Cynyddu maint testun

Golwg360

10 Uchaf: Blogiau Amatur Cymraeg 2010

Cyhoeddwyd Tachwedd 16, 2010 gan Ifan Morgan Jones. 19 Sylw.

Tagiau: 10 Uchaf, Technoleg

Mae’n anodd credu ei bod hi eisoes yn flwyddyn ers dewis y 10 blog gorau yn y Gymraeg ar gyfer 2009.

Mae tirwedd y rhithfro wedi newid ers hynny. Sawl blog wedi ymddangos, sawl blog wedi cau, ambell un wedi cau cyn sleifio’n ôl gyda’u cynffonau rhwng eu coesau (dw i’n edrych arnoch chi Hogyn o Rachub a Chris Cope).

Mewn rhai ffyrdd mae safon y rhithfro ychydig yn wannach eleni nag oedd hi’r llynedd. Dim ond cysgod o flog Rhif #1 y llynedd, Metastwnsh, sydd yn weddill.  Dyw Dogfael heb ddweud unrhyw beth ers misoedd. Ac mae ambell i flog arall oedd ar frig y rhestr y llynedd wedi tawelu’n sylweddol.

Ond mewn rhai ffyrdd eraill mae’r rhithfro yn lle llawer mwy amrywiol, ac mae’r dadansoddiad gwleidyddol, yn enwedig, wedi gwella’n sylweddol.

Efallai bod Facebook a Twitter yn ennill tir ac yn gwthio’r hen fforymau trafod a blogiau o’r neilltu fel prif gyfrwng sylwebaeth ar y we. Ond un peth nad ydi Facebook a Twitter yn ei wneud cystal yw rhoi’r cyfle am ddadl dda – ac mae blogiau yn arbenigo ar hynny.

Beth bynnag, dyma’r 10 blog gorau yn y Gymraeg sy’n cael eu hysgrifennu yn ddi-dâl…

Rhif 10: Pethau Bychain

Yn dechnegol dim ond un diwrnod allan o’r 365 oedd y blog yma o ryw lawer o ddefnydd, sef 3 Medi. Ond yn yr un diwrnod hwnnw fe achosodd mwy o gyffro nag y mae’r rhan fwyaf o flogiau yn ei greu mewn blwyddyn.

Nod y blog oedd annog pobol i greu un peth bach ar-lein yn y Gymraeg – boed hynny ar ffurf fideo, blog, podlediad neu e-gerdd.

Fe wnaeth trigolion y rhithfro ymrwymo i wneud hynny, yn eu cannoedd, a’r canlyniad oedd un o’r dyddiau prysuraf yn hanes y we Gymraeg erioed, mae’n siŵr.

Er bod ambell i hen Scrooge wedi pigo beiau, does dim gwadu bod y diwrnod hwnnw’n llwyddiant, (er nad oedd yna effaith amlwg ar iechyd y rhithfro y diwrnod wedyn – Mr Scrooge).

Rhif 9: Fideo Bob Dydd

Blog sy’n gwneud beth mae o’n ei wneud ar y tin. A blog sy’n diweddaru’n gyson iawn hefyd, fel y mae’r teitl yn ei awgrymu. Byddai creu blog llawn deunydd fideo Cymraeg yn gostus ac yn llyncu amser  – syniad y blog yma yw cymryd yr holl ddeunydd fideo Cymraeg sydd allan yno a’i archifio yn yr un lle. “Hidlo’r aur o’r cachu,” ys dywed y blog ei hun. Syniad syml ond effeithiol.

Rhif 8: Morfablog

Mae hi bron yn ddegawd ers i’r blog yma, tad y blogiau Cymraeg, gan godfather y we Gymraeg, ddechrau. Mae hi wedi tawelu dros y blynyddoedd a bellach yn debycach i ffeil ble all yr awdur Nic Dafis gadw pethau y mae o’n taro ar eu traws wrth bori’r we. Efallai fy mod i’n dewis ar reputation yn hytrach na form fan hyn, ys dywed y pyndits rygbi, ond byddai’n rhaid cau’r blog yma i lawr cyn ei bod hi’n gadael fy 10 uchaf i.

