn i yn y bocs pleidleisio yn pendroni am oriau!

Pwy fydd ar ôl?

Cyhoeddwyd Chwefror 21, 2012 gan Cyfranwyr Gwadd. 2 Sylw.

Tagiau: Aled Price, Gethin Jenkins


Gethin Jenkins yn lliwiau'r Gleision
Gyda’r newyddion heddiw mai Gethin Jenkins yw’r chwaraewr rygbi Cymreig diweddaraf i adael am Ffrainc, Aled Price sy’n gofyn faint o argyfwng yw’r sefyllfa i rygbi Cymru?

Ydy’r dyfodol yn edrych yn dda i ranbarthau Cymru? Ar y foment, ddim yn siŵr.

Mae’r gêm yng Nghymru yn wrthgyferbyniad llwyr ar hyn o bryd. Ar y llwyfan rhyngwladol, mae Cymru’n mwynhau cyfnod o lwyddiant – rownd gynderfynol Cwpan y Byd a dwy allan o ddwy yn y Chwe Gwlad.

Ac mae’r dyfodol hyd yn oed fwy cyffrous na’r presennol. Gallwch deimlo’r cynnwrf ymhlith y cyhoedd, mae’r feel-good factor yn ôl.

Rhanbarthau mewn argyfwng?

Serch hynny, wrth i chi ddisgyn lefel i’r rhanbarthau, lle mae arwyr y tîm cenedlaethol yn ennill y mwyafrif o’u cyflog, nid yw pethau mor llewyrchus.

Mae’r rhanbarthau’n rhedeg allan o arian gan nad yw’r model presennol yn gweithio. Mae cipolwg ar faint y torfeydd yn dweud y cyfan, a dyw pethau dim mynd i wella os nad ydy prif chwaraewyr tîm Cymru yn chwarae i’w ranbarthau.

Yn anffodus dyna’n union sy’n digwydd – mae’r ecsodus o Gymry ar ei eithaf. Rydym wedi darganfod heddiw mai Gethin Jenkins yw’r chwaraewr diweddaraf i’w ddenu gan yr arian mawr yn Ffrainc – Toulon yw ei gyrchfan.

Mae sôn hefyd, bod Jonathan Davies wedi bod mewn trafodaeth efo Northampton. Yn gynharach yn yr wythnos, dywedodd Gatland bod Huw Bennett ar ei ffordd allan o’r Gweilch. Mae Aled Brew a Luke Charteris wedi cadarnhau eu bod yn symud i Ffrainc hefyd.

Gormod o arian dros y môr

Y ffaith syml yw, dyw’r arian sydd angen i gadw’r chwaraewyr gorau jyst ddim yma yng Nghymru ar hyn o bryd.

Ar y foment, rygbi yw ‘hobi’ y bobol gyfoethocaf yn Ffrainc. Mae gan y timau Ffrengig ‘cap cyflog’ o €8.7m am y tymor nesaf – bydd cap y rhanbarthau Cymreig yn llai na hanner hynny, sef £3.5m. Mae mathemateg syml yn dweud y stori’n llawn. Dywedodd Peter Thomas, cadeirydd y Gleision, bod rhanbarthau Cymru’n mynd i ymatal rhag talu eu chwaraewyr Cenedlaethol pan eu bod yn chwarae i Gymru.

Mae dadleuon o blaid y ddwy ochr wrth gwrs.

Allwch chi ddim beio’r bobol sy’n talu cannoedd o filoedd o bunnoedd ar gyflogau am fod yn amharod i dalu’r symiau mwyaf i chwaraewyr sydd dim hyd yn oed yno am tua hanner y flwyddyn.

Ar y llaw arall, dim ond un yrfa sydd gan y chwaraewyr, ac mae’n rhaid iddynt wneud y gorau o ennill arian tra bod cyfle. Os oes digonedd o arian ar gael iddynt tu allan i Gymru, yna allwch chi ddim eu beio nhw am fanteisio ar hynny.

Safon well?

Yn fy marn i, nid yw’r llif o chwaraewyr sy’n gadael Cymru yn beth mor ddrwg â hynny i’r tîm cenedlaethol. Does dim amheuaeth gen i bod y Top 14 yn cynnig safon well o wythnos i wythnos na’r RaboDirect Pro12. Os yw’r chwaraewyr yn chwarae’n gyson yn Ffrainc, byddant yn gwella ac yn dod chwaraewyr cyflawn. Dyna’r ffactor bwysig i mi, chwarae’n gyson.

Mae Gethin ar ei ffordd i Toulon ond mae Toulon newydd gyhoeddi eu bod wedi arwyddo Andrew Sheridan o Sale hefyd. Felly bydd rhaid i Gethin gystadlu efo Sheridan am le ar y tîm. Mae’n bosib iawn felly y bydd un o chwaraewyr pwysicaf Cymru’n eistedd ar y fainc y rhan fwyaf o’r amser! I’r Gleision, byddai Gethin yn dechrau bron pob gêm. Heb os, mae hyn yn broblem i’r tîm cenedlaethol.

Wrth gwrs mae problemau hefyd yn codi ynglŷn â sicrhau caniatâd i ryddhau chwaraewyr yn gynnar i ymarfer gyda Chymru. Y penwythnos diwethaf, roedd rhaid i Mike Phillips a James Hook (i enwi dau)  ddychwelyd i’w clybiau i chwarae mewn gêm gynghrair.

Mae’r rhaid bod nerfau Gatland yn rhacs wrth iddo ofni clywed am anafiadau i chwaraewyr fel hyn! Yn anffodus, bydd hon yn fwy o gur pen i’r hyfforddwr wrth i fwy a fwy chwaraewyr ennill eu cyflog tu allan i Gymru.

Nid diwedd y byd

Cofiwch chi, dyw’r newyddion diweddar ddim yn ddrwg i gyd.

Mae Adam Jones, chwaraewr pwysicaf Cymru yn fy nhyb i, wedi cytuno i aros efo’r Gweilch am y tro. Mae cyn gapten Cymru, Matthew Rees wedi dweud yn gyhoeddus bod rhaid atal y llif o chwaraewyr sy’n gadael. Felly dyw hi ddim fel petai bod holl dîm Cymru’n chwarae dramor.

Un peth da i’r rhanbarthau a Chymru yn hyn oll yw bod cyfleoedd di-ri yn codi i chwaraewyr ifanc.

Mae’r tîm cenedlaethol cyfredol wedi’i adeiladu ar seiliau chwaraewyr ifanc ac rydym wedi gweld yr effaith positif mae hyn gallu cael. Mae’r Scarlets wedi datblygu carfan ifanc sy’n hynod o gystadleuol ac mae’r Gweilch yn ceisio gwneud yr un peth.

