Mae uchafbwynt calendr celfyddydol Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi cyrraedd! I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn or-gyfarwydd â ardal yr Eisteddfod eleni, mae Golwg360 yn falch iawn i lansio cyfres o glipiau byr yn cyflwyno Glyn Ebwy a’r ardal cyfagos i chi. Dyma’r olaf ohonyn nhw – canllaw i faes yr Eisteddfod ei hun!
Mae’r gyfres yn ganlyniad prosiect ar y cyd rhwng Golwg360 a chriw i fyfyrwyr Prifysgol Llanbed sydd wedi ei weinyddu gan GO Wales, gyda’r bwriad o roi profiadau proffesiynol newydd i’r myfyrwyr. Diolch i GO Wales, ac yn arbennig i’r myfyrwyr Susanna Bowen, Luke Adams a Richard Beecher am eu holl waith.
Sylwadau Diweddar