
Cast Llwyth
Aeth Non Tudur draw i’r Galeri yng Nghaernarfon i weld y ddrama Llwyth. Ac er iddi fwynhau’r arlwy yn arw, roedd hi’n poeni braidd fod pobol yn gorymateb…
Does dim byd yn well na theatr dan ei sang. O gofio’r sylw a’r ymateb da y cafodd taith gyntaf drama Dafydd James, Llwyth, yn 2010 o dan faner Sherman Cymru, does ryfedd yn y byd bod y theatr yn orlawn.
Erbyn 2011, mae’r Theatr Genedlaethol yn gyfrifol am y cynhyrchiad ar y cyd â’r Sherman. Dyma ddrama gynta’r Chyfarwyddwr Artistig newydd, Arwel Gruffydd i’r cwmni cenedlaethol, wedi dod â’r ddrama gydag fe o’i hen swydd yn y Sherman.
Fe fuodd nhw â hi lan i ŵyl Caeredin fis Awst, ac roedd yr Albanwyr wedi mopio â hi, yn ôl ymateb y wasg yno:
‘Llwyth is a brilliant, powerful, enigmatic production…’ ‘It’s messy, it’s wordy, it’s over the top and sometimes all over the place; but still, there’s no resisting the indiscreet charm of [this] show…’ ‘Welsh Theatre of this quality should get up to Scotland more – it would be welcomed with open arms…’
Felly mae yna ddisgwyliadau uchel ar gyfer ei hail daith. Ond oherwydd y canmol, yr ‘o, mae hi’n wych!’ oedd i’w glywed ar y stryd, ar Facebook, yn y dafarn, roedd rhywun yn fwy petrus nag arfer cyn mynd i’w gweld. Ai dim ond sioe llawn camp a rhemp fyddai hi? A oedd y busnes côr ar lwyfan yn mynd dros ben llestri? A fyddai hi, mewn gwirionedd, yn dysgu rhywbeth i ni am gyflwr y ddynoliaeth?
Mae’r ddrama yn cydio ynoch o’r munud cyntaf. Mae’n eich llusgo gerfydd eich garddwrn i ganol miri gwyllt ar noson gêm rygbi ryngwladol yng Nghaerdydd yng nghwmni pedwar dyn hoyw. Mae’r cymeriadu yn gryf, fel y mae’r disgrifiad o fywyd hoyw dinesig a’r actorion wedi eu canmol droeon yn y wasg, yn enwedig Simon Watts fel Aneurin. Mae’r berthynas rhwng y prif gymeriadau – Aneurin, Rhys, Gareth, Dada a Gavin, y bachgen ysgol diniwed sy’n dod i’w plith – yn taro deuddeg.
Mae’r sgript yn tynnu blewyn o drwyn sawl agwedd ar y diwylliant Cymraeg dosbarth canol, a wastad yn codi gwên:
Aneurin: Ti moyn mynd i X, yn dwyt ti?
Rhys: Odw.
Dada: Oh shame. Mae’r cabaret ar fin dechre.
Aneurin: If you want to see bad make-up and miming, tro’r volume lawr ar ‘Dechrau Canu, Dechrau Canmol’.
Mae’r theatr yn morio chwerthin ar rai llinellau:
Gareth: Who’s Iolo Morgannwg.
Dada: Ti’n gwbod. Y boi nath greu’r Orsedd.
Gareth: What? Mr Urdd?
Ond mae hiwmor a pharch Dafydd James tuag at y diwylliant yn achub ei hun rhag bod yn rhy ymosodol. Dyna’r olygfa lle mae Aneurin, yn llawn cwrw a chyffuriau, yn lladd ar yr Urdd.
Aneurin: … I mean mae’r cystadleuthau adrodd ’na dan ddeg – they’re the ugliest things I’ve ever seen. It’s like watching robots having a spaz out… And that cerdd dant stuff. U-GLY! And all those parents, cheering for their offspring, their devil’s spawn. It’s just like a fascist rally…’
Gavin: Ha, ha, wyt. Ges di cam yr yr Eisteddfod?
Dyna’r llinell ddenodd y chwerthin mwyaf, diolch i amseru perffaith yr actor ifanc Joshua Price.
Mae yna lawer iawn o Saesneg. Debyg mai dyma’r ffordd y bydd pobol yn siarad gyda ffrindiau mas yng Nghaerdydd. Ond rhaid ei gwestiynu ar brydiau, er gwaetha’r peryg o swnio’n hen ffash. Cymerwch yr olygfa dyner yma rhwng Aneurin a Dada:
Aneurin: I can be who I want to be.
Dada: Dyw hynny ddim yn fater o ddewis, Aneurin. Enjoy the contradictions. Enjoy the mess.
Aneurin: Or rewrite who I am. I can do that.
Dada: Ti ddim yn special, Aneurin. Fi wastad ’di meddwl bod ti. Achos mi o’t ti’n exciting! O’t ti fel chwa o awyr iach bob tro o’t ti’n dod nôl drwy’r drws ’na. Ond nid awyr iach wyt ti, ti’n ddim byd ond hen ddrafft. Ti’n fachgen bach sy’n gwrthod tyfu lan. You’re just fucking as many holes as you can, to try and avoid thinking about the gaping one in your life, and you’re fucking up everything else in the process.
Dim ond hen gonyn fyddai’n mentro beirniadu Llwyth. Mae hi’n eich cadw ar flaen eich sedd am bron i ddwyawr. Mae’n eich taro’n fud tua’r diwedd, ar draws y chwerthin, a ninnau’n dyst i wewyr meddwl Aneurin. Rhoddir lle parchus – ond dim gormod – i gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg, fel ‘Y Cwm’, ‘Ysbryd y Nos,’ a ‘Dy Garu Di o Bell’, y gân serch o’r ffilm Ibiza Ibiza, ar lwyfan. Bydd hi’n anodd anghofio perfformiad Danny Grehan fel Margaret Williams yn morio canu ‘O’r Fan Acw’, na’r pedwar yn rêfio yn Club X.
Mae hi’n hen ystrydeb, ond mae hi yn torri tir newydd. Yn dod â themâu cyfoes i lwyfan Gymraeg, a hen bryd. Yr hyn sy’n eich taro yw bod dramau safonol Cymraeg fel hyn yn brin, a bod angen rhagor yn ymwneud â phob agwedd ar fywyd yng Nghymru.
Tybed a fuodd yna organmol? A yw’r gair ‘gwych’ yn cael ei chamddefnyddio wrth ddisgrifio perfformiad? Dyw hi ddim yn ddarn o theatr aruchel, treiddgar nag yn ceisio bod. Yn wir, efallai mai’r darnau gwannaf yw’r sylwebaeth farddonol gan Aneurin mewn Cymraeg coeth.
Nid eithriad ddylai theatr Gymraeg o safon fod, ond arferiad. Mae hi’n reiat o ddrama dda; fel llythyr caru i Gymru gan hen gariad y buodd hi’n frwnt ag e. Efallai mai dyna pam mae pobol wedi gor-ganmol – am unwaith, maen nhw wedi mynd i’r theatr ac wedi mwynhau mas draw.
eirwen haf , Medi 24, 2011 12:59 am
§