Rhif 7: Blog Rhys Llwyd

Roedd y blog yma’n ail o’r brig y llynedd ond mae o wedi tawelu rhywfaint ers hynny, gyda chofnodion mwy ysbeidiol a phytiog.  Dyw’r cynnwys ddim at dast pawb ond mae’n cynnig dadansoddiad deallus a thrylwyr o rai o faterion y dydd, pan gaiff yr awdur amser i wneud hynny.

Rhif 6: Blog yr Hogyn o Rachub

Dyfalbarhad yw un o brif rinweddau’r blog yma – mae o wedi bod wrthi ers 2003. Felly mae o’n colli pwyntiau am roi’r ffidil yn y to am gyfnod yn gynharach eleni cyn ail ddechrau ar y gwaith o gofnodi hynt a helynt ei fywyd yn fuan wedyn. Dyddiadur ydi’r blog yma i bob pwrpas, ac mae rhywun yn cael yr argraff bod ysgrifennu ei lith ddyddiol yn gymaint o ran o ddiwrnod yr awdur a mynd i’r tŷ bach. Er hynny mae yna ambell i gofnod craff ynglŷn â stad y byd fel y mae hi heddiw.

Rhif 5: Pugnacious Little Trolls

Blog arall sy’n colli pwyntiau am gau i lawr mewn huff, cyn ailymddangos ychydig yn ddiweddarach ar ôl newid ei feddwl. Fel ei lyfr Cwrw Am Ddim, mae blog Chris Cope yn boenus o agored ynglŷn a’i fywyd, i’r pwynt lle mae o bron a bod yn codi cywilydd ar y darllenwr. Ond er gwaetha’r hunan dosturi (sy’n llethod ar brydiau) does dim gwadu ei fod o’n gallu sgwennu’n abennig o dda, er ei fod o’n dal i ystyried ei hyn yn ddysgwr am ryw reswm.

Rhif 4: Y Twll

Mae y Twll i gelfyddydau beth oedd yr hen Metastwnsh i dechnoleg. Mae’n flog gan Carl Morris, sydd hefyd yn cynnal blog dwyieithog hynod ddiddorol Quixotic Quisling, ac ambell i gyfranwr gwadd. Fel Morfablog a Fideo Bob Dydd mae o’n aml yn gyfrwng er mwyn cofnodi pigion sydd wedi dal llygad yr awdur, heb ryw lawer o gyfraniad gan ef ei hun. Ond mae yna ambell gyfweliad, adolygiad a a thrafodaeth sy’n ei godi uwchlaw yr rheini.

Rhif 3: Blog Guto Dafydd

Nodwyd y blog yma ar y rhestr y llynedd fel un i’w gwylio yn y dyfodol, ac ers hynny mae o wedi blodeuo i mewn i un o’r blogiau gorau yn y rhithfro. Mae rhai o’r blogiau ychydig yn rhy gryno ac mae rhywun yn cael yr argraff bod lot o ddarpar-gynnwys y blog yn cael ei wasgaru rhwng y cŵn a’r brain ar Twitter. Serch hynny dyma’r blog orau i ddod i’r golwg ar y rhithfro dros y flwyddyn ddiwethaf.

Rhif 2: Yr Hen Rech Flin

Fel y nodwyd y llynedd, un o brif ffaeleddau’r blog wleidyddol yma yw bod gan yr awdur flog Saesneg sy’n cael ei ddiweddaru’n fwy cyson o lawer. Serch hynny mae cynnwys ei hen flog blin Cymraeg yn weddol unigryw. Mae ganddo’r gallu i wneud pwynt gwleidyddol craff yn gryno, ac mae’r bartneriaeth gecrus rhyngddo ef a Blogmenai (isod) yn un diddorol.

Rhif 1: Blogmenai

Dyw hi ddim yn syndod efallai mai tri blog gwleidyddol sydd ar frig y rhestr eleni, mewn blwyddyn oedd yn cynnwys un etholiad ac ar drothwy dau refferendwm ac un etholiad arall. Mae hi hefyd yn flwyddyn, diolch i’r toriadau gwario, lle y mae penderfyniadau gwleidyddol yn effeithio er fywydau dydd i ddydd pobol fel erioed o’r blaen. Ond hyd yn oed heb y cyd-destun hwnnw mae’n debyg mai Blogmenai fyddai’n dod i’r brig eleni. Dyma’r dadansoddiad gwleidyddol gorau o wleidyddiaeth Cymru ar y we, yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Mae’r ysgrifennu o safon broffesiynol, ond un o brif rinweddau’r blog yw nad oes gan yr awdur rôl ar reng flaen gwleidyddiaeth nac fel newyddiadurwr ac felly mae o’n rhydd i ddweud unrhyw beth mae o ei eisiau, gan dynnu blewyn o drwyn pawb o’r Archdderwydd i Aelodau Cynulliad ei blaid ei hun.

