Cynyddu maint testun

Golwg360

Proffwydoliaethau ar gyfer 2012

Cyhoeddwyd Ionawr 2, 2012 gan Cymru. Dim sylw.



Dydd calan yw hi heddiw, Rwy’n dyfod ar eich traws, I ofyn am y geiniog, Neu grwst, a bara a chaws…

Wel mae Dydd Calan wedi bod, a does neb yn debygol o fod yn barod i gynnig ceiniog i ryw rigymwr diarth ar stepen drws yn yr hinsawdd economaidd yma. Ond dyma gynnig ambell broffwydoliaeth ar gyfer 2012…

Cyn gwneud hynny beth am edrych yn ôl ar fy mhroffwydoliaethau ar gyfer 2011?

Diwedd ar yr eira – Bydd yr eira mawr yn dychwelyd dros y ddeufis nesaf, gan achosi problemau mawr i gynghorau sydd eisoes yn brin o raean. Serch hynny, dyma’r olaf o’r eira fyddwn ni yn ei weld eleni. Bydd y gwleidyddion a’r awdurdodau lleol yn paratoi am aeaf mawr eto cyn diwedd y flwyddyn, ac yn prynu dwywaith cymaint o raean… ond ni fydd pluen eira yn disgyn.”

Cywir. Er i’r cynghorau bentyrru mae o raean nag erioed o’r blaen, mae’r eira wedi cadw draw eleni. Roedd diwedd gaeaf 2010/2011 a dechrau gaeaf 2011/2012 yn llawer cynhesach na’r cyfartaledd.

“Cymru yn dweud ‘Ie’ – Er gwaethaf rhybuddion Comisiwn Cymru Gyfan nad yw buddugoliaeth yn sicr, a phryderon Peter Hain, fe fydd Cymru yn pleidleisio o blaid mwy o bwerau datganoli ar y 3ydd o Fawrth, a hynny o fwyafrif iach.”

Cywir. Dim ond un sir yng Nghymru bleidleisiodd yn erbyn rhagor o bwerau.

Prydain yn dweud ‘na’ – i’r bleidlais amgen – Bydd yr ymgyrch o blaid newid i’r system gyntaf heibio’r postyn i’r system bleidlais amgen yn methu ag argyhoeddi pobol Prydain bod angen y newid. Bydd y bleidlais ‘Ie’ yn cario’r dydd yng Nghymru a’r Alban, sydd wedi arfer gyda sustemau pleidleisio cyfrannol, ond yn methu o drwch blewyn yn Lloegr. Bydd hyn yn arwain at hollt mawr o fewn y Democratiaid Rhyddfrydol.”

Cywir, ond roedd hi’n chwalfa yn hytrach nag o drwch blewyn. Wnaeth y bleidlais amgen ddim hyd yn oed gael sl bendith pobol Cymru a’r Alban.

“Etholiad da i Lafur – Bydd y Blaid Lafur yn ail-ennill rywfaint o’i chefnogaeth ar draws Cymru, ac yn cipio dwy neu dair sedd ychwanegol. Bydd y Ceidwadwyr yn ennill rhywfaint o dir oddi ar y Democratiaid Rhyddfrydol. Bydd Plaid Cymru yn gwrthod ceisio atgyfodi’r glymblaid enfys, yn sgil pryderon ynglŷn â phoblogrwydd Llywodraeth San Steffan. Fe fyddwn nhw’n aros mewn clymblaid gyda’r Blaid Lafur, ac yn cynhyrchu dogfen i olynu Cymru’n Un. Bydd Ron Davies yn awgrymu’r enw ‘Cymru Ymlaen’.”

Cywir am yr etholiad, anghywir am glymblaid arall yn y Cynulliad. Ond fe alla’i ddigwydd ryw ben o hyd…

Rhyfel yn Korea – Bydd De a Gogledd Korea yn mynd i ryfel, ar ôl i China awgrymu na fyddai’n ymyrryd. Bydd yr Unol Daleithiau yn penderfynu anfon milwyr ond Prydain a gwledydd eraill yn gwrthod. Yn wahanol i ryfeloedd Irac af Afghanistan fe fydd hon yn rhyfel byr, ond hynod o dreisgar. Bydd cannoedd o filoedd wedi marw ar ddiwedd tri mis ffyrnig o frwydro, y rhan fwyaf yn ddinasyddion wedi eu gorfodi i’r frwydr gan fyddin Gogledd Korea. Serch hynny, De Korea fydd yn ennill y dydd ac erbyn diwedd y flwyddyn bydd y gwledydd yn un unwaith eto.”

Anghywir. Doedd yna ddim rhyfel rhwng y ddwy Gorea. Ond roedd ddigwyddiad arall mawr yn haes y ddwy wlad, sef marwolaeth yr arweinydd meudwyaidd Kim Jong-Il.

“Ed Miliband yn priodi – Bydd Ed Miliband yn gweld y lles y bydd priodas William a Kate yn ei wneud i ddelwedd y Teulu Brenhinol ac yn penderfynu gofyn i’w bartner, Justine Thornton, ei briodi. Ond ni fydd yn gofyn i’w frawd, David Miliband, fod yn was priodas, ac fe fydd y wasg yn gwneud mor a mynydd o hynny.”

Cywir, ond mae’r drwg deimlad rhyngddo ef a’i frawd yn parhau i ffrwtian.

Cyfnod anodd i’r Glymblaid – Bydd y Glymblaid yn San Steffan yn mynd trwy ei chyfnod anoddaf yn 2011. Bydd y toriadau’n brathu o ddifri ond ni fydd yr economi yn tyfu’n ddigon cyflym eto i argyhoeddi pobol bod y Llywodraeth wedi gwneud y penderfyniad cywir drwy dorri’n ôl mor fuan. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol mewn trafferth, yn amhoblogaidd yn y wlad ac wedi colli’r refferendwm ar y bleidlais amgen. Bydd ambell i aelod blaenllaw o’r blaid, Simon Hughes efallai, yn herio Nick Clegg yn agored. Serch hynny, daw haul ar fryn erbyn diwedd y flwyddyn wrth i’r hinsawdd economaidd ddechrau gwella a bydd Clegg yn cael clod am ddal y cyfan at ei gilydd.”

Cywir, ond ni ddaeth haul ar fryn i’r economi erbyn diwedd y flwyddyn. A dweud y gwir mae pethau’n edrych yn dduach os rywbeth.

Palin ar y blaen - Fe fydd Sarah Palin a Mitt Romney yn datgan eu bod nhw’n barod i herio Barack Obama yn yr etholiad yn 2012. Serch hynny bydd yr Arlywydd yn dechrau gwneud mwy o argraff ar bobol yr Unol Daleithiau wrth i’r trafferthion economaidd leddfu chwaneg. Erbyn diwedd y flwyddyn bydd Sarah Palin yn ffefryn i sicrhau enwebiad y Gweriniaethwyr ond polau piniwn cenedlaethol yn awgrymu na fydd hi’n maeddu Obama yn 2012.”

