Mêt Mrs Windsor yn plesio’r Comiwnyddion

Leanne Wood
Leanne Wood fydd y ferch gynta’ i annerch cynhadledd Plaid Cymru fel Arweinydd y prynhawn yma. Anna Glyn sy’n edrych yn fanylach ar y stori hyd yma…
Mae’r ffaith fod y Comiwnyddion wedi croesawu etholiad Leanne Wood fel arweinydd y Blaid yn adrodd cyfrolau, ac mi fydd sawl larwm yn canu ym mhenau’r Aelodau Cynulliad mwy cymhedrol hynny sy’ dan ei phawen.
Yn amlwg mae ei neges wedi taro deuddeg mewn cyfnod pan mae bancars barus a chyfalafiaeth yn y doc, ond mae ethol gweriniaethwraig ronc sydd i’r chwith o’r Blaid Lafur yn dipyn o gambl. Gobaith aelodau cyffredin yw y bydd Leanne Wood yn denu fôts yn y Cymoedd, ond mae rhai’n amau a oes yna wir alw am blaid sy’n ffyrnicach ei Sosialaeth na Llafur.
Y gwir ydy nad oes neb yn gwybod eto a fydd yr Arweinydd newydd yn llwyddo neu’n suddo, ond mae’r ffaith iddi ennill er gwaetha’ profiad helaethach Elin Jones a Dafydd Elis-Thomas yn haeddu clod.
Pwy fyddai wedi darogan pan roddodd Ieuan Wyn Jones y ffidil yn to, mae’r ddysgwraig o’r Rhondda fyddai’n camu i’w ‘sgidiau? Hyd yn oed ar ddiwrnod y cyhoeddi wythnos yn ôl mi gafodd ambell i byndit dipyn fraw bod Leanne Wood wedi ennill buddugoliaeth gyfforddus. Y gred oedd bod cefnogaeth y to iau yn y bag. Ond mi gafodd hi 3, 326 o bledleisiau ar ôl dwy rownd, o’i gymharu â’r 2,494 i Elin Jones – prawf pendant bod apêl y ferch o’r Cymoedd wedi cael croeso yn y Fro Gymraeg.
Does yna ddim peryg y bydd Leanne Wood yn carbon copy o’i rhagflaenydd, a beryg mai dyna ran o’r apêl. Fel Tony Blair a David Cameron, daeth o unman i gipio’r awenau’n annisgwyl.
Os yw’r Blaid yn gyfuniad o ddaliadau gwahanol gyda rhai yn fwy ceidwadol nag eraill, mae’n bosib bod bygythiad i’w dyfodol. A fydd ffermwyr cefnog Môn, er enghraifft, yn fodlon gydag Arweinydd sy’ eisiau i’r mwya’ breintiedig mewn cymdeithas dalu trethi uwch?
Mae’r sylwebydd Gareth Hughes wedi dweud mai camgymeriad fyddai hi i Blaid Cymru fynd i’r chwith o Lafur, gan nad oes yna fawr o gefnogaeth gan etholwyr yn y tir anial hwnnw, meddai.
A fydd hi’n parhau i fynegi safbwynt gref ar wleidyddiaeth ryngwladol mewn llefydd fel Iran?
A fydd Leanne Wood yn cymedroli rhywfaint ar ei daliadau gwrth-Frenhinol? Mi gafodd hi ei hel o’r Senedd am alw Brenhines Lloegr yn ‘Mrs Windsor’, ond ers ei hethol mae’n addo bod fymryn yn fwy parchus.
A faint o ddylanwad fydd gan y dyn sy’n llechu dros y dŵr yn America? Yn bendant bu cefnogaeth Adam Price yn hwb i’w hymgyrch. Ond beth fydd ei rôl o hyn allan?
Wrth ganfasio mae’n amlwg bod gan Leanne Wood y gallu i gynhesu calonau’r Cymry cyffredin. Mae’n wleidydd y daliadau cryf ac nid yw’n ofni mynegi ei barn yn glir a chroyw – peth prin mewn byd gwleidyddol lle mae troedio’r tir canol yn fantra dyddiol.
‘Student politician’ yw’r farn ymysg Llafurwyr, a ‘rhamantwraig’ yw’r label dilornus arall sy’n cael ei bedlera. Mi fydd angen iddi ddarbwyllo llawer bod ganddi’r clowt gwleidyddol. Nid yw’n cael unrhyw fath o fis mêl yn y byd, gyda chynhadledd y Blaid y penwythnos hwn a phawb yn gwylio, gwrando a cheisio dadansoddi pob sill o enau’r ddynes gynta’ i fod yn ben ar y Blaid.








Sylwadau Diweddar