Cynyddu maint testun

Golwg360

Sedd Bro Morgannwg – Y Ceidwadwyr yn ffyddiog

Cyhoeddwyd Mai 5, 2010 gan Ifan Dylan. Dim sylw.

Tagiau: Etholiad Cyffredinol 2010, Gwleidyddiaeth

Ifan Dylan sy’n edrych ar y seddi yng Nghymru y dylen ni fod yn cadw llygaid arnyn nhw yn yr etholiad. Heddiw, Bro Morgannwg…

Mae hi mor agos rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr mewn rhai etholaethau, nes ei bod hi’n ymddangos o leiaf, fel y gallai tuedd cefnogwyr traddodiadol Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, fod yn bwysig iawn.

Mae hyn yn amlwg yn sedd Bro Morgannwg, lle mae’r ddau brif ymgeisydd wedi galw am gael benthyg pleidlais y ddwy blaid lai.

Mae’r sedd yma yn cynnwys pentrefi cefnog ar gyrion Caerdydd, yn ogystal â thref glan môr Y Barri.

Llafur yw plaid mwyaf Y Barri yn draddodiadol, tref sydd â dylanwad dosbarth gweithiol cryf, yn sgil y dociau a’r diwydiannau cynhyrchu.

Ond mae’r Ceidwadwyr yn gryfach yn yr ardaloedd gwledig, ac mae’r sedd wedi newid dwylo yn weddol gyson.

Llafur sydd â’i gafael ar y sedd ar hyn o bryd. Ond dim ond 1,808 o fantais oedd gan John Smith dros Aelod Cynulliad Rhanbarth Gorllewin De Cymru, y Ceidwadwr Alun Cairns, yn etholiad 2005.

Roedd gan John Smith fantais o bron 5,000 o bleidleisiau yn yr etholiad blaenorol.

Doedd bron dim modd gwahanu’r ddwy blaid yn etholiadau Cynulliad 2007 chwaith. 83 o bleidleisiau oedd rhwng Llafur a ddaeth ar y brig, a’r Ceidwadwyr a ddaeth yn ail. Ond roedd bwlch o rai miloedd rhyngddyn nhw â Phlaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y ddau etholiad.

Nid John Smith sydd yn sefyll y tro yma i’r Blaid Lafur, ond Alun Cairns sy’n sefyll eto dros y Ceidwadwyr, ac mae o’n weddol ffyddiog o gipio’r sedd eleni.

Alana Davies

Mae ymgeisydd newydd Llafur, Alana Davies, wedi galw ar gefnogwyr Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol i “fenthyg eu pleidlais” i Lafur, er mwyn “cadw’r Torïaid allan”.

Wrth siarad â golwg360, dywedodd ei bod hi’n bendant taw ras dau geffyl yw’r sedd -rhyngddi hi ac Alun Cairns.

“Mae’n annhebygol iawn y bydd y pleidiau yma yn ennill,” meddai wrth sôn am Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol, ac “mae ganddyn nhw fwy i’w ofni oddi wrth y Torïaid na’r Blaid Lafur”.

Dywedodd bod ei hymgyrch yn mynd yn dda, ac o siarad â phobol wrth ganfasio meddai, mae’r ymateb i’r Blaid Lafur “yn llawer gwell nawr na phan gefais fe newis i geisio am y sedd ym mis Medi.”

Dyw hi ddim yn credu bod cymryd lle John Smith yn anfantais, ac y gallai hyd yn oed fod o fantais, gan nad yw hi yn cael ei chysylltu â Senedd Llundain yn sgil helynt costau San Steffan.

Dywedodd hefyd nad oedd hi’n credu fod gan Alun Cairns lawer o fantais drosti am ei fod yn Aelod Cynulliad.

Mae Alun Cairns yn “aelod rhanbarthol” meddai, “dyw e ddim wedi cael ei ethol.”

“Dwi ar y llaw arall wedi cael fy ethol yn y gorffennol ar Gyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr,” meddai.

“Mae gen i brofiad o gynrychioli etholaeth.”

Alun Cairns

Ond mae Alun Cairns hefyd wedi galw ar gefnogwyr Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol i bleidleisio i’r Torïaid.

Wrth siarad efo Golwg360, honnodd ei fod o wedi cyfarfod etholwyr yn ystod yr ymgyrch sydd am wneud hynny.

Y rheswm meddai oedd bod pobol yn flin, â Plaid Cymru yn benodol, am ymuno â’r Blaid Lafur mewn clymblaid yn y Cynulliad.

Dywedodd fod pobol wedi dweud wrtho y byddent yn cefnogi’r Ceidwadwyr y “tro yma”, er efallai na fydden nhw’n gwneud hynny’r tro nesaf.

Honnodd ei fod o hefyd wedi dod ar draws llawer mwy o gefnogaeth i’r Ceidwadwyr nag arfer mewn llefydd sy’n draddodiadol yn cefnogi’r blaid Lafur, fel Y Barri.