All hyn ddim ond bod yn fanteisiol i’r tîm cenedlaethol. Efallai na welwn ni ranbarth yn ennill Cwpan Ewrop am dymhorau i ddod, ond efallai y cawn ni weld Cymru’n ennill Cwpan y Byd mewn 4 neu 8 mlynedd. Wy’n gwybod beth fyddai’n well gen i…

Trydar – help neu beryg?

Cyhoeddwyd Chwefror 16, 2012 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Diane Abbott, Maia Jones, Paul Chambers, Twitter


Maia Jones yn awgrymu bod angen i wleidyddion fod yn ddoeth

Yn sgil y newyddion bod Sky News a’r BBC wedi adnewyddu a thynhau eu rheolau i newyddiadurwyr ynglŷn â beth y gallan nhw drydar yn ei gylch, mae’n ddiddorol gofyn i ba raddau mae gwleidyddion yn sensro’r math o wybodaeth y byddant nhw’n ei rhannu hefo gweddill y byd. A beth yw’r peryglon iddyn nhw a defnyddwyr yn gyffredinol?

Does dim rhaid meddwl yn ôl yn bell iawn i drydar  a achosodd storm, cyhuddiadau o hiliaeth a rhai yn galw am ddiswyddo’r gwleidydd Diane Abbott. Achoswyd y ffrae ar ôl i Dianne drydar bod pobol gwyn yn hoffi chwarae ‘rhannu a rheoli’ yn dilyn trafodaeth am gyffredinoliadau am y gymuned ddu efo Bim Adewunmi. Yn amlwg roedd yr hyn a ysgrifennwyd mewn cyfrwng cyhoeddus yn anaddas ond, i rai, roedd yn gwbl afresymol.

Gofod cyfyng

Dangosodd y digwyddiad nad oes lle mewn 140 cymeriad i ddarparu cyd-destun i’r hyn sydd yn cael ei ddweud. Diddorol bydd gweld i ba raddau y bydd gwleidyddion yn ofni achosion tebyg ac yn penderfynu chwarae’n saff.

Perygl hyn yw y colli personoliaeth y trydarwyr, yr union nodwedd sydd yn gwneud newyddiadurwyr a gwleidyddion yn gyfathrebwyr digidol llwyddiannus. Mae’r gwerth ychwanegol sy’n cael ei gyfrannu at y drafodaeth yn cael ei fygwth gan gyfyngiadau ac ofnau. O ganlyniad darlun ddiarddurn, rhyw botes maip llugoer, a gaiff y pleidleiswyr cyffredin. Bydd trydar diflas yn golygu bod llai yn ei ddilyn a buan mae rhywun yn blino ar adlifo. Hynny yw, nid yw ailadrodd straeon neu drydar pobol eraill (‘retweet’) yn tynnu sylw nac yn ennill llawer o ddilynwyr yn y cyfrwng yma.

Pwerus

Gall y cyfrwng fod yn hynod o bwerus ac effeithiol. Yr enghraifft orau yw ymgyrch Arlywyddiaeth Barack Obama. Mae’n declyn delfrydol i wleidyddion unigol, allblyg a chydwybodol.

Yn ogystal â rhoi hwb i wleidyddion gall fod yn llwyfan ar gyfer ymgyrchu a gwrthwynebu yn hytrach na’r drafodaeth lywodraethol. Mae’n galluogi rhai i sôn am ‘chwyldro’ mewn gwleidyddiaeth a mae modd dyfnhau democratiaeth fel bod cyfathrebu uniongyrchol rhwng y gwleidydd a’r etholwyr. Mae’n atsain o’r hen ddeisyfiad o’r bobol yn deisebu’r sofran er mwyn gweithredu eu hewyllys.

Mae’n cael effaith trawsffurfiol ar ein hagweddau tuag at natur mynediad a chyfrinachedd. Honna’r athronydd iwtilitaraidd Peter Singer y dylen ni groesawu’r gwell cyfleoedd ar gyfer gwyliadwriaeth mewn cymuned. Os mae pobl eraill yn gwybod mwy amdanom ni, rydym yn gwybod mwy amdanynt hwy. Felly bydd yn galluogi ni i ddatblygu cymdeithas fwy rhydd ac agored.

Bydd datgelu yn dod a hapusrwydd fwyaf i’r nifer fwyaf posib. Mae’n adleisio’r dywediad- bod gwybodaeth yn bŵer.

Pwy sydd i ddweud?

Ochr arall i’r darlun yw hanesion megis yr un am Paul Chambers a drydarodd jôc am ffrwydro maes awyr Robin Hood am fod yr eira yn ei atal rhag gweld ei gariad. Mae’r cyfrwng yn cael ei ganmol am ei fod o’n galluogi rhannu gwybodaeth ond mae hefyd yn golygu bod galwadau am lefel newydd o reolaeth. Rheolaeth dros y sawl sydd yn mynegi jôcs anghyfrifol? Pwy ddylai benderfynu be sy’n anghyfrifol?

Felly, mae’n dda rhannu gwybodaeth ond rhaid deall goblygiadau’r cyfrwng cyhoeddus yma, fel gwleidydd ac fel defnyddiwr. Yn anad dim deall peryglon rheolaeth dros gyfathrebu rhydd.

Mae Maia Jones yn fyfyrwraig Meistr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth. Mae hi’n gweithio ar brosiect ar y cyd hefo Golwg360 sydd yn edrych ar sut mae rhwydweithiau cymdeithasol wedi, ac yn newid gwleidyddiaeth Cymru.

50 mlynedd i ddathlu ond her gymunedol o’n blaenau

Cyhoeddwyd Chwefror 13, 2012 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: bethan williams, cymdeithas yr iaith, Tynged yr Iaith


Yn Llundain ar ôl protestio yn swyddfeydd y BBC dros ddyfodol S4C y llynedd, roeddwn i’n ceisio esbonio wrth heddwas beth yw Cymdeithas yr Iaith. Ei ymateb oedd – “So a bit like Greenpeace for the Welsh language?”

Mae’n ddisgrifiad gwell na llawer, ond nid yw’n gymhariaeth berffaith o bell ffordd. Dwi’n aelod o fudiadau amgylcheddol a hawliau dynol ond dwi ddim yn cael yr un teimlad o berthyn ac adnabod na bod yn rhan ohonynt.

Wrth gwrs ei bod yn haws i fudiad yng Nghymru ymwneud a’i haelodau a’u tynnu i weithgaredd, ond mae i’r Gymdeithas ymdeimlad cryf a sicr o berthyn ac o allu gwneud gwahaniaeth. Mae’r gair “cymdeithas” ei hun yn hollol hanfodol i’n ffordd, a dydy “society” ddim yn ei gyfleu ryw ffordd.
Llwyddiant y mudiad

Ers ein sefydlu gan lond llaw o bobl mae’r Gymdeithas wedi cael effaith ddi-gwestiwn ar lywodraeth San Steffan a Chaerdydd – o ennill S4C i sicrhau statws swyddogol i’r Gymraeg. Yn sicr, ni fyddai gan y Gymraeg statws swyddogol na’r Coleg Cymraeg heb ymdrechion y Gymdeithas. Felly, yn groes i’r ddamcaniaeth gonfensiynol, gallen ni ddadlau mai’r Gymdeithas yw’r mudiad lobio mwyaf llwyddiannus yn yr oes ddatganoledig.

