Cynyddu maint testun

Golwg360

Penbleth Gatland

Cyhoeddwyd Ionawr 22, 2011 gan Euros Lloyd. Dim sylw.

Tagiau: Chwaraeon, rygbi cymru, Warren Gatland

Gyda nifer o anafiadau i chwaraewyr allweddol, mae gan hyfforddwr Cymru ddigon i gnoi cil drosto cyn enwi garfan i herio Lloegr yng ngêm gyntaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Euros Lloyd sy’n astudio’r opsiynnau sy’n agored i Warren Gatland.

Yn dilyn siom flynyddol y Cwpan Heineken mae’n bryd i ni unwaith yn rhagor edrych ymlaen at bencampwriaeth y Chwe’ Gwlad.  Yr adeg o’r flwyddyn lle mae cefnogwyr y bêl hirgron yn paratoi yn eiddgar am eu tripiau i Gaeredin a Pharis ac yn bendant eu barn y bydd Cymru yn ennill y gamp lawn. 

Yr adeg yma o’r flwyddyn hefyd rydych yn siŵr o glywed trafodaethau di-ri yn nhafarndai ar hyd a lled Cymru ynglŷn â phwy ddylai Warren Gatland gynnwys yn ei garfan.  Pwy ddylai gael chwarae maswr?  Pwy sy’n haeddu gwisgo crys yr wythwr a phwy fydd yn gefnwr?  Dyma rai o’r cwestiynau sy’n cael eu holi ac yna eu trafod bob mis Ionawr.

Fodd bynnag, eleni mae’r trafodaethau yn gyffredinol wedi canolbwyntio ar yr anafiadau a’r gwaharddiadau sydd wedi taro carfan Cymru. Mae sawl un o’r anafiadau yn rhai mewn safleoedd allweddol pwysig hefyd ac mae hynny mae’n siŵr yn bryder mawr i Gatland. 

Roedd colli chwaraewyr fel Richie Rees, Andrew Bishop, George North a Gethin Jenkins yn ergyd i’n gobeithion.  Mae Shane Williams a Lee Byrne hefyd wedi bod allan gydag anafiadau yn ddiweddar ac mae dal amheuaeth ynglŷn â’u ffitrwydd hwythau. 

Y golled fwyaf

Mae’n rhestr hir iawn ond mae yna un enw arall sydd wedi ymuno â’r rhestr hon ar ddechrau’r wythnos.  Enw Adam Jones yw hwnnw wrth gwrs a heb unrhyw amheuaeth dyma’r golled fwyaf i Gymru.  Bydd yna fwlch enfawr yn rheng flaen Cymru, yn gorfforol ac yn seicolegol, wrth iddyn nhw redeg allan yn erbyn Lloegr ar 4 Chwefror ac nid wyf yn credu bod gyda ni unrhyw un amlwg i lenwi’r bwlch hwnnw. 

Mae Adam Jones wedi datblygu i fod yn un o’r chwaraewyr gorau yn y byd yn ei safle.    Mae’n anodd credu faint mae Jones wedi datblygu o gofio yn ôl i’r dyddiau hynny lle byddai Steve Hansen yn ei ddefnyddio am hanner awr yn unig ar ddechrau pob gem ac yna ei dynnu oddi ar y cae oherwydd safon ei ffitrwydd.  Dyma brop a chwaraeodd ran flaenllaw wrth wthio sgrym De Affrica yn ôl yn ystod cyfres y Llewod yn 2009 – sgrym os gofiwch chi a oedd yn cael ei chwalu bob tro cyn cyflwyno Gethin Jenkins, Mathew Rees ac Adam Jones i’r frwydr.

Mae’n rhaid i mi ddweud y buaswn wedi bod wrth fy modd i gael gweld y tri yma’n chwarae gyda’i gilydd am y tro cyntaf ers tipyn.  Byddai’n rheng flaen hynod o gryf ac roeddwn wedi edrych ymlaen yn fawr i gael gweld sgrym Lloegr yn symud am yn ôl, a hynny wrth i Brian Moore gwyno yn y blwch sylwebu. 

Bydd Paul James wrth gwrs yn llenwi esgidiau Gethin Jenkins ac er bod sgrymio James llawn cystal, os nad ychydig yn well na sgrymio Jenkins, bydd Cymru yn gweld eisiau cyfraniad prop y Gleision o amgylch y cae.  Nid oes neb amlwg ar gael i gymryd lle Adam Jones ac mae’r safle hwn wedi achosi nifer o broblemau i Gymru dros y blynyddoedd.  Mae Rhys Thomas o’r Scarlets wedi’i anafu felly a yw Gatland yn barod i roi cyfle i rywun fel Craig Mitchell, Scott Andrews, neu Ben Broster o’r Wasps?  Mae’n ofyn mawr i un o’r tri yma gamu i fyny ond mae’r opsiynau yn brin.

