Cynyddu maint testun

Golwg360

Hacio’r Iaith – Hacio’r Beth?

Cyhoeddwyd Ionawr 23, 2012 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Bryn Salisbury, Hacio'r Iaith


Un o sesiynau Hacio'r Iaith 2011
Mae Hacio’r Iaith yn digwydd yn Aberystwyth ddydd Sadwrn am y drydedd flwyddyn yn olynol.

Dyma ryff geid Bryn Salisbury i wneud y mwyaf o’ch Hacio’r Iaith cyntaf – wedi ei gyhoeddi’n wreiddiol ar ei flog: Persona Non Grata: Hacio’r Iaith – Hacio’r Beth? | Hacking what?”.

Mewn ychydig dan wythnos, bydd Aberystwyth yn leoliad ar gyfer Hacio’r Iaith 2012. Hwn fydd y trydydd digwyddiad, ac un o’r ‘barcamps’ mwyaf yng Nghymru. Mae llawer wedi gofyn i mi esbonio beth yn union ydi ‘barcamp’, wel… Mae bar camp yn fath arbennig o gynhadledd sy’n cael ei ddisgrifio yn Saesneg fel ‘unconference’, does dim amserlen, dim digwyddiadau na siaradwyr wedi eu trefnu – mae popeth yn cael ei drefnu ar y diwrnod. Ydi, mae’n swnio’n wallgof, ond mae’n gweithio.


Yr amserlen
Mae’r amserlen yn cael ei phenderfynu ar y diwrnod gan bawb sy’n troi lan. Mae pawb yn cael eu hannog i arwyddo lan a siarad ar unrhyw bwnc maen nhw eisiau. Er mai thema’r digwyddiad ydi technoleg, mae’n bosib dehongli hyn mewn sawl ffordd i siarad am unrhyw bwnc, ac mae’n bosib trafod unrhyw beth o effaith polisi’r llywodraeth ar ddefnydd y we, i hanes ‘memes’ y rhyngrwyd.

Dwi wedi bod i sawl digwyddiad o’r math ‘ma, ac mae pethau’n gallu bod mor eang â ‘ny yn ystod Barcamp Llundain 2011, ddaru cannoedd o bobl troi lan i wrando a siarad. Mewn un ystafell, roedd dynes yn disgrifio ei gwaith hi o adolygu siocled ar ei gwefan hi (roedd hi di dod a rhywfaint o siocled hefo hi!), tra mewn ystafell arall, roedd blogiwr wisgi yn rhedeg sesiwn “Absinthe for Beginners”, tra mewn ystafell arall roedd person yn rhedeg sesiwn ar greu gemau ar gyfer yr iPhone. Y peth gwallgof? Roedd hyn i gyd o fewn yr un awr!

Ar ddechrau’r dydd, bydd y bobl yno yn ymgasglu wrth y ‘grid’ a rhoi lawr pa drafodaeth maen nhw eisiau cynnal. Fel dwi wedi sôn yn barod, mae’n bosib siarad am unrhyw beth (fel i mi ddweud, siocled ag absinthe…). Y cwestiwn nesaf yw, oes *rhaid* i mi siarad? Wel, does dim *rhaid* i chi, ond dylsa chi wneud. Mae pawb sy’n dod eisiau gwrando ar drafodaethau a ballu. Maen nhw *eisiau* clywed gynoch chi. Does neb yn mynd i weiddi, codi cywilydd na gwneud hwyl ohonoch. Maen nhw eisiau clywed gan bobl wybodus gydag angerdd at y pwnc dan sylw. Does dim angen creu Powerpoint, does dim angen wbath technegol, does dim rhaid paratoi dim. Yn llythrennol, dim ond angen i chi arwyddo lan am slot, a siarad.

Mae’r holl beth amdanoch chi’n rhannu eich angerdd a’ch gwybodaeth. Gallwch drafod rhywbeth sy’n eich diddori chi, dangos prosiect da chi’n gweithio arno, neu gynnal trafodaeth ar bwnc llosg. Jest angen i chi ddewis enw, amser a bant a ni! Eisiau syniadau? Cymrwch olwg ar y dudalen ‘ma oddi ar Lanyrd.com, mae ‘na restr o bron i 1000 o sesiynau mewn cannoedd o barcamps dros y byd gan gynnwys “Fancy a Pint?” yn Barcamp Llundain (un o rhai fi! Ddaru mi gyfarfod y cyd-gyflwynydd y bore ‘na, ac erbyn y pnawn mi ddaru ni gyflwyno’r sesiwn drafod gydag ystafell lawn o bobl – dim PowerPoint na dim), neu “How to Podcast for Free” o Barcamp Lerpwl (dim un o rhai fi). Fel ddaru mi ddweud, *unrhyw beth*. Os eich bod chi ddim yn siŵr am wneud sesiwn, fe allwch chi gysylltu gyda fi cyn dydd Sadwrn nesaf (bryn.salisbury@gmail.com, neu @bryns ar twitter), neu ofyn i mi ar y diwrnod.