“Agenda positif” sydd gan y Ceidwadwyr i’w gynnig meddai, ac y byddai ei blaid yn “symud Cymru ymlaen oddi wrth y blaid Lafur.

“Cymru yw’r wlad, neu’r rhanbarth tlotaf yn y Deyrnas Unedig” mynnodd. Fe fyddai’r Ceidwadwyr yn “defnyddio arian yn fwy effeithiol”, ac yn arwain Cymru i fod yn “llai dibynnol ar wasanaethau cyhoeddus”.

Byddai’r Ceidwadwyr yn mynd ati i gael gwared â gwastraff ariannol gwasanaethau cyhoeddus, ychwanegodd.  Rydyn ni’n cynnig “agenda positif” ac yn “cynnig gobaith” meddai.

Yr ymgeiswyr am sedd Bro Morgannwg yn Etholiad Cyffredinol 2010

Ymgeisydd Plaid
Alun Cairns Y Ceidwadwyr
Alana Davies Llafur
Ian Johnson Plaid Cymru
Kevin Mahoney UKIP
Eluned Parrott Democratiaid Rhyddfrydol
Rhodri Thomas Y Blaid Werdd

Ffeithiau

  • Pwy enillodd etholiad 2005: Y Blaid Lafur – John Smith
  • O sawl pleidlais: 1,808
  • Nifer etholwyr yn Etholiad Cyffredinol 2005: 68,657
  • Y nifer a bleidleisiodd yn Etholiad Cyffredinol 2005: 47,324

Etholiad 2005

Plaid Pleidleisiau Canran o’r bleidlais
Llafur 19,481 41.2
Y Ceidwadwyr 17,673 37.3
Democratiaid Rhyddfrydol 6,140 13
Plaid Cymru 2,423 5.1
UKIP 840 1.8
Y Blaid Ryddfrydol 605 1.3
Plaid Sosialaidd Llafur 162 0.3

Sedd Gorllewin Clwyd – agos rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr

Cyhoeddwyd Ebrill 28, 2010 gan Ifan Dylan. Dim sylw.

Tagiau: Etholiad Cyffredinol 2010, Gorllewin Clwyd, Gwleidyddiaeth

Ifan Dylan sy’n edrych ar y seddi yng Nghymru y dylen ni fod yn cadw llygaid arnyn nhw yn yr etholiad. Heddiw, Sedd Gorllewin Clwyd…

Y sedd yma sydd ynghanol arfordir gogledd Cymru. Mae’n cynnwys Bae Colwyn a Bae Cinmel, lle mae’r rhan fwyaf o’r pleidleiswyr yn byw. Ond mae’n etholaeth wledig yn ogystal, sy’n ymestyn i Ruthun, ac yn cyffwrdd hefyd ag ardaloedd gwledig yn Sir Ddinbych a Chonwy.

Mae’n un o’r seddi y llwyddodd y blaid Geidwadol i’w chipio yn ôl oddi wrth y Blaid Lafur yn etholiad cyffredinol 2005. Mae gan yr ardal draddodiad o ddewis Ceidwadwyr a’r chwedl yw ei bod wedi bod yn anferth o sioc i’r ymgeisydd Llafur pan enillodd yn 1997.

Er hynny, dim ond o 133 pleidlais yr enillodd y Ceidwadwyr yn 2005, a dim ond ychydig dros 1,500 pleidlais yn fwy na’r blaid Lafur a gawson nhw yn etholiad y Cynulliad yn 2007.

Mae cefnogaeth amlwg i Blaid Cymru yn yr etholaeth hefyd. Er iddyn nhw ddod yn drydydd isel yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, roedden nhw o fewn 200 pleidlais i’r blaid Lafur yn etholiad y Cynulliad.

Yn sgil hyn, gallai tuedd pleidleiswyr Plaid Cymru yn yr etholiad yma – a’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n bedwerydd gwan – fod yn bwysig.

David Jones

David Jones sy’n dal y sedd i’r Ceidwadwyr, ac mae wedi dweud wrth golwg360 ei fod wedi “rhoi gogledd Cymru ar y map” ers iddo fod yn Aelod Seneddol.

Roedd gogledd Cymru yn gallu cael ei ystyried yn ”backwater” meddai, ond ei honiad yw bod ei broffil ef a’i weithredu fel AS wedi newid hynny.

Dywedodd fod ei ymgyrch yn mynd yn dda iawn, a bod siarad ag etholwyr yn dangos fod cefnogaeth i’r Blaid Lafur yn encilio, tra bod y gefnogaeth i’r Ceidwadwyr yn cynyddu.

Honnodd fod pobol wedi dweud na fyddan nhw “byth” yn pleidleisio i’r Blaid Lafur eto, a thaw un o’r prif resymau am hyn yw cyflwr yr economi. Dywedodd hefyd fod llawer o bensiynwyr yr etholaeth yn poeni am gyflwr yr economi, a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar eu pensiynau.

Cyhuddodd y Blaid Lafur hefyd o gynnal ymgyrch negyddol, drwy wneud honiadau di sail ynglŷn â pholisïau’r Ceidwadwyr.

