Cynyddu maint testun

Golwg360

Gwyliau'r gaeaf

Cyhoeddwyd Mehefin 17, 2010 gan Eluned Owena Evans. Dim sylw.

Tagiau: Yr Ariannin

Eluned Owena Evans sy’n edrych ymlaen at wyliau… y gaeaf…

Wel dyma fi wedi bod yn byw yn yr Andes ers bron i bedwar mis erbyn hyn, ac mae gwyliau’r gaeaf ar y gorwel.  Pythefnos o wyliau sydd yn ystod y gaeaf (ychydig yn fwy yn yr Andes oherwydd yr eira a’r gaeafau caled) ac yna mae rhyw ddeufis a hanner o wyliau haf – canol mis Rhagfyr tan Fawrth 1af.   Yn ystod gwyliau’r gaeaf, fe fyddaf i’n teithio i Bariloche ac yna’n hedfan oddi yno i raeadrau enwog Iguazu yn yr Ariannin/Brasil ac yna byddaf yn treulio tair wythnos mewn Ysgol Iaith ym Muenos Aires, cartref y tango.  Mae nifer o Gymry’r Wladfa yn byw ym Muenos Aires – maen nhw’n astudio yn y Brifysgol er enghraifft, ac fe fyddaf i’n siŵr o gwrdd â rhai ohonyn nhw.   O Fuenos Aires, mae’n bosib mynd  i Colonia yn Uruguay  ar y llongau cyflym, ac felly fe wnaf i hynny cyn ei throi hi nôl am Esquel.

Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn yma yn yr Ariannin wrth i ni ddathlu 200 mlynedd ers y Revolución de Mayo.  Nos Lun, Mai 24ain, bues i mewn cyngerdd  yng nghanolfan hamdden enfawr Esquel. Roedd y lle dan ei sang ac roedd yn gwbl wych – roedd canu, dawnsio Tango a dawnsio traddodiadol y Mapuche. Wnes i fwynhau’r pwyntpwer a oedd yn seiliedig ar hanes yr Ariannin yn fawr iawn. Am hanner nos, roedd hi’n amser i fi gydio ym maner Cymru a mynd ar y llwyfan gyda’r bobl eraill a oedd yn cynrychioli’u gwlad, a chanu anthem genedlaethol yr Ariannin wrth i’r cloc daro deuddeg. Wrth lwc, roeddwn i wedi dysgu’r geiriau o flaen llaw! Profiad gwefreiddiol!

Drannoeth, ar ôl seremoni gyda Maer y dref, fe wnes i gymryd rhan mewn ‘desfile’ gyda Chymdeithas Gymraeg Esquel. Fe wnaethon ni orymdeithio ar hyd strydoedd Esquel yn ein gwisgoedd traddodiadol wrth i filoedd o bobl wylio a chymeradwyo.  Teimlad digon rhyfedd oedd gorymdeithio yn y wisg draddodiadol Gymreig gan nad wyf i wedi gwisgo’r wisg ‘ma ers pan oeddwn i’n ddeng mlwydd oed! Serch hynny, roedd cannoedd o bobl yn gwisgo gwisgoedd traddodiadol gwledydd eu cyndeidiau ac felly doeddwn i ddim yn teimlo allan o le o gwbl!

Dyma hanes y dathlu yn Nhrefelin gan Jessica Jones ac Isaías Grandis (Eseia):

Roedd mis Mai 2010 yn llawn lliw glas a gwyn i ddathlu dauganmlwyddiant yr Ariannin.  Yn Nhrefelin, cawsom y dathliad yn Neuadd y Ganolfan Hamdden ac roedd yr ysgolion lleol yn canu ac yn dawnsio.  Syrpreis oedd cael dynes sy’n siarad Cymraeg, Griselda Owen, yn dawnsio’r  tango!  Yn wahanol i weddill yr Ariannin, buodd baner Cymru yn sefyll rhwng baneri glas a gwyn yr ysgolion a’r Instituciones.  Ar y diwedd, cawson ni siocled poeth blasus iawn (rico, rico) a partelitas traddodiadol, sef rhyw fath o bestri melys gyda jam cwins neu jam tatws melys.

Yn ystod yr wythnos cyn y dathliad, cafwyd tipyn o gyngherddau yn Neuadd y Dref a gorymdaith o ddillad traddodiadol Ewropeaidd er mwyn cofio am y bobl gyntaf a ddaeth yma o Ewrop.

Revolución de Mayo

Cyhoeddwyd Mai 25, 2010 gan Eluned Owena Evans. Dim sylw.