Anghywir. Does dim son am Palin erbyn hyn, yn bennaf o ganlyniad i’w hymateb i saethu Gabrielle Giffords ddechrau’r flwyddyn. Dyw hi ddim hyd yn oed yn y ras ar hyn o bryd – Mitt Romney yw’r ceffyl blaen.

Proffwydoliaethau 2012

Menyw yn arweinydd Plaid Cymru

Bydd arweinydd newydd Plaid Cymru wedi ei ddewis erbyn Cynhadledd Wanwyn y blaid ym mis Mawrth 2012. Pe bawn i’n gorfod betio fy nhŷ fe fyddwn i’n dweud mai Elin Jones fydd yn fuddugol, a Leanne Wood yn yr ail safle. Ond fe allai fod fel arall…

Barack Obama yn ennill etholiad Arlywyddol 2012

Ar ôl ennill Iowa a New Hampshire dros y dyddiau nesaf fe fydd Mitt Romney yn ennill enwebiad y Blaid Weriniaethol yn weddol rwydd. Ond unwaith y bydd yn cael ei enwebu fe fydd yr ymosodiadau yn dechrau arno o ddifrif. Fe fydd y ffaith ei fod yn ddyn busnes cyfoethog yn mynd yn ei erbyn, ac adferiad araf economi’r Unol Daleithiau yn ddigon i achub Obama. Mae Barack Obama hefyd ar ei orau pan mae’n cael rhwydd hynt i areithio o flaen miloedd o bobol, felly fe fydd yn ei elfen.

Dirwasgiad economaidd

Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd a pharth r ewro bellach wedi dangos nad oes ganddyn nhw’r gallu i atal yr argyfwng economaidd, ond hefyd nad ydyn nhw’n barod i ganiatáu i’r ewro chwalu. Bydd y Blaid Sosialaidd yn cipio grym yn Ffrainc gan ddrysu’r broses ymhellach. Canlyniad y petruster fydd dirwasgiad bas ond hir yn Ewrop fydd hefyd yn effeithio ar Ynysoedd Prydain. Fe fydd toriadau llywodraeth San Steffan hefyd yn brathu o ddifri yng Nghymru, lle mae swyddi yn y sector breifat yn brin. Bydd Ewrop yn gorffen 2012 mewn gwaeth siâp yn economaidd, ond yn weddol obeithio fod y gwaethaf drosodd a bod cyfle i ail-adeiladu yn 2013 a 2014.

Gweinyddiaeth Libya yn chwalu

Bydd y protestwyr yn drech na’r Arlywydd Bashar al-Assad, ac fe fydd ei weinyddiaeth yn chwalu yn y pen draw. Ond fe fydd yn gweld i ba gyfeiriad mae’r gwynt yn chwythu ymhell cyn Muammar Gaddafi ac yn ffoi o i fyw yn Iran.

Terfysg yn Rwsia a China

Fe fydd trafferthion economaidd yn China ac anniddigrwydd gwleidyddol yn Rwsia yn arwain at brotestiadau a therfysg mawr yn y gwledydd rheini. Ni fydd y protestiadau yn ddigon i newid y drefn ond fe fydd y llywodraethau yn llacio rhywfaint ar eu rheolaeth lem dros y bobol.

Fe fyddwn ni’n mwynhau’r Gemau Olympaidd

Er gwaetha’r drwg deimlad am yr holl arian cyhoeddus yn cael ei wario yn Llundain, fe fydd pawb yn mynd i ysbryd y Gemau Olympaidd yn y pen draw. Bydd lleoliad yr ŵyl yn cael ei anghofio ar ôl y seremoni agoriadol a phawb yn mwynhau’r chwaraeon. Ond bydd Team GB yn colli yn y rownd gyntaf a’r FA yn anghofio am y syniad am 100 mlynedd arall.

Byd Chwaraeon

Bydd Wrecsam yn ennill dyrchafiad, Abertawe yn aros yn Uwch-gynghrair Lloegr ond Caerdydd yn methu ag ymuno â nhw ar ôl colli 2-1 yn Wembley ar ddiwrnod olaf y tymor. Bydd Cymru yn y pedwerydd safle yn y Chwe Gwlad ar ôl ymgyrch siomedig a cholli yn erbyn Lloegr, Ffrainc ac Iwerddon.

Ni fydd y byd yn dod i ben

Mae’n debyg fod gwareiddiad y Maya wedi darogan y bydd y byd yn dod i ben yn 2012. Ni fydd hyn yn digwydd. Dw i’n weddol sicr o hyn… efallai… gobeithio…

10 Uchaf: Straeon Poblogaidd 2011

Cyhoeddwyd Rhagfyr 26, 2011 gan Cymru. Dim sylw.

Tagiau: Golwg 360


Mae wedi bod yn flwyddyn brysur arall i Golwg 360! Dyma’r straeon fwyaf poblogaidd ar y wefan eleni…

Rhif 10: Cofio Huw Ceredig

Un o hoelion wyth unigryw teledu Cymraeg

Rhif 9: Dileu grant cylchgrawn Cymraeg – ‘cywilyddus’

Cyngor Llyfrau dan y lach am beidio â rhoi £6,000 i Tu Chwith

Rhif 8: Dim Canu Saesneg ar S4C

Cwyno am Rhydian yn canu yn Saesneg ar y sianel

Rhif 7: William a Kate am fyw yng nghastell Caernarfon (stori ffŵl Ebrill)

‘Buddsoddi £15m er mwyn adfer rhan helaeth o aden ogleddol y castell’

Rhif 6: Question Time yn corddi’r Cymry

Vaughan Roderick yn cyhuddo’r BBC o anwybyddu Cymru

Rhif 5: Wedi 7 wedi mynd

Wedi 7 yn ymuno gyda’i chwaer raglen Wedi 3 yn y dystbin darlledu

Rhif 4: ‘Casineb’ a ‘chwerwder’ gwrth-Gymraeg yn y Daily Mail

Papur newydd Prydeinig wedi cyhoeddi adolygiad sy’n cyfeirio at yr iaith Gymraeg fel “monkey language”

Rhif 3: Kate a gwraig y cigydd

Awdur cofiant yn egluro’i resymau dros gredu fod Brenhines Ein Llên yn ddeurywiol

Rhif 2: Blog Byw: Canlyniadau Refferendwm 2011

Dechrau cyfri pleidleisiau ar ragor o ddatganoli i Lywodraeth y Cynulliad

Rhif 1: Blog Byw: Etholiadau’r Cynulliad 2011

Yr holl sïon, newyddion a chanlyniadau o’r cyfri’

10 Uchaf: Blogiau Amatur Cymraeg 2011

Cyhoeddwyd Rhagfyr 21, 2011 gan Cymru. 9 Sylw.