Dwi wedi cael profiadau gwych yn gwneud sesiynau mewn barcamps, a dylsa chi gael hefyd. Mae’n siawns da i ymarfer siarad yn gyhoeddus o flaen cynulleidfa sydd eisiau clywed gynoch chi, ac eisiau eich cefnogi. Heblaw am y sesiynau, fe gewch chi gyfle i wylio Sioned (@llef), Iestyn (@iestynx) a finnau yn recordio’r Haclediad o flaen cynulleidfa fyw. Bydd y peth yn wych. Mae’r flwyddyn ‘ma yn siapio lan yn arbennig o dda, a hwn fydd y flwyddyn fwyaf erioed, a dwi wedi gwirioni. Os nad ydych wedy bod o’r blaen, mae ‘na deimlad gwych o ymgasglu gyda grŵp mawr o bobl sydd gydag angerdd dros bwnc. Fyddwch chi’n gadael ac eisiau dechrau tomen o brosiectau newydd yn syth bin – a chofiwch, fydd ‘ny yn rhoi digon i chi drafod yn Hacio’r Iaith 2013!

Gwnai weld chi yno bois! B


Criw Hacio'r Iaith 2011

Wythnos hanesyddol ym Mae Caerdydd

Cyhoeddwyd Rhagfyr 3, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.


Naomi Williams o Positif Politics sy’n crynhoi datblygiadau’r wythnos ym Mae Caerdydd.

Cafwyd wythnos hanesyddol arall yn y Cynulliad yr wythnos, hon y byddai wedi bod yn hawdd methu hynny wrth i faterion gan gynnwys trafodaethau’r gyllideb ynghyd â streic  y sector gyhoeddus yn denu sylw’r rhan fwyaf ohonom.

Gosodwyd y Mesur gyntaf Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad dydd Mawrth diwethaf – Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) a fe’i cyflwynwyd gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Efallai nad y ddeddf hon yw’r Mesur mwyaf blaenllaw yn rhaglen y Llywodraeth ond gallai’r ddeddf  weithredu fel prawf  i brofi gallu’r Cynulliad i arfer ei bwerau deddfu newydd. Bwriad y Bil yw symleiddio gweithdrefnau ar gyfer creu a gweithredu is-ddeddfau awdurdodau lleol gan gyflwyno gweithdrefn wahanol i awdurdodau lleol ei ddilyn pan fyddent yn creu sawl is-ddeddf. Bydd y Bil nawr yn cael ei ystyried gan Bwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leoly Cynulliad fel rhan o Gyfnod Un o’r broses ddeddfwriaethol.

Yn ogytsal â hyn, cafwyd sesiwn hirfaith hyd at chwe awr yn y Cynulliad ddydd Mawrth – er mwyn trafod y busnes a oedd wedi ei osod ar gyfer y drafodaeth dydd Mercher- ble enillodd dau Aelod Cynulliad arall y cyfle i gyflwyno deddfwriaeth o’r meinciau gefn. Bydd Peter Black AC yn cyflwyno ei Fil ar Gartrefi mewn Parciau a fydd yn sicrhau bod yna rheoleiddio tecach yn y broses a ddefnyddir i reoli a gwerthu carafanau preswyl a chartrefi symudol yng Nghymru; tra y bydd Mohammad Asghar AC yn cyflwyno Bil a fydd yn hyrwyddo menter yng Nghymru. Cyflwynodd deunaw Aelod cynnig ar gyfer Bil o’r fath, sy’n dangos bod nifer sylweddol o’r aelodau ym meinciau cefn y Cynulliad yn barod i ddefnyddio’r llwybr hwn i hyrwyddo materion a syniadau gwahanol.

Mis yn ôl, Ken Skates AC oedd yr aelod cyntaf i ennill y fath bleidlais ac mae wrthi yn dechrau llunio’r Bil  a fydd yn sicrhau bod gwaith awdurdodau lleol sydd eisoes wedi sicrhau sefydlogrwydd i blant sy’n derbyn gofal ddim yn dod i ben pan mae’r plentyn cyrraedd ei ben-blwydd yn 18. Mae eisoes wedi dechrau ymgynghori ar gynnwys y Bil a bydd amser wedi ei neilltuo i’w drafod yn ffurfiol yn y siambr ar yr 11eg o Ionawr – cam arall pwysig wrth ddefnyddio pwerau deddfwriaethol newydd y Cynulliad.