Mae’r achlysur yn gyfle euraidd felly i ni ddiolch i’r holl ymgyrchwyr – o’r bobl sy’n ysgrifennu llythyrau i alw am wasanaethau Cymraeg i’r rhai sydd wedi meddiannu swyddfeydd – pob un a wnaeth cymaint o wahaniaeth i’r iaith dros y blynyddoedd.

Pobl a chymunedau sydd yn dal i fod wrth wraidd ein gwaith a’n hymgyrchoedd. Rydym yn cydnabod ein lle fel mudiad sydd yn rhan o’r frwydr fyd-eang dros ryddid a chyfiawnder. Mae’n hymgyrchoedd, ein dulliau gweithredu a’n ffordd ni o fynd at bethau – popeth a wnawn a’r modd o’i wneud, yn adlewyrchu ein gwedd Gymreig a Chymraeg ni o’r frwydr ryngwladol honno.

Wrth i ni droi ein golygon at ein hanner canmlwyddiant llynedd fe wnaethon ni ddarlledu darlith Tynged yr Iaith 2 oedd yn herio: “Ai diwylliant lleiafrif neu briod iaith ein cenedl fydd y Gymraeg?”. Mae’n cymunedau yn dod yn ffocws i’n holl ymgyrchu felly.

‘Cymunedau mewn argyfwng’

Gwelwyd gostyngiad yn nifer y cymunedau lle mae dros 70% yn siarad Cymraeg – gostyngiad o 92 yn 1991 i 54 yn 2001. Mae ein cymunedau Cymraeg mewn argyfwng felly, ac mae’n rhaid i bawb – o’n cynghorau cymuned reit lan i’r Cynulliad – sylweddoli bod angen trawsnewid ein polisïau economaidd a chynllunio i sicrhau dyfodol llewyrchus iddi yn ein cymunedau.

Dyna pam y byddwn yn trefnu taith i dynnu sylw at ddyfodol ein cymunedau Cymraeg eleni. Mi fydd y daith – o’r enw Taith Tynged yr Iaith – yn dechrau ym Mis Mehefin yn Eisteddfod yr Urdd yn Eryri. Mae’r Gymdeithas yn annog unrhyw grwpiau cymunedol a fyddai â diddordeb i fod yn rhan o’r daith i gysylltu â’r Gymdeithas ar post@cymdeithas.org.

Mae gyda ni nifer o ddatblygiadau cyffrous dros y flwyddyn, fe fyddwn yn lansio Sianel ar y we – Sianel 62 ar nos Sul, 19 Chwefror. Bydd Sianel 62 yn rhoi pwyslais ar gyfraniadau gan unrhyw un sydd eisiau gwneud. Nid ffordd o rannu negeseuon propaganda o’r top fydd Sianel 62 ond rhaglenni a chlipiau gan bwy bynnag sydd am gyfrannu a rhoi cyfle gwahanol i bobl gyfrannu at frwydr y Gymraeg a’n cymunedau fydd hi. Os hoffech gymryd rhan cysylltwch â ni trwy e-bostio greg@cymdeithas.org.

Rydym hefyd yn trefnu gwyl HannerCant gyda phumdeg o artistiaid mewn dwy noson – am ragor o fanylion ewch at hannercant.com.

Dros y blynyddoedd mae Cymdeithas yr Iaith wedi galluogi pobl i chwarae eu rhan a herio’r drefn sydd yn ein gwasgu, a gweld canlyniad eu gwaith caled. Trwy rannu profiadau a dysgu gan ein gilydd y gwnawn ni hynny. Gallwn ni wneud gwahaniaeth a gweld newidiadau graddol a sicr, ond gyda’n gilydd mae gwneud. Nid oherwydd i rywun beintio slogan neu oherwydd ambell gyfarfod yn unig y mae dyfodol yr iaith yn fwy sicr, ond oherwydd ymdrech barhaus torf o bobl barod eu gwaith a’u hymdrech.

Hanfod Cymdeithas yr Iaith felly yw y “gymdeithas” o bobl – a diolch amdanynt, bob un.

Bethan Williams, Cadeirydd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Da ond ddim yn berffaith

Cyhoeddwyd Chwefror 13, 2012 gan Cyfranwyr Gwadd. 1 Sylw.

Tagiau: Aled Price, Ken Owens


Gwellodd y lein ar ôl i Ken Owens ddod i'r cae.
Aled Price sy’n dadansoddi buddugoliaeth gyfforddus Cymru’n erbyn Yr Alban ddoe.

Dwy gêm a dwy fuddugoliaeth.

Fe fyddai pawb yng Nghymru wedi bod yn ddigon hapus gyda’r record honno cyn i’r bencampwriaeth ddechrau.

Dyna’n union sydd wedi digwydd ac mae Cymru nawr ond un fuddugoliaeth o sicrhau’r Goron Driphlyg. Ar ben hynny, mae gris arall ar yr ysgol aeddfedrwydd wedi ei ddringo gan dîm ifanc Warren Gatland.

Yn debyg i’r fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon, nid oedd hwn yn berfformiad hollol berffaith, ond rhaid rhoi clod i dîm Yr Alban am hynny. Wnaeth Yr Alban ddim caniatáu i Gymru chwarae llawer o rygbi, ar wahân i’r cyfnod pan oeddynt lawr i 14 a 13 dyn. Roedd rhaid i Gymru amddiffyn, ac amddiffyn tipyn yn rhagor trwy gydol yr ornest. 178 tacl wedi eu cwblhau gan y Cymry o’i gymharu â 99 gan yr Albanwyr.

Roedd Cymru’n edrych yn hollol gyfforddus wrth amddiffyn, mewn gwirionedd, tacl ar ôl tacl, gan daro’r Albanwyr yn ôl. Roedd yr amddiffyn yn atgoffa dyn o’r amddiffyn y gwelsom ni wrth ennill y Gamp Lawn yn 2008 a hefyd yng Nghwpan y Byd yn yr hydref. Un dyn oedd yn enghraifft berffaith o’r hyn dwi’n sôn amdano, oedd Seren y Gêm, Dan Lydiate.

