Pethau’n poethi ar faes yr Eisteddfod

Hywel Wyn Edwards
Hywel Wyn Edwards sy’n edrych ymlaen at ddechrau’r Eisteddfod Genedlaethol…
Wythnos arall, a’r ffôns hyd yn oed yn brysurach yr wythnos hon na’r wythnos ddiwethaf – a phan dwi’n mynd adref ar ddiwedd y dydd, dwi’n dal i glywed y ffôn yn canu yn fy nghlustiau! Ond, mae’n braf clywed cynifer yn ffonio i archebu tocynnau o bob math – o’r cynllun dau am un ar gyfer trigolion ardal Wrecsam i’r cyngherddau nos a’r gwyliau ymylol.
Mae’r tywydd braf – a lluniau’r Pafiliwn wedi’i godi yn Wrecsam yn gwneud i bobol droi eu golygon tua’r Eisteddfod gan ddechrau edrych ymlaen go iawn am y Brifwyl. Mae’r amserlenni a’r crynodebau i gyd wedi’u cyhoeddi ar ein gwefan erbyn hyn hefyd, felly mae hyn yn gyfle i bobl ddechrau ar y gwaith o ddewis a dethol beth yn union maen nhw am ei wneud yn ystod yr wythnos - lle maen nhw am fynd a beth maen nhw am ei weld.
Mae’r tywydd braf hefyd yn berffaith ar gyfer y criw sydd wrthi’n brysur ar y Maes – mae’n llawer brafiach gweithio yn yr haul a’r adeiladau’n cael eu codi’n llawer cyflymach. Byddwn yn ôl ar y Maes yfory am y tro cyntaf ers rhai dyddiau ac fe fyddwn yn siwr o weld tipyn o newid ers i ni fod yno ganol yr wythnnos ddiwethaf.
Mae bob amser yn gyffrous troi’r gornel i mewn i’r maes parcio bach wrth ymyl swyddfa’r maes yn ystod y cyfnod hwn a gweld yr adeiladau i gyd yn codi fel madarch – a’r Maes yn edrych yn gwbl wahanol o diwrnod i ddiwrnod.
Rydan ni wedi dechrau mynd drwy’r capsiynau rydym wedi’u derbyn fel rhan o gystadleuaeth capsiynau Maes C – dipyn o hwyl a chyfle i ennill tocynnau ar gyfer gweithgareddau’r wythnos. Mae’r deunyddiau hyrwyddo ychydig yn wahanol eleni, gan ddefnyddio rhai o luniau archif yr Eisteddfod. Os ydych chi eisiau tro ar y gystadleuaeth, ewch i’r wefan a chlicio ar Maes C – 15 Gorffennaf yw’r dyddiad cau – a gobeithio y byddwn yn derbyn capsiynau sy’n ddigon da i’w defnyddio fel posteri a phanelau yn y Ganolfan Groeso a Maes C yn ystod yr wythnos.
Mae’r rhain i gyd yn clymu i mewn gyda’r dathliadau 150 eleni a chyda’r prosiect atgofion yn arbennig. Eto, mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan ni am hwn a gallwch rannu’ch atgofion drwy’r we hefyd.
Byddaf yn sôn mwy am hwn cyn bo hir ond yn y cyfamser, dyna’r ffôn a gwell i minnau fynd i’w ateb!









Sylwadau Diweddar