Roedd yn rhif 1 yng Nghymru yng ngwobrau blogiau Total Politics, tipyn o gamp i flog nad ydi 80% o’r boblogaeth yn gallu ei darllen. Mae’n haeddu pob clod ac fe fyddai’r rhithfro yn lle llawer salach hebddo.

Sylwadau

10 uchaf y blogiau amatur « Blog Guto Dafydd , Tachwedd 16, 2010 1:33 pm

[...] yn fawr i Golwg 360 am gael dod yn drydydd yn eu rhestr nhw o flogiau amatur Cymraeg – a llongyfarchiadau i Blog Menai sydd, wrth reswm pawb, ar frig y [...]

§

Rhys , Tachwedd 16, 2010 2:31 pm

Diolch am ddod a rhestr deg uchaf at ei gilydd eto eleni. Dau flog arall sy’n haeddu sylw yn fy marn i ydy Asturias yn Gymraeg ac O bell – y ddau o dramor ac yn trafod pynciau amryiol a difyr iawn.

Dau gwestiwn ynglyn a’r blg hwn – pa plug-in ydahc hci’n ddefnyddio ar gyfer eich blogroll, ac hefyd gan bod mwyafrif llethol (yn aml) or twits yn eich adran “Trydar t Cymry’ yn ymddangos yn Saesneg, fasech gwasanaeth fel Umap yn help?

§

cathasturias , Tachwedd 16, 2010 5:11 pm

Diolch Rhys am y geiriau yna!
Llongyfarchiadau i bawb ar y rhestr.
A diolch i Blog-Golwg am gyfeirio cymaint o bobol tuag at fy mlog i.

§

Golwg360 , Tachwedd 16, 2010 7:33 pm

Helo, Rhys, Wedi cael pip y tu ol i’r llenni a ‘WP Social Blogroll’ sy’n cael ei ddefnyddio. Roeddwn i’n chwilio am blogroll oedd yn gwneud yr un swyddogaeth a’r un default ar Blogger – h.y. rhestru’r blogiau yn nhrefn y postiad diweddaraf. Fe driais i ryw bump neu chwech cyn setlo ar hwn.

Ie mae’r tweets Seasneg yn broblem. Ond mae ffeindio pobol sy’n tweetio’n Gymraeg drwy’r dydd heb air o Seasneg yr un mor anodd a ffeindio pobol sy’n siarad Cymraeg drwy’r dydd heb air o Seasneg! Ddim yn gyfarwydd gydag Umap – fe gaf fi bip wap.

Cathasturias – mae’n ddrwg gen i os ydw i wedi gwneud cam gyda ti. A bod yn onest dydw i ddim yn or gyfarwydd gyda dy flog! Rydw i wedi bod yna ambell waith ond mae’r font mor fach ar fy laptop gwaith dw i’n cael cur pen a ddim yn gallu darllen yn hir! Falle bod angen fersiwn o’r blog gyda ysgrifen mwy, i bobol gyda llygaid cynddrwg a fi!

Ifan

§

cathasturias , Tachwedd 16, 2010 8:56 pm

Ifan, rwyt ti wedi dechrau rhywbeth! Wedi bod yn chwilio am ffordd i newid maint y font yn wordpress heb ddysgu HTML – a ffaelu hyd yn hyn. OND…os wnei di dapo Cmd+ (Mac) neu Ctrl+ (Windows), unwaith neu ragor,fel bo’r angen, fe gei di’r geiriau i gyd mewn maint darllenadwy.
Cathasturias

§

Gareth Jones , Tachwedd 16, 2010 9:40 pm

Mae’n anffodus na dim ond cysgod yw Metastwnsh bellach, ond mae’n dal i ddenu cynulleidfa eang iawn o fobl yn ddyddiol.

Braf oedd bod yn rhif #1 y llynedd, a