Cynyddu maint testun

Golwg360

Codi tai ddim am helpu’r iaith

Cyhoeddwyd Mawrth 2, 2012 gan Barry Chips. Dim sylw.


Yn ystod wythnos cyhoeddi’r Strategaeth Iaith, sydd i fod i arwain at adfer y Gymraeg, fe ddylen ni ystyried beth fydd effaith strategaeth codi tai Llywodraeth Cymru ar ein cymunedau a’n hiaith…

Be’ ydy gêm Llywodraeth Cymru? Trwy orfodi cynghorau sir y gogledd i ganiatau codi miloedd yn fwy o dai nag y byddan nhw’n ddymuno, yr ofn yw bwydo’r mewnlifiad a phrysuor tranc yr iaith.

Roedd Cyngor Wrecsam eisiau caniatau codi hyd at 8,055 o dai yno dros y deng mlynedd nesaf – gormod o lawer yn ôl cenedlaetholwyr lleol sy’n poeni am yr effaith ar hunaniaeth yr ardal, heb son am bwysau ychwanegol ar wasanaethau cymdeithasol, addysg ac ysbytai.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen anelu at godi 11,700 o dai yno – ddim yn bell o 4,000 yn fwy o dai ychwanegol dros gyfnod o ddeng mlynedd yn unig.

Mae 24,000 o bobol eisoes wedi arwyddo deiseb sy’ wedi’i hanfon i’r Cynulliad, yn nodi eu pryderon ac nad ydyn nhw am i ardal Wrecsam drosi yn West Cheshire – ardal i gymudwyr fyw ar ôl diwrnod o waith dros Glawdd Offa.

Tai fforddiadwy i bobol leol sy’ angen, medden nhw, nid tai crand sy’n creu elw i gwmnïau mawr tra’n prisio pobol leol o’r farchnad.

Yng Nghonwy wedyn mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn am godi’r nifer o dai y dylid eu codi i 6,800, gyda’r Ceidwadwyr ar y cyngor sir – pobol sydd o blaid byd busnes a chwmnïau mawr fel arfer – yn protestio fod y nifer yn ormod.

Ac yn Sir Ddinbych – lle mae’r cyngor sir ei hun eisiau treblu maint Bodelwyddan, pentref sy’n nythu’n handi ar ysgwydd yr A55 ac yn ddelfrydol i gymudwyr o Loegr – mae Llywodraeth Cymru eisiau caniatau codi 8,400, sef 900 yn fwy na’r cyngor.

Mae’r angen am fwy o dai yn seiliedig ar y rhagdybiaeth fod y boblogaeth yn mynd i gynyddu.

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd poblogaeth Sir Ddinbych yn cynyddu 600 bob blwyddyn, a’r llynedd mewn e-bost mi wnaeth un o’u swyddogion gyfadde’ wrtha i bod yr amcan yna’n seiliedig ar fewnfudo yn y gorffennol.

Roedd ymateb yr Aelod Cynulliad Llŷr Huws Gruffydd ar y pryd yn crisialu dagrau’r sefyllfa: “Os ydych chi’n adeiladu tai ar gyfer y mewnlifiad yna mae’n ei gwneud yn haws iddo barhau! Mae’n sefyllfa ryfeddol lle mae Llywodraeth Cymru yn gorfodi cynghorau i gynllunio ar gyfer tranc cymunedau lleol.”

Mae tref glân y môr Y Rhyl yn Sir Ddinbych eisoes wedi cael ei siâr o fewnfudwyr anghenus, a prin y gall gwlad mor dlawd a Chymru ddelio gyda phroblemau ei thrigolion ei hun, heb son am wahodd mwy.

Ond dyma weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y gogledd.

Boncyrs.

Bangor Roc

Cyhoeddwyd Rhagfyr 16, 2011 gan Barry Chips. 3 Sylw.


Plant Duw
Oes yna le i ychwanegu Bangor at Bethesda a Blaenau Ffestiniog dan y lythyren ‘B’ yng ngeiriadur y Sîn Roc Gymraeg?

Oes.

Pam?

Achos ar y funud mae dylanwad Bangor ar bop iaith y nefoedd yn gryfach nag erioed.