Fideo: Edrych nôl ar Eisteddfod CFfI Cymru 2011

Cyhoeddwyd Rhagfyr 2, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: CFfI, Dyffryn Banw, eisteddfod CFfI, Uwch Aled


Cadeirio Luned Mair

Mae bron i bythefnos wedi mynd heibio bellach ers yr Eisteddfod yn y Rhyl. Ond does dim drwg ar ail fyw rhai o uchafbwyntiau’r ŵyl!

Luned Mair o Lanwnnen ger Llanbedr Pont Steffan a chadeiriwyd yn brif lenor yr Eisteddfod am ei stori fer ‘Drych’.

CFfI Uwch Aled gipiodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y côr cymysg, dyma glip ohonynt yn ymarfer cyn mynd ar lwyfan.

Roedd y gystadleuaeth yn un cryf, dyma gôr CFfI Dyffryn Banw yn ymarfer.

Ymysg y bwrlwm llwyddodd Golwg360 i gael sgwrs gyda rhai o’r cystadleuwyr eraill, dyma Elen a Manon yn paratoi i fynd ar y llwyfan.

Nid oedd pawb yno i gystadlu. Mae Ffarmwr Ffowc yn gefnogwr brwd o’r Eisteddfod am flynyddoedd…a blynyddoedd.

Fideo: Beirdd y wlad yn pastynu

Cyhoeddwyd Tachwedd 29, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: barddoniaeth, Llenyddiaeth, Ty Newydd

Y penwythnos diwethaf cynhaliwyd Gŵyl Gynganeddu yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy.
Ar y Dydd Sadwrn cafwyd gwledd o weithdai a darlithoedd yn ymdrin ag amryw o agweddau’r gynghanedd.

Yn ogystal â hyn cafwyd sesiwn arbennig gan y prifardd Rhys Iorwerth.

Coronwyd y dydd gyda gornest rhwng deuddeg o feirdd a aeth benben i gystadlu am y ffon Bencerdd. Iwan Rhys oedd y bardd buddugol a gipiodd y ffon bren.

Cafwyd ddadl ddwys a difyr wrth drafod canu Caeth v Rhydd.

Tynnu coes ymhlith y beirdd.

Bu’r prifardd Twm Morys yn adfywio’r arferiad o bastynu hefyd, dyma enghreifftiau o’r hen grefft.

Ac eto y bore wedyn…

Cyn i Eurig Salisbury grynhoi a chloi’r penwythnos.

Cyfaddawd… a chlymblaid?

Cyhoeddwyd Tachwedd 19, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Carwyn Jones


Carwyn Jones
Rhodri ab Owen o Positif Politics sy’n trafod prif bwc llosg yr wythnos ym Mae Caerdydd…

Bu sawl enghraifft yn y gorffennol lle na chafodd Llywodraeth Cymru ei ffordd ei hun mewn dadl ar brynhawn Mercher yn y Siambr, ac fel arfer nid yw hyn yn broblem rhy fawr iddynt. Serch hynny, ceir dau sialens sydd yn peri pryder i’r Llywodraeth. Un yw ceisio sirchau bod deddfwriaeth yn cael ei basio trwy’r Senedd heb gyfaddawdu gyda’r gwrthbleidiau yn ormodol  (does yr un darn o ddeddfwriaeth wedi ei osod ger bron y Cynulliad eto ac felly nid oes modd dweud pa mor hawdd fyddai sicrhau hyn). Yr ail sialens yw sicrhau y bydd y gyllideb yn pasio a dyna oedd stori fawr yr wythnos hon. Gwrthododd y Cynulliad Cenedlaethol y gyllideb ddrafft. Roedd hynny i’w ddigswyl, o ystyried fod y Cynulliad wedi ei rhannu’n cyfartal, â 30 aelod ar feinciau’r Llywodraeth a 30 ar feinciau’r wrthblaid. Ond roedd hi’n dipyn o stori; methiant cyntaf difrifol llywodraeth Carwyn Jones ers mis Mai. Ond mae’r cyfnod mwyaf diddorol i ddod.