Lydiate yn Dychwelyd

Roedd ‘line speed’ Lydiate, fel maent yn dweud yn y Saesneg, yn rhagorol. Dro ar ôl tro fe glywsoch chwaraewyr yr Alban yn galw am gam sefyll, cymaint oedd ei gyflymder. O achos hyn, dro ar ôl tro roedd diffyg momentwm gan yr ymosodwyr ac roeddent yn sownd ryw bum medr tu ôl i’r llinell fantais. Fo oedd y prif reswm am gysondeb a chaledrwydd amddiffyn Cymru.

Mae rheng ôl ifanc Cymru wedi creu enw i’w hunain am eu techneg yn y dacl. Maent yn taclo’n isel sy’n negyddu momentwm a phŵer yr ymosodwyr. Aeth Heaslip ac O’Brien ar gwpl o garlamau’r wythnos diwethaf pan oedd Cymru heb eu prif daclwr. Roedd absenoldeb a phresenoldeb Lydiate yn amlwg yn y ddwy gêm agoriadol felly.

Cuthbert yn creu Argraff

Ar ôl ei gap cyntaf yn y bencampwriaeth, ro’n i’n amau os oedd Alex Cuthbert yn barod am y llwyfan rhyngwladol. Ar ôl ddoe dwi’n ymddiheuro am fod ag unrhyw amheuon – cafodd asgellwr y Gleision gêm wych. Roedd yr holl sôn cyn y gêm am George North ond Cuthbert oedd yr asgellwr gorau ar y cae. Sgoriodd ei gais cyntaf dros ei wlad wrth iddo bweru, à la North, trwy Greig Laidlaw druan.

Cafodd gwpl o rediadau da yn yr hanner cyntaf i gosbi cicio llac yr Albanwyr, ac yna helpodd i greu cais cyntaf Halfpenny efo rhediad gosgeiddig. Roedd o amgylch y cae trwy’r amser hefyd yn chwilio am waith. Dyfodol disglair rwy’n tybio, i’r gŵr a chafodd ei eni yng Nghaerloyw. Diolch Lloegr!

Chwaraewr arall a greodd argraff arna’i oedd bachwr y Scarlets, Ken Owens. Fe welsom yn Nulyn pa mor sigledig mae lein Cymru’n gallu bod. Nid oedd unrhyw welliant yn erbyn yr Alban tra’r oedd Huw Bennett yn taflu. Serch hynny, aeth Bennett bant o’r cae am driniaeth gwaed a gwellodd y lein yn syth.

Nid oedd pob un yn dda, ond roedd gwelliant amlwg i’w weld. Daeth Owens nôl i’r cae ar gyfer yr ail hanner ac fe barhaodd ei chwarae cadarn. Nid yn unig ei daflu, ond hefyd ei chwarae o amgylch y cae gan daclo a chario yn dda. Mae wedi gwneud digon, yn fy marn i, i ddechrau yn erbyn yr hen elyn. Cawn weld…

Chwaraewr Arall yn Dychwelyd

Fel Dan Lydiate, dod yn ôl o anaf oedd Gethin Jenkins. Ar wahân i Sam Warburton, Gethin yn fy nhyb i, yw’r blaenwr gorau sydd gennym yn ardal y dacl, ac roedd hyn yn amlwg o’r dechrau ddoe. Enillodd o leiaf dair pêl yn ardal y dacl ac mae ei gyfraniad o amgylch y cae bob amser yn creu argraff. Sgrymiodd yn dda a dangosodd ei werth i’r tîm cenedlaethol unwaith yn rhagor.

Cymry Ifanc yn Aeddfedu

Rhaid cofio nad oedd Sam Warburton ar gael i Gymru, ar ôl iddo dynnu allan yn hwyr wedi methu prawf ffitrwydd. Trueni bod Justin Tipuric hefyd wedi’i anafu ar ôl gêm wych wythnos diwethaf, ond dirprwyodd Aaron Shingler yn rhagorol ar ei gap cyntaf. Fel y dywedodd Gatland, mae’n adlewyrchu pa mor gyflawn ac aeddfed yw ei dîm, wrth i golli eu capten cyn y gêm gael dim effaith ar eu chwarae.

Felly perfformiad clinigol a didostur gan Gymru. Mewn cyfnod o 15 munud collodd Yr Albanwyr eu pennau a dau yn mynd i’r gell cosb. Sgoriwyd 21 o bwyntiau yn y cyfnod hwnnw gan Gymru i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Mae taith i Dwickenham yn wynebu’r Cymry nawr. Ar ôl buddugoliaeth hynod o lafurus gan Loegr yn erbyn yr Eidal, does dim rheswm pam na all Cymru groesi dros hanner ffordd at y Gamp Lawn mewn cwpl o wythnosau.

Gallwch ddarllen sgoriau’r chwaraewyr allan o 10 fan hyn.

Cymru v Yr Alban – sgorio’r chwaraewyr

Cyhoeddwyd Chwefror 13, 2012 gan Cyfranwyr Gwadd. 2 Sylw.

Tagiau: Dan Lydiate, Sgorio'r chwaraewyr


Dan Lydiate - haeddu 'seren y gêm'
Aled Price sy’n asesu perfformiadau unigol chwaraewyr Cymru’n erbyn yr Albanwyr.

Leigh Halfpenny (9) – Cicio gwych at y pyst, dau gais ac yn edrych am waith trwy’r amser. Oni bai am Lydaite fe fyddai wedi cael ei enwi’n Seren y Gêm.

Alex Cuthbert (8) – Cais cyntaf i’r gŵr ifanc wrth iddo dangos ei bŵer gyda chwpl o rediadau pwerus arall. Ei bas ef greodd gais cyntaf Halfpenny hefyd.

Jonathan Davies (8) – Mae’n edrych fel petai’n maeddu’r dyn cyntaf bob tro. Croesi’r llinell fantais yn gyson.

Jamie Roberts (6) - Gêm eithaf tawel oddi wrth Roberts. Dim digon o’i rediadau cryf i’w gweld.

George North (5) - Hefyd yn croesi’r llinell fantais dro ar ôl tro ond tacl enfawr gan Jim Hamilton yn cyfrannu at anaf a achosodd iddo orfod gadael y cae ar yr hanner.

Rhys Priestland (7) – Gêm ddigon tawel am faswr ond ciciodd yn dda ar y cyfan o’r dwylo, a dwylo da i helpu creu y ddau gais agoriadol.

Mike Phillips (6) – Mae pasio eithaf araf gan Phillips yn edrych fel petai’n arafu gêm Cymru ar brydiau. Nid ei gêm orau.

Gethin Jenkins (8) – Gwych o amgylch y cae ac yn ardal y dacl. Sgrymio’n dda hefyd.

Huw Bennett (5) – Methodd wella o anaf yng nghanol yr hanner cyntaf, a chafodd ei eilyddio ar hanner amser. Taflu mewn i’r lein dal i fod yn broblem – gwellodd hynny gyda dyfodiad Ken Owens

Adam Jones (6) – Taclo da trwy gydol yr ornest gan brop y Gweilch. Sgrym yn gadarn efo fo a Jenkins.