Gwrthododd dderbyn y gallai Plaid Cymru fod yn fygythiad. Roedd yn disgwyl iddyn nhw

wneud yn well na’r tro diwethaf, ond mai rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr y mae’r frwydr mewn Etholiad Cyffredinol.

Donna Hutton

Mae’r ymgeisydd Llafur, Donna Hutton, wedi dweud wrth golwg360 fod ei hymgyrch hi yn mynd yn “ardderchog.”

“Rydw i’n credu ein bod ni’n mynd i ennill yr un yma,” meddai, gan ddweud ei bod hi wedi dod ar draws cefnogaeth i’r Blaid Lafur mewn ardaloedd “llai traddodiadol” yng nghefn gwlad.

Wedi “benthyg y sedd” y mae’r Ceidwadwyr dros y bum mlynedd ddiwethaf, mynnodd.

Dywedodd ei bod yn pryderu am “deuluoedd,” am “ynni cynaliadwy”, am “ddynion ifanc sy’n teimlo eu bod wedi ei difreinio”, ac yn enwedig hefyd am “bensiynwyr a gweithwyr gofal.”

Mae Llafur yn blaid llawer fwy “teg” na’r Ceidwadwyr honnodd.  “Mae Llafur wedi gwneud llawer i bensiynwyr, dyw’r Torïaid ddim wedi rhoi dangos ymroddiad at eu cefnogi nhw.”

Llafur yw’r blaid orau i ymrafael a’r economi, meddai: “Wneith Llafur ddim cael panig fel y Torïaid sydd am wneud toriadau’n syth.”

Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol

Ar wahanol adegau, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael cefnogaeth dda mewn rhannau o’r etholaeth ac fe allai’r gefnogaeth i Nick Clegg wneud rhywfaint o wahaniaeth.

Cryfder Plaid Cymru yw bod ganddyn nhw ymgeisydd ifanc egnïol a chefnogaeth yn yr ardaloedd gwledig mwy Cymraeg.

Fe allai’r ddwy blaid effeithio ar y canlyniad, gan ddibynnu faint o bleidleisio tactegol fydd yna.

Yr ymgeiswyr am sedd Gorllewin Clwyd yn Etholiad Cyffredinol 2010

Ymgeisydd Plaid
David Jones Y Ceidwadwyr
Donna Hutton Llafur
Michele Jones Y Democratiaid Rhyddfrydol
Llyr Huws Gruffydd Plaid Cymru
Warwick Nicholson UKIP

Ffeithiau

  • Pwy enillodd etholiad 2005 ac o faint: Y Ceidwadwyr – David Jones
  • O sawl pleidlais: 133
  • Nifer yr etholwyr yn Etholiad Cyffredinol 2005: 55,642
  • Y nifer a bleidleisiodd yn Etholiad Cyffredinol 2005: 35,614

Etholiad 2005

Plaid Pleidleisiau Canran o’r bleidlais
Y Ceidwadwyr 12,909 36.2
Llafur 12,776 35.9
Y Democratiaid Rhyddfrydol 4,723 13.3
Plaid Cymru 3,874 10.9
UKIP 512 1.4
Annibynnol 507 1.4
Y Blaid Lafur Sosialaidd 313 0.9

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro – beth fydd effaith y Democratiaid Rhyddfrydol?

Ifan Dylan sy’n edrych ar y seddi yng Nghymru y dylen ni fod yn cadw llygaid arnyn nhw yn yr etholiad. Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro …

Cyn i Nick ‘Waw factor’ Clegg gymhlethu pethau yn y drafodaeth yna ar ITV, nid oedd y Democratiaid Rhyddfrydol yn debygol o gael unrhyw effaith ar y sedd yma.

Ras rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr oedd hi, hefo Plaid Cymru yno yn cnoi’n agos ar eu sodlau.

Y tebygrwydd yw taw dyma’r drefn o hyd, ond gallai cynnydd ym mhleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth argoeli’n wael iawn i Blaid Cymru, gan wneud y ras rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr yn anoddach fyth i’w darogan.

Llafur sy’n dal y sedd, ac yn ceisio ei hamddiffyn am ei bywyd, tra bod y Torïaid yn tywallt arian mawr i mewn i’w hymgyrch yn lleol.

Ond gyda diffyg brwdfrydedd cyffredinol tuag at y ddwy blaid fawr, gallai Plaid Cymru wneud yn dda iawn y tro yma, yn enwedig o gofio perfformiad cryf iawn y blaid yn etholiad Cynulliad 2007.

Ond efo’r sïon am bleidleisio tactegol o fewn eu rhengoedd – er mwyn naill ai gadw’r Torïaid allan neu er mwyn cael gwared â’r blaid Lafur – ac adfywiad y Democratiaid Rhyddfrydol yn genedlaethol, pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd.

