Y tri ymgeisydd
Anna Glyn fu’n mynychu hystings Plaid Cymru yng Nghaerdydd nos Fawrth gan roi ei barn hi am y tri ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid…

Hogan ysgol, boring a thrahaus. Dyna ddisgrifiad un person fues i’n siarad efo fo o’r tri ymgeisydd am arweinyddiaeth Plaid Cymru ar ôl eu gweld nhw’n perfformio yn ystod un o’r hystings.

Chydig yn gignoeth efallai, ond does dim angen athrylith i ddyfalu p’run oedd p’run. Tan neithiwr, dim ond aelodau y blaid oedd wedi cael mynychu’r hystings led led Cymru. Ond gyda’r cyfle yn codi i’r wasg fynd i’r un yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd  doedd dim angen gofyn ddwywaith.

Mi oedden ni i gyd yno yn barod gyda’n camerâu a’n llyfrau nodiadau i gofnodi pob manylyn. Oce, mi oedd rhai gwleidyddion yno, timau y tri ymgeisydd a phobl bwysig y sefydliadau. Ond mi roedd Joe Bloggs yn llenwi’r seddi hefyd, y lle dan ei sang ac mi o’n i yn synnu faint o wynebau ifanc oedd yno.

Roedd na ryw awyrgylch ddisgwylgar cyn i’r mân siarad dawelu. Dechrau fel mae nhw yn gwneud yn America gyda’r araith agoriadol a phodiwm yr un i’r ymgeiswyr. Dafydd Êl yn cyfeirio at y Cynulliad ac yn dweud rhyw jôc neu ddwy.

Elin Jones wedyn yn sôn am annibyniaeth yn yr ail frawddeg. Defnyddio dipyn o Saesneg, er mwyn trio pwysleisio bod ei hapêl hi yn ymestyn ymhellach na joscins Ceredigion efallai?

A Leanne Wood yn ei gwneud hi yn glir mai sosialwraig yw hi trwy gyfeirio at y bancwyr drwg yn y Ddinas. Ac ymlaen at y cwestiynau.

Cwestiynau

Roedd y cwestiynau wedi eu trefnu ymlaen llaw er mawr siom i un gŵr ar y diwedd oedd yn daer eisiau gofyn ei gwestiwn o. Er mor slic oedd y paratoadau tu ôl i’r llenni allwch chi ddim paratoi ar gyfer popeth!

Addysg, annibyniaeth, blaenoriaethau oedd y rhai disgwyliadwy. Ond fe gafwyd perl o gwestiwn gan un fenyw yn y gynulleidfa. A dweud y gwir mi oedd o mor dda nes i fi ddiawlio’n hun mod i ddim wedi meddwl ei ofyn wrth eu cyfweld fesul un yn y gorffennol.

Beth fyddech chi ddim yn fodlon cyfaddawdu, hyd yn oed os y byddai hynny yn golygu colli yr arweinyddiaeth? Neu rhywbeth felly oedd y cwestiwn. Does dim angen cyfaddawdu, oedd ateb Elin Jones am fod yr hyn mae hi yn gredu ynddo yn egwyddorion sydd i’w gweld yn y Blaid.

Heddwch oedd ateb Greenpeace Leanne Wood. A dyma oedd cyfle Dafydd Êl i dawelu’r rhai hynny sydd wedi ei gyhuddo o fod yn rebel o fewn y blaid a pheidio a dilyn y lein swyddogol am ynni niwclear. Oedd , mi oedd o wedi cefnogi atomfa Trawsfynydd ac o blaid Wylfa B. Ond doedd o ddim yn tynnu’n groes, meddai , oherwydd ni fyddai o am weld datblygiadau fel hyn mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.

Adele

Roedd y rownd o gwestiynau bachog ymhlith y mwyaf diddorol gydol y noson, gyda’r cwestiynau yn datgelu mwy na’r disgwyl am y gwleidyddion. Y peth gorau i ddod o Gymru? Cig oen, meddai Leanne Wood, llais Richard Burton meddai Dafydd Êl. Yn ôl ymateb y gynulleidfa ateb Elin Jones oedd yn plesio orau – dŵr.  Pwy ddylai ennill gwobr yn y Brits? Mi fyddai rhywun yn disgwyl i’r ferch o’r Cymoedd serennu yma gan mai apelio at yr ifanc y mae hi, yn ôl llawer. Ond doedd hi ddim hyd yn oed yn gwybod beth oedd y Brits heb sôn am y bandiau mwyaf hip a cŵl y dyddiau yma! Ar ôl ychydig o help gan Helen Mary fe ddywedodd hi’r ateb cywir, Adele. Ail adrodd hynny wnaeth Dafydd Êl tra roedd Elin Jones yn amlwg wedi gwneud ei gwaith cartref gan ddweud mai Adele oedd yn siŵr o ennill ar ôl iddi wneud cystal yn y Grammys ryw wythnos yn ôl.

Ymateb cymysg

Fe gafwyd digon o chwerthin yng Ngwesty’r Dewi Sant ond cymysg oedd y farn wrth i mi holi hwn a llall ar ddiwedd y noson. Rhai yn daer mai Dafydd Êl ydy y boi iawn – yr un efo gravitas. Eraill yn danbaid dros Leanne.

“Ydy hi ddim yn rhy naїf?” gofynnais. “Mae’n rhaid i ti fod yn naїf i fod yn wleidydd neu fysa nhw ddim yn cyflawni dim byd,” oedd yr ateb.

Un yn dweud mai ras rhwng y ddwy ferch fydd hi yn bendant tra bod un arall yn dweud mai’r cwestiwn pwysig ydy pwy fydd yr un gorau i herio Carwyn Jones? Wn i ddim. Mae’n rhaid cyfaddef mod i yn ffeindio fy hun yn talu sylw pan oedd yr hen ben yn siarad. Mae ganddo fo’r presenoldeb hwnnw. Ond pa mor bwysig ydy hynny mewn gwirionedd?  Ai dyn ddoe ydy o? A beth am Elin Jones? Hi oedd yr unig un gafodd chwerthiniad a chymeradwyaeth wrth ymateb i gwestiwn.

Elin yw’r un mae mwyafrif gwleidyddion ei phlaid yn ei gefnogi ac fel Gweinidog yn y Llywodraeth Glymblaid o’r blaen roedd hi yn cyflawni pethau a ddim ofn mynd i’r afael â phynciau dadleuol  – megis moch daear. “Dw i yn fwy na phâr saff o ddwylo,” oedd ei phle.

Ac wedyn Leanne Wood. Merch o’r Rhondda. Oes  angen gwaed newydd ar y blaid? Ffordd i apelio tu allan i’r cadarnleoedd? Paratoi’r ffordd ar gyfer y Meseia? Wyddoch chi be, dw i’n falch mod i ddim yn aelod, neu, wir yr, mi fyswn i yn y bocs pleidleisio yn pendroni am oriau!