Ryan Jones (7) – Capten am y dydd yn absenoldeb Warburton. Ennill bêl dda yn y lein a gweithio’n galed o amgylch y cae.

Ian Evans (6) – Problemau o’r ailddechrau yn dal i fod yn broblem ond cyfraniad da ac yn dal y lein i’w gilydd fel yr unig glo rheolaidd.

Dan Lydiate (9) – Haeddu ei enwi’n Seren y Gêm. Ymdrech arwrol yn amddiffyn – mae’r tîm yn wannach pan nad yw’n chwarae.

Aaron Shingler (7) – Cap cyntaf digon cadarn i flaen asgellwr y Sgarlets. Dangos ei gefndir yn y gêm saith bob ochr efo’i gyflymder.

Toby Faletau (7) – Rhai rediadau pwerus gan yr wythwr. Chwaraeodd rôl bwysig yn ail gais Halfpenny wrth iddo pasio o fôn y sgrym.

Hoff fand Nicky Wire

Cyhoeddwyd Chwefror 7, 2012 gan Owain Schiavone. Dim sylw.

Tagiau: Nicky Wire, Sen Segur, Y Niwl


Y Niwl
Golygydd Y Selar, Owain Schiavone, sy’n trafod un grŵp sy’n cael dim trafferth creu argraff ar hyn o bryd.

Ar sawl achlysur yn ddiweddar dwi wedi nodi fy mhryder ynglŷn â’r niferoedd sy’n mynychu gigs byw ar hyn o bryd.

Er gwaethaf safon uchel ac amrywiaeth y grwpiau ac artistiaid sydd gennym ar hyn o bryd, ar y cyfan dwi’n dal i boeni am y niferoedd sy’n barod i dalu i fynd i gig ‘Cymraeg’.

Mae’n braf gweld bod un eithriad amlwg i’r trend yma felly, ac mae llwyddiant Y Niwl yn codi calon dyn.

Cefais y cyfle i drefnu gig i unig grŵp syrff Cymru (hyd y gwn i) yn y Llew Du yn Aberystwyth ddiwedd mis Ionawr.

Chwarae teg i’r grŵp, roedden nhw’n hapus iawn i chwarae’n rhad ac roedd Sen Segur – grŵp ifanc cyffrous iawn gyda llaw – yn awyddus i gefnogi er mwyn hyrwyddo eu sengl newydd.

Roedd gen i deimlad da am y gig gan ym mod i’n ymwybodol i’r cyffro a buzz sydd o gwmpas Y Niwl, ac i raddau llai Sen Segur, ond do’n i ddim yn y fath lwyddiant chwaith. Roedd y Llew Du yn llawn dop a phawb yn amlwg yn mwynhau awyrgylch arbennig gig byw.

O’r synau dwi’n clywed, mae’n ymddangos bod gigs yn Telford a Chaerfyrddin dros yr wythnos ddiwethaf wedi bod llaw cystal.

Ffans enwog

Dwi’n meddwl bod Y Niwl yn enghraifft arbennig o sut mae modd i grŵp greu buzz a gall llawer o grwpiau ifanc ddysgu o’u hesiampl.

Wrth gwrs, mae rhai o’r aelodau yn brofiadol iawn, ac wedi dysgu o gamgymeriadau’r gorffennol mae’n siŵr ond heb os mae’r rysáit yn tycio ar hyn o bryd.

Mae’n help mawr cael rhai ffans amlwg iawn sy’n barod iawn i’ch canmol hefyd, ac un sydd wedi bod yn barod iawn i hyrwyddo Y Niwl yn ddiweddar ydy basydd y Manic Street Preachers, Nicky Wire.

Yn wir, ar dystiolaeth sylwadau diweddar gan Wire, Y Niwl ydy ei hoff grŵp ar hyn o bryd.

Yn rhifyn 7 Ionawr o gylchgrawn NME (gweler isod), fe awgrymodd Wire fod ganddo ddim llai nag obsesiwn â’r Niwl!

Roedd y basydd, sydd pob amser yn barod i leisio ei farn, wrth eto bnawn Sul ac yn gwrando ar Y Niwl wrth ddathlu buddugoliaeth Cymru yn erbyn Iwerddon ar y maes rygbi.

“Gwrando ar Y Niwl wrth wylio ailchwarae o bum munud olaf y gêm – llawenydd dwys xxx” meddai ar ei gyfrif Twitter.

Ac wrth gwrs, mae’r grŵp wedi cael ychydig o lwc wrth i’r trac Undegpedwar ddod yn amlwg i ffans pêl-droed ledled y wlad trwy gael ei dewis fel cân thema rhaglen Football Focus.

Ond a’i lwc ydy hyn go iawn neu gynllunio a gweld bylchau yn y farchnad? Efallai y bydd rhai cefnogwyr craff wedi sylwi ar y gân Undegsaith yn cael ei defnyddio cyn gêm Ffrainc v Yr Eidal … nes i ddim sylwi mae’n rhaid i mi gyfaddef!

Mae hyn oll yn brawf arall o ganlyniadau bach o waith caled er mwyn cael troed yn y drws.


Nicky Wire yn mynegi ei hoffter o Y Niwl rhwng cloriau NME

Y Gymraeg a thechnoleg – y dyfodol

Cyhoeddwyd Ionawr 28, 2012 gan Arian a Busnes. 10 Sylw.

Tagiau: Canolfan bedwyr, Hacio'r Iaith


Cynhadledd 'Hacio'r Iaith'
Cafodd perchnogion siopau bach Cymraeg, ysgrifennwyr a chyhoeddwyr eu hannog i ystyried manteision technoleg mewn cynhadledd arbennig ‘Hacio’r Iaith’ yn Aberystwyth i drafod perthynas yr iaith Gymraeg a thechnoleg newydd.

Dywedodd Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith yng Nghanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor bod yr e-lyfr yn sicr o newid y ffordd yr ydym yn darllen a chyhoeddi llyfrau ac y dylai pawb sy’n gweithio yn y maes wneud yn fawr o’r cyfleoedd sy’n codi trwy fwrw ati i ddefnyddio technoleg newydd rwan.

Tra’n llongyfarch y Lolfa am gael Amazon i dderbyn llyfrau Cymraeg roedd Delyth Prys hefyd yn rhybuddio’r cynhadleddwyr bod yna beryglon mewn mynd ar ôl un farchnad unigol.

“Mae’r e-lyfr am newid y ffordd r’yn ni’n ysgrifennu nofel,” meddai. “O fod yn e-gyhoeddi, mae’r awydd i hunan-gyhoeddi yn cynyddu. Pam na all yr awdur roi’r llyfr ar ei wefan ei hun a gwneud llawer o bres? Wrth gwrs, dydi pethau ddim mor syml a hynny. Rhaid sicrhau safon a phrofiad prawf-ddarllenwyr. Ry’n ni eisiau cyhoeddi llyfrau da.”