Nicholas Ainger

Nick Ainger sy’n dal y sedd ar gyfer y blaid Lafur, ac mae wedi dweud wrth golwg360 fod “rhaid pleidleisio dros y blaid Lafur” os yw pobol am weld y gwelliannau o fewn yr etholaeth yn parhau.

Ers i Lafur ddod i rym meddai, mae gwasanaethau cyhoeddus wedi eu “gweddnewid”.

Tynnodd sylw at ysgolion newydd sbon yn yr etholaeth, a’r gwelliannau yn y gwasanaethau iechyd.

Honnodd bod lefel diweithdra wedi “gostwng” yn yr etholaeth, a bod yr economi leol wedi “gweddnewid” wrth i “fasnach” a “thwristiaeth” gynyddu.

Rhybuddiodd yn erbyn amcanion y Ceidwadwyr gan ddweud fod gwneud toriadau heb gynllunio o flaen llaw, yn “beryglus.”

Mae record y Torïaid ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wael meddai, maen nhw wedi “cau diwydiannau” yn y gorffennol ond “heb osod dim yn eu lle.”

Derbyniodd fod llawer o bobol yn yr etholaeth “heb benderfynu” i bwy y maen nhw am bleidleisio ond, honnodd fod y pleidleiswyr “ddim yn cysylltu efo neges y Torïaid”.

“Does ar bobol ddim eisiau Llywodraeth Dorïaidd” honnodd.

Y Ceidwadwyr yw’r prif wrthwynebwyr mae’n credu, a dywedodd ei fod yn disgwyl y gallai cefnogwyr Plaid Cymru bleidleisio yn dactegol dros y blaid Lafur, er mwyn cadw’r Torïaid allan.

Simon Hart

Nid yw ymgeisydd y Ceidwadwyr, Simon Hart, yn credu fod y Democratiaid Rhyddfrydol na Phlaid Cymru yn y frwydr yma oherwydd eu perfformiad yn yr etholiad cyffredinol diwethaf.

Doedd ddim chwaith wedi gweld arwydd o adfywiad gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth, meddai wrth golwg360. Ond mae yn poeni y gallai’r etholiad cyffredinol gael ei benderfynu ar sail rhaglen deledu.

Ond roedd mewn penbleth meddai, ynglŷn ag ymosodiadau’r blaid Lafur yn benodol ar ei gysylltiadau efo’r byd hela (mae’r Ceidwadwyr yn dweud y byddant yn cynnig pleidlais rydd ar wyrdroi’r ddeddf sy’n gwahardd hela Llwynogod efo cŵn).

“Mae gan bawb yrfa cyn mynd mewn i wleidyddiaeth,” meddai, gan gyfeirio at ei waith fel Prif Weithredwr y Cynghrair Cefn Gwlad.

Mae angen i Lafur roi cyfrif am eu hanes a chynllunio at y dyfodol meddai, “nid canolbwyntio ar fy ngyrfa i.”

Cyfaddefodd ei fod yn credu fod yna lawer o bobol sydd heb benderfynu ym mha ffordd y byddan nhw’n pleidleisio.

“Rydw i’n cynnig cyfle gwahanol” meddai, “does gen i ddim ‘magic pill’, ond mi wna i’r gorau y galla i.”

Ar y llwyfan cenedlaethol meddai, mi fyddai’r Ceidwadwyr yn sicrhau fod “lleiafrifoedd yn cael eu clywed”, ac yn ei gwneud hi’n “haws i bobol i fyw eu bywydau heb ymyrraeth gan lywodraeth”.

“Dyma be rydw i’n gynnig.”

John Dixon

Mae ymgeisydd Plaid Cymru, John Dixon, wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn galw ar gefnogwyr traddodiadol ei blaid i beidio ildio i’r demtasiwn o bleidleisio yn dactegol.

Honnodd fod pleidleisio fel hyn yn “gweithio’r ddwy ffordd.”

Mae’n bosib y bydd cefnogwyr Plaid Cymru yn pleidleisio i Lafur er mwyn cadw’r Ceidwadwyr allan meddai. Ond mae wedi dod ar draws cefnogwyr Plaid Cymru hefyd sydd am bleidleisio i’r Torïaid er mwyn cael gwared â’r blaid Lafur. Mae hyn yn cael yr effaith o “ganslo’r” bleidlais dactegol meddai.

Galwodd ar i bobol “bleidleisio yn gadarnhaol,” “dros rywbeth nid yn erbyn rhywbeth”, am y “person y maen nhw eisiau i’w cynrychioli”.

Cyfaddefodd ei fod wedi dod ar draws llawer mwy o bobol nag arfer yn yr etholaeth sydd yn dweud eu bod yn “ystyried” pleidleisio i’r Democratiaid Rhyddfrydol – ond tanlinellodd fod y bobol yma heb benderfynu yn sicr eto ac mai “ystyried” gwneud y maen nhw.

Roedd yn beirniadu’r penderfyniad o eithrio Plaid Cymru o’r trafodaethau rhwng arweinwyr y prif bleidiau Prydeinig. Mae hyn wedi codi proffil y pleidiau yna ar draul “gobeithion Plaid Cymru” meddai.

