Cynyddu maint testun

Golwg360

Tîm Trydar pêl-droed Cymru

Cyhoeddwyd Tachwedd 1, 2011 gan Caio Higginson. 5 Sylw.

Tagiau: Pêl-droed Cymru, trydar, Twitter


Proffil Twitter capten Cymru, Aaron Ramsey
Pwy sy’n cyrraedd XI cyntaf trydarwyr pêl-droed Cymru – Caio Higginson ac Owain Schiavone sy’n dewis y tîm.

Mewn oes lle mae athletwr proffesiynol yn gallu cyfathrebu’n uniongyrchol gyda’r byd trwy ddefnydd cyfryngau cymdeithasol, mae un clwb pêl-droed o Fecsico wedi ceisio dull anarferol o gynyddu eu dilyniant Twitter.

Yn hytrach nag argraffu enwau eu chwaraewr ar gefn eu crysau, mae clwb pêl-droed Jaguares, wedi dodi dolenni Trydar y chwaraewyr ar gefn eu crysau.

Dyma ymgais Golwg360 felly i greu tîm cenedlaethol Cymru ar sail perfformiad y chwaraewyr ar Twitter.

1. @greathover32 – Does gan Wayne Hennessey ddim cyfrif tra bod y cyfrif @boazmihillHCFC yn ymddangos i fod yn un ffug, felly Jason Brown o Aberdeen sy’n cael ei le yn gôl.

2. @jazzrichards – ychydig o amddiffynwyr Cymru sy’n trydar yn anffodus, felly mae cyfle i amddiffynnwr Ifanc Abertawe, a chapten tîm dan 21 Cymru, Jazz Richards

3. @Chrisgunter16 – Mae cefnwr Nottingham Forrest yn drydarwr rheolaidd ac felly’n cadw ei le fel cefnwr chwith.

4. @AshWills84 – Un o’r chwaraewyr cyfredol prysuraf ar Twitter, felly’n graig yng nghanol yr amddiffyn.

5. @25davidstephens – Does dim golwg o’r ddau Collins, Darcy Blake na Danny Gabbidon ar Twitter felly David Stephens ifanc o Hibernian sy’n cael ei gyfle wrth ochr Williams yng nghanol yr amddiffyn.

6. @DaveEdwards4 – wedi cael digon o amser i drydar wrth wella o anaf hirdymor ac yn cael ei le yng nghanol cae.

7. @joe16led – heb gael llawer o lwc gyda Celtic nac anafiadau’n ddiweddar felly bydd Joe Ledley’n falch o gael ei le yn ein XI ar draul @Joe_Allen1 sydd wedi cloi ei gyfrif!

8. @Hal_RK – mae Hal Robson Kanu yn cael ei le yn nhîm Reading eleni ac yn ennill ei le yn nhîm Trydar Cymru hefyd.

9. @churchy18 – Mae Simon Church yn bartnar i @Hal_RK yn nhím Reading ac yn dipyn o fêts gydag ‘e ar Twitter hefyd.

10. @aaronjramsey – un lled ddiweddar i Twitter ydy capten Cymru ond mae ei drydar wedi bod yn prysuro dros yr wythnosau diwethaf.

11. @RobertEarnshaw – bron i 2000 o negeseuon hyd yn hyn ac yn cael ei le yn yr ymosod cyn @stevemorison sydd heb drydar eto a @bellamyofficial sydd heb ddangos digon o ymroddiad gyda dim ond dwy neges hyd yn hyn

Eilyddion:  @DavidCornell27, @Joe_Allen1; @Jack_Collison; @OwainTJones, @stevemorison – bydd angen i Collison, Morison a Jones drydar o leiaf unwaith cyn cael eu hystyried yn y tîm nesaf

Hen Stejars: @JohnHartson10, @RobbieSavage8, @carlrobinson33 – trwy lwc, mae digon o chwaraewyr ifanc yn trydar sy’n golygu nad oes rhaid troi at chwaraewr canol cae y New York Bulls, Carl Robinson!

Hyfforddwr: @raymondverheije – yn anffodus, does dim cyfrif swyddogol gan Gary Speed ar Twitter eto, felly ei ddirprwy, ac un o’r trydarwyr mwyaf dryslyd, Raymond Verheije sydd yng ngofal y tîm.

Ydan ni wedi methu rhywun? Oes digon o’r hen fois yn Trydar i greu tîm pump bob ochr? Croeso i chi adael sylwadau isod.

Sylwadau

Sion , Tachwedd 1, 2011 3:13 pm

Ma @NevilleSouthall yna er mwy chware’n gôl i’r hen fois – @johnoster i’r canol cae. Ac @iwanwroberts i arwain y linell!

§

Rhodri ap Dyfrig , Tachwedd 1, 2011 3:51 pm

Syniad da, ond plis rhowch links i’r cyfrifon Twitter da chi’n sôn amdanyn nhw!

§

Owain Schiavone , Tachwedd 1, 2011 4:05 pm

@Rhodri ap Dyfrig

Does bosib fod pobl yn ddigon abl i roi @aaronjramsey mewn i flwch chwilio Twitter ;-)

§

@rhysw1 , Tachwedd 3, 2011 9:27 am

@Owain, Siwans dylai jyst bod yn ymarfer da ar Golwg360 i roi dolen at unrhyw wefan sy’n cael ei crybwyll mewn erthygl?

Mae 20 cyfrif wedi ei nodi, felly mae’n byddai’n bach o ffaff i bob darllenwr wagu >copi>gludo>chwilio ugain gwaith, pan allech chi fod wedi arbed y gwaith yma drostynt.

Er nad yw’n bosib gweld pwy sy’n rhoi dolen i’ch cyrif Twitter (hyd gwyddwn i), mae rhoi dolen o erthyglau Golwg360 at wefannau yn fodd o hyrwyddo’ch hun yn y pendraw, os yw pobl yn gallu gweld pwy sy’n rhoi dolen atynt.

§

Rhodri ap Dyfrig , Tachwedd 11, 2011 9:32 am

@ Owain

Felly’r darllenwyr sy’n ddiog? Tyd ‘laen. Mae dy erthygl ar y we. Dolenni ydi hanfod y we. Mae’n llawer gwell defnydd o’r cyfrwng, a llawer gwell erthygl, os ti’n ei ddefnyddio fel mae o wedi cael ei gynllunio.

Ta waeth, dyma restr Twitter o’r tîm (heb sybs, a heb David Stephens oedd ddim yn dod fyny wrth chwilio yn Twitter): https://twitter.com/#!/Nwdls/peldroedwyr-twitter

Rwan, pe bai G360 yn ffurfio rhestrau gwahanol o themau gwahanol gallech chi fod yn actio fel curaduron gwe, gan gael y mantais o bobol yn adnabod chi fel arbenigwyr ayyb a dilyn eich cyfri Twitter.

§

Ychwanegu Sylw

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.