Y ddwy reng ôl

Credaf fod y dewis yn yr ail reng yn un syml.  Alun Wyn Jones a Bradley Davies yw’r ddau glo amlwg yng Nghymru ar hyn o bryd.  Beth yw’r opsiynau eraill?  Deiniol Jones, Luke Charteris a Lou Reed o’r Scarlets.  Tra bod dyfodol disglair o flaen Lou Reed nid yw’n barod eto ac mae Deiniol Jones a Luke Charteris yn eilyddion digon dibynadwy.  Mae Ian Gough yn rhywun y gellir ei ddibynnu arno hefyd.

Mae gan Gatland ambell i opsiwn yn y rheng ôl.  Yn bersonol teimlaf fod Ryan Jones yn well wythwr na chlo ac y dylai barhau a’i yrfa wrth fon y sgrym.  Dwi ddim yn deall penderfyniad y Gweilch i chwarae Jones yn safle’r clo tra bod Jonathan Thomas yn wythwr.  Nid yw Jonathan Thomas yn cario’r bêl yn ddigon effeithiol ac anaml y gwelwch ef yn hyrddio ymlaen a gwthio amddiffynwyr o’r neilltu. 

Mae Andy Powell wrth gwrs yn gallu gwneud hynny ond mae yna gwestiynau mawr am ei ddisgyblaeth yn enwedig mewn gemau tynn.  Mae gan Gymru ddau flaenasgellwr ifanc talentog iawn y gallai wneud tipyn o argraff eleni.  Mae Sam Warburton a Dan Lydiate eisoes wedi dangos eu bod yn gallu dylanwadu ar gêm ac mae Josh Turnbull o’r Scarlets hefyd wedi creu argraff ar nifer gan gynnwys hyfforddwr Caerlŷr Richard Cockerill.  Mae digon o ddewis i Gatland yn y rheng ôl ac mae’n siŵr y byddai Martyn Williams yn ddigon parod i chwarae os oes angen!

Yr olwyr

Wrth ystyried yr olwyr byddwn yn ddigon hapus i roi cyfle arall i Lee Byrne yn safle’r cefnwr.  Chwaraeodd yn siomedig iawn yng ngemau’r hydref yn enwedig yn erbyn Seland Newydd lle’r oedd ar fai am o leiaf dau o geisiadau’r Crysau Duon.  Os yw Shane Williams yn holliach mae’n haeddu ei le ar yr asgell chwith gyda Halfpenny ar yr asgell arall.  Trueni nad yw George North yn cael cyfle i ddychwelyd i’r tîm ond mae digon o amser gydag ef eto. 

Yn y canol byddwn yn hoffi gweld James Hook a Jamie Roberts yn cyfuno.  Yn bersonol dwi’n ffafrio chwaraewr creadigol yn y crys rhif 12 ac mae hynny’n bwysig wrth ystyried nad yw’n maswyr presennol ni yn gallu cynnig hynny. 

Yn faswr dwi’n teimlo y bydd yn rhaid i Gatland barhau â Stephen Jones, a hynny oherwydd nad oes yna unrhyw un arall sy’n ddigon da.  Nid yw Stephen Jones ar ei orau o gwbl ac mewn gwirionedd nid yw erioed wedi bod yn faswr sydd â dawn greadigol naturiol.  Mae’n faswr saff y gallwch ddibynnu arno i wneud y pethau sylfaenol yn effeithiol.  Yr unig opsiwn arall sydd gan Gymru yw Dan Biggar ac yn sicr nid yw ef yn haeddu ei le ar sail ei berfformiadau i’r Gweilch yn ddiweddar.  Fel gwlad sydd wedi cynhyrchu rhai o faswyr gorau’r gêm ar hyd y blynyddoedd mae’r sefyllfa bresennol yn creu pryder.  Lle mae’r Barry John neu Phil Bennet nesaf? 

Mike Phillips fydd dewis cyntaf Gatland fel mewnwr ond mae angen iddo ddechrau chwarae fel y gwnaeth ar daith y Llewod.  Nid yw wedi gallu ail ddarganfod y safon hwnnw ers dod adref o’r daith honno. Eto, gyda Richie Rees wedi’i wahardd mae’r gystadleuaeth i Phillips yn wan ac efallai ei fod yn rhy gyfforddus gan wybod nad oes neb amlwg i’w herio.

Cwpan y byd yn bwysicach?

Mae’n flwyddyn fawr i rygbi yng Nghymru ac er ei fod yn siom gweld Cymru heb nifer o’i chwaraewyr blaenllaw mae’n well bod yr anafiadau hyn yn digwydd nawr ac nid ym mis Hydref yn ystod Cwpan y Byd.  Y gystadleuaeth fawr eleni yw Cwpan y Byd a’r gobaith yw y bydd y tîm ar ei orau erbyn hynny ac yn gallu cystadlu gyda’r mawrion.  Fodd bynnag, gyda dechrau da yn erbyn Lloegr gall unrhyw beth ddigwydd. Yn amlwg, bydd tynged Cymru yng nghystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni yn ddibynnol ar ganlyniad y gêm gyntaf yn erbyn yr hen elyn.