Mae’r gyllideb nawr yn pasio i bwyllgorau scrwtani y Cynulliad a fydd yn ei hystyried ac o bosib yn gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Cyllid. Dyma’n aml yw’r cyfnod allweddol ar gyfer menbwn allanol a lobio. Mae fel arfer yn amser ffrantic a fe fydd yna bwysau ychwanegol eleni yn dilyn methiant yr wythnos hon. Wedi proesesu’r holl wybodaeth bydd y Pwyllgor Cyllid yn cyhoeddi adroddiad a fydd yn gysylltiedig gyda’r ddadl terfynol ar y gyllideb ar y 6ed o Ragfyr.

Ar yr un pryd, bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cyd-drafod gyda’r pleidiau eraill er mwyn gweld os oes modd cyfaddawdu. Mae’r trafodaethau hyn wedi bod yn digwydd ers sawl wythnos ond mae’n debyg bydd unrhyw drafodaethau pellach yn cael eu cynnal ar fwy o frys. Ni fydd y Blaid Lafur yn debygol o ystyried cynigion y Ceidwadwyr o ddifrif, ond bydd gan Carwyn fwy o ddiddordeb i glywed beth sydd gan Blaid Cymru i’w ddweud a beth maent yn gofyn amdano. Mae’n debyg y bydd ganddo hyd yn oed mwy o ddiddordeb yn yr hyn hoffai’r Democratiaid Rhyddfrydol ei dderbyn gan y blaid Lafur am eu cefnogaeth. Gellir gweld manteision gwleidyddol sylweddol i’r Democratiaid Rhyddfrydol mewn cytundeb o’r fath ac efallai dyma yw’r opsiwn mwyaf tebygol, yn enwedig wrth ystyried brwdfrydedd Kirsty Williams a Carwyn Jones am gynyddu gwariant ar addysg.

Wrth gwrs does dim byd yn bendant ar hyn o bryd a gall yr holl ddarogan hyn fod yn anghywir – ond mae’n  anhebygol y bydd y gwrthbleidiau i gyd yn sefyll yn gadarn gyda’i gilydd, gan drechu’r gyllideb y mis nesaf a dymchwel y llywodraeth o ganlyniad. Yr unig bryd ystyriwyd hyn o ddifrif oedd yn 2006 pan drechwyd y gyllideb ddrafft gan ddefnyddio’r un arthimatic, ond ar yr unfed awr ar ddeg fe wnaeth Plaid Cymru cytundeb gyda Llafur gan sicrhau bod y gyllideb yn cael ei basio. Dw i’n disgwyl i’r un peth ddigwydd eto.

A fyddai cytundeb o’r fath yn arwain at gytundeb clymbleidiol mewn amser? Wel, mae hynny’n fater arall.

Yr Ŵyl Cerdd Dant rhy ddrud?

Cyhoeddwyd Tachwedd 18, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. 1 Sylw.

Tagiau: Gwyl Cerdd Dant


Owain Sion
 
Dyma argraffiadau Owain Sion, sy’n hyfforddi partïon cerdd dant, o Ŵyl Cerdd Dant Cwm Gwendraeth 2011 y penwythnos diwethaf…

Pan fo’r ŵyl yn y gogledd, lle mae gennych chi gymaint mwy o draddodiad Cerdd Dant yn y gogledd felly mae mwy yn cystadlu. Yn wahanol i’r Urdd a’r Genedlaethol, gan mai dim ond gŵyl diwrnod yw hi, efallai bod llai o bobol am fynd i ddod i’r ŵyl cerdd dant, os yw hi’n bell o’u hardal nhw achos mae bysiau’n ddrud i ddod am ddiwrnod.

D’wedwch bod gennych chi gôr o Wynedd eisio dod lawr, chi’n sôn am £1,000 am fws i ddod lawr. Mae yna gyfraniad i gostau teithio, ond mae’n ddrud iawn cyn cychwyn. Daeth Aelwyd JMJ i lawr eleni, ond roedden nhw’n mynd yn ôl yr un noson yn hytrach na thalu am aros rywle. Mae’n gostus.

Mi wnaethon ni gystadlu fel ysgol am ei bod hi mor lleol, ryw awr i ffwrdd. Rydyn ni erioed wedi gwneud yn yr ŵyl o’r blaen. Wnaethon ni ddim mynd â’r côr cerdd dant -  Merched y Ddinas – i Fangor y llynedd am ei bod rhy bell, ac yn rhy gostus.

Mae gennych chi’r unigolion sy’n dod yn flynyddol. Ond yr unig barti sy’n mynd i bob man drwy’r amser, yn cefnogi pob dim, ydi Parti’r Efail. Mi gawson nhw ail ar y parti gwerin gyda’r gân ‘Leisa Fach yn Dair Blwydd Oed’ a thrydydd ar y parti cerdd dant.

