Cynyddu maint testun

Golwg360

Yr awdur lluniau Marian Delyth?

Cyhoeddwyd Mehefin 22, 2010 gan Gwion Hallam. 1 Sylw.

Tagiau: Adolygiadau, Celfyddydau, Llyfr y Flwyddyn

Gwion Hallam, awdur blog Pethe, sy’n gofyn a ddylai gwobr Llyfr y Flwyddyn fod yn canmol ffotogrraffwyr hefyd…

Mae’n rhaid llongyfarch gwasg Y Lolfa am ei llwyddiant ysgubol yn Y gystadleuaeth eleni. Efallai bod yna gystadleuaeth fach arall yn Ne Affrica sy’n mynnu sylw rhai ar hyn o bryd, ond i awduron a gweisg – a darllenwyr o bosib – mae yna ‘gêm’ sy’n bwysicach o lawer. Gwobr llyfr y flwyddyn yw honno wrth gwrs, a’r gôl i’r chwaraewyr yw cipio’r brif wobr a rhwydo’r deg mil o bunnoedd. Er nad yw’r enillydd am gael ei gyhoeddi tan ddiwed y mis, y gwir amdani yw bod y Lolfa wedi cyflawni hat trick yn barod. Pa bynnag lyfr sydd am ennill, mae gwasg Y Lolfa wedi ennill yn saff! Achos y nhw sydd pia’r dair gyfrol sydd ar ôl yn y ras.

Banerog, cyfrol gyntaf unigol o gerddi gan y prifardd ifanc Hywel Griffiths;

Naw Mis, nofel ddiweddaraf cyn-enillydd y wobr Caryl Lewis;

Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw y llyfr taith i’r bwrdd coffi (mawr iawn!) gan yr hanesydd John Davies a’r ffotograffydd Marian Delyth.

I barhau â’r trosiad pêl droed (nes ei ladd yn llwyr!) yr hyn sy’n gwneud yr hat trick yma’n un arbennig o ddisglair yw bod y ‘goliau’ – neu’r llyfrau – mor amrywiol. Yn profi bod y Lolfa, fel gweisg eraill wrth gwrs, yn gallu llwyddo ym mhob arddull. Yn gallu sgorio o bob rhan o’r cae. Pen tost i’r beirniaid efallai yw’r amrywiaeth eang yma, ac mae’r ddadl ynglŷn â’r dasg amhosib – ac efallai annheg – o drio beirniadu’r holl lyfrau yn codi ei phen yn flynyddol. Sut wir y mae gwahaniaethu rhwng barddoniaeth a nofel? Neu gyfrol o straeon a beirniadaeth lenyddol? Fel un a gafodd y fraint o drio cyflawni’r dasg ‘amhosib’ yma – gan deimlo’n anghymwys iawn i wneud – rwy’n derbyn y farn honno i raddau. Ond ga i fentro barn arall ac awgymu mai’r amrywiaeth yn y llyfrau yw un o’r pethau gorau am yr holl gystadleuaeth. Mae’n ei gosod arwahân i gystadleuthau o’u bath ac mae yna rywbeth ‘pur’ a chyffrous, a phwerus o syml, mewn chwilio am yr un llyfr – y gorau ohonynt i gyd. (yn nhŷb y beirniaid wrth gwrs).

Yn ogystal â hynny rwy’n cofio teimlo ar y pryd fod yna bethau i chwilio amdanynt ym mhob ‘Llyfr y Flwyddyn’, beth bynnag ei fwriad neu deip. Bod rhaid i’r llyfr fy ysbrydoli; fy nghyffwrdd, neu fy symud i feddwl neu i deimlo i’r byw. I boeni neu i falio am y dweud neu’r syniadau, am y cymeriadau neu’r pwnc o dan sylw. Ro’n i’n chwilio am weledigaeth a fyddai’n wreiddiol neu’n ffresh. Am lyfr a fyddai’n safonol a chyhyrog ei iaith, ond a fyddai hefyd yn gadael argraff am oes. Disgwyliadau rhy uchel? Nid o ‘Lyfr Gorau’r Flwyddyn’ does bosib.