Y tîm – dewis Euros 

15 Lee Byrne
14 Leigh Halfpenny
13 Jamie Roberts
12 James Hook
11 Shane Williams
10 Stephen Jones
9 Mike Phillips
8 Ryan Jones
7 Sam Warburton
6 Jonathan Thomas
5 Alun Wyn Jones
4 Bradley Davies
3 Craig Mitchell
2. Mathew Rees
1. Paul James

Cewri’r cae

Cyhoeddwyd Ebrill 26, 2010 gan Euros Lloyd. Dim sylw.

Tagiau: Pêl-droed, Uwch Gynghrair Cymru

Gohebydd chwaraeon Golwg360, Euros Lloyd, sy’n eich gwahodd i enwi chwaraewyr gorau Uwch Gynghrair pêl-droed Cymru eleni…

Mae tymor yr Uwch Gynghrair ar ben wedi diweddglo cyffrous dros y penwythnos.

Fe gipiodd y Seintiau Newydd y bencampwriaeth er gwaethaf ymdrechion Llanelli i gau’r bwlch ar frig y tabl dros yr wythnosau diwethaf.

Mae yna nifer o chwaraewyr wedi creu argraff yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwn, gyda’r adran yn gystadleuol iawn wrth i glybiau anelu at orffen yn y deg uchaf.

Fe helpodd goliau Rhys Griffiths Lanelli i wthio’r Seintiau Newydd hyd at y gêm olaf un o’r tymor. Dyma’r pumed tymor yn olynol iddo ennill gwobr prif sgoriwr Uwch Gynghrair Cymru.

Sefyll yn y bwlch

Beth am golwr y Seintiau Newydd? Dydi Paul Harrison ddim ond wedi gadael 13 gôl i mewn trwy gydol y tymor.

Neu ai i amddiffynwyr y clwb y mae’r diolch mwyaf am record amddiffynnol y Seintiau Newydd? Mae cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru, Steve Evans, wedi bod yn allweddol ym mherfformiadau amddiffynnol cadarn y pencampwyr y tymor hwn.

Mae’n siŵr bod diolch hefyd i’r chwaraewr canol cae, Barry Hogan am warchod amddiffyn y Seintiau Newydd.

Mae ymosodwr Bangor, Jamie Reed a orffennodd yn ail ar restr prif sgorwyr yr adran hefyd wedi cael tymor da iawn. Mae ei goliau wedi helpu tîm Nev Powell i orffen yn bumed yn y Uwch Gynghrair, yn ogystal â chyrraedd rownd derfynol Cwpan Cymru.

Creu argraff

Chwaraewyr eraill sydd wedi creu argraff y tymor hwn yw Lee Hunt (Bangor), Mark Connolly (Rhyl) a John Leah (Rhyl), Scott Ruscoe (Seintiau Newydd), Neil Thomas (Port Talbot) a Chris Venables (Llanelli).

Beth am eich barn chi?

Pwy yw’r chwaraewyr sydd wedi sefyll allan y tymor hwn, yn eich barn chi?

Mae Golwg360 yn galw am eich enwebiadau ar gyfer Tîm y Flwyddyn Uwch Gynghrair Cymru 2009/10.

Anfonwch enwebiadau am golwyr, amddiffynwyr, chwaraewyr canol cae ac ymosodwyr at euroslloyd@golwg.com.

Fe fydd Tîm y Flwyddyn Golwg 360 yn cael ei gyhoeddi’r wythnos nesaf yn dilyn rownd derfynol Cwpan Cymru.

Rhaid dewis rhwng Gavin Henson a Mr Church

Cyhoeddwyd Ebrill 21, 2010 gan Euros Lloyd. Dim sylw.

Tagiau: Chwaraeon, Rygbi

Euros Lloyd sy’n dweud fod rhaid i Gavin Henson ddewis rhwng rygbi a bywyd y seleb

Teg dweud fod gen i deimladau cymysg iawn wrth glywed bod Gavin Henson yn bwriadu dychwelyd i chwarae rygbi’r tymor nesaf.

Ers i Gavin Henson ddod i’r amlwg ar y lefel rhyngwladol yn 2005 – yn dilyn y dacl yna ar Matthew Tait, ac wrth gwrs y gic holl bwysig i ennill y gêm – mae wedi tyfu’n un o sêr mwyaf rygbi Cymru.

Dim ond un gêm mae Cymru wedi ei cholli ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad gyda Henson yn dechrau ac fe wnaeth o chwarae rhan allweddol yng Nghamp Lawn 2005 a 2008.