Tagiau: Yr Ariannin

Eluned Owena Evans sy’n edrych ar ddiwrnod pwysig yn hanes yr Ariannin…

Mae wedi bod yn benwythnos brysur iawn yma yn yr Ariannin wrth i ni baratoi ar gyfer dathlu 200 mlynedd ers y Revolución de Mayo, heddiw.  Yn wir, dw i’n ffodus iawn mod i yn yr Ariannin eleni er mwyn cael bod yn rhan o’r dathlu.  Mae baner yr Ariannin i’w gweld ym mhob twll a chornel – ym mhob ffenest siop ac ar sawl coeden – a dw innau newydd fod yn prynu baner er mwyn ei rhoi wrth ochr y ddraig goch yn ffenestr y fflat!   Bu cyfres o ddigwyddiadau chwyldroadol ym Muenos Aires rhwng Mai 18fed a Mai 25ain 1810 (Semana de Mayo) ac fe gewch chi fwy o’r cefndir yn ogystal ag hanes y dathlu yma’n Esquel/Trevelin y tro nesaf.

Fel rhan o’m gwaith Menter Patagonia, fe fues i’n ymweld â rhai o drigolion Trevelin yr wythnos hon.  Roeddwn i wrth fy modd yn edrych ar hen luniau ac yn eu clywed yn adrodd straeon am eu plentyndod.  Roedd y panedau o dê a’r cacennau yn dda iawn hefyd!  Diolch yn fawr iawn i Mair Ela Rowlands, Arwel Morgan (a Bruno’r ci!) a Vincent a Clara Evans am y croeso cynnes.

Yn ystod yr wythnos hefyd, fe wnes i gyfarfod â Maredudd a Catrin sy’n treulio’u mis mêl yn Ne America.  Braf oedd sgwrsio gyda nhw, yn enwedig gan eu bod yn dod o’r un ardal â fi!  Fe fyddan nhw’n dychwelyd adre cyn hir.  Rhywun arall sydd yn dychwelyd i Gymru yn ystod y diwrnodau nesaf yw Lois Eluned Fychan Jones.  Yr oedd Lois yn athrawes ac yn Swyddog Menter Patagonia yma’n yr Andes y llynedd.  Yn ystod y misoedd diwethaf y mae hi wedi bod yn teithio oamgylch De America gan ymweld â gwledydd megis Brasil, Chile, a Bolifia.  Fydd hi’n rhyfedd iawn yma hebddi, ond y mae hi wedi addo dod nôl yn fuan i’n gweld ni!

Bydd dwy o Esquel yn mynd i Gymru cyn bo hir hefyd.  Llongyfarchiadau mawr iawn i Liliana Carballo a Sandra Soto sydd wedi ennill ysgoloriaeth i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd ym mis Mehefin.  Mae’r ddwy yn hynod gyffrous a dw i’n siŵr y cewn nhw amser wrth eu boddau.  Dyma ychydig o hanes Liliana:

“Liliana dw i.  Dw i’n enedigol o Fuenos Aires: ces i fy ngeni a’m magu ym Muenos Aires.  Dw i’n briod ac mae dau o blant gyda fi.  Dw i’n gweithio fel cyfieithwraig i Editorial Stadium.  Dw i’n hoffi cerdded, darllen a gwrando ar gerddoriaeth, ond yn fwy na dim, dw i’n hoffi ieithoedd.  Dw i’n siarad Ffrangeg, Rwsieg, Saesneg ac wrth gwrs Sbaeneg.  Pan fo iaith yn cael ei dysgu, mae’r bobl sy’n siarad yr iaith hon yn cael eu dysgu hefyd.  Symudais i i Esquel ddwy flynedd a hanner yn ôl.  Dysgais i lawer am Gymru ac felly roedd dysgu Cymraeg yn rhywbeth hollol naturiol i mi.”

Cyfarchion o’r Andes

Cyhoeddwyd Mai 9, 2010 gan Eluned Owena Evans. 2 Sylw.

Tagiau: Cymraeg, Yr Ariannin

Eluned Owena Evans o Fenter Iaith Patagonia sy’n sôn am y profiad o fynd i wlad arall i ddysgu Cymraeg…

¡Hola! ¿Cómo estás? Rydw i wedi bod yn byw ac yn gweithio yn yr Andes ers rhyw 10 wythnos bellach. Ar ôl cyfweliad gyda’r Cyngor Prydeinig yng Nghaerdydd fis Tachwedd y llynedd, fues i’n ddigon ffodus i gael fy newis yn un o dair i ddod yma i Batagonia i ddysgu Cymraeg yn Esquel a Trevelin ac i weithio fel Swyddog i Fenter Patagonia.