Mae’n bryd unwaith eto i wahanu’r gwael a’r gwych a phenderfynu ar flogiau gorau’r flwyddyn. Daw’r rhestr flynyddol ychydig yn hwyrach eleni – wedi’r cwbl, dyw hi ddim yn gwneud ryw lawer o synnwyr dewis blogiau gorau’r flwyddyn cyn i’r flwyddyn ddod i ben. Er diddordeb, dyma restrau deg uchaf blogiau 2010 a 2009, a gyhoeddwyd ym misoedd Tachwedd y blynyddoedd rheini.

Un peth sydd wedi fy nharo i wrth gael pip drwy’r blogiau eleni yw bod mwy o barodrwydd i ddefnyddio cyfryngau tu hwnt i’r cofnod ysgrifenedig traddodiadol. Mae sawl un yn arbrofi â chofnodion fideo, podlediadau, delweddau a mapiau o bob math. Efallai bod defnydd cynyddol Twitter a Facebook wedi gwneud y defnyddiwr cyffredin yn fwy hyderus wrth ddefnyddio’r cyfryngau eraill yma. Efallai bod y cofnod ysgrifenedig traddodiadol wedi mynd braidd yn hen-ffasiwn.

Mae ambell un o flogiau gorau’r llynedd wedi ein gadael ni, neu o leiaf wedi cau i lawr dros dro, gan gynnwys Blog Guto Dafydd oedd yn drydydd yn 2010. Y gobaith yw y bydd y ‘nêm and shem’ yma yn ryw fath o gic i fyny’r pen-ôl. Rydw i hefyd wedi fy ngwahardd rhag cynnwys Morfablog ar y rhestr.

Dyw fy mlog i fawr gwell ond rydw i wedi bod yn ceisio gwneud rhywfaint mwy o ymdrech i flogio dros y misoedd diwethaf. Gellir darllen fy mlog personol i fan hyn. [/plyg]

Yn olaf, mae yna restr llawn o flogiau Cymraeg ‘byw’ yma, ac mae’n bosib fy mod i wedi methu rhai perlau yn gyfan gwbwl. Croeso i chi adael sylw isod er mwyn fy hysbysu i ac eraill amdanyn nhw.

Rhif 10: Fideo Bob Dydd

Y syniad ydi eu bod nhw’n cyhoeddi un fideo gwerth chweil yn Gymraeg bob dydd, o ‘gaeau breision y Tiwbs’. Serch hynny mae’r blog yma yn colli rhai pwyntiau am nad oes yna cweit Fideo Bob Dydd erbyn hyn. Fideo Bob yn Ail Ddydd, neu hyd yn oed Ambell Fideo Bob Wythnos, efallai. ‘Hyd yn oed ar ddiwrnod Dolig’ meddai’r disgrifiad – cawn weld! Ond mae sawl perl i’w fwynhau wrth sglefrio drwy’r cofnodion fan hyn, yn enwedig sgetshys Dim Byd.

Rhif 9: Pugnacious Little Trolls

Blog arall sydd wedi troi cefn ar gofnodion ysgrifenedig, gan ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar gyfrwng y fideo ar-lein. Yn anffodus, yn achos y blog yma, dydw i ddim yn siŵr a ydi hyn yn gam i’r cyfeiriad cywir ai peidio. Cryfder pennaf blog Chris Cope y llynedd oedd ei fod yn ysgrifennwr andros o dda, hyd yn oed pan oedd y cynnwys braidd yn hunandosturiol. Mae cyfrwng yr araith ‘yn syth at y camera’ yn tueddu i fod braidd yn grwydrol ac araf o’i gymharu â’i ryddiaith fywiog. Mae ei flog Saesneg, ysgrifenedig, yn llawer gwell (pan nad yw’n trafod Strictly Come Dancing, ond chwaeth bersonol yw hynny amwn i) – wele’r cofnod yma er engraifft .

Rhif 8: Hacio’r Iaith

Mewn sawl ffordd mae’r blog yma wedi llenwi’r bwlch sydd wedi ei adael gan Metastwnsh. Mae’n bodoli bron iawn fel ryw fath o wasanaeth newyddion i’r rheini sydd â diddordeb mewn technoleg cyfathrebu a’r iaith Gymraeg. Fel Metastwnsh, mae’r ffaith fod sawl cyfrannwr yn sicrhau ei fod yn ddigon bywiog a bod yna drafodaeth helaeth ar sawl pwnc. Anaml iawn mae’r blogiad gwreiddiol yn dadansoddi’r newyddion yn drylwyr ond fel arfer ceir trafodaeth ddiddorol ‘o dan y llinell’.

Rhif 7: Y Twll

Y llynedd fe ddywedais i fod “y Twll i gelfyddydau beth oedd yr hen Metastwnsh i dechnoleg”. Does gen i ddim ryw lawer i’w ychwanegu at hynny. Pigion newyddion a fideos cerddorol a geir fan hyn yn bennaf ond mae’n denu cynulleidfa a nifer o sylwadau ar bob cofnod. Mae yna ambell i adolygiad a chofnod hirach gan gyfranwyr gwadd sy’n ychwanegu rhywfaint o amrywiaeth ac yn sicrhau fod y blog yn cael ei ddiweddaru’n aml.

Rhif 6: Quixotic Quisling

Efallai fod cynnwys blog ddwyieithog yn gosod cynsail peryglus ond mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys wedi bod yn Gymraeg yn ddiweddar (heblaw am y cofnod diweddaraf, yr eithriad sy’n profi’r rheol efallai). Dyma flog personol Carl Morris, sydd hefyd yn rhannol os nad yn bennaf gyfrifol am Y Twll a Hacio’r Iaith, a’r un pynciau sydd dan sylw fan hyn, sef technoleg a cherddoriaeth. Mae ganddo farn ddiddorol ar fater e-lyfrau a sawl pwnc arall a fydd yn siwr o effeithio ar berthynas y iaith a thechnolegau cyfathrebu dros y blynyddoedd nesaf.

Rhif 5: Hen Rech Flin

Mae wedi bod yn flwyddyn ddiddorol i’r Hen Rech Flin, a gafodd ei hun yn arweinydd swyddogol yr ymgyrch ‘Na’ yn ystod y refferendwm ym mis Mawrth. Mae’n debyg nad oedd unrhyw un arall eisiau’r swydd, ac fe bleidleisiodd yr Hen Rech o blaid yn y pendraw wedi’r cwbl. Efallai mai dyma un o’r esiamplau prin o flogiwr Cymraeg yn denu sylw’r cyfryngau prif-lif. Er gwaetha’r cynnwrf hwnnw, mae’r blog ei hun yn union fel y bu erioed. Fel pob blog gwleidyddol arall roedd dechrau’r flwyddyn yn dipyn o oes aur ond mae wedi tawelu rywfaint nawr fod hwyl yr etholiadau a’r refferenda ar ben. Y feirniadaeth oesol yw ei fod yn blogio’n amlach ac mewn mwy o ddyfnder ar ei flog Saesneg, Miserable Old Fart.