Pan mae o’n chwarae ar ei orau, Henson yw canolwr gorau’r byd. Y broblem fawr i’r Gweilch ac i Gymru yw nad yw Henson bob tro ar ei orau, ac yn anffodus mae ei berfformiadau disglair wedi prinhau dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae yna ddiffyg cysondeb yn safon ei chwarae ac mae gweld cymaint o ddawn yn mynd ar goll yn beth rhwystredig iawn i gefnogwyr y Gweilch a Chymru.

Wrth gwrs mae o wedi bod yn anffodus o ran anafiadau, ac mae nhw wedi effeithio ar ei yrfa. Byddai hyn yn broblem i unrhyw chwaraewr sy’n gyson anlwcus gyda’i ffitrwydd.

Ond nid yr anafiadau yw’r broblem fwyaf – tu hwnt i’r cae rygbi mae Gavin Henson yn troi’n Mr Church.

Y bywyd seleb hwnnw sydd wedi ei atal rhag bod yn un o chwaraewyr mwyaf dylanwadol ei genhedlaeth.

Gobeithion Gatland

Mae pawb yn gwybod bod Gatland yn awyddus iawn i weld Henson yn dychwelyd i greu  partneriaeth yn y canol gyda Jamie Roberts.

Mae’n rhaid i mi gyfaddef, mewn byd delfrydol, dyna fyddai fy newis i Gymru hefyd.  Ar eu gorau,  fe fyddai’r ddau yn dychryn unrhyw dîm yn y byd.

Fel rhywun oedd yn edmygu gallu Henson fel chwaraewr, rwy’n gobeithio y bydd Gav yn dychwelyd i’r gêm ar ei orau gan roi hwb i obeithion Cymru ar gyfer Cwpan y Byd 2011.  Dyw Henson ddim wedi chwarae yng Nghwpan y Byd, ac fe fyddai’n bechod iddo golli’r cyfle.

Ond ni all Warren Gatland a Chymru osod eu holl obeithion ar chwaraewr a oedd unwaith yn berfformiwr o’r safon uchaf, ond sydd bellach heb gael ei weld ar y cae rygbi ers dros flwyddyn.

Pan fydd Henson yn dychwelyd, a fydd y chwaraewr amryddawn yn gallu aildanio ei yrfa? A fydd Henson yn gallu ymdopi yn gorfforol gyda chwarae rygbi’n gyson unwaith eto? A fydd yn gallu ymdopi’n feddyliol gyda’r pwysau a’r disgwyliadau a fydd arno i berfformio’n dda?

Does dim sicrwydd bod ganddo’r chwant, yr ymroddiad na’r gallu i chwarae ar y lefel uchaf unwaith eto.

Dim ond 28 oed yw Henson, ac mae ganddo’r amser i ddod ‘nôl i’r gêm.  Er hynny, fe fydd rhaid iddo ganolbwyntio’n llwyr ar fod yn chwaraewr rygbi ac nid yn seleb sy’n enwog am ei berthynas gyda Charlotte Church.

Mae’n rhaid i Henson gofio iddo ddod yn enwog yn y lle cyntaf am ei ddawn chwarae rygbi. Cyn iddo gyhoeddi yn swyddogol ei fwriad i ddychwelyd i’r gêm, fe ddylai feddwl yn ddwys am beth sy’n bwysig iddo.

Chwarae rygbi neu enwogrwydd? Gavin Henson ta Mr Church?

Beth sydd o’i le ar bêl-droed Cymru?

Cyhoeddwyd Awst 7, 2009 gan Euros Lloyd. Dim sylw.

Tagiau: Chwaraeon, Pêl-droed

Mae’r tymor pêl-droed yn dechrau o ddifri’ y penwythnos yma, ond yn barod mae clybiau Cymru allan o gystadleuaethau Ewrop. Beth sydd o’i le ar bêl-droed Cymru, felly, a beth sy’ angen ei wneud i wella’r sefyllfa? Dyma farn ein gohebydd chwaraeon, Euros Lloyd…

Partizan Belgrade 12 – 0 Rhyl, Llanelli 1 – 3 Motherwell, Bangor 0 – 3 FC Honka a FRAM Reykjavik 4 – 2 Y Seintiau Newydd. Ydi, mae clybiau Uwch Gynghrair Cymru allan o gystadlaethau Ewrop am dymor arall a hynny hyd yn oed cyn i’r tymor ddechrau yn iawn.

Pedwar clwb. Wyth gêm. Saith colled. Un fuddugoliaeth dda, ond hynod o lwcus.

Yn amlwg, mae’n rhaid i ni dderbyn nad yw’n deg i ni ddisgwyl i’r Rhyl, Y Seintiau Newydd, Llanelli a Bangor i allu cystadlu gyda chlybiau fel FC Honko heb son am gewri pêl-droed Ewrop.