Bangor lads ydy Plant Duw, sy’ newydd ryddhau fersiwn anfarwol o ‘Pwy sy’n dwad dros y bryn?’ i godi hwyl dros yr ŵyl.

Nhw yw band byw gorau’r Sîn, gyda llaw.

A dau gasgliad cerddorol mwya’ caboledig cynffon 2011 ydy rhai’r Ods (Troi a throsi) a Huw M (Gathering Dusk).

Mae canwr Yr Ods Griff Lynch yn Fangoriad.

Ac er ei fod yn byw ym Mhontypridd, un o ddinas dysg ydyw Huw M.

Dyna i ni dair enghraifft sy’n profi’r theori ar ei phen.

Diddorol bod meibion academics a doctors dinas dysg yn dewis mynegi eu hunain fel hyn…

Dim shopa dros Glawdd Offa

Cyhoeddwyd Rhagfyr 9, 2011 gan Barry Chips. 1 Sylw.


‘Prynwch yn lleol y Nadolig hwn’ yw neges Cyngor Gwynedd, ac A-men medda finnau.

Dyla fod gan Lywodraeth Cymru ymgyrch debyg, yn enwedig yn y gogledd ble mae pobol yn heidio am Gaer a thu hwnt i wario’n hael.

Dyma neges amserol ar drothwy’r Dolig, ar adeg pan mae Carwyn Jones yn cwyno nad ydy Llywodraeth Prydain yn rhoi chwarae teg ariannol i Gymru.

Iawn cwyno, popeth yn iawn. Ond hefyd ddyle ni ddechrau wrth ein traed a defnyddio’n harian i gefnogi busnesau a swyddi lleol.

Syml, effeithiol ac egwyddorol.

Y gwir ydi fod popeth mae rhywun ei angen o fewn cyrraedd, a gyda’r diwydiant manwerthu’n hongian ar erchwyn y dibyn, mae pob hwb yn help.

“Yn wahanol i ganolfannau’r dinasoedd mawr, lle mae pob un bellach yn edrych yr un fath ac yn gwerthu’r un pethau, mae gan bob stryd fawr yng Ngwynedd ei chymeriad unigyrw ei hun sy’n cynnig ei phorifad siopa arbennig ei hun,” meddai Arweinydd Cyngor Gwynedd. Ond mi allai’n hawdd iawn fod yn son am unrhyw sir yng Nghymru.

“Wrh siopa’n lleol yn ystod yr amser hynod anodd hwn byddwn ni hefyd yn cefnogi’n busnesau bach a’r cadwyni cyflenwi lleol sydd mor bwysig i economi Gwynedd.”

Cofio camp Freddie Mercury

Cyhoeddwyd Tachwedd 25, 2011 gan Barry Chips. Dim sylw.

Tagiau: Freddie Mercury


Freddie Mercury
Ugain mlynedd ers ei farwolaeth yn 45 oed, dyma deyrnged i athrylith roc go-iawn…

Bombastig a brwdfrydig, swil a sensitif…roedd Freddie Mercury yn hyn oll a mwy.

Fo oedd prif ganwr Queen, band roc oedd ddim yn ofni mynd dros ben y llestri wrth gyfuno riffs trwm efo lleisiau opera ar anthemau O.T.T. fel yr enwog ‘Bohemian Rhapsody’.

Cân am be’n union ydy honno? Mae’n dechrau gyda lleisiau’n canu heb gyfeiliant, wedyn darn trist gyda Ffredi ar y biano yn adrodd stori mab yn dweud wrth ei fam ei fod yn lofrudd: ‘Mama, I just killed a man…’ A rhywle tua’r canol mae’r darn opera, yna’r rocio trwm…a’r cylch yn cau gyda’r  “any way the wind blows” a whoosh y gong.

Yn un deg pedwar oed roeddwn i’n medru canu ‘Bohemian Rhapsody’ o’r dechrau i’r diwedd, sy’n ddipyn o gamp erbyn meddwl, o gofio ei bod hi’n gân sy’n para saith munud a mwy. Fyswn i wedi gwneud parot bach da!