Un o’r pethau nad o’n i’n chwilio amdanynt fel y cyfryw oedd ffotograffau, neu unrhyw luniau o ran hynny. Sy’n dod â fi at gwestiwn sydd wedi pigo ambell i un y tro yma – gan gynnwys un o’r ‘awduron’ – llyfr gan bwy yw Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw mewn gwirionedd? Yr ateb cywir wrth gwrs yw ei fod yn lyfr gan ddau: John Davies a Marian Delyth. A bod y ddau felly’n haeddu eu canmol. Dyna’r ddau enw sydd ar y clawr. A dyna’r ddau â gafodd gomiswn i’w greu. Mae’n lyfr o ddau hanner felly (dim mwy!) gyda’r lluniau lawn mor bwysig â’r testun. Dyna pam y mae gen i gydymdeimlad mawr â Marian Delyth a’i sylwadau’n y Golwg cyfredol. Y cwestiwn amlwg felly, os braidd yn ddireidus, yw pwy ddylai dderbyn y wobr? Os mai gwobr llyfr ac nid awdur y flwyddyn yw hon mewn gwirionedd?

Ond tydw i ddim yn teimlo mor gryf â Sîon Jones, Castell Newydd Emlyn, a sgwennodd lythyr at Golwg yn dweud yr wythnos dwetha, “Mae’n gywilyddus fod John Davies wedi caniatau i’w enw fynd ymlaen heb sôn am Marian Delyth.” Ysgubol braidd yw’r gosodiad hwnnw . Fedra i ddychmygu John Davies yn ei ffordd hynaws arferol yn cydnabod pwysigrwydd y lluniau i’r gyfrol yn gyson a theg. Yn cydnabod mai cywaith yw’r gwaith. Mi ydw i yn deall ei ofnau serch hynny ac yn rhyw deimlo nad oes digon o sôn wedi bod am gyfraniad y ffotograffydd. Bod y lluniau’n cael eu hystyried bron fel rhywbeth ychwanegol i’r testun. I ddod yn ôl at y trosiad (blinedig!) pêl droed – mai dim ond ‘assist’ oedd y lluniau’n y gyfrol, er eu bod yn rhan mor hanfodol o’i llwyddiant. (sori!)

Ond eto, teg nodi mai gwobr lenyddol yw hon. Mae hynny’n reit glir ar wefan Academi ac yn amlwg ers dechrau’r gwobrwyo. Un peth yw gweld y lluniau’n derbyn cydnabyddiaeth a chlod, peth arall yw mater y wobr.

Pwt o stori i gloi. Ddwy flynedd yn ôl mi gyrhaeddodd casgliad o gerddi gan Iwan Llwyd y rhestr hir. Roedd Marian Delyth wedi cyfrannu lluniau i’r gyfrol – Hanner Cant - hefyd, a’r lluniau’n fwy o assist mewn gwirionedd i honno o bosib. Yn ôl y sôn, wedi iddo glywed fod y llyfr wedi cyrraedd y rhestr hir, y peth cyntaf wnaeth y bardd oedd cysylltu â’r ffotograffydd i sôn am eu llwyddiant ac i ddweud y byddai’n rhannu’r arian o ennill. Yn wahanol i’w gyfrol Dan Ddylanwad, (a oedd â chlawr wedi ei gynllunio gan Marian Delyth hefyd!) a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn iddo ym 1997, ni enillodd Iwan Llwyd y tro hwnnw. Efallai nad yw’n addas felly i grybwyll y peth, addewid oedd hynny a dim mwy. Ac nid awgrymu ydw i chwaith mai dyna’r hyn ddylid wneud y tro yma nac unrhyw dro arall. Ond â ni newydd ei golli, da cofio eto am Iwan. Am ei gerddi a’i haelioni a’i ddawn.

Fel ag y mae’n dda cofio am gyfraniad Marian Delyth i’w gyfrolau, ac i Wobr Llyfr y Flwyddyn cyn heddiw. Fel ei chyfraniad allweddol i gyfrol sydd unwaith eto ar y brig.

Sylwadau

Y beirniad bach 5 oed | Pethe , Awst 23, 2010 12:01 pm

[...] cicio’r bwced enillodd Gwobr Llyfr y Flwyddyn. Hen newyddion erbyn hyn, a hen ddadl yw’r un am gyfraniad allweddol Marian Delyth i’r gyfrol. Rhaid cyfaddef na fyddwn wedi dringo unrhyw dŵr i ddathlu canlyniad y gystadleuaeth [...]

§

Ychwanegu Sylw

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.