Fel Cymro a chefnogwr brwd o bêl-droed Cymru rwyf bob blwyddyn yn gobeithio gweld clybiau Cymru yn cael ymgyrchoedd parchus yn Ewrop ac ambell i fuddugoliaeth fel bod y diddordeb yn gallu parhau i ganol Awst o leiaf, a gobeithio ychydig y tu hwnt i hynny. Rwyf hefyd yn disgwyl gweld gwelliant o’r tymor blaenorol ond yn anffodus nid yw hynny’n digwydd. Os rhywbeth, mae pethau’n gwaethygu o dymor i dymor.

Dim arian

Ar hyn o bryd, Y Rhyl a’r Seintiau Newydd yw’r unig glybiau proffesiynol yn y gynghrair gan fod Llanelli wedi gorfod gwneud y penderfyniad i fynd yn ôl yn glwb rhan-amser a hynny oherwydd y sefyllfa ariannol. Ac mae’r hen ddihareb yna yn berffaith wir, wel, yn enwedig yn y byd pêl-droed – “Diwedd y gân yw’r geiniog!”

Y gwir plaen amdani yw nad oes digon o arian gan y clybiau i ddenu chwaraewyr o safon. Yn anffodus, heb arian amhosib yw temtio’r math o chwaraewyr, sydd eu hangen ar unrhyw glwb i fod yn gystadleuol, i ddod i chwarae ar gaeau fel Parc Waun Dew a Ffordd Farrar. Wrth wylio’r gemau Ewropeaidd a gafodd eu darlledu ar S4C yn ddiweddar, y chwaraewyr gorau i’r clybiau o Gymru oedd Andy Legg i Lanelli a Gareth Owen i’r Rhyl. Mae’r ddau yma naill ai yn eu pedwardegau neu bron â bod!

Mae angen buddsoddi tuag at y dyfodol, felly, ac ar hyn o bryd, dyw hynny ddim yn digwydd. O ganlyniad, dyw’r sefyllfa yn gwella dim.

Dim apêl

Byddai nifer yn mynnu bod ymgyrch Ewropeaidd i glybiau Uwch Gynghrair Cymru o fudd i’r clybiau. Mae rhai yn credu bod y gemau hyn yn denu mwy o gefnogwyr a mwy o arian i’r clwb.

Wel, gadewch i ni gael edrych ar ymgyrch Bangor y tymor hwn fel enghraifft. Roedd enillwyr Cwpan Cymru yn wynebu FC Honka – Pwy? Ie yn union. Dim llawer o apêl i’r cefnogwyr.

Roedd rhaid i Fangor drefnu a thalu am drip i’r garfan a’r staff i fynd allan i’r Ffindir i chwarae’r cymal cyntaf. Hefyd, bu’n rhaid iddynt chwarae’r ail gymal yn Wrecsam! Yn sicr, byddem yn dychmygu y byddai hyn siŵr o effeithio ar benderfyniad rhai o’r cefnogwyr i fynychu.

Felly, a oedd yr arian a dderbyniodd Bangor am golli’r rownd ragbrofol ynghyd ag arian tocynnau’r cymal cartref yn fwy na’r gost o drefnu’r trip i’r Ffindir? Dwi’n amau’n gryf.

Mae aelod blaenllaw o un o glybiau Uwch Gynghrair Cymru, oedd heb ennill eu lle yng nghystadlaethau Ewrop y tymor hwn, wedi dweud wrtha i yn gyfrinachol fod y clwb yn falch nad oedden nhw’n gorfod chwarae yn Ewrop y tymor hwn oherwydd y gost ychwanegol ar y clwb.

Yn amlwg, ni fyddai’r un clwb yn fodlon cyfaddef yn gyhoeddus nad ydynt am chwarae yn Ewrop, a thybed pa glybiau eraill yng Nghymru sy’n cytuno â barn y swyddog anhybsys?

Cryfhau Cwpan Cymru

Mae angen cynrychiolaeth gystadleuol ar Gymru yn Ewrop.

Yr unig ffordd y gallwn ni sicrhau hynny yw trwy gael prif glybiau’r wlad, sef Caerdydd ac Abertawe, yn ôl yn Ewrop.

Felly beth am ganiatau’r Adar Glas, Yr Elyrch ynghyd â Wrecsam, Merthyr Tudful, Bae Colwyn a Chasnewydd i gystadlu yng nghwpan Cymru unwaith eto?

Gallwn barhau gyda’r system bresennol lle mae clybiau fel Llanelli yn ennill eu lle yn Ewrop trwy’r cynghrair. Fodd bynnag, dylai un o lefydd Cymru yn Ewrop fynd i enillwyr Cwpan Cymru – cystadleuaeth fyddai’n cynnwys Caerdydd ac Abertawe.

Pe bai tîm fel Caerdydd neu Abertawe yn cael cystadlu yng Nghwpan Cymru ac yna ennill eu lle yn Ewrop fe fyddai gobaith i ni gael gweld tîm o Gymru yn ennill gêm a hyd yn oed mynd trwy’r rowndiau rhagbrofol.