Ond pam? Pam wnes i fopio mhen cyn gymaint efo miwsig Mr Mercury?

Mae gen i gof plentyn o ddawnsio i ‘I Want to Break Free’ a ‘Radio Ga Ga’ mewn discos ar nos Wener yn neuadd yr ysgol gynradd, ond dwi’n amau’n fawr a oeddwn yn ymwybodol o’r boi mwstashiog oedd yn canu’r caneuon ar y pryd.

Hwyrach mai hap a damwain oedd syrthio mewn cariad efo miwsig Queen, ond nid fi oedd yr unig un, o bell bell ffordd.

Dw i’n cofio cerdded fyny’r grisiau yn nhŷ nain a chlywed solo gitâr yn gwichian o ystafell wely chwaer fach fy mam.

Roedd Brian May yn mynd drwy ei bethau ar y fersiwn estynedig o ‘I Want It All’ – chewch chi mo’r gân yna yn ei chyfanrwydd ar yr albym Queen Greatest Hits II. Mae’n rhaid i chi brynu copi o The Miracle, sef yr albym mae ‘I Want It All’ arni – dyna’r math o ffeithiau dibwys, hollol pointless, mae ffans y frenhines Freddie yn medru eu hadrodd!

Ffaith arall – gath Freddie Mercury ei eni’n Farook Bulsara yn Zanzibar bell, ac mae’n debyg ei fod yn cael ei gyfrif fel ‘seren roc Asiaidd cynta’ Prydain’ erbyn heddiw. Ond yn fwy diddorol na hynny, roedd y Farook ifanc  yn focsiwr da – ac mi fydd unrhyw un sy’ wedi gweld fideo o Queen ar lwyfan yn gwybod yn iawn bod Freddie Mercury yn hoff o daflu ei ddyrnau gyda’i ên a’i fron allan fel paun, fel petae o’n shadow boxing. O’i lencyndod yn paffio ddoth y symudiadau theatrig yma, sydd rhywle rhwng Muhammad Ali a Rudolph Nureyev.

Ond ia, yn ôl at y stori garu (!), clywed yr albym The Miracle wnaeth wneud fi’n ffan, bron o’r cychwyn cyntaf.

Hwyrach tasa fy modryb wedi bod yn chwarae albym Mili Vanili pan wnes i gerdded i fyny’r grisiau – ac roedd ganddi albym Mili Vanili cofiwch, albym ddwbwl os cofiaf yn iawn – ella na fyswn i’n teimlo bod unrhyw werth mewn cofio ugain mlynedd ers colli Freddie Mercury.

Mae’n beth od iawn ar un wedd, teimlo colli dyn na wnes i erioed ei gyfarfod na’i weld ar lwyfan yn y cnawd hyd’noed.

Ond dyna faint mae Ffredie Mercury a Queen wedi’i olygu i mi. Dwi’n cofio teimlo’n drist wrth ddarllen yn y Sun ei fod o’n marw, a’r diwrnod wedyn roedd o wedi mynd.

Roeddwn i’n amau bod dyddiau Queen fel band oedd yn chwarae’n fyw, ar ben ers blynyddoedd. Ar gynffon yr albym The Miracle mae’r gân ‘Was It All Worth It?’ lle mae Freddie yn canu : “…giving all my heart and soul and staying up all night, was it all worth it, staying up all night, a godforsaken life…” Roedd o’n cloriannu ei fywyd roc a rôl, ac yn dod i’r casgliad ei fod wedi dewis y llwybr cywir.

Roeddwn i wedi fy hudo, fy hypnoteiddio bron gan berfformiadau byw Freddie – a dim ond ar sgrîn teledu fy mam oeddwn i weld gweld y boi. Ond rywsut, yn gwybod nad oedd y band wedi twrio ers 1986, roeddwn i’n synhwyro na fyddwn i na neb arall yn gweld Ffredi’n canu’n fyw eto.

Dwi’n cofio prynu’r albym wnaeth ddilyn The Miracle, sef Innuendo, ag edrych yn syth i weld be oedd y gân olaf ar yr albym, yn chwilio am gliwiau.

‘The Show Must Go On’ oedd y gân honno, Ffredi’n codi dau fys at y salwch fyddai’n ei ladd.