Yn dilyn ymweliad â Dyffryn Camwy lle mae’r ddwy athrawes arall wedi ymgartrefu, teithiais ar y Coche Cama ar draws y Paith i Esquel, sydd rhyw 1,200 o filltiroedd i’r De o Buenos Aires.  Roedd hi’n daith o wyth awr, ond dyma beth oedd steil – fyddech chi ddim yn cael stecen a llond bola o bwdin reis ar fws nôl yng Nghymru! Rydw i’n byw yn y fflat sy’n sownd i Ysgol Gymraeg yr Andes yma yn Esquel. Gan ei fod reit yng nghanol y dre mae’n gyfleus iawn (ac efallai’n rhy gyfleus i’r gwaith)! Mae’r adeiladau yma wedi cael eu gosod mewn blociau ac nid strydoedd – cymysglyd tu hwnt i ddechrau, ond does dim eisiau map arna i ragor!

Rydw i wedi cael sawl profiad bythgofiadwy yn barod. Yn Buenos Aires, cafodd Helen, Llinos a fi wahoddiad i gael tê gyda Shân Morgan, Llysgennad Prydain. Roeddwn i’n teimlo allan o le yng nghanol y chandeliers a’r lluniau enfawr o Winston Churchill a’r Frenhines!  Profiad gwahanol arall oedd mynychu Cymanfa Ganu mewn capel bach yng nghanol y Paith – ar wahân i ambell i emyn Sbaeneg, y mosgitos a oedd yn fy mhigo’n ddibaid a bîps negeseuon tecst, fe allwn i fod wedi bod yng Nghapel Newydd Llanddarog!

Heb os, rydw i wedi cael croeso arbennig yma ac mae pawb wedi mynd allan o’u ffordd i ‘ngwneud i deimlo’n gartrefol. Rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i gael tri parti croeso yma yn ogystal â sawl asado. Dished ar ôl dished o dê, bara menyn, caws, jam cartref, sgons, tarten afalau, cacen ddu, bisgedi dulce de leche, empanadas – rhaid profi popeth wrth gwrs!  Lwcus ‘mod i’n un sy’n hoffi’i bwyd (cig yn enwedig), er mae’n anodd dod i arfer â bwyta mor hwyr yn y nos!

Pan nad wyf i’n gweithio, rwy’n canu yng Nghôr Seion Esquel a rydw i hefyd wedi dechrau mynychu dosbarthiadau dawnsio gwerin a Salsa. Gyda’r Parque Nacional Los Alerces ar stepen y drws, golygfeydd godidog ym mhob cyfeiriad a bywyd gwyllt heb ei ail, rydw i wrth fy modd yn mynd i gerdded yn ystod y penwythnosau. Wel, mae’n rhaid gwneud rhywbeth i dreulio’r holl fwyd rwy’n ei fwyta!

Yn ystod yr wythnosau nesaf, fe fyddaf yn rhoi blas i chi ar fywyd yma yn yr Andes. Bydd nifer o drigolion Esquel/Trevelin a’r cyffiniau yn cyfrannu at ein blog hefyd. Mae digon o bethau wedi bod yn digwydd yma yn ystod yr wythnosau diwethaf gan gynnwys Eisteddfod Ddwl yn Esquel, Rally de los Alerces ac Eisteddfod Trevelin – fe gewch chi hanes Eisteddfod Trevelin gan Isaías Grandis yr wythnos nesaf. Ddydd Gwener diwethaf, cefais fy newis i ddal baner Cymru mewn seremoni yn Ysgol 18 (sydd bellach yn amgueddfa hanesyddol), Pentre Sydyn, yn nyffryn yr Afon Gyrraints.  Roedd cyfarfod cyffredinol yn Ysgol 18 ar Ebrill 30ain 1902 gyda’r Comisiwn Ffiniau.  Yn wir, bu ymgecru ynglŷn â’r ffiniau rhwng Ariannin a Chile am flynyddoedd gyda’r naill wlad a’r llall yn mynnu mai hwy oedd biau’r tiroedd ffrwythlon yn ardal Cwm Hyfryd.  Gan nad oedd y llywodraethau yn medru dod i gytundeb penderfynwyd, yn y diwedd, ofyn i’r trigolion lleol – y Cymry yn bennaf – ddewis i ba wlad oedden nhw am berthyn. Syr Thomas Holdich oedd arolygydd Prydain, Francisco Pascasio Moreno dros yr Ariannin a Dr. Balmaceda dros Chile.  Roedd ateb y Cymry yn unfrydol.  O ganlyniad, y diwrnod hwnnw, ychwanegwyd 360,000 hectar o dir ffrwythlon i diriogaeth yr Ariannin. Y mae diwrnod y bleidlais hon yn cael ei gofio a’i ddathlu bob blwyddyn ar Ebrill 30ain. Braint ac anrhydedd ydoedd i mi, felly, gael bod yn rhan o’r seremoni hon a oedd yn wledd i’r glust a’r llygaid.