Mae Canolfan Bedwyr yn bwriadu cynnal cyfres o weithdai i gyhoeddwyr yn ystod y gwanwyn a’r haf eleni ac wedi cael nawdd gan Fwrdd yr Iaith i baratoi ffeiliau EPUB, sef fformat agored i gyhoeddi, ar gyfer Mawrth 2012.

“Rhywbeth tebyg i Cysill ar lein” fyddan nhw meddai Delyth Prys. Bydd cyhoeddwyr yn gallu bwydo testun i mewn iddo yn barod i’w olygu a’i gyhoeddi.

Darllenwch blog Non Tudur o’r gynhadledd

Hacio’r Iaith: Blog

Cyhoeddwyd Ionawr 28, 2012 gan Gwyddoniaeth a Thechnoleg. 2 Sylw.

4pm: Paned a sesiynau olaf

Wedi bod yn brysur yn holi ar gyfer colofn newydd yng nghylchgrawn Golwg ar bobol sy’n trydar, a chydlynu sesiynau gyda’r ffotograffydd Emyr Young. Wedi dod i nabod pobol sy’n gweithio ym mhob agwedd ar y bywyd proffesiynol Cymraeg – un yn gweithio ar waith technegol Theatr Genedlaethol Cymru, un arall yn trefnu gwyl ffilmiau arswyd yn Aberystwyth.

Un sesiwn ddifyr ar ol cinio oedd un y digrifwr a’r cyflwynydd Daniel Glyn ar hunan-gynhyrchu rhaglenni a’u gwerthu ar y we, y tu hwnt i gyfyngiadau comisiynwyr y corfforaethau. I gloi, mae sesiwn (gyda dim ond 4 yno) ar gyfieithu Ubuntu – gyda geiriau fel ‘hotkeys’ yn pupro’r drafodaeth Gymraeg hynod arbenigol a thechnegol. Dyma’r bois sy’n gweithio’n ddyfal ar eu hunain bach yn Cymreigio’r teclynnau a’r gwefannau y mae pobol am eu defnyddio yn y dyfodol. Sgwrs fer gynne gyda Carl Morris, ar ol ei sesiwn ar gyfieithu system Android (y gystadleuaeth i iPhone cwmni Apple). Bydd yn gwneud hynny gyda’r nos, meddai wrtha i, o flaen y teledu.

Nawr mae sgwrs gan Iestyn Lloyd y dylunydd ar argraffu eLyfrau. Sesiwn boblogaidd, a phawb sy’n weddill wedi mynd yno. Un trydarwr yn synnu pa mor hawdd yw defnyddio rhaglen ePub ar dudalennau ar gyfrifiadur Mac.

Diwrnod prysur sy’n agor y meddwl a’r llygad, a’r dychymyg. Fel dywedodd y cynhyrchydd Gethin Tomos, mae’r we yn “gyfle i roi hwb creadigol i’r diwylliant Cymraeg.”

2pm: Sgwrs gan Rhys Llwyd ar greu ffilms ar gamera SLR, yn cyfeirio at ei ffilm ‘Brwydr Caerdegog’ sydd i’w gweld ar y we. Beth sy’n wych am ffilmio ar gamera yw eich bod yn “cael estheteg still ar ffilm,” meddai. Gwnaeth y pwynt bod amaturiaid yn gallu cystadlu o ran safon gyda phobol broffesiynol.

Ar y llaw arall, meddai Sara Penrhyn Jones, mae “rhai manteision cael camerau mawr. Symud a ffilmio ar yr un pryd.” “Dw i ddim yn ddyn camera,” cyfaddefa Rhys Llwyd, ond wrth wneud ei ffilm am Gaerdegog mae wedi profi bod “hyd yn oed pobol sy’n gwneud rhywbeth fel hobi yn gallu gwneud stwff da.” Dangosodd glip o’r ffilm, a gafodd ei chreu mewn diwrnod, ac mae’n iawn i frolio’i hun – mae ansawdd y ffilm yn ardderchog.

Lleucu Meinir, cynhyrchydd teledu a ffotograffydd, yn sgwrsio am bum munud am www.Sianel62.com Cymdeithas yr Iaith – sef sianel ar y we a fydd yn cael ei darlledu ar Chwefror 19 i ddathlu 50 mlynedd ers i Saunders ddarlledu ei ddarlith enwog ‘Tynged yr Iaith’. Bydd pobol ifanc ar hyd a lled Cymru yn gyfrifol am wneud ffilmiau bach eu hunain i’w hanfon at gydlynydd y sianel. Gofynnodd i gynadleddwyr a ydyn nhw’n credu bod yna angen am y math yma o beth. “Yn sicr,” dywedodd un, a dywedodd rhywun arall ei bod hi wedi ymchwilio i ymateb pobol ifanc i sianeli radio a theledu ac mai un o’r pethau ar goll yn y Gymraeg “yw dewis. Un o’r pethau mae plant yn ei hoffi yw mwy nag un sianel.”

12 tan ginio: ‘Haclediad’ – dyma bodcast preswyl y diwrnod, lle bydd y sesiwn gyfan yn cael ei olygu a’i becynnu’n bert ar gyfer y we – er mwyn i bobol allu ei lawrlwytho o iTunes ac ati yn nes ymlaen. Mae’r sgwrs yn y brif neuadd yn agored i bawb a’r tri sy’n arwain y drafodaeth yw Sioned Mills, Bryn Salisbury a Iestyn Lloyd. Sioned sy’n llywyddu – ac am ddawn arwain! Amseru da ac yn gallu cadw pethe’n ysgafn. Ac mae ganddi awydd rhyfeddol o gîci i Gymry Cymraeg ar y we ddod at’i gilydd i greu epig o ffilm wyddonias dros y we, a’r ffilmio a’r golygu a phopeth. Mae pobol yn Japan, meddai, hyd heddiw yn creu fersiynau o Gozilla eu hunain gydag anghenfilod o glai – beth sy’n ein hatal ni yng Nghymru?

Emyr Young, y ffotograffydd, yn dweud o’r gynulleidfa eu bod wedi gwneud hyn flynyddoedd maith yn ôl – wedi trosleisio Power Rangers ond na lwyddodd i gyrraedd S4C – “mae’n hynod cheesy.” Yn ôl Sioned Mills, dyna’r union beth fyddai’n gweddu, a gofynnodd i rywun sydd â’r gallu i drosi’r VHS yn fformat digidol.