Dywedodd fod y “dicter” tuag at helynt y costau yn San Steffan yn dal yn amlwg yn yr etholaeth, a bod “diflastod” tuag at “y ddwy blaid fawr.”

Mae pobol wedi “syrffedu” efo Llafur, meddai, ond does “dim brwdfrydedd mawr” am y Ceidwadwyr chwaith.

Dywedodd y byddai ef yn “sefyll dros yr etholaeth a thros Gymru.”

Yr ymgeiswyr am sedd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro yn Etholiad Cyffredinol 2010

Ymgeisydd Plaid
Nicholas Ainger Llafur
Simon Hart Y Ceidwadwyr
John Dixon Plaid Cymru
John Richard Gossage Y Democratiaid Rhyddfrydol
Ray Clarke UKIP
Henry Langen Annibynnol

Ffeithiau

  • Pwy enillodd etholiad 2005: Llafur – Nicholas Ainger
  • O sawl pleidlais: 1,910
  • Nifer yr etholwyr yn Etholiad Cyffredinol 2005: 56,245
  • Y nifer a bleidleisiodd yn Etholiad Cyffredinol 2005: 37,863

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro Etholiad 2005

Plaid Pleidleisiau Canran o’r bleidlais
Llafur 13,953 36.9
Y Ceidwadwyr 12,043 31.8
Plaid Cymru 5,582 14.7
Y Democratiaid Rhyddfrydol 5,399 14.3
UKIP 545 1.4
Legalise Cannabis Alliance 237 0.6

Dyffryn Clwyd – Brwydr rhwng Llafur a’r Torïaid

Cyhoeddwyd Ebrill 20, 2010 gan Ifan Dylan. Dim sylw.

Tagiau: dyffryn clwyd, Etholiad Cyffredinol 2010, Gwleidyddiaeth

Ifan Dylan sy’n edrych ar y seddi yng Nghymru y dylen ni fod yn cadw llygaid arnyn nhw yn yr etholiad. Yn ail, Dyffryn Clwyd…

Mae sedd Dyffryn Clwyd yn cynrychioli ardal sy’n denu llawer o ymwelwyr, ond sydd hefyd yn ardal lle mae llawer o ddiweithdra, a thrafferthion cymdeithasol – yn benodol felly mewn ardaloedd yn y Rhyl.

Llafur sydd â’r sedd ar hyn o bryd, ond mae hi’n argoeli y bydd canlyniad 6 Mai yn agos iawn. Roedd buddugoliaeth Ann Jones i Lafur o 92 pleidlais dros yr ymgeisydd Ceidwadol yn etholiadau’r Cynulliad yn 2007, yn awgrymu pa mor agos fydd hi.

Er hyn, mae gan y Ceidwadwyr lot o waith i’w wneud i ddisodli’r ymgeisydd Llafur, Christopher Ruane, sydd wedi dal y sedd ers 1997, ac wedi ennill â mantais o 4,669 yn etholiad 2005.

Christopher Ruane

Dywedodd Christopher Ruane fod ei ymgyrch etholiadol yn mynd yn dda iawn, ond galwodd ar gefnogwyr Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol i bleidleisio’n dactegol drosto fe.

“Cadwch y Torïaid allan wrth gadw at eich egwyddorion,” meddai, wrth siarad efo golwg360.

Dywedodd fod cefnogwyr Plaid a’r Dems Rhydd yn “gwybod am record wael y Torïaid yng ngogledd Cymru”.

Dywedodd hefyd mai’r rheswm fod pleidlais y Torïaid wedi cynyddu yn ystod yr etholiadau diwethaf oedd bod mwy o’u cefnogwyr traddodiadol wedi pleidleisio.

Mynnodd nad oedd y blaid Lafur wedi colli cefnogaeth, ond nad oedd cefnogwyr traddodiadol y blaid heb fod yn pleidleisio.

Pan ddaw hi at bleidleisio ar 6 Mai, dywedodd ei fod yn gofyn i bleidleiswyr “edrych efo’i llygaid eu hunain” ar ei record ef fel Aelod Seneddol.

Ddylai pobol “beidio â gwrando ar y pleidiau gwleidyddol a’r papurau newydd” meddai, ond yn hytrach dylent “edrych o gwmpas eu cymuned”.

Dywedodd ei fod yn “falch” o’i record, gan honni ei fod ef a’r blaid Lafur wedi gweithio i ddenu buddsoddiad Amcan Un i’r etholaeth, yn ogystal â llwyddo i leihau diweithdra, ac adfywio rhannau o’r Rhyl a Dinbych. Honnodd hefyd fod cyfradd troseddu yn yr etholaeth hefyd yn disgyn.

Matt Wright

Matt Wright yw ymgeisydd y Ceidwadwyr. Ef ddaeth yn ail i Ann Jones yn etholiad Cynulliad 2007, ac mae wedi dweud wrth golwg360 ei bod hi’n “bosib” cipio’r sedd, a’i fod am gynnig “agenda o newid”.