Yn rhyfedd, fel mae bywyd weithiau, roedd ‘The Show Must Go On’ – clamp o gân theatrig – wedi gwneud sioe wael ohoni yn y siartiau, ac roeddwn i’n teimlo’n flin bod pobol methu gweld pa mor wych oedd hi.

Ond yna mi fuo Ffredi farw ac mi gafodd y gân fwy o sylw a chodi yn y siartiau. Ond wrth wrando ar eiriau’r gân wedi ei farwolaeth – “inside my heart is breaking, my make-up may be flaking, but my smile still stays on” – roedd yn  wefreiddiol bod artist yn medru bod mor arwrol o ddewr.

Mae’n debyg bod Freddie Mercury wedi mynnu recordio’i ganeuon hyd at y diwedd un. Soniodd y gitarydd Brian May sut y byddai Ffredi, yn ei wendid, yn troi fyny yn y stiwdio a brwydro gyda help y fodca i recordio ryw hanner awr o vocals, cyn ymddiheuro a gobeithio y gallai gweddill y band wneud rhywbeth o’r take.

Mae gallu codi dau fys at y Grim Reaper fel hyn a dal ati yn dal i fy rhyfeddu.

Epiffani

Os oedd darganfod The Miracle yn ddeffroad, roedd clywed Queen Greatest Hits yn epiffani.

Hynny ydy, roedd gwrando ar bopeth o ‘Bohemian Rhapsody’ drwadd at ‘We Will Rock You’ a ‘We Are The Champions’ ar yr albym Greatest Hits yn brofiad ysbrydol – roeddwn i ar goll yn y gerddoriaeth, pleser pur.

Ar y pryd roedd gwrando ar Freddie, gwylio fideos o Freddie ‘Live From Budapest’, a llowcio erthyglau am y boi yn teimlo mor naturiol ag anadlu.

Flynyddoedd wedyn mi wnaeth Mam gyfadde’ ei bod hi a’i chwaer fach yn meddwl – a meddwl dalldwch, nid poeni – fy mod i’n hoyw.

Ond toedd gen i boster o ddyn mewn sbandecs tynn efo mwsdash YMCA ar wal fy sdafell wely?!

Wrth edrych yn ôl, roedd gorweddian ar soffa mam yn bwyta crisps a gwrando ac ailwrando ar Queen Greatest Hits yn saff o ymddangos ychydig yn od.

Ond mi gesh i’r ffasiwn bleser!

Dwi’n chwerthin dyddiau yma wrth feddwl am y ffati bach a’i lygid ynghau ar goll yng ngherddoriaeth Queen.

Peth arall sy’n gwneud i mi chwerthin yw cofio mam yn dod adre’ o farchnad Abergele yn gwenu:

“Barry, dw i wedi prynu albym Queen i chdi,” meddai hi’n gwenu’n siriol ar y cyntafanedig.

Wedi tapio The Miracle a Greatest Hits a Live at Wembley oeddwn i cyn hynny, a heb brynu’r un albym efo’r clawr iawn a llunia’r hogia’ a’r lyrics a’r diolchiada’  ballu.

Felly roedd Mam wedi gwneud strôc, chwara’ teg…neu dyna’r oeddwn i’n feddwl tan i mi weld pa albym Queen roedd hi wedi brynu…Hot Space, yr un waetha’ wnaethon nhw erioed. Yr un cyn The Works sydd efo’r anthemau ‘Radio Ga Ga’ ag ‘I Want To Break Free’ arni.

Ar Hot Space roedd Freddie wedi trio, a methu, creu caneuon disco…roeddwn i’n gwybod fod yr albym yn fflop ar ôl darllen yng nghylchgrawn Kerrang fy ffrind mai Hot Space oedd unig bum note Queen mewn gyrfa hirfaith o greu hit albums.

Ta waeth, mi wnes i fedru dweud diolch yn fawr wrth mam. Neu o leia’ wnaeth hi ffafr i bawb drwy anwybyddu fy siom…

Project ysgol a sôs coch

Ac nid dyna’r tro olaf i mi orfod smalio bod yn ddiolchgar wrth dderbyn anrheg Freddie Mercury-aidd gan aelod o deulu.