Yn ystod y sgwrs, roedd negeseuon trydar pawb yn cael eu taflunio ar sgrin fawr, a’r rheiny yn sbarduno trafodaeth, “peth dewr iawn”, meddai rhywun wrtha i wedyn achos y gallai rhywun fod wedi dweud unrhyw beth yn gwbl fyw, o flaen pawb. Mi allai fod wedi bod yn anghysurus iawn. Mae’r panel yn pigo ar neges Gwydion Lyn (sy’n gweithio yn adran farchnata S4C), ‘sut y mae mesur llwyddiant blog Cymraeg?’ “Dw i wastad yn synnu bod unrhyw un yn gwrando arnon ni o gwbl,” meddai Sioned Mills, sy’n cadw blog o’r enw ‘Sgwennu Llefenni’. Ei gobaith hi yn y pen draw, meddai, yw profi “bod y we yn gallu bod yn lle cyffrous creadigol” i Gymry Cymraeg. Bryn Salisbury yn dweud bod gallu byw oddi ar eich enillion yn brawf reit dda o lwyddiant. Wrth gwrs mae hyn yn dibynnu ar yr hyn r’ych chi’n ei werthu neu’n ei hyrwyddo. Iestyn Lloyd yn cydio’r awenau ac yn digwydd crybwyll y bydd yn lawnsio gwefan newydd fis Mawrth –  www.mwydro.com – a fydd yn rhoi lle i leisiau “Cofis a Dyffryn Nantlle.”

11.30am: Sesiwn gan Hywel Jones (ar ran ei hun, er ei fod yn gweithio gyda Bwrdd yr Iaith) – mewn stafell â’i llond o gyfrifiaduron – ar ganfod defnydd y Gymraeg ar Twitter. “Mae adnabod iaith o 140 llythyren yn anodd,” meddai, gan ddweud bod arddull lafar y cyfrwng yn gwneud y Gymraeg yn anos i’w chanfod. Wedi mesur bod bron i 15,000 o negeseuon trydar yn cynnwys y gair ‘Cymraeg.’ Sôn am bethau cymhleth fel ‘code switching.’ Ian Johnson, trydarwr arall, yn cyfrannu i’r sgwrs a oedd wedi gwneud sampl ar ei liwt ei hun am y nifer sy’n trydar yn Gymraeg.

Sara Penrhyn Jones, gwneuthurwr ffilm, yn dweud os yw rhywun yn awdur Cymraeg – mae pobol yn disgwyl iddyn nhw drydar yn Gymraeg. “Dw i’n ymgyrchydd felly mae gyda fi llawer o ddilynwyr rhyngwladol ac mae hynny yn dylanwadu ar fy newis i o iaith.”

Sôn wedyn am ‘fetadata trydariad’. Mae pobol yn cymryd y pwnc yma o ddifri, wrth drafod statws yr iaith Gymraeg mewn oes dechnegol.

Manteisio ar bum munud tawel gyda Rhodri ap Dyfrig (tra’n ceisio datrys problemau technegol i gyrraedd y we!) i ddysgu am raglen ‘Storify’, lle y gallwch chi lusgo negeseuon trydar neu ffilmiau o’r we mewn i un tudalen sy’n eu cysodi’n destlus mewn ffeil. Y dyfodol i newyddiadura chwim?

10.30am: e-lyfrau: ‘Dim bygythiad ond cyfle’

Dechrau’r sesiwn gyntaf ar eLyfrau o dan arweiniad Delyth Prys o Ganolfan Bedwyr. Ry’n ni mewn dwylo da; mae hi wedi hen arfer â rhoi cyflwyniad deallus ar Powerpoint ac mae ganddi graffiau o bob math i brofi’i hystadegau a chanfyddiadau ymchwil yr ysgol ar alw’r gymuned Gymraeg am eLyfrau. Mae’n holi faint o’r dorf sy’n meddu ar declyn eLyfrau, ac mae tri chwarter yn codi eu dwylo. ‘Mae Kindle ar y blaen,’ meddai yn pwyntio at y graff pei. Ond yn y dorf ddethol yma, dim ond un neu ddau sy’n fodlon cyfadde bod ganddyn nhw Kindle – pobol eraill yn defnyddio teclynnau ar iPad ac iPod a ffôn Android. “Rhaid darparu ar gyfer y gacen gyfan, a nid mynd ar ol un farchnad unigol,” meddai. A beth am gyhoeddwyr? Ydyn nhw am golli allan gyda’r chwyldro darllen yma?

Sôn am broblemau a goruchafiaeth fformatau ‘caeedig’ Amazon Kindle ac iPad yn y fachnad cyhoeddi. “A llongyfarchiadau i’r Lolfa fan hyn i gael Amazon i dderbyn llyfrau Cymraeg,” meddai. Trafod wedyn fformat  EPUB – ry’n ni’n dechrau mynd yn dechnegol, a dyna pam rydyn ni yma.

Bwriad gan Ganolfan Bedwyr i gynnal gweithdai i gyhoeddwyr Cymru, yn ystod y gwanwyn ar haf eleni. A’r “newyddion mwya’ bore ma” meddai – maen nhw wedi cael nawdd gan Fwrdd yr Iaith i baratoi ffeiliau EPUB – sy’n fformat agored i gyhoeddi – ar gyfer Mawrth 2012 “Rhywbeth tebyg i Cysill ar lein” fyddan nhw, fel y gall cyhoeddwyr fwydo testun i mewn iddo yn barod i’w olygu a’i gyhoeddi.

“Mae cyhoeddwyr unigol yn rhydd i werthu llyfrau ar eu gwefannau eu hunain,” meddai. “Ond os y’ch chi wedi prynu Kindle, r’ych chi eisie mynd ar Amazon, clic clic a phrynu’r llyfr. Mae’n sefyllfa eitha’ cymhleth. O fod yn e-gyhoeddi, mae’r awydd i hunan-gyhoeddi yn cynyddu. Pam na all yr awdur roi’r llyfr ar ei wefan ei hun a gwneud llawer o bres? Wrth gwrs, dydi pethau ddim mor syml a hynny.” Rhaid sicrhau safon a phrofiad prawf-ddarllenwyr, meddai. “Ry’n ni eisiau cyhoeddi llyfrau da.”

Mae’r Cyngor Llyfrau am ddefnyddio gwasanaeth Gardners – sy’n defnyddio rhaglen o’r enw DRM ar Gwales. Mae yna ddadleuon dros ac yn erbyn hyn, meddai, y mae angen eu gwyntyllu maes o law. “Mae’n bwysig i ni ddeall y dadleuon… mae yna lot o fygythion o’r blaenau ni, a lot o gyfleoedd hefyd.”

Mae hi’n annog siopau bach Cymraeg a chyhoeddwyr i ystyried beth yw manteision y dechnoleg yma iddyn nhw.