Dywedodd fod y sedd yn un “ymylol iawn” a taw “swing” o tua 7% o’r bleidlais sydd angen arno i’w chipio oddi wrth Christopher Ruane.

Byddai am ganolbwyntio ar adfywio trefi’r etholaeth meddai, yn ogystal â chanolbwyntio ar yr economi.

Yn sôn am y Rhyl, dywedodd fod tlodi yn creu trafferthion yno. Dywedodd taw un awgrym sydd ganddo yw sefydlu atyniad megis “amgueddfa fawr” yn y dref, er mwyn denu ymwelwyr a allai gyfrannu at adfywio’r lle.

Dywedodd ei fod ef yn cynnig “newid”, a’i fod yn “drist” fod “cymaint o drafferthion” yn dal i fod yn yr etholaeth ar ôl i Lafur ddal y sedd am 13 mlynedd.
Yr ymgeiswyr am sedd Dyffryn Clwyd yn Etholiad Cyffredinol 2010

Ymgeisydd Plaid
Christopher Ruane Llafur
Matt Wright Y Ceidwadwyr
Paul Penlington Y Democratiaid Rhyddfrydol
Caryl Wyn Jones Plaid Cymru
Tom Turner UKIP

Ffeithiau

  • Pwy enillodd etholiad 2005: Y Blaid Lafur – Christopher Ruane
  • O sawl pleidlais: 4,669
  • Nifer yr etholaeth yn Etholiad Cyffredinol 2005: 51,983
  • Y nifer a bleidleisiodd yn Etholiad Cyffredinol 2005: 32,313

Etholiad 2005

Plaid Pleidleisiau Canran o’r bleidlais
Llafur 14,875 46
Y Ceidwadwyr 10,206 31.6
Democratiaid Rhyddfrydol 3,820 11.8
Plaid Cymru 2,309 7.1
Annibynnol 442 1.4
UKIP 375 1.2
Legalise Cannabis Alliance 286 0.9

Ceredigion – Y sedd fwyaf ymylol yng Nghymru?

Cyhoeddwyd Ebrill 15, 2010 gan Ifan Dylan. 2 Sylw.

Tagiau: Ceredigion, Etholiad Cyffredinol 2010, Gwleidyddiaeth

Ifan Dylan sy’n edrych ar y seddi yng Nghymru y dylen ni fod yn cadw llygaid arnyn nhw yn yr etholiad. Yn gyntaf, Ceredigion…

Gellir dadlau taw Ceredigion yw’r sedd fwyaf ymylol yng Nghymru. Dim ond 219 pleidlais o fantais oedd gan y Democratiaid Rhyddfrydol dros Blaid Cymru yn etholiad cyffredinol 2005, a does dim arwydd clir o bwy sy’n debygol o fynd a hi y tro yma.

Mae’r etholaeth yn un wledig, efo cyfran uchel o siaradwyr Cymraeg, a chyfran uwch na’r cyffredin o fyfyrwyr prifysgol a phreswylwyr sydd wedi cael addysg prifysgol.

Mae’n debygol fod gan y Democratiaid Rhyddfrydol fantais yn sgil y miloedd o fyfyrwyr prifysgol sydd yno, gan fod y blaid yn draddodiadol wedi mwynhau cefnogaeth gan gyfran fawr ohonyn nhw.

Er hyn, mae’r blaid wedi cael ei beirniadu gan undebau myfyrwyr ar ôl cyhoeddi na fyddent yn cael gwared ar ffioedd dysgu yn syth petawn nhw’n dod i rym.

Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd y fantais o fod â’i gafael ar y sedd, ac o fwynhau mwy o gefnogaeth ariannol na Phlaid Cymru. Yn ogystal, maen nhw’n rhannu grym efo’r Annibynwyr ar y cyngor sir.

Ond dyma sedd rhif un ar restr targedi Plaid Cymru, a gafodd eu beirniadu’n hallt am ei cholli yn y lle cyntaf yn 2005.

Yn ogystal, mae gan Blaid Cymru y fantais o fod yn rhan o’r Llywodraeth yng Nghaerdydd, ac o boblogrwydd AC Plaid Cymru dros Geredigion, Elin Jones.

Mark Williams

Mae Aelod Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngheredigion, Mark Williams, wedi dweud wrth golwg360 fod y frwydr yn mynd i fod yn un agos, ond fod hynny yn mynd i olygu “lles mawr i ddemocratiaeth”.

“Bydd rhaid i’r enillydd weithio’n galed i ennill” meddai, ac mae hynna’n “dda i’r system.”

Dywedodd fod polisïau’r ddwy blaid yn debyg mewn rhai agweddau, pan ddaw hi at wasanaethau cyhoeddus a datganoli.

Ond dywedodd taw’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n fwy tebygol o allu bod yn effeithiol yn y Senedd yn Llundain. Honnodd fod Aelodau Seneddol Plaid Cymru yn gallu cael eu “gwthio i’r ochor yno”, yn sgil y nifer fechan sydd ohonyn nhw.