Collodd y clybiau sy’n chwarae yng nghynghreiriau Lloegr yr hawl i chwarae yng Nghwpan Cymru yn 1995.

Ers hynny, dim ond clybiau sy’n cystadlu yng nghynghreiriau Cymru sy’n cael chwarae yng Nghwpan Cymru.

Byddai cael Caerdydd, Abertawe a Wrecsam yn cystadlu yng Nghwpan Cymru unwaith eto hefyd yn rhoi mwy o urddas a hygrededd i’r gystadleuaeth.

Yn anffodus, yn y blynyddoedd diwethaf mae rhai o berfformiadau clybiau Cymru yn Ewrop wedi bod yn chwerthinllyd. Pryd oedd y tro diwethaf i un ohonynt ennill ei rownd rhagbrofol?

Mae’n rhaid i bethau newid. Sut y gall Cymru ennill unrhyw barch gan weddill Ewrop heb fuddugoliaethau a heb yr un clwb cystadleuol yn ein cynrychioli?

Mae gan bob gwlad eu prif dimau. Ar y lefel rhyngwladol, byddai gêm rhwng Cymru a Serbia yn un gystadleuol. Ond cymharwch hynny gyda phrif glybiau’r ddwy wlad – Partizan Belgrade a’r Rhyl. Mae’r bwlch yn enfawr – fel y gwelwyd dros y ddau gymal yn ddiweddar.

Pe bai Caerdydd neu Abertawe yn cael chwarae yn erbyn timau fel FC Honka a Motherwell, byddai ganddynt gyfle gwych i ennill.

Mae dau o brif glybiau Cymru yn cystadlu’n galed am le yn Uwch Gynghrair Lloegr. Dyma un o gynghreiriau gorau’r byd, a byddai gweld y clybiau yn cyrraedd y lefel hynny yn hwb gwych i bêl-droed Cymru.
Esiampl Lichtenstein

Ni ddylai’r ffaith bod Caerdydd, Abertawe, Wrecsam a’r gweddill yn cystadlu yng nghystadlaethau Lloegr, eu hatal rhag chwarae yng Nghwpan Cymru. Maen nhw’n glybiau o Gymru, sy’n chwarae eu pêl-droed yng Nghymru, yn aelod o Gymdeithas Bêl-Droed Cymru ac mae ganddyn nhw gefnogwyr sydd yn Gymry.

Mae ‘na un enghraifft yn Ewrop, sy’n werth nodi wrth ystyried y frwydr i gael hawliau cyfartal i’r clybiau yma.

Mae saith clwb o Lichtenstein yn chwarae eu gemau yng nghynghreiriau’r Swistir. Yr enghraifft orau yw clwb FC Vaduz. Maen nhw erbyn hyn wedi chwarae ym mhrif gynghrair y Swistir.

Er hyn, maen nhw a gweddill clybiau Lichtenstein, sy’n rhan o gystadlaethau’r Swistir, yn parhau i gystadlu am Gwpan Cenedlaethol Lichtenstein bob tymor.

Mae enillydd y cwpan hynny yn hawlio eu lle yng Nghwpan Europa fel cynrychiolydd Lichtenstein.

Felly, pam fo hawl gan glwb o Lichtenstein, sy’n chwarae yn un o gynghreiriau’r Swistir, gystadlu yng Nghwpan Lichtenstein a chynrychioli’r wlad hynny yn Ewrop? Yna, mae clybiau Cymru, sydd yn yr union un sefyllfa, ddim yn cael cymryd rhan mewn cystadlaethau yng Nghymru a Lloegr.

Mae’n rhaid i’r gwahanol awdurdodau pêl-droed gydweithio i sicrhau bod Cymru a Lloegr yn dilyn esiampl Lichtenstein a’r Swistir.

Ystyriwch yr arian y gallai Caerdydd ac Abertawe ennill drwy chwarae yn Ewrop yn gyson, a safon y chwaraewyr y gallai’r ddau glwb eu denu. Byddai’n bosib defnyddio’r arian hynny wedyn i fuddsoddi rhagor yn academïau’r ddau glwb gan ddatblygu mwy o chwaraewyr fel Aaron Ramsey, Joe Ledley a Joe Allen.

Mae’n hen bryd i’r meistri pêl-droed yn Neptune Court yng Nghaerdydd a’r clybiau i eistedd i lawr i ail edrych ar y sefyllfa. Mae’n rhaid sicrhau fod pêl-droed Cymru yn ail ddechrau ennill parch ar lefel Ewropeaidd unwaith yn rhagor.

Pam na all Cymru chwarae gemau prawf?

Cyhoeddwyd Gorffennaf 13, 2009 gan Euros Lloyd. Dim sylw.

Tagiau: Chwaraeon, Criced

Gohebydd chwaraeon Golwg, Euros Lloyd, sy’n gofyn pam fod rhaid i Gymru chwarae dan faner Lloegr…
Braf oedd gweld Caerdydd, a Chymru, yn llwyddo ar y llwyfan chwaraeon rhyngwladol unwaith yn rhagor yn dilyn cynnal prawf cyntaf Cyfres y Lludw yn y Stadiwm Swalec yng Ngerddi Soffia.