Gadewch i mi egluro ychydig o gefndir…am tua dwy flynedd rhwng darganfod Queen a marwolaeth Freddie Mercury, roeddwn i’n casglu popeth roeddwn i’n ei weld amdano mewn papurau newydd a chylchgronau roc.

Roedd gen i gelc go dda mewn bocs dan fy ngwely, yn aros nes i mi fedru eu gosod nhw’n ofalus mewn ffolder neu lyfr…dyna oedd y bwriad.

Ond dychmygwch fy syndod ar ddiwrnod fy mhen-blwydd yn un deg wyth pan ddaeth fy chwaer ataf wrth y bwrdd brecwast, yn wên o glust i glust, a chyflwyno ei phrosiect ysgol yn anrheg i mi.

Fel hyn dwi’n cofio Tanya’n egluro’r peth:

“O ni angan pwnc i project Welsh, a dyma fi’n meddwl fysa fo’n neis i chdi gael llyfr am Freddie Mercury ar dy ben-blwydd. So nesh i iwsio llunia’ Freddie chdi, a storis papur newydd, a sgwennu am ei hanas o hefyd. Ti licio fo?”

Ar y pryd ro’n i’n teimlo fel malu potal sôs coch dros ben fy chwaer fach…roedd y clawr yn erchyll a bywyd Freddie wedi ei hidlo lawr i frawddegau banâl fel: “Roedd Freddie yn un am lechio partis. Roedd o’n gwario ffortiwn ar alcohol a bwyd. Hefyd ar y slei fe wariodd ffortiwn ar gyffuriau.”

Erbyn heddiw rydw i wedi darllen y llyfryn bach yna ddegau os nad cant o weithiau, ac mae o wastad yn gwneud i mi chwerthin.

Fe gafodd hi 25 allan o 30 am y prosiect, ond i mi mae’n amhrisiadwy.

Freddie Mercury felly, y boi wnaeth roi pawb arall yn y cysgod yn ystod cyngerdd Live Aid.

Llais anhygoel, carisma camp, y ffryntman roc gorau erioed. Anifail ar lwyfan, ac eto’n swil tu hwnt yn yr ychydig gyfweliadau roedd o’n eu caniatau. Rhyfedd…ac eto, doedd dim half-measures efo’r dyn. Mae o yna yn ei gerddoriaeth o, mor amlwg yng ngeiriau’r anthem ‘Don’t Stop Me Now’, a dim ond teg ydy hi i’r dyn ei hun gael y gair olaf…

I’m a rocket ship on my way to Mars
On a collision course
I am a satellite I’m out of control
I am a sex machine ready to reload
Like an atom bomb about to
Oh oh oh oh oh explode

David Bowie – y cysylltiad Cymreig

Cyhoeddwyd Tachwedd 1, 2011 gan Barry Chips. 4 Sylw.

Tagiau: Barry Chips, David Bowie, Mary Hopkin


Mary Hopkin - llun o glawr 'Live at The Royal Festival Hall 1972'
Barry Chips sy’n tynnu sylw at gysylltiad Cymreig ddigon tila y seren roc byd eang David Bowie…

Mor aml y mae cyfryngau, papurau newydd a gwefannau Cymru yn gor-bwysleisio rhyw gyswllt dila’ rhwng rhywun enwog a’r wlad fach hon, jest er mwyn cael stori.

Wel beth am hon te’n?

Wrth recordio’i glasur Low yn y 1970au, fe gafodd David Bowie hogan o Bontardawe i ganu’r llais cefndir.


Clawr albwm 'Low'
Y Gymraes Mary Hopkin sydd i’w chlywed yn canu’r “Dw-dw-dw” ar ‘Sound and Vision’, cân sy’n disgrifio Bowie’n hesb ac yn chwilio am ei fojo.

Yn ôl Peter Doggett yn ei lyfr gwych newydd The Man Who Sold The World, mi ddefnyddiodd Bowie ddarn lleisiol ‘dw-dw-dw’ Hopkin ar ddechrau ‘Sound and Vision’ i roi gwybod i’w ffans nad oedd ganddo ddim byd o werth i’w ddweud.