Ar y cyfan, mae pobol sy’n ymwneud â’r Gymdeithas Cerdd Dant a’r bobol sy’n cystadlu’n rheolaidd yn dod. Un ffaith ddiddorol eleni oedd bod Leah Owen yn beirniadu, ac fel arfer mai ganddi domen o bobol ifanc yn cystadlu. Mi oedd yna lai falla yn cystadlu, dyweder oedran uwchradd o dan 21 oed. Ond mae’n amrywio o flwyddyn o’r flwyddyn.

Roedd pobol Cwm Gwendraeth mor groesawgar, yn bobol arbennig iawn. Roedd yna gymaint o wirfoddolwyr yno a phobol â dim i wneud â cherdd dant ond yn gefnogol am ei bod hi’n eu hardal nhw.

Roedd y gynulleidfa yn Neuadd Pontyberem yn llawn trwy’r dydd. Mi gafodd yr ŵyl gefnogaeth lawn gan bobol yr ardal a phobol eraill. Roedd bys Seren Arian er enghraifft wedi dod lawr, felly mi oedd yna drip wedi’i drefnu i ddod lawr, a phobol yn aros yn yr Ivy Bush.

Mi aethon ni i mewn i’r neuadd yn ystod y dydd i wylio ambell gystadleuaeth ond doedd dim lle lawr grisiau o gwbl, ac roedd yn brin iawn yn y galeri. Pan aethon ni mewn ar ôl cystadlu gyda’r côr cerdd dant ar y diwedd, roedd lawr grisiau yn dal yn llawn hyd y diwedd. Ond mi oedd hi’n neuadd bentref rywsut.

Y flwyddyn nesaf mi fydd yr ŵyl ym Mro Conwy, yn Venue Cymru. Mae fanno’n dal mwy o bobol – efallai y bydd mwy o bobol yn mynd am y diwrnod o ardaloedd sy’n fwy traddodiadol o ran diwylliant gwerin, cerdd dant ac yn y blaen.

Beth oedd yn boblogaidd iawn eleni oedd y dawnsio gwern – achos bod gennych chi ddawnswyr Hafodwenog, dawnswyr Talog, dawnswyr Penrhyd a Nantgarw a llawer o ysgolion fel Ystalyfera yn cystadlu.

Mi o’n i’n hyfforddi Parti Ysgol Glantaf. Maen nhw’n griw awyddus iawn – pymtheg o flwyddyn 11 a rhai o’r chweched. Efallai nad ydyn nhw wedi canu cerdd dant o’r blaen ond maen nhw’n awyddus i gystadlu.

Dw i wedi gwneud yr un fath â’u brodyr a’u chwiorydd nhw, sy’n hŷn erbyn hyn ac wedi gadael. Mi o’n i’n hyfforddi Côr Merched y Ddinas, a ddaeth yn ail. Mi enillon ni â’r parti agored ro’n i’n canu ynddo, Criw Caerdydd.

  • Y côr buddugol yn y cystadleuaeth corau agored oedd Côr Merched Llangwm, Merched y Ddinas oedd yn ail, a Chôr Merched Canna yn drydydd. Aelwyd y Waun Ddyfal wnaeth gipio’r gystadleuaeth Côr Alaw Werin agored. Criw Caerdydd enillodd y gystadleuaeth Parti Cerdd Dant agored, a Pharti Llwchwr gafodd gyntaf yng nghystadleuaeth y Parti Alaw Werin agored.
  • Mae Owain Sion yn dysgu Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Glantaf yng Nghaerdydd ers 11 mlynedd

Gŵyl Gynganeddu ar y gorwel

Cyhoeddwyd Tachwedd 18, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Llenyddiaeth, Ty Newydd


Mae’r Ŵyl Gynganeddu yn ei hôl wedi pum mlynedd o orffwyso, a’r tro hwn gobeithiai’r trefnwyr y bydd yn ddigwyddiad blynyddol o 2011 ymlaen.

Ar benwythnos y 26ain a’r 27ain o Dachwedd, disgwylir weld torfeydd yn heidio draw i Dŷ Newydd, Llanystumdwy ar gyfer Gŵyl Gynganeddu 2011.

