Cynyddu maint testun

Golwg360

Canllaw i Eisteddfod 2010 – Rhan 1

Cyhoeddwyd Gorffennaf 13, 2010 gan Fideo. 2 Sylw.

Tagiau: Eisteddfod Blaenau Gwent 2010, Eisteddfod Genedlaethol

Mae uchafbwynt calendr celfyddydol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, ar y gorwel ac mae’r trefnydd, Hywel Wyn Edwards, wedi bod yn flogiwr rheolaidd i Golwg360 dros y misoedd diwethaf. I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn or-gyfarwydd â ardal yr Eisteddfod eleni, mae Golwg360 yn falch iawn i lansio cyfres o glipiau byr yn cyflwyno Glyn Ebwy a’r ardal cyfagos i chi. Bydd yna glip newydd bob wythnos yn arwain at yr Eisteddfod, yn ogystal â un arbennig o’r wythnos ei hun.

Mae’r gyfres yn ganlyniad prosiect ar y cyd rhwng Golwg360 a chriw i fyfyrwyr Prifysgol Llanbed sydd wedi ei weinyddu gan GO Wales, gyda’r bwriad o roi profiadau proffesiynol newydd i’r myfyrwyr. Diolch i GO Wales, ac yn arbennig i’r myfyrwyr Susanna Bowen, Luke Adams a Richard Beecher am eu holl waith.

Sylwadau

di enw , Gorffennaf 14, 2010 9:24 am

Trueni am y gwall iaith ar ddiwedd y ffilm – Cyfarwyddwr ?

§

Macsen , Gorffennaf 15, 2010 10:27 am

Pa wall iaith? Sylwes i ddim. Paid pigo ar fanion.

§

Ychwanegu Sylw

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.