I’r rhai sy’n dotio ar Bowie mae’r ffaith fod y dyn ei hun yn credu bod ei awen yn sych grimp yn 1977 yn ffeithsan ddiddorol, ond i’r gweddill ohonoch mae’n debyg mai mewnbwn Mary Hopkin fydd o ddiddordeb.

Roedd hi’n briod â Tony Visconti ar y pryd, sef cyd-gynhyrchydd Low, a dyna sut gafodd hi’r gig.

Cyn hynny roedd yn seren bop anferthol. Meddyliwch, mewn difrif calon, bod Mary Hopkin wedi gwerthu WYTH MILIWN copi o’r sengl ‘Those Were The Days’.

Rhaid mai hi yw’r siaradwr Cymraeg sydd wedi gwerthu’r nifer fwya’ o recordiau pop yn hanes y byd?

David Bowie – Sound and Vision (ar Youtube)

Bendithion Brenhinol i’r Fam Ynys

Cyhoeddwyd Hydref 28, 2011 gan Barry Chips. 1 Sylw.


Lle rhyfedd ydy Ynys Môn!

Mae yno gyngor sir sydd mor gecrus, mae’r cynghorwyr sydd wedi eu hethol wedi eu diswyddo i bob pwrpas…Comisiynwyr anetholedig sy’n rhedeg y sioe, a hynny am £500 y dydd, diolch yn fawr.

Roedd y Prif Weithredwr Dros Dros David Bowles ar dros chwarter miliwn y flwyddyn…mewn sir sy’n cael ei chyfrif ymhlith y tlotaf ym Mhrydain.

Wedyn mae ganddoch chi’r dadlau ffyrnig dros gael ail atomfa niwclear ar arfordir ddwyreiniol yr ynys…mwy o ffraeo.

Ac roeddwn i wedi disgwyl y byddai presenoldeb darpar Frenin Lloegr a’i wraig ar yr ynys, yn esgus arall dros anghydweld a llyncu mul…ond nid felly y bu.

Mae’r cenedlaetholwyr wedi bod yn rhyfeddol o dawel, o gymharu â’r hyn gafwyd adeg arwisgo Pruns Charles yn 1969.

Y stori ora’ glywish i erioed am Fôn oedd hanes y Cymry yn cael eu tyrffio allan o Fiwmares gan y Saeson – O’r fath sarhad! – er mwyn i’r concwerwyr gael adeiladu tai haf a chwarae yn y dŵr.

Fe gafodd y Cymry tlawd eu hel i fyw mewn pentref gwneud o’r enw Niwbwrch (Newborough oedd yr enw gwreiddiol chwarae teg, roedd y Saeson ddigon clên i roi enw ar y lle newydd!) ym mhen arall yr ynys.

Ond does dim o ddicter hunangyfiawn y Cymro, y teimlad yna o fod wedi cael cam, wedi ymddangos yn agwedd y Moniars at ddyfodiad William Wales yn eu plith.

Roeddan nhw hyd’noed i’w gweld yn ddigon bodlon pan gafodd yr enw ‘Monwysyn’ ei ddiddymu dros nos gan yr erchyll ‘Anglesonian’.

Wel mae’r croeso sydd wedi ei estyn at Wills a Kate wedi dechrau talu ei ffordd.

Mae’r llyfr Lonely Planet, sy’n ddylanwad mawr ar deithwyr, wedi dweud mai arfordir Cymru yw’r peth gorau yn y byd i gyd yn grwn, gyda llefarydd yn nodi “nawr fod Wills a Kate wedi ymgartrefu yn yr ardal mae wedi derbyn sêl bendith brenhinol hefyd.”

Ac mae’r cwmni sy’ wedi creu’r gêm Mônopoli, sef fersiwn Ynys Môn o Monopoly, wedi dweud bod y cyswllt brenhinol yn hollbwysig.

 “Cafodd Mônopoli ei gynhyrchu oherwydd bod Ynys Môn wedi ei roi ar fap y byd gan y Briodas Frenhinol ac mae’n llawn cyfeiriadau brenhinol gan gynnwys llun o Dduges Caergrawnt ar gaead y blwch,” meddai Mark Hauser o Winning Moves UK.