Dywedodd ei fod wedi bod yn weithgar yn yr etholaeth, a heurodd ei fod ef wedi bod yn fwy diwyd yn Nhŷ’r Cyffredin nac y mae Aelodau Seneddol o Blaid Cymru wedi bod.

Ynglŷn â chefnogaeth myfyrwyr a’r mater o ffioedd dysgu, dywedodd Mark Williams fod polisi’r blaid yn “dal yn glir.”

Dywedodd fod y blaid wedi “ymroi i’r egwyddor” o gael gwared o ffioedd dysgu, ond yn sgil y trafferthion economaidd, mi fyddai hyn yn digwydd dros gyfnod o flynyddoedd.

Rhaid bod yn “gyfrifol” meddai, ac mae’n credu y “byddai pobol yn derbyn hyn”.

Penri James

Penri James yw ymgeisydd Plaid Cymru, ac mae wedi dweud wrth golwg360 fod gan etholwyr Ceredigion “ddewis go iawn”.

Mae’n dweud y byddai ef, fel ymgeisydd Plaid Cymru yn “rhoi blaenoriaeth i anghenion Ceredigion a Chymru” yn San Steffan.

Mae hyn yn wahanol meddai, i Aelod Seneddol o’r Democratiaid Rhyddfrydol sydd ond “yn un o nifer yn San Steffan,” lle mae “anghenion Ceredigion a Chymru yn cael ei foddi gan bleidiau Llundain.”

Nid yw’n derbyn meddai, fod gan y Democratiaid Rhyddfrydol gefnogaeth draddodiadol ymhlith y myfyrwyr.

Honnodd taw rhyfel Irac a ffioedd dysgu oedd y pynciau llosg a allai fod wedi sbarduno’r myfyrwyr i bleidleisio dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn 2005.

Ond mae’n credu fod y Democratiaid Rhyddfrydol yn “arwynebol iawn”, a bod dim byd ganddyn nhw i “danio’r myfyrwyr” y tro yma.

I’r gwrthwyneb, meddai, mae myfyrwyr wedi “dangos diddordeb” yn ei bolisïau ynni gwyrdd ef.

Cyhuddodd y Democratiaid Rhyddfrydol o ganolbwyntio ar ymosod ar Blaid Cymru yn hytrach nac “annog eu polisïau eu hunain.”

Yn ogystal, rhybuddiodd yn erbyn taflenni canfasio camarweiniol Mark Williams, sydd, honnodd, yn “lliwio’r gwir.”

Roedd yn annog yr etholwyr i edrych ar record y pleidiau.

Yr ymgeiswyr am sedd Ceredigion yn Etholiad Cyffredinol 2010

Ymgeisydd Plaid
Mark Williams Democratiaid Rhyddfrydol
Penri James Plaid Cymru
Leila Kiersch Y Blaid Werdd
Luke Evetts Y Ceidwadwyr
Richard Boudier Llafur
Mike Wieteska UKIP

Ffeithiau

  • Pwy enillodd etholiad 2005: Y Democratiaid Rhyddfrydol – Mark Williams
  • O sawl pleidlais: 219
  • Nifer yr etholaeth yn Etholiad Cyffredinol 2005: 53,776
  • Y nifer a bleidleisiodd yn Etholiad Cyffredinol 2005: 35,947

Etholiad 2005

Plaid Pleidleisiau Canran o’r bleidlais
Democratiaid Rhyddfrydol 13,130 36.5
Plaid Cymru 12,911 35.9
Y Ceidwadwyr 4,455 12.4
Llafur 4,337 12.1
Y Blaid Werdd 846 2.4
Veritas 268 0.7

Rhaid cael ymchwiliad

Cyhoeddwyd Awst 21, 2009 gan Ifan Dylan. Dim sylw.

Tagiau: Gwleidyddiaeth

Mae’n amhosib gwybod os oedd y penderfyniad i ryddhau al-Megrahi yn un cywir, heb ymchwiliad newydd i fomio Lockerbie, meddai Ifan Dylan …

Mae penderfyniad Llywodraeth yr Alban i ryddhau Abdelbaset Ali Mohmed al-Megrahi wedi achosi cryn ddadlau ar ddwy ochor yr Iwerydd.

Yn 2001 cafwyd y dyn o Libya yn euog o farwolaeth 270 o bobol, ar ôl ffrwydro’r awyren PanAm 103 dros dref Lockerbie yn yr Alban yn 1988.

Mae rhai’n lambastio “naïfrwydd” a “gwendid” Llywodraeth yr Alban, a rhai’n cytuno â’r penderfyniad, ar sail tosturi yn wyneb salwch angheuol al-Megrahi.

Wnaeth croeso buddugoliaethus yn Libya ddim i leihau’r chwerwedd.

Ond nid mater o gosb a thosturi yn unig yw hwn – mae yna amheuon mawr os yw’r dyn yn euog ai peidio, gyda rhai’n dweud bod y dystiolaeth yn ei erbyn yn ddiffygiol.