Rhif 4: Paned a Chacen

Dyma flog lliwgar – ac amserol o ystyried ei bod hi bron yn Nadolig – sy’n gwneud defnydd da o luniau, yn ogystal ag ysgrifen, er mwyn llonni’r llygad. Mae’n chwa o awyr iach gweld rhywun yn cynnal blog Cymraeg sydd ddim yn wleidyddol, technolegol neu gerddorol ei naws. Yr unig anfantais ydi bod y cacennau yn edrych ychydig yn rhy flasus, ac mae pori drwy’r blog yn gallu bod braidd yn arteithiol weithiau am nad oes modd blasu’r cynnyrch cartref. “Does ‘na ddim byd gwell na phaned a chacen – ffaith!” medd yr awdur, a does yna ddim llawer o flogiau yn y rhithfro sy’n well na hwn, chwaith.

Rhif 3: Blog Rhys Llwyd

Ar ôl cyfnod digon tawel y llynedd mae Blog Rhys Llwyd wedi bod dipyn yn fwy bywiog dros y misoedd diwethaf. Un o gryfderau’r blog yw bod yr awdur yn dipyn o arbenigwr ar sawl cyfrwng gwahanol – yn ogystal ag ysgrifau ar bynciau amrywiol, o’r dydd i ddydd i’r academaidd a’r diwinyddol, ceir fideos, ffotograffau, a gwaith dylunio. Dros yr ychydig wythnosau ddiweddaf yn unig mae wedi a) Cyhoeddi ei PhD cyfan dan drwydded Creative Commons, a b) cyhoeddi’r fideo gwych yma am frwydr ffermwr yn erbyn adeiladu gorsaf niwclear Wylfa B. Os yw’n parhau i gynnal y safon gallai gyrraedd y brig y flwyddyn nesaf.

Rhif 2: Anffyddiaeth

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o flogiau, sy’n myfyrio’r ysbeidiol ar sawl pwnc, mae’r blog yma’n trafod un mater yn benodol, sef bodolaeth Duw, neu yn hytrach diffyg bodolaeth Duw. Er nad yw’r pwnc at ddant pawb mae Dylan yn ysgrifennu mewn modd deniadol a deallus, gan ymosod ar ei dargedau ag awch. Mae’r blog hefyd yn esgor ar drafodaeth ddiddorol â Christnogion sydd, er nad ydyn nhw’n cydweld ag ef, yn amlwg yn parchu ei ymdrechion i ymdrin â’r pwnc mewn modd trwyadl a rhesymegol. Mae’n haeddu cynulleidfa y tu hwnt i anffyddwyr eraill.

Rhif 1: Blogmenai

Efallai ei bod hi’n anochel fod y blog arbennig hwn wedi cyrraedd y brig am yr ail flwyddyn yn olynol. Mewn blwyddyn oedd yn cynnwys dau refferendwm ac etholiad roedd ddigon o gig gwleidyddol yn 2011 i’r awdur gnoi arno. Er bod pethau, yn anochel braidd, wedi tawelu rhywfaint erbyn diwedd y flwyddyn mae’r awdur wedi parhau i gynnig sylwebaeth ddadlennol, chraff  a doniol ar bynciau gwleidyddol pwysicaf y dydd. Mae’r blog yn amlwg yn hynod boblogaidd, hefyd.

Os nad oes yna flogiwr arall yn codi ei gêm yn sylweddol mae’n anodd gweld beth allai atal Blogmenai rhag cyrraedd y brig eto’r flwyddyn nesaf. Fe allai’r blog gau i lawr wrth gwrs… ac fe fyddai’r rhithfro yn siŵr o ymateb i’r newyddion yn yr un modd a’r darllenydd yma adeg marw Kim Jong-Il…

Cwpan Rygbi’r Byd – y gemau i’w gwylio

Cyhoeddwyd Awst 30, 2011 gan Cymru. Dim sylw.

Tagiau: Cwpan Rygbi’r Byd


Sam Warburton, Capten Cymru
Bydd yna nifer fawr o gemau yn cael eu chwarae yng nghymal y grwpiau Cwpan Rygbi’r Byd 2011 – rhai yn gystadleuol ac eraill… wel… ddim (Seland Newydd yn erbyn Japan, unrhyw un?).

Gan fod y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn Seland Newydd fe fydd yna hefyd sawl gêm yn cael ei chwarae yn gynnar iawn yn y bore, amser Cymru.

Dyma ganllaw Golwg 360 i be gemau i osod y cloc larwm ar eu cyfer – a pryd i aros yn y cae sgwâr!

Gêm Dyddiad Gêm Gystadleuol? Amser call? Gwerth ei wylio?
Cymru v De Affrica 11 Medi Ydi Ydi – 9.30am Ydi
Seland Newydd v Ffrainc 24 Medi Ydi Ydi – 9.30am Ydi
Lloegr v Yr Alban 1 Hydref Ydi Ydi – 8.30am Ydi
Yr Ariannin v Yr Alban 25 Medi Ydi Ydi – 8.30am Ydi
Ariannin v Lloegr 10 Medi Ydi Ydi – 9.30am Ydi
Cymru v Namibia 26 Medi Na Gweddol – 7.30am Ydi
Cymru v Ffiji 2 Hydref Ydi Gweddol – 6am Ydi
Cymru v Samoa 18 Medi Ydi Na – 4.30am Ydi
Awstralia v Iwerddon 17 Medi Ydi Ydi – 9.30am Ydi
Iwerddon v Yr Eidal 2 Hydref Ydi Ydi – 8.30am Ydi
Seland Newydd v Tonga 9 Medi Na Ydi – 9.30am Falle
De Affrica v Samoa 30 Medi Na Ydi – 8.30am Falle
De Affrica v Ffiji 17 Medi Na Gweddol – 7am Falle
Ffiji v Samoa 25 Medi Ydi Na – 3.30am Falle
Awstralia v Yr Eidal 11 Medi Na Na – 4.30am Falle
Tonga v Japan 21 Medi Ydi Ydi – 8.30am Falle
Yr Alban v Georgia 14 Medi Gweddol Ydi – 8.30am Falle
Tonga v Canada 14 Medi Ydi Gweddol – 6am Falle
Georgia v Romania 28 Medi Ydi Gweddol – 7.30am Falle
Canada v Japan 27 Medi Ydi Na – 5am Falle
Ffrainc v Canada 18 Medi Na Ydi – 9.30am Falle
Yr Eidal v Rwsia 20 Medi Na Ydi – 8.30am Falle
Yr Eidal v Yr Unol Daleithiau 27 Medi Gweddol Gweddol – 7.30am Falle
Rwsia v Yr Unol Daleithiau 15 Medi Ydi Ydi – 9.30am Falle
Lloegr v Georgia 18 Medi Na Gweddol – 7am Falle
Ffrainc v Tonga 1 Hydref Na Gweddol – 6am Falle
Ffrainc v Japan 10 Medi Na Gweddol – 7am Falle
Yr Ariannin v Georgia 2 Hydref Gweddol Na – 1am Falle
Iwerddon v Yr Unol Daleithiau 11 Medi Na Gweddol – 7am Falle
Ffiji v Namibia 10 Medi Gweddol Na – 3.30am Falle
Seland Newydd v Japan 16 Medi Na Ydi – 9am Na
Lloegr v Romania 24 Medi Na Gweddol – 7am Na
Awstralia v Yr Unol Daleithiau 23 Medi Na Ydi – 9.30am Na
Yr Alban v Romania 10 Medi Na Na – 2am Na
Yr Ariannin v Romania 17 Medi Na Na – 4.30am Na
Samoa v Namibia 14 Medi Na Na – 3.30am Na
Iwerddon v Rwsia 25 Medi Na Gweddol – 6am Na
De Affrica v Namibia 22 Medi Na Ydi – 9am Na
Awstralia v Rwsia 1 Hydref Na Na – 3.30am Na
Seland Newydd v Canada 2 Hydref Na Na – 3.30am Na

Cwpan Rygbi’r Byd 2011 – beth fydd yn digwydd?