Peth da i Fôn ydy presenoldeb Wills a Kate…trafodwch!

Hawdd cynnau tân ar hen aelwyd?

Cyhoeddwyd Hydref 20, 2011 gan Barry Chips. Dim sylw.

Tagiau: Barry Chips, The Stone Roses


Ian Brown (CCA 3.0)
Barry Chips sy’n trafod atgyfodiad un o grwpiau mwyaf y sin roc Brydeinig.

Mae The Stone Roses yn ôl, ond a ydy atgyfodiad y band seminal yma o Fanceinion yn beth da neu ddrwg?

Rheswm i lawenhau…

Yr addewid o ganeuon newydd. Nid dod at ei gilydd i gyflwyno nostaljia ar blât i bobol canol oed fydd y Rhosod Caregog, canys y maen nhw’n addo deunydd newydd sbon…mae lot o frolio haeddiannol ar eu debut rhagorol, ond mae gwychder ar yr ail albwm a gafodd ei phanio gan ‘y gwybodusion’. Gweler y groove ar ‘Breaking Into Heaven’ a’r riff rywiol ar ‘Love Spreads’.

Mae’r ffaith fod Ian Brown wedi parhau i sgwennu caneuon gwych ar ei ben ei hun ers chwalfa’r band, yn reswm arall i ddal ein gwynt.

Mi fyddwch wedi clywed ei gân ‘F.E.A.R.’ droeon, hyd yn oed os nad ydych yn ymwybodol mai’r Manc sy’n ei chanu.

Bron heb sylwi rydw i wedi casglu pump o’i chwech albwm solo, ac mae perlau ar bob un (ag ambell i anfadwaith, wrth reswm).

Felly mae bron yn anochel y bydd y caneuon newydd yn werth eu clywed.

Ac eto…

Fedar Ian Brown ddim canu’n fyw i safio’i Nain.

Tra’n twrio The Second Coming roedd pob pyndit yn cwyno fod ffryntman y Rhosod yn swnio fel rhech mewn draen, ac roedd y dyn ei hun yn rhoi’r bai ar John Squire am droi sŵn ei gitâr mor uchel fel nad oedd posib i neb glywed ei hun yn canu.

Wel rydw i wedi gweld Ian Brown yn fyw fwy nag unwaith ar daith solo, pan fyddai rhywun yn dychmygu fod ganddo reolaeth lwyr dros y lefelau sain, ac roedd ei lais yn gwneud i mi wingo mewn embaras drosto.

Yn Lerpwl un tro mi welais y dyn mwya’ cŵl yn canu fersiwn erchyll o ‘Billie Jean’ Michael Jackson.

Fedra i glywed sŵn y cyllyll yn cael eu hogi’n barod ar gyfer y gigs yna ym Manceinion.

Rheswm i lawenhau…

Mae’r gitarydd John Squire yn artist talentog, a bron fod rhywun yn teimlo’r brwsh paent yn cael ei daenu ar ganfas wrth wrando ar ei lyfiadau hyfryd ar y gitâr. Chwaethus Cariad, hyfryd o chwaethus.

Ac eto…

Mi fydd yna bwysau ar y Rhosod i fod yn ddim byd llai na gwych. Dyma’r math o bwysau oedd arnyn nhw ar ôl llwyddiant yr albwm gynta’, ac wrth recordio’r ail albwm syrthiodd Squire i’r fagl o ddefnyddio cocên i fwydo’i awen greadigol. All y dyn distaw sy’n siarad trwy ei amp ymdopi â’r pwysau y tro hwn?

Rheswm i lawenhau…

Yn y blynyddoedd diweddar mae bandiau indi seminal fel Blur, The Verve a Pulp wedi ailffurfio a llwyddo, os unrhyw beth, i swnio’n well na’r hyn oedden nhw y tro cyntaf rownd…

Ac eto…

Er bod aelodau’r Stone Roses dal yn denau a Duwiol o rywiol, mi fetiaf bod eu cynulleidfa feidrol yn hyll ac yn dew erbyn hyn. Ond mae bron i flwyddyn tan y gigs yna’n Manceinion, felly ioga pilates fflat owt a face lift gan Santa biau hi…

Ôl-nodyn

Yn nyddiau blin y bancars barus a’r gwleidyddion llwgr, mae’n briodol rywsut fod Ian Brown yn dychwelyd a chael sylw’r byd.