Daw llond gwlad o feirdd ynghŷd i arwain sesiynau, darlithoedd a gweithdai yn ogystal ag adloniant gyda’r hwyr. Mae tri gweithdy gwahanol amrywiol ar fore Sadwrn, bydd Ifan Prys yn arwain gweithdy i ddysgwyr y Gymraeg, Karen Owen yn hogi crefft y rhai sydd eisoes yn deall rheolau’r gynghanedd, a bydd Llion Jones yn trydar mewn trawiadau a bwrw  ati i annog pawb i gyflwyno eu gwaith ar lwyfan Twitter.

Wedi cinio, cyfle i bawb lenwi bol a thorri syched yn y Plu, bydd digwyddiadau’r prynhawn yn dechrau am 2yh yn Amgueddfa Lloyd George yng nghanol y pentref. Agorir y prynhawn gyda’r Athro Gwyn Thomas yn cyflwyno darlith yn trîn a thrafod gwaith a bywyd Dafydd ap Gwilym. Wedi’r ddarlith, bydd y “Dafydd ap Gwilym newydd” ac enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, Rhys Iorwerth, yn cael ei holi gan Myrddin ap Dafydd am ei awdl fuddugol.

Ers tro fyd, mae dadl wedi bod ymysg carfanau’r beirdd caeth a rhydd dros rinweddau eu dewis fesur neu os ydy’r llall yn derbyn mantais anheg mewn cystadleuaeth. I ymafael â’r pwnc, cynhelir Ymryson Drafod:Caeth v Rhydd lle daw wyth o feirdd ynghyd i fwrw’u barn gyda’r Archdderwydd T. James Jones yn cadw trefn ar y cyfan.

Erbyn 8yh, bydd hi’n bryd i bawb ymlwybro draw i Westy’r Marîn yng Nghricieth i wylio’r ornest dros bwy caiff ei ddewis yn Bencerdd Tŷ Newydd. Bydd deuddeg o feirdd yn cystadlu am y swydd a’r deitl anrhydeddus. Gwobrwyir ffon urddasol iddo ef neu hi deithio holl lwybrau’r wlad yn chwilio am lys i ganu yno. Bydd Idris Reynolds a T. James Jones yno’n feirniaid a Mei Mac i lywyddu’r noson a chadw trefn ar y gynulledifa.

A Walesi Bárdok, baled na wyddai nifer iawn amdani yma yng Nghymru. Hen faled ydyw o’r Hwngari sy’n adrodd hanes pumcant o feirdd yn cael eu herlyn gan Edward I. Yn Hwngari, mae pob plentyn oedran ysgol uwchradd yn dysgu’r faled ar eu cof ac fe’i adnabyddir fel un o gerddi pwysicaf y wlad. Yn ddiweddar, mae prosiect wedi sefydlu er mwyn denu sylw cynulleidfa ehangach at y faled yma, gan ddechrau yn Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy ar nos Wener y 25ain o Dachwedd. Bydd Twm Morys, Lázló Iriyni (o Hwngari) a John Asquith yn trafod hanes y faled yn ogystal â’i pherfformio mewn tair iaith.

Dyma benwythnos i bawb o bob oed a gallu cynganeddu i’w fwynhau gydag amrywiaeth braf o weithgareddau ysgafn ac o ddifri.

Mae’r tocynnau ar werth yn Nhŷ Newydd a gellir eu prynu o flaen llaw drwy ffonio 01766 522 811, neu trwy e-bostio tynewydd@llenyddiaethcymru.org. Gwerthir y tocynnau ar gyfer sesiynau unigol a dim ond nifer cyfyngedig sydd ar gael i rai sesiynau, fel archebwch ymlaen llaw i arbed siomedigaeth. Mae gostyngiad o 30% i fyfyrwyr.

Am fwy o fanylion, ewch draw i’n gwefan www.tynewydd.org neu cysylltwch â Thŷ Newydd.

Teyrnged i Steve Jobs

Cyhoeddwyd Hydref 6, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Marc Webber, steve jobs


Steve Jobs
Marc Webber, cyn-olygydd Sun Online a Phennaeth Cynnwys ITV.com sydd bellach yn ymgynghorydd technoleg newydd, sy’n talu teyrnged i Steve Jobs, cyn-Brif Weithredwr cwmni Apple a fu farw ddoe
.

Mae pob un o’r straeon rwyf wedi darllen heddiw am Steve Jobs yn ei ddisgrifio fel dyn â gweledigaeth.

Er fy mod yn cytuno â hynny, ei ased mwyaf yn fy marn i, ac i ddefnyddio disgrifiad Saesneg, oedd ei ‘bloody-mindedness’. Roedd ganddo benderfyniad oedd ddim yn cydnabod unrhyw gyfyngiadau.