Cyhoeddwyd Awst 30, 2011 gan Cymru. 1 Sylw.


Ffiji yn cyrraedd Cwpan Rygbi'r Byd
Mae’n dangos cyn lleied sy’n newid ym myd rygbi dros y blynyddoedd fod rhagflas o Gwpan Rygbi’r Byd yr ysgrifennais i ddwy flynedd yn ôl yr un mor berthnasol heddiw.

Ond os ydyn ni’n edrych ar batrwm pob gornest ers ’87, fe allen ni ddisgwyl i’r canlynol ddigwydd dros y misoedd nesaf:

Bydd Cymru yn colli yn erbyn Samoa  a/neu Ffiji – Mae’r ffaith bod y ddau yn yr un grŵp a Chymru yn brawf bod Duw yn hoffi tynnu coes. Collodd Cymru yn erbyn Gorllewin Samoa 13 – 16 yng Nghwpan y Byd 1991, 31-38 yn erbyn Samoa yn ei gyfanrwydd yn 1999, ac yna 38-34 yn erbyn Ffiji yn 2007. Dim ond o drwch blewyn y maeddon ni Tonga yn 2003, hefyd. Ychwanegwch at hynny fod Ffiji a Samoa yn chwarae ar eu tiriogaeth eu hunain, i bob pwrpas, a bod Samoa wedi maeddu Awstralia 32-23 oddi cartref ym mis Gorffennaf, ac mae pethau’n edrych yn ddu yng ngrŵp D.

Yr unig gysur ydi fod gemau Cymru yn erbyn Ffiji a Samoa yn cael eu chwarae am 3.30am a 5am felly mae’n anhebygol y bydd unrhyw un yn effro i’w gweld nhw.

Bydd Ffrainc yn wych un diwrnod ond yn ofnadwy’r nesaf – Pethau digon hawdd eu dyfalu yw gemau Cwpan Rygbi’r Byd fel arfer ond yr un tîm sy’n gwneud pethau’n anoddach eu darogan yw Ffrainc. Maen nhw, yn bron i bob twrnamaint erbyn hyn, wedi cael un fuddugoliaeth hynod ac wedyn un gêm ofnadwy o wael yn syth wedyn (yn erbyn Lloegr gan amlaf).

E.e. Maeddu Awstralia  30 – 24 yn 1987 cyn colli 29 – 9 yn erbyn Seland Newydd. Maeddu Seland Newydd 43 – 31 yn 1999 cyn colli 35 – 12 yn erbyn Awstralia. Maeddu Seland Newydd 20-18 yn 2007 cyn colli 14-9 yn erbyn Lloegr.

Bydd Lloegr yn mynd yn bell er nad ydyn nhw’n dîm cystal â hynny – Mae hanes yn awgrymu fod rygbi ceidwadol, gan gadw’r bêl ymysg y blaenwyr a chicio’r pwyntiau, yn tueddu i fynd a thimoedd ymhell yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Lloegr a De Affrica sy’n tueddu i arbenigo yn y steil hwnnw. Mae gan Loegr grŵp eithaf hawdd eleni ac yn debygol o wynebu Ffrainc yn rownd yr wyth olaf ac Awstralia yn rownd y pedwar olaf, timoedd y maen nhw’n hen lawiau ar eu maeddu yn y bencampwriaeth yma (Ffrainc yn 1991, 2003 a 2007, Awstralia yn 1995, 2003, 2007) felly dyw hi ddim yn annhebygol y byddwn nhw’n cyrraedd y rownd derfynol unwaith eto eleni,

Bydd Seland Newydd yn gwneud cawlach o bethau – Mae’r bencampwriaeth yma wedi ei lunio er mwyn sicrhau fod Seland Newydd yn ennill Cwpan Rygbi’r Byd. Mae bron i bob un o’u gemau yn cael eu chwarae yn Eden Park – stadiwm lle nad ydyn nhw wedi colli yno ers 1994. Ond mae’n anochel y byddwn nhw’n gwneud smonach o bethau eto eleni. Dw i’n eu gweld nhw’n cael eu maeddu gan De Affrica yn rownd y pedwar olaf, neu gan Awstralia yn y ffeinal os ydyn nhw’n mynd heibio i Loegr.

Beth sy’n debygol o ddigwydd:

Enillydd Grŵp C — Awstralia

Ail yn Grŵp D – Samoa ———– Awstralia

Enillydd Grŵp B – Lloegr ——–  Lloegr ——————— Lloegr

Ail yn Grŵp A — Ffrainc

———————————————————————————–De Affrica

Enillydd Grŵp D – De Affrica

Ail yn Grŵp C – Iwerddon ——————- De Affrica ————- De Affrica

Ennillydd Grŵp A –  Seland Newydd —— Seland Newydd

Ail yn Grŵp B – yr Ariannin

Beth licen i ei weld yn digwydd:

Enillydd Grŵp C — Iwerddon

Ail yn Grŵp D – De Affrica  ———Iwerddon

Enillydd Grŵp B – Yr Alban ——–  Seland Newydd ———–Seland Newydd

Ail yn Grŵp A – Seland Newydd

———————————————————————————–Cymru

Enillydd Grŵp D – Cymru

Ail yn Grŵp C – Awstralia ———– Cymru  ————- ———Cymru

Ennillydd Grŵp A –  Ffrainc ———Lloegr

Ail yn Grŵp B – Lloegr

Gyda llaw mae yna gynghrair ffantasi rygbi gan griw o Gymru Cymraeg ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn cael ei gynnal ar ESPN Sports – 1352 yw’r PIN os ydych chi am ymuno.

Oes angen gwasanaeth teledu lleol ar Gymru?

Cyhoeddwyd Awst 17, 2011 gan Ifan Morgan Jones. 1 Sylw.

Tagiau: BBC, S4/C, Western Mail


Yn ei araith o’r Maen Llog yn yr Eisteddfod Genedlaethol, rhybuddiodd yr Archdderwydd T James Jones fod dyfodol y cyfryngau yng Nghymru yn y fantol.