Dyma bersonoliaeth llawn carisma sydd, fel yr Iesu, yn fab i Saer Coed cyffredin ac yn gyfaill i’r tlawd a’r under dog.

Dw i’n edrych ymlaen i glywed beth sydd gan y working class hero o Fanceinion i’w ddweud am y llanast cyfalafol.

Wobli yn Wa! Bala

Cyhoeddwyd Awst 22, 2011 gan Barry Chips. 6 Sylw.

Tagiau: Moniars, Wa! Bala


Mentrodd Barry Chips draw i’r Bala nos Wener…

Ga i ddechrau gyda’r da? Cafwyd perfformiad penigamp gan y Moniars ar nos Wener gŵyl Wa! Bala.

Roedd y band yn llenwi’r llwyfan llydan, efo dwy slashar yn ffidlo’r ffidil ar un asgell, a sacsoffonydd bytholwyrdd ar y llall, ag Arfon Wyn y Cadfridog Canol Cae yn mynnu perfformiad gan bob un wan Jac o’i garfan.

A doedd ganddo ddim ofn codi’r bar o ran y gynulleidfa ‘chwaith, gan gyfeirio at griw gwyllt oedd yn dawnsio o’u coeau a dweud: ‘Fel yna y mae dawnsio’.

Roedd ‘Santiana’ a ‘Stryd y Becar’ yn syndod o ffresh o feddwl bod y caneuon yma yn hoelion wyth set y Moniars ers bron i ugain mlynedd bellach.

Ac mae Sara Mai yn gaffaeliad clodwiw, yn canu fersiwn angerddol o Monster Hit y Moniars, ‘Harbwr Diogel’.

Mewn gwirionedd roedd y band yn chwarae mewn pabell tri chwarter gwag, ac yn gorfod cystadlu gyda sŵn boom-boom-boom y miwsig dwrdio o’r llwyfan dawns y drws nesa’ – rhaid bod gofod yn gyfyng, achos fydda’r un trefnwr hanner call wedi gosod y ddau lwyfan mor agos fel arall.

Diod diflas

Ac roedd y cwrw, mae arna’ i ofn, yn siomedig.

Profais beint o chwerw sur ac yna peint o lager crempogaidd, cyn rhoi’r gorau i’r y bar a dychwelyd at y babell a’r cool box ffyddlon llawn o boteli Brahma, cwrw hyfryd o Frasil (sy’ wedi ei fragu yn Basildon mewn gwirionedd).

Mi fethon ni’r Masters in France o’r herwydd, gan eistedd yn sipio a diawlio dan y gazeebo.

No need to make a Brahma out of a crisis,” medda fi’n wamal wrth fy nwy Fodryb, a chael y cerydd yma’n ôl fel bwlad: “Cau dy geg, rydan ni wedi cael hen ddigon o Seusnag am un noson!”

Roedd rheswm da am hyn: roedd y ddau fand cyn y Moniars wedi bod yn betha ifanc, yn siarad Saesneg bobo gafael rhwng y caneuon.

Gwaeddodd fy Modryb ar un canwr: “Wyt ti’n siarad Cymraeg?”

Mi ddywedodd ei fod o, cyn parhau wedyn i rwdlan yn yr iaith fain.

Ac roedd y DJ yn chwarae llwyth o recordiau Saesneg rhwng y bandiau.

Hyfryd oedd acen y boi barfog mewn het Gowboi oedd yn cyflwyno bob band yn iaith y nefoedd, ond at ei gilydd rhyw hen flas digon di-gymraeg oedd i’r arlwy…a hynny yn y Bala o bob man.

Ond i orffen ar nodyn cadarnhaol: roedd modd bwyta brecwast oddi ar y toiled teithiol yn y maes pebyll, cyn uched oedd safon ei lendidrwydd.