Ar ddydd Mercher y 27ain o Hydref fe aeth dros 25ain o ddarpar ddyfarnwyr ifanc i glwb rygbi Cwins Caerfyrddin i fynychu cwrs lefel 1 dyfarnu rygbi dan arweiniad Nigel Owens.
Roedd y cwrs, y cyntaf o’i fath i’w cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg, wedi ei threfnu gan gynllun Llwybrau i’r Brig Urdd Gobaith Cymru. Fel rhan o’r cwrs un dydd, fe gafodd yr ymgeiswyr trosolwg o reolau’r gêm, a oedd yn cynnwys eglurhad o sefyllfaoedd mwyaf cymhleth a alla’u hymddangos ar y cae rygbi a chyfle euraidd i holi un o ddyfarnwyr rygbi gorau’r byd.
Roedd nifer y bobol ddaeth i’r cwrs yn profi’r angen am gyrsiau hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn wir mae Nigel Owens ei hun yn esiampl o ddyfarnwr sydd yn dyfarnu a chyfathrebu gyda chwaraewyr trwy’r ddwy iaith ar y maes rygbi.
“Mae cyfle i ni fel yr Urdd i greu pwll o wirfoddolwyr ifanc i gyfranogi fel dyfarnwyr yn gemau rygbi’r Urdd yn y dyfodol,” meddai Kelly Anderson, Swyddog Datblygu Ieuenctid Penfro.
“ Hefyd, roedd hwn yn gyfle gwych i ennill cymhwyster mewn awyrgylch anffurfiol. Gobeithio y gallwn ni gynnig y cwrs yma’r flwyddyn nesaf hefyd, a hoffwn ddiolch yn fawr i Nigel Owens am ei gyfraniad tuag at y cwrs.”
Dyfrig Morgan, Cyfarwyddwr Ieuenctid Llwybrau i’r Brig
Nigel Owens yn trafod dyfarnwyr ifanc
Gêm anoddaf Nigel Owens
Y cam cyntaf i ddod yn ddyfarnwr
Catrin a Ceris yn trafod rygbi merched
Nigel Owens yn gosod cwestiwn i’r dosbarth
Sylwadau Diweddar