Rydyn ni’n hen gyfarwydd â’r trafferthion sy’n wynebu’r cyfryngau Cymraeg – S4C yn arbennig. Ond mae’r drwg wedi lledu i’r cyfryngau Saesneg hefyd. Fel y datgelodd Golwg 360 yr wythnos diwethaf, mae yna bellach ansicrwydd am ddyfodol y Western Mail. Anghofiwch am bapur dyddiol Cymraeg, os nad ydyn ni hyd yn oed yn gallu cynnal papur dyddiol Saesneg.

Mae gan y cyfryngau Cymraeg a Saesneg yr un broblem, sef fod yr arian hysbysebu oedd yn arfer eu cynnal nhw yn llawer prinnach yn sgil yr argyfwng ariannol. Fel y dywedodd T James Jones, y we yw’r dyfodol ond oherwydd bod pobol yn disgwyl gwasanaeth am ddim dyw e ddim yn hunangynhaliol. Ar yr un pryd, mae’n denu darllenwyr a gwylwyr oddi wrth y wasg brint a’r teledu, sy’n gallu talu ei ffordd.

Yr eironi yw bod y cyfryngau Cymraeg mewn safle cryfach na’r wasg Saesneg yng Nghymru. Does neb yn disgwyl i’r cyfryngau Cymraeg allu talu ei ffordd felly maen nhw’n cael eu cynnal gan arian cyhoeddus.  Dyw’r un ‘rhwyd diogelwch’ ddim yno i’r Western Mail ag eraill. Er gwaetha’r toriadau i S4C does neb yn rhagweld y gallai ddiflannu yn llwyr o fewn dwy flynedd.

Ond wrth chwifio’r fwyell gydag un llaw mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, yn rhoi â’r llaw arall. Mae’n benderfynol o sefydlu sianeli teledu lleol ar draws Prydain, a bydd £40 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn y fenter. Mae 11 ardal ym mhob cwr o Gymru wedi cael cynnig gwneud cais am drwydded, o Gaerdydd yn y de i Fangor yn y gogledd.

Ond rhaid gofyn ai dyma’r ffordd orau i fuddsoddi’r arian. Mae angen gwasanaethau lleol ar bobol, ond nid ar draul gweld y darlun ehangach. Os ydi gwasanaethau sy’n darparu newyddion ar gyfer Cymru gyfan yn mynd i’r gwellt oherwydd diffyg nawdd, pam buddsoddi mewn gwasanaeth sy’n ymdrin â Bangor, neu Aberdaugleddau, yn unig?

Mae yna gwestiynau i’w gofyn hefyd ynglŷn â safon y gwasanaethau teledu lleol yma a faint o bobol fydd yn eu gwylio nhw.

Dim ond arian er mwyn sefydlu’r sianeli rhain fydd y Llywodraeth yn ei gynnig ac wedyn bydd rhaid iddyn nhw eu cynnal eu hunain. Mae hynny’n awgrymu na fydd ansawdd y rhaglenni yn arbennig o uchel, oherwydd y refeniw cyfyngedig fydd yn dod i mewn gan fusnesau lleol (‘mae’r rhaglen yma wedi ei noddi gan siop y gornel Waunfawr’, ayyb…).

Ac ar beth fyddwn nhw’n ei adrodd? Mae teledu yn dibynnu ar y gweledol a’r cyffrous, nid y cyfarfodydd cyngor di-ben draw sy’n llenwi ein papurau lleol.

Mae diffyg newyddion diddorol i adrodd arno yn broblem yng Nghymru. Dyna yn rhannol pam fod cymaint o bobol yn troi at y Sun neu Sky News am eu newyddion, yn hytrach na’r Western Mail (cylchrediad 30,000) neu’r Daily Post (40,000).

Heb newyddion diddorol does neb yn darllen a does dim cymaint o incwm yn dod i mewn i dyfu’r gwasanaethau. Fe fyddai sianelu teledu lleol yn wynebu’r un broblem, ond y ganwaith gwaeth.

Fe allai sianel deledu leol weithio yng Nghaerdydd, neu ddinas fawr arall, lle mae yna lawer o bobol yn byw ar ben ei gilydd, a phobol Rhiwbeina yn pryderu am beth sy’n digwydd ym Mhenarth. Ond dyw beth sy’n digwydd ym Mangor ddim am gadw pobol Caernarfon yn gaeth i’w sgriniau teledu yn hir.

Beth yw pwynt y Teulu Brenhinol?

Cyhoeddwyd Gorffennaf 26, 2011 gan Cymru. 18 Sylw.


William a Kate - yn arafu'r economi

Ifan Morgan Jones sy’n gofyn a ydi’r Teulu Brenhinol o fudd ynteu yn fwrn i Gymru…

Un ddadl sydd wedi ei hyrwyddo gan gefnogwyr y Teulu Brenhinol erioed yw eu bod nhw’n hwb i economi Prydain, am eu bod nhw’n dod a thwristiaid o bob cwr o’r byd i’n hynysoedd ni.

Mae sylwadau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol y bore ma yn gwrth-ddweud hynny i ryw raddau. Mae’n debyg fod y Briodas Frenhinol, ar ben ffactorau eraill gan gynnwys y tsunami yn Japan, wedi tynnu tua 0.5% o dwf economaidd y wlad. A hynny yn ystod cyfnod hollbwysig i dwf economaidd Prydain.

Daw hynny wedi’r holl awgrymiadau cyn y briodas y byddai yn rhoi hwb o tua £2 biliwn i’r economi. O le daeth y ffigwr yna dwn i ddim – swyddfa’r wasg Clarenece House mae’n siŵr.

Ar ben yr ergyd economaidd rhaid ystyried i ba ran o’r wlad y mae unrhyw dwristiaid, ac felly unrhyw fudd economaidd, yn mynd – a’r ateb amlwg yw i Lundain, ble mae’r Teulu Brenhinol yn trigo.

Gellid dadlau mai’r aelod diwethaf o’r Teulu Brenhinol i roi unrhyw fath o hwb i economi Cymru oedd Edward I, a gyflwynodd sawl castell i’r genedl a fyddai o fudd wrth ddenu twristiaid 600 mlynedd yn ddiweddarach.

Beth ddylai Cymru ei wneud am hyn felly? Mewn ffordd mae agwedd llugoer Cymru at y Teulu Brenhinol yn golygu ein bod ni’n cael y gwaethaf o’r ddau fyd.

Dydyn ni ddim yn barod i’w cofleidio nhw a chymryd mantais lawn o’r ffaith mai Tywysog Cymru yw Charles, a bod William a Kate wedi penderfynu ymgartrefu ar Ynys Môn, er mwyn hybu enw da Cymru yn fyd-eang.

Ond mae yna ddigon o bobol yn eu hoffi nhw fel na fyddai yn bosib cael eu gwared nhw.

Ac rydyn ni dal yn gweld eisiau eu cynnwys nhw mewn ambell i seremoni arbennig – e.e. agoriad y Senedd – fel teulu yn tynnu’n hen lestri porslen o’r seld ar achlysur arbennig.