Mae sawl un o’i gwmpas oedd disgrifio’n agwedd fel un ystyfnig, trahaus a hyd yn oed sarhaus.

Ond mewn byd o reolwyr prosiect ‘gwleidyddol gywir’ a iteration-monkeys, profodd yr oedd ‘na le i deimladau ac emosiwn. Roedd yn dangos angerdd ac yn barod i wneud penderfyniadau ar sail greddf er mwyn sicrhau gwell prosiect, a hefyd yn barod iawn i gymryd risg er mwyn sicrhau cynnyrch gwell.

Mae’r etifeddiaeth mae wedi gadael ar ei ôl yn golygu na fydd neb yn anghofio ei gyfraniad at y busnes o dechnoleg, nac i’r byd ehangach. Daeth yn ôl i wyrdroi ei gwmni ei hun ac fe greodd gynnyrch a adawodd luddites a gîcs yn gwbl geg agored, gan eu hannog i roi cynnig ar fyd newydd dewr y rhyngrwyd.

Mae Apple nawr yn wynebu dyfodol ‘diddorol’ heb Steve Jobs. Ond mae wedi sicrhau bod synnwyr cyffredin, gwrthod y robotiaid, yn golygu ein bod i gyd yn cael y dechnoleg rydym yn ei haeddu.

Nathan Brew: Grŵp Cymru’n un caled

Cyhoeddwyd Medi 8, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: Cwpan Rygbi’r Byd, rygbi cymru


Nathan Brew
Nathan Brew sy’n dweud y bydd ei frawd yn gaffaeliad yn erbyn Fiji a Samoa yng Nghwpan Rygbi’r byd…

Does dim byd yn achosi mwy o nerfusrwydd i chwaraewr na gorfod aros i glywed os ydych chi wedi cael eich dewis i fod yn rhan o’r garfan ryngwladol ar gyfer twrnamaint rygbi mwya’r byd. Es i drwy’r broses yma nôl yn 2003.

Yn anffodus, bryd hynny, ni chefais i fy newis i fynd i Awstralia. Dw i’n gallu cydymdeimlo gyda chwaraewyr fel Jonathan Thomas, ac yn deall yn iawn y siom sy’n dod gyda gwybod eich bod yn colli mas ar y cyfle i gynrychioli’ch gwlad ar y llwyfan mwyaf.

Ond mae unrhyw deimladau o siom a thristwch wedi troi’n hapusrwydd a balchder erbyn hyn, wrth i fy mrawd Aled gael ei ddewis i gynrychioli Cymru yn Seland Newydd.

Mae’r cyfle yma sydd gan Aled yn ganlyniad o’r gwaith caled mae wedi rhoi i mewn i’w rygbi, ac yn dangos fod unrhyw beth yn bosib gyda gwaith called ac ymroddiad ( a thalent hefyd!).

Dw i’n credu fod y grŵp mae Cymru ynddo wedi helpu achos Aled. Mae chwaraewyr Fiji a Samoa yn enwog am fod yn rhedwyr a thaclwyr cryf ac egnïol, a dyna gryfderau gêm Aled. Efallai bod Warren Gatland yn bwriadu  defnyddio’r cryfderau hyn yn erbyn yr ynyswyr.

Nawr bod y penderfyniadau mawr wedi’u gwneud, a’r garfan wedi’i ddewis, gallwn droi at y cwestiwn mawr sydd ar wefusau pob cefnogwr. Pa mor bell fydd Cymru yn mynd yn y gystadleuaeth?

Does dim dwywaith amdani, mae gennym ni grŵp caled. Rydym ni mewn grŵp gyda thimau sydd wedi bod yn chwarae’n dda iawn yn ddiweddar, ac a fydd yn parhau i wneud hynny yn ystod y twrnamaint. De Affrica yw pencampwyr y byd, a’r ffefrynnau i ennill y grŵp. Fyddai hi ddim yn amhosib i Gymru ennill y gêm gyntaf yn Wellington, ond fe fyddai yn sioc i’r byd rygbi.

Heb y sioc yma yn y gêm gyntaf, fe fydd angen i Gymru faeddu pob tîm arall yn y grŵp i fod yn sicr o orffen yn ail a symud ymlaen i’r rownd nesaf. Dyw hynny ddim yn mynd i fod yn hawdd.

Mae hanes Cymru yn erbyn Fiji a Samoa, yn enwedig yng Nghwpan y Byd, yn brawf o hynny. Ar ôl gêm gyfartal Cymru gyda Fiji yn ddiweddar, yn ogystal â buddugoliaeth Samoa dros Awstralia, yr unig beth pendant am y grŵp yma yw bod pob gêm yn mynd i fod yn frwydr a hanner.