“Mae e-lyfr am newid y ffordd r’yn ni’n sgrifennu nofel,” meddai Delyth Prys. Cyfle i gyhoeddwyr edrych ar eu catalogau am hen “drysorau” a rhai allan o brint, bydd hi’n rhwydd iawn ymhen amser i’w trosi yn elyfrau. Byddai’n wych cael llyfrau Emrys ap Iwan ar ffurf eLyfrau. Neu ryddhau’r hawlfraint i eraill eu cyhoeddi am ddim.

A dyma hi’n crynhoi ei sgwrs mewn pwyntiau byr ar y sgrin wen fawr. ‘Fformiwla llwyddiant = dewis o wahanol fformatiau + dulliau dosbarthu hwylus + amrywiaeth cynnwys difyr + prisiau deniadol + buzz = denu darllenwyr newydd at lyfrau Cymraeg.’ A’r neges? “Dim bygythiad, ond cyfle.”

A’r sesiwn nesa’? Sesiwn ar bobi cacennau ar y we.

Hacio’r Iaith – cyrraedd

9.20am: Cyrraedd Adeilad TH Parry-Williams y tu ôl i’r Ganolfan Gelfyddydau yn Aberystwyth, a gweld torf o bobol smart eu golwg yn sgwrsio â’i gilydd. Nifer fawr o ddynion yn gwisgo bag ysgwydd – i ddal y gliniadur wrth gwrs. Y tu ôl y ddesg groeso mae dau wyneb cyfarwydd o fyd y we Gymraeg – Sioned Mills a Mari Fflur – yno’n edrych yn weithgar a brwd. Mae sgrîn las y tu ôl iddyn nhw, gyda negeseuon trydar yn dechrau triglo’n araf, gyda phobol yn dweud eu bod nhw ar y ffordd i’r gynhadledd. Gall pobol sôn am y gynhadledd ar Twitter, trwy ddefnyddio ‘hashtag’ sef yr arwyddnod # gyda’r gair ‘haciaith’ yn ei ddilyn. Felly gallwch gael negeseuon byr gan gynadleddwyr yn fyw o’r achlysur. Coffi a chlonc gyda sawl un difyr. O’r diwedd, yn gallu rhoi wyneb i enw Maldwyn Pate, cyn-aelod o’r Blew, sy’n gweithio yn y maes dysgu i oedolion ac sy’n prysur gynllunio gwefan gyffrous newydd i addysgu ar lein, Y Bont.

Sesiynau sydd ar y gweill – iaith Twitter, S4C, dadansoddi pwer yr hashtag…

Hacio’r Iaith 2012: Y gwifrau’n poethi

Cyhoeddwyd Ionawr 27, 2012 gan Gwyddoniaeth a Thechnoleg. 2 Sylw.



Mae yna dyndra yn fy mola wrth ymbaratoi at fynd i fy nghynhadledd Hacio’r Iaith gyntaf erioed yfory yn Aberystwyth.

Wn i ddim pam, yn iawn; ofn yr anghyfarwydd, mae’n siŵr. Ac mae llawer ym myd technoleg sy’n anghyfarwydd i mi. Do, dw i wedi meistroli Word, yn gallu llwytho lluniau digidol, gwagio fy nictaffon digidol, a thiwnio’r iPod i’r iTrip. Ond os dechreuwch chi sôn am Foursquare, Android, Eclipse, memes a quickfire – mae ’mhen a ’mola i’n dechrau troi.

Fe wnes i drydar pwyddwrnod ei fod yn teimlo fel fy mod ar fin mentro i ffau’r eLewod. Ond, fel yr atebodd Rhodri ap Dyfrig, arweinydd y frwydr hanfodol yma i Gymreigio’r we, dw i’n fwy tebygol o gwrdd â chathod dof a chyfeillgar na llewod rheibus, cas.

Ac wedi’r cwbwl, dw i’n nabod y rhan fwya’ o’r cynadleddwyr, ac yn gwybod eu hanes, a bron â bod yn nabod eu neiniau, o fod yn eu dilyn ar Twitter, ac o’r amheuthun Maes-e cyn hynny.

Nid cynhadledd arferol mohoni, yn ôl pob tebyg. Does dim amserlen benodol, ond croeso i unrhyw un sydd â rhyw awch i Gymreigio’r we sbarduno sgwrs fer am yr hyn sydd o ddiddordeb iddyn nhw.

Sut i goginio cacs bach a swper rhwydd hanner-awr, rhoi hen fideos archif gwerthfawr ar y we (odi, mae’n hen bryd i ni weld y clipiau yna o Rhys Ifans fel Hywel Pop ar raglenni Swigs y Steddfod ar-lein), ar ba fformat y dylid cyhoeddi eLyfrau, creu fideos cymunedol a ffilmiau ar y camera SLR crand ‘na gawsoch chi yn anrheg Dolig… mae lle i bopeth yn Hacio’r Iaith 2012.

Mae sawl un ar Twitter hefyd wedi bod yn ddigon clên dros y dyddiau diwetha’ i egluro’n weddol i mi ystyr ‘hacio’ – ‘to hack’ – yn y byd technoleg. Ryw chwarae o gwmpas â rhaglenni cyfrifiadurol, eu gwella a’u haddasu efallai. A dysgais fod y cyfryngau yn defnyddio ‘to hack’ ar gam yn aml iawn, yn hytrach na ‘to crack’ wrth sôn am gnafon clyfar yn tresmasu ar raglenni cyfrifiadurol ryw gorfforaethau mawr. Felly mae ‘Hacio’r Iaith’ yn golygu – os dw i’n iawn ac mae croeso i chi ‘nghywiro – trafod yr iaith yn nhermau technoleg, ei haddasu a’i siapio yn dwt at bwrpasau’r we. Ac roedd yr awgrym arall ar gyfer enw’r gynhadledd – ‘Gwersyll Gwe’ – yn llawer rhy dila, medde nhw wrtha i.

Mae yn amlwg bydd presenoldeb cryf yno gan y rheiny sy’n gweithio ar gyfer y cyfryngau am eu bara menyn – y rhai sy’n dod â Cyw i ni, yn dylunio’r gwefannau pert i’n hudo at raglenni ac ati. Yn cynllunio ein diddanwch at y dyfodol.

Difyr hefyd bydd dysgu am brofiadau’r rheiny sy’n ffilmio protestiadau a’u rhoi mas ’na i’r byd i gyd i’w gweld ar unwaith – fel ffilm ‘Brwydr Caerdegog’ gan Rhys Llwyd yn ddiweddar. Y dechnoleg yma, cofiwch chi, a sbardunodd ac a dynnodd sylw’r byd at y gwrthryfeloedd yn y gwledydd Arabaidd y llynedd, a gwyrdroi hanes.

Ac mae un cynadleddwr, Elliw Gwawr, wedi addo dod â chacennau gyda hi’r holl ffordd o Gaerdydd. Gwnewch y pethau bychain ynde.