Ond drwy beidio cael eu gwared nhw rhaid i ni barhau i dalu amdanyn nhw, wrth gwrs.

Efallai mai’r agwedd gorau fyddai i’w trin nhw fel unrhyw adnodd naturiol arall – eu hyrwyddo nhw am eu bod nhw’n denu twristiaid, ond peidio â dangos unrhyw ddiddordeb ynddyn nhw ein hunain.

Mae’r agwedd yna wedi bod o fudd i bobol Caernarfon erioed. Dyw’r rhan fwyaf o’r boblogaeth erioed wedi bod y tu hwnt i borth eu castell byd-enwog, ond dyna’r unig reswm y byddai unrhyw dwristiaid yn dewis mynd yno.

Dwy ochr i’r un geiniog

Cyhoeddwyd Gorffennaf 25, 2011 gan Ifan Morgan Jones. Dim sylw.

Tagiau: norwy


Anders Breivik
Mae’r byd yn parhau i geisio gwneud synnwyr o’r ymosodiad laddodd 93 o bobol yn Norwy ddydd Gwener. Er gwaetha’r ‘maniffesto’ maith sydd wedi ei gyhoeddi ar-lein gan y dyn sydd wedi cyfaddef i’r llofruddiaethau, yr un ateb sydd ag erioed… dyn sydd ychydig yn wallgo, braidd yn unig, sydd wedi treulio gormod o amser yn stiwio yn ei gasineb ei hun.

Ymateb cyntaf y cyfryngau oedd mai terfysgwyr Mwslimaidd eithafol oedd ar fai am yr ymosodiad. Rhaid cyfaddef mai dyna oedd fy ymateb i hefyd. Dw i ddim yn credu fod hynny’n dangos ryw fath o gwrth-fwslemiaeth sefydliadol o fewn y cyfryngau, dim ond y ffaith mai terfysgwyr Mwslimaidd eithafol sydd wedi bod yn gyfrifol am y rhan fwyaf o ymosodiad o’r fath ers bron i 10 mlynedd.

Doedd y wyneb blond, golygus ddaeth i’r amlwg ychydig oriau yn ddiweddarach ddim yn ffitio’r naratif hwnnw. Roedd rhaid mynd yn ôl ymhellach, i’r tro diwethaf yr oedd y ‘gelyn’ yn bobol dal, blond, â llygaid glas.

Yn anffodus wrth weld yr ymateb i’r hyn ddigwyddodd mai’n amlwg fod yr un parodrwydd yno i gydymdeimlo â dibenion yr asgell-dde eithafol heddiw ag oedd yn nydd y Nazis gwreiddiol. Mae’r cyfryngau prif-lif wedi bod yn ofalus iawn i gondemnio’r ymosodiadau yn llwyr, ond wrth ddarllen rhai o’r sylwadau ar-lein daw i’r amlwg fod rhai yn credu bod gan Anders Breivik ryw fath o bwynt.

Ond y gwir ydi bod Anders Breivik a’r Mwslemiaid eithafol y mae yn credu sy’n meddiannu Ewrop yn ddwy ochor i’r un geiniog. Mae ganddyn nhw’r un credoau, bron a bod – casineb at ferched, hoywon, cred fod angen gorfodi eu diwylliant nhw ar bawb arall. Yr unig wahaniaeth yw’r esgus y tu ôl i’w gweithredoedd – ‘Cristnogaeth’ adain-dde eithafol yn un achos, ‘Mwslimiaeth’ adain-dde eithafol yn yr achos arall.

Piti mai’r mwyafrif cymedrol sy’n cael eu dal yn y canol.

Harry Potter, eLyfrau a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd Mehefin 23, 2011 gan Ifan Morgan Jones. 2 Sylw.

Tagiau: eLyfrau, Kindle


Ifan Morgan Jones sy’n ystyried beth fydd effaith eLyfrau ar gyhoeddwyr Cymraeg…

Heddiw cyhoeddodd JK Rowling, awdur llyfrau Harry Potter, ei bod hi’n mynd i ddechrau gwerthu ei nofelau ar ffurf eLyfrau. I’r rhieni sydd yn anghyfarwydd â’r dechnoleg newydd yma, mae eLyfrau yn llyfrau y mae modd eu lawrlwytho i ddyfais darllen, e.e. y Kindle, a’u darllen yn union fel y byddech chi’n darllen llyfr cyffredin.

Mantais fawr yr eLyfr dros y llyfr cyffredin ydi ei fod yn haws cael gafael arnyn nhw (mae yna filiynau ar gael i’w lawrlwytho dros y we), ac yn rhatach (sdim angen talu am yr holl bapur ‘na), a does dim angen silff i’w dal nhw – mae’r Kindle yn dal mwy o lyfrau nac y gellir disgwyl eu darllen mewn oes.

Efallai y bydd y Ludiaid yn ein plith yn dadlau na fydd y dyfeisiau darllen fyth yn disodli’r llyfr papur – ac roeddwn i yn eu plith nhw nes i fi gael fy Kindle fy hun yn anrheg Nadolig. Maen nhw’n hawdd iawn i’w defnyddio ac ar ôl 15 munud doeddwn i ddim hyd yn oed yn sylwi fy mod i’n gwasgu botwm yn hytrach na throi tudalen.

Ta waeth am hynny, beth sy’n gwneud cyhoeddiad JK Rowling yn arwyddocaol yw ei bod hi’n bwriadu gwerthu’n syth o’r awdur i’w darllenwyr – heb fynd drwy’r cyhoeddwyr yn gyntaf. Nid hi yw’r cyntaf, ond hi yn sicr yw’r awdur mwyaf poblogaidd ym myd llyfrau i gymryd y cam yma. Mae’n newid anferth i’r byd llyfrau ac fe fydd ganddo effeithiau pellgyrhaeddol – i fyd llyfrau Cymraeg hefyd.

Mae ambell gyhoeddwr, er enghraifft Y Lolfa, eisoes yn gwerthu eLyfrau am bris gostyngedig ond gellir dychmygu y bydd rhai awduron Cymraeg yn dilyn esiampl yr awduron Saesneg cyn bo hir ac yn dechrau gwerthu llyfrau yn uniongyrchol i’w darllenwyr. Mae yna sawl mantais i’r awdur, wedi’r cyfan. Mae’n cael pocedu mwy o’r arian am y gwerthiant, ac mae’n debygol o werthu rhagor o gopïau am eu bod nhw’n rhatach. Hefyd does dim rhaid iddo ddibynnu ar hanner dwsin o siopau llyfrau Cymraeg i werthu’r cynnyrch – mae’r cyfan ar gael i bawb ar y we.

Ar bapur fe allai’r fath ddatblygiad arwain at gynnydd mawr yn nifer y llyfrau sy’n cael eu cyhoeddi drwy gyfrwng y Gymraeg. Dywed yr academydd David Crystal mai’r we yw’r cyfrwng delfrydol i ieithoedd lleiafrifol am nad yw’n costio unrhyw beth i gyhoeddi – ac mae’r un peth yn wir am gyhoeddi eLyfrau.