Rydw i’n dechrau swnio braidd yn negyddol, felly dw i’n mynd i orffen ar nodyn positif. Wrth edrych ar garfan Cymru, mae’n werth nodi’r cymysgedd o chwaraewyr profiadol sydd gennym, yn ogystal â’r chwaraewyr ifanc fydd yn awyddus i greu argraff dda.

Heb os, mae gennym ni garfan dalentog iawn sy’n ysu i ddangos eu doniau i’r byd. Os allwn chwarae i’r un safon a 2005 a 2008, blynyddoedd y Gamp Lawn, does dim rheswm o gwbl pam na all Cymru syfrdanu’r byd rygbi. Amdani!

Co’fi yn Ffiji…

Cyhoeddwyd Medi 6, 2011 gan Cyfranwyr Gwadd. Dim sylw.

Tagiau: ffiji


Ffiji
Mae Iolo Hughes o Gaernarfon yn wedi teithio o Ffiji er mwyn gweithio fel gwirfoddolwr mewn ysgol leol, gan ddysgu Saesneg a Chwaraeon i’r plant. Tra’i fod yno fe fydd yn ysgrifennu blog am ei brofiadau i Golwg360.

Paratoi i adael Awstralia

Wrth eistedd yma ar yr awyren yn disgwyl hedfan o Sydney, wedi mis o fwynhau’n Awstralia, mae’n anodd dygymod â’r hyn fydd yn digwydd dros y mis nesaf.

Rwy’n gadael gwlad lwyddiannus a modern i fynd i wirfoddoli mewn cymuned dlawd yn Ffiji, gwlad sy’n dal i ddatblygu a’n gwbl newydd i mi. Hwn fydd y tro cyntaf i mi fentro ar brosiect o’r fath, a’r tro cyntaf i mi ymweld a gwlad sy’n dal i ddatblygu. Rwy’n edrych ymlaen am y sialens bellach, yn enwedig at gael dysgu ffordd newydd o fyw ac at gael helpu’r gymuned mewn unrhyw ffordd sy’n bosibl.

Un agwedd o fywyd Ffiji sy’n ymdebygu at ein traddodiadau ni yng Nghymru yw eu cariad tuag at y bel hirgron, gyda rygbi’n ffordd o fyw ar yr ynysoedd bychain. Manteisiais ar y cysylltiad yma wrth i mi drefnu’r prosiect, a bum yn ddigon ffodus i gael y cyfle i ddysgu chwaraeon a Saesneg i blant mewn ysgol gynradd ym mhrifddinas Ffiji, Suva.

Sgwrs yn achosi pryder

Trwy gydol fy amser yn Awstralia, a cyn dod allan yma i ddweud y gwir, bum yn siarad gyda phobl oedd wedi bod yn Ffiji, a’r un sgwrs a gefais bob tro. Mae’r ynysoedd yn brydferth, yn berffaith ac yn baradwys llwyr. Ond nid i’r ynysoedd am wythnos o dorheulo a mwynhau fydda i’n mynd. Roeddwn yn falch iawn felly i siarad â dwy ferch o’r Alban a fu’n Suva ar eu taith o amgylch y byd. Newidiodd fy malchder yn bryder yn sydyn iawn wedi’r sgwrs ddechrau.

Fel hogyn gwlad sydd wedi tyfu i fyny yn ardal Caernarfon, cyn symud i’r brifysgol yng Nghaerdydd, roeddwn yn teimlo’n eithaf cyfforddus wrth wynebu sefyllfaoedd anodd ac anghyfarwydd. Wedi arfer ‘yn y wilds’ fel petai.

Diflannodd fy hunan-hyder yn syth wrth i’r genod ddweud, wedi’w syfrdanu a’u dychryn:

“You’re heading to Suva…for four weeks?!……Good luck mate!”

Ia, mae’n debyg nad o’n i’n disgwyl hynny. Byth ers y sgwrs yna mae’r nerfau wedi cynyddu a’r hyder wedi diflannu bellach, ‘dyw Suva a Chaernarfon ddim byd tebyg mae’n rhaid! Ond, dyma fi ar yr awyren bellach. Wedi ffarwelio â Lance, fy ffrind a fu hefo mi am fis yn Awstralia, ar ben fy hun go iawn am y tro cyntaf erioed! Mae’r mis nesaf am fod yn un diddorol i ddweud y lleiaf!

Does dim troi’n ôl rŵan…