Does dim amheuaeth bod cynnal y gêm brawf wedi dod â miloedd i goffrau’r brifddinas gan roi hwb arall i enw da Caerdydd.

Er gwaethaf y llwyddiant yma, nid oedd gwylio Lloegr yn chwarae criced yng Nghaerdydd yn tanio’r dychymyg i mi, a bod yn berffaith onest.

Wrth gwrs, yn swyddogol – ym myd y profion criced – mae Cymru’n cael ei chynrychioli o dan faner San Siôr. ‘Bwrdd Criced Lloegr a Chymru’ yw’r teitl swyddogol ar y corff llywodraethol, ond does dim lle i ddraig ymysg yr holl lewod ‘na ar y bathodyn.

Pwy mewn gwirionedd sy’n ystyried mai tîm i Loegr a Chymru yw hwnnw wnaeth herio Awstralia dros y penwythnos? Yn wir, cyn y prawf cyntaf roedd y rhan fwyaf o newyddiadurwyr Fleet Street yn methu deall pam bod y gêm yn cael ei chynnal y tu allan i Loegr o gwbl.

Doedd dim byd ond sylwadau negatif yn y wasg Brydeinig am allu Caerdydd i gynnal digwyddiad o’r fath.

Ond bu’r prawf cyntaf yn llwyddiant ysgubol ac mae ‘arbenigwyr’ newyddiadurol criced Lloegr wedi’u profi’n anghywir. Roedd Caerdydd a Chymru yn hen ddigon da i gynnal y prawf cyntaf ac mae ‘na deimlad hefyd ein bod ni’n ddigon da hefyd i allu trefnu a chynnal tim criced Cenedlaethol i Gymru.

Roedd rhai o ohebwyr amlwg y wasg chwaraeon yn Lloegr yn cwestiynu pam fod angen i Katherine Jenkins ganu Hen Wlad fy Nhadau fore Mercher. Mae’n berffaith amlwg nad yw’r Saeson yn credu mai tîm Lloegr a Chymru yw hwn, ac a dweud y gwir, dw i ddim chwaith.

Felly beth yw’r pwynt bod yn rhan o dîm pan nad ydych yn cael unrhyw gydnabyddiaeth? Ydi’r Saeson yn credu ein bod ni’r Cymry mor analluog â hynny fel nad ydym yn gallu trefnu tîm criced ein hunain? Neu yn waeth byth, ai dyma sut ydym ni’r Cymry yn teimlo amdanom ni ein hunain?

Os taw torheulo yn ysblander llwyddiant Lloegr yw’r nod – wel, does dim cymaint a hynny o lwyddiant i’w fwynhau, bellach. Ychydig wythnosau yn ôl fe gollodd y tim yn erbyn yr Iseldiroedd yng Nghwpan ugain pelawd y byd. Dwi’n siŵr y gallai Cymru roi gêm i’r Iseldiroedd.

Mae yna ddeg o wledydd yn aelodau parhaol o’r cylch sy’n chwarae’r gêm un dydd ar hyn o bryd. Dyma ‘gewri’r’ byd criced – Awstralia, Seland Newydd, De Affrica, India, Sri Lanka, Pacistan, Bangladesh, Zimbabwe, India’r Gorllewin a Lloegr.

O dan yr haen honno mae gan yr Alban ac Iwerddon dimau, yn ogystal â Kenya, Canada, yr Iseldiroedd, ac hyd yn oed Afghanistan! Does bosib na allwn ni ddod o hyd i dîm y byddai’n ddigon da i guro’r rheiny?

Pam nad oes gan Gymru dîm criced? Pam nad oes gan Gymru statws annibynnol ar gyfer y gemau un dydd neu’r gêm ugain pelawd, hyd yn oed?

Does dim disgwyl cael statws gemau prawf yn syth – fe ddaw hynny gydag amser!

Ar yr ochor weinyddol, mae gan Gymru dri pherson blaenllaw iawn o fewn y byd criced ar hyn o bryd. Mae David Morgan, cyn cadeirydd Morgannwg, yn Lywydd y Cyngor Criced Rhyngwladol. Mae Hugh Morris hefyd yn rheolwr gyfarwyddwr criced Lloegr. Yn ogystal â hyn, mae Tony Lewis yn gadeirydd Clwb Criced Marylebone – y clwb sy’n berchen ar Lords, cartref criced Lloegr. Felly mae gan Gymru ddigon o ddylanwad o fewn y gêm, ond eu bod nhw i weld yn ddigon hapus gyda’r ‘traddodiad’ bresennol!