Cefnu ar y cyhoeddwyr?

Ond mae yna anfanteision hefyd. Yn gyntaf, mae ysgrifennu drwy’r Gymraeg yn dibynnu i raddau helaeth ar grantiau sy’n cael eu dyrannu gan y  cyhoeddwyd gwahanol. Nid yn unig y maen nhw’n talu am y gost o gyhoeddi llyfr, ond maen nhw hefyd yn talu awduron i dreulio amser i ysgrifennu’r llyfr yn y lle cyntaf.  Y grantiau yma, yn aml, yw’r elw pennaf y mae awdur yn ei wneud o ysgrifennu nofel yn Gymraeg – digon pitw yw’r breindaliadau mewn gwirionedd. Heb ryw fath o wobr ariannol gan y cyhoeddwyr a fyddai cymaint o awduron yn fodlon ysgrifennu?

Hefyd, drwy gefnu ar y cyhoeddwyr, mae’r awdur yn colli gwasanaeth y golygydd. Mae angen golygydd da ar bob awdur llwyddiannus. Y golygydd yw bydwraig y broses o ysgrifennu llyfr. Mae’r awdur yn gwneud yr holl waith llafurus o greu’r nofel, ond y golygydd sy’n gwybod sut i’w gael yn barod ar gyfer y byd mawr y tu allan. Mae’n anodd iawn i rywun sydd wedi treulio misoedd yn ysgrifennu llyfr i’w ystyried mewn modd gwrthrychol. Mae angen pâr ffres o lygaid i weld y gwendidau a beth sydd angen ei newid. A’r holl gamgymeriadau, wrth gwrs.

Mae’r cyhoeddwr hefyd yn rheoli ansawdd llyfrau. Dydyn nhw ddim yn mynd i ryddhau unrhyw hen sothach, ac mae unrhyw un sy’n prynu llyfr yn mynd i wybod ei fod wedi ei olygu ac o safon digon da i’r wasg fynd i’r drafferth i’w gyhoeddi. Heb y ‘rheoli ansawdd’ yma fe allai unrhyw hen rwtsh gael ei gyhoeddi ar y we, y gwenith yn gymysg â’r us, ac fe fyddai darllenwyr yn llawer llai hyderus wrth dalu arian da i lawrlwytho llyfr.

Yn olaf, mae cyhoeddwyr hefyd yn cynnig stondin i’r llyfrau – nid stondin go iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, neu mewn siop lyfrau Cymraeg, yn unig, ond yr arbenigedd i farchnata llyfrau drwy’r cyfryngau. Heblaw bod rhywun yn sefydlu ryw fath o ystorfa ganolog i’r holl eLyfrau Cymraeg sydd ar gael, ac yn fodlon eu hyrwyddo, sut yn union fydd awduron yn denu sylw’r farchnad?

Yr unig sicrwydd yw y bydd rhaid i awduron a chyhoeddwyr Cymraeg gofleidio’r dechnoleg newydd.  Yr eLyfrau yw’r dyfodol a does dim pwynt ceisio cuddio rhag hynny. Ond mewn hinsawdd ariannol digon ansicr, rhaid i gyhoeddwyr llyfrau Cymraeg benderfynu yn go glou sut orau i gymryd mantais lawn ohonyn nhw – neu beryglu cael eu gadael ar ôl.

Annibyniaeth: Y cam nesaf i Blaid Cymru?

Cyhoeddwyd Mai 7, 2011 gan Ifan Morgan Jones. 3 Sylw.

Tagiau: Etholiad Cynulliad 2011


Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Roedd nifer o wynebau digon digalon ymysg rhengoedd Plaid Cymru tua 4am bore ddoe. Roedd Llanelli wedi ei golli a seddi eraill yn y fantol. Y cyntaf i leisio’i farn oedd yr AC Rhodri Glyn Thomas, a awgrymodd nad oedd ymgyrch Plaid Cymru wedi bod yn ddigon da ac nad oedd unrhyw archwaeth am glymblaid arall â’r Blaid Lafur.

Wedi iddyn nhw gael cyfle i asesu’r etholiad yma yng nghyd destun y blynyddoedd blaenorol rydw i’n meddwl y bydd Plaid Cymru yn codi eu calonnau. Bydd eu methiant nhw a llwyddiant Llafur yn rhoi cyfle iddyn nhw gamu yn ôl ac ail-asesu beth y maen nhw’n gobeithio ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf. Eu problem pennaf nhw yn yr etholiad yma oedd eu bod nhw wedi bod yn reit lwyddiannus wrth gael beth oedden nhw ei eisiau allan o’r glymblaid gyda Llafur ers 2007 – mewn ffordd roedden nhw wedi cyrraedd diwedd eu rhestr siopa.

Un broblem arall i’r blaid oedd amseru’r refferendwm. Fel y mae methiant y refferendwm ar y system bleidleisio amgen wedi ei ddangos, roedd hi’n syniad da cynnal Refferendwm Cymru ar ddiwedd y senedd diwethaf. Yn wahanol i Nick Clegg, roedd Plaid Cymru wedi bod yn trafod a gosod y seiliau ar gyfer eu refferendwm llwyddiannus nhw am flynyddoedd cyn iddo ddigwydd, gan gynyddu’r gefnogaeth yn araf bach dros amser. Mae Alex Salmond wedi bod yn ddoeth iawn yn dweud y bydd yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2014 yn hytrach nag yn syth bin.

Ond roedd y refferendwm mor fuan cyn yr etholiad nad oedd Plaid Cymru wedi cael cyfle i ailddiffinio eu hunain ar ôl y llwyddiant hwnnw. Beth oedd y cam mawr nesaf i’r Blaid ar ôl hynny? Ydi’r Blaid ei hun wedi eistedd i lawr a thrafod y peth eto?

Mae rhai wedi bod yn cymharu methiant Plaid Cymru â buddugoliaeth yr SNP, ond rydw i’n credu fod hynny’n annheg. Mae Senedd yr Alban wedi cael grymoedd deddfu ers dros ddeg mlynedd erbyn hyn. Mewn gwirionedd mae Cymru a Phlaid Cymru heddiw tua’r un lle ag oedd yr Alban a’r SNP nôl yn 2003, os nad 1999.

Os ydi refferendwm Alex Salmond yn 2014 yn llwyddiant, mae gan Blaid Cymru gyfle da o arwain Cymru i’r un cyfeiriad cyn diwedd y ddegawd. Heb yr Alban fe fyddai’n anodd iawn i’r Blaid Lafur sicrhau mwyafrif yn San Steffan, ac yn llawer haws i’r Ceidwadwyr. Gallai Plaid Cymru gymryd mantais o hynny a gwthio am lawer iawn rhagor o ddatganoli, neu hyd yn oed annibyniaeth.