Mae nifer o bobol sy’n gysylltiedig â’r achos, gan gynnwys teuluoedd rhai o’r bobol a gafodd eu lladd, yn credu fod al-Megrahi yn ddieuog.

Mae al-Megrahi ei hunan wedi dweud erioed ei fod yn ddieuog, a’r unig reswm tros ollwng ei apêl oedd er mwyn creu’r cyfle iddo gael ei ryddhau a symud i Libya.

Ynghlwm a’r sïon yma, mae honiadau fod pwysau wedi ei roi ar al-Megrahi i atal yr apêl, gan y gallai achos llys arall agor crachen y gorffennol.

Mae rhai’n honni fod gan Brydain fwy o ddiddordeb yng nghyfoeth olew Libya, nac yng nghyfiawnder trychineb Lockerbie. Dim ond bwch dihangol oedd al-Megrahi, meddai nhw.

Dim ond ryw dri mis sydd gan al-Megrahi i fyw, yn ôl doctoriaid. Ond hyd yn oed pan mae o yn ei fedd bydd yr ansicrwydd yn parhau i deuluoedd y rhai fu farw ar PanAm 103.

Wrth i honiadau tebyg rygnu ymlaen, a chan na fydd yna apêl a fydd yn edrych eto ar achos y trychineb, anniddigwch a drwgdybiaeth yn unig fydd yn weddill.

Yr unig fodd o osgoi hynny fyddai ymchwiliad cyhoeddus i brofi gwir amgylchiadau’r trychineb.

Dim ond wedyn y gallwn ni ystyried mewn difri os oedd y penderfyniad i ryddhau al-Megrahi yn un cywir ai peidio.

Dylai’r Urdd gynnig symbol sobr

Cyhoeddwyd Gorffennaf 20, 2009 gan Ifan Dylan. Dim sylw.

Tagiau: Yr Urdd

Mae’n bron i fis bellach ers i Golwg 360 ddatgelu y bydd alcohol yn cael ei werthu ar faes Eisteddfod yr Urdd y flwyddyn nesaf. Ond mae’r ddadl yn parhau, gyda rhai yn condemnio’r penderfyniad, a’r Urdd yn ei amddiffyn. Un o ohebwyr Golwg360, Ifan Dylan, sy’n edrych ar ddadl sy’n debyg o ddwysáu dros y misoedd nesaf…

Yn ôl cadeirydd Cyngor Bwrdd Eisteddfod yr Urdd, Tudur Dylan Jones, fe fydd rheolau “llym” yn cael eu gosod i sicrhau fod pobol ifanc yn gallu profi eu bod dros oed yfed, os ydynt yn ceisio prynu alcohol ar y maes.

Daeth ei sylw ar ôl i’r Cyngor benderfynu newid polisi’r ŵyl a chaniatáu i alcohol gael ei werthu ar faes yr Eisteddfod.

Mae’r penderfyniad wedi cythruddo llawer, gyda prif weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, Wynford Ellis Owen, ar flaen y gad yn gwrthwynebu’r penderfyniad.

Dadl Wynford Ellis Owen yw bod y penderfyniad yn ddechrau ar ryw fath o lwybr llithrig yn yr ŵyl, mewn gwlad sydd â thrafferthion enbyd gyda cham-drin alcohol. Mae’r ddadl yma yn un y mae’r Cyngor yn ei gwadu – neu yn ei hanwybyddu.

Yn wir, mae’n ymddangos fod y Cyngor yn credu taw cam bach eithaf diniwed yw’r penderfyniad.

Cynnig “glasied bach” i bobol gyda’u bwyd yw’r unig beth sy’n mynd i newid, yn ôl y Cyngor – ac roedd alcohol ar werth yng Nghanolfan y Mileniwm yn ystod yr ŵyl eleni ta beth. Ond, er hyn, nid diniwed mo’r penderfyniad, ac mae’r Cyngor wedi gwneud camgymeriad.

Mae’r ddadl y byddai rhai oedolion yn hoffi diod bach diniwed gyda’u cinio ar ôl bore caled o eisteddfota yn amherthnasol, ac yn colli pwynt Wynford Ellis Owen.

Beth sy’n rhaid cofio yw nad eisteddfod i’r ‘oedolion’ yw hi, ond eisteddfod i ieuenctid Cymru – ieuenctid o dan 18 oed gan fwya’ – sydd yn cael eu dylanwadu gan oedolion a’r sefyllfa o’u hamgylch.

Symboliaeth yw’r gair pwysig efallai; gyda’r trafferthion cymdeithasol sydd yn deillio o gam-drin alcohol mor amlwg yn ein cymunedau, ein carchardai a’n hysbytai, mae’r angen am sefydliad sy’n symbol o egwyddor gadarn ac sy’n dangos esiampl yn bwysicach nawr nag erioed.

Fyddai hi ddim yn well petai sefydliad sy’n rhan o fagwraeth cymaint o ieuenctid yn aros yn sobr?