Mae’n ddigon teg dweud nad oes llawer o chwaraewyr Cymru wedi cyrraedd y safon gemau prawf dros y blynyddoedd diwethaf – Robert Croft a Simon Jones yw’r mwyaf diweddar. Mae’n deg dweud hefyd y byddai’r rhan fwyaf o dîm Cymru yn cael ei gynrychioli gan chwaraewyr Morgannwg, sydd ar hyn o bryd yn cael trafferth ennill gêm sirol heb son am gêm ryngwladol.

Ond, i wella safon mae angen i fwy o chwaraewyr Cymru gael y cyfle i chwarae ar y lefel rhyngwladol a hynny er mwyn profi eu hunain yn erbyn y goreuon. Trwy gael tîm cenedlaethol, does dim amheuaeth y byddai Morgannwg a chriced yng Nghymru yn gyffredinol yn elwa hefyd. Byddai tîm cenedlaethol yn denu cefnogwyr ac arian, ac yn ysgogi rhagor o blant a phobl ifanc i fynd allan i chwarae’r gêm, yn ogystal.

Yn 2002, fe wnaeth Cymru drechu’r Saeson mewn gêm un dydd. Erbyn meddwl, efallai mai dyna pam nad yw’r Saeson yn awyddus i weld tîm llawn amser o Gymru.

Mae’r gêm mewn cyfnod o newid mawr ar hyn o bryd ac mae nifer o wledydd ‘newydd’ yn cael y cyfle i brofi eu hunain ar lefel ryngwladol – ac mae’n hen bryd bod Cymru’n cael yr un cyfle.

Chwarae’n frwnt – angen cosb llymach?

Cyhoeddwyd Mehefin 30, 2009 gan Euros Lloyd. Dim sylw.

Tagiau: Chwaraeon, Rygbi

Euros Lloyd sy’n gofyn a oes angen cosb llymach ar Schalk Burger…

Mae awdurdodau’r byd rygbi wedi bod yn brysur iawn yn dilyn gem y Llewod yn erbyn De Affrica dros y penwythnos.

Mae Schalk Burger wedi cael ei wahardd am wyth wythnos am roi ei fysedd yn llygaid Luke Fitzgerald. Ac mae Bakkies Botha wedi cael ei wahardd am bythefnos am dacl beryglus ar Adam Jones.

Ond mae’n rhaid cwestiynu a yw chwaraewyr yn cael eu cosbi digon am chwarae’n frwnt.

Fe wnaeth anafu Adam Jones gael effaith ar ganlyniad y gêm, gyda sgrymiau heb eu cystadlu yn rhoi mantais fawr i Dde Affrica ar ôl goruchafiaeth agoriadol y Llewod.

Mae’n siwr bod Bakkies Botha yn credu bod y fuddugoliaeth derfynol dros y Llewod yn cyfiawnhau cyfnod o wythnos neu ddwy iddo yn cicio’i sodlau ar yr ystlys.

Mae Botha eisoes wedi ei wahardd am wyth wythnos ychydig flynyddoedd yn ôl am geisio cyffwrdd â llygaid chwaraewr o Awstralia.

Ond os yw chwaraewr yn cael ei anafu oherwydd gweithred anghyfreithlon chwaraewr eraill – oni ddylai’r person euog gael ei wahardd am yr un cyfnod o amser ac y mae’r llall yn ei golli oherwydd yr anaf?

Gallai Adam Jones fod allan am fisoedd, gan effeithio ar ei dymor newydd gyda’r Gweilch a Chymru.

Bydd Bakkies Botha ‘nôl mewn amser i helpu De Affrica gychwyn eu hymgais i ennill y Bencampwriaeth Tair Gwlad.  Ydy hynny’n deg?

Bys yn llygad y byd rygbi

A beth am Schalk Burger?  Carden felen ac wyth wythnos am gyffwrdd  â llygaid Luke Fitzgerald yn y 30 eiliad agoriadol.

Efallai nad oedd y tîm dyfarnu am gael eu gweld yn sbwylio gem brawf cyn iddi ddechrau bron. Ond dan yr amgylchiadau doedd dim opsiwn ond rhoi carden goch i Burger.

Erbyn hyn mae hyfforddwr De Affrica wedi condemnio’r weithred, dan bwysau gan Undeb Rygbi De Affrica.

Ond roedd ei ymateb gwreiddiol yn awgrymu nad oedd yn gweld dim byd o’i le.

Mae’r awdurdodau, y dyfarnwyr a’r hyfforddwr wedi methu â chyfleu’r ffaith bod cyffwrdd gyda’r llygaid yn gwbl annerbyniol.

Dylai Burger fod wedi cael carden goch, a’i wahardd am gyfnod hirach. A dylai’r hyfforddwr fod wedi ei gwneud hi’n glir na fydd chwaraewyr budr yn cael eu dewis i gynrychioli’r tîm.

Yr unig neges i chwaraewyr rygbi ydi bod y fath chwarae yn dderbyniol, ac yn hanfodol er mwyn bod yn gystadleuol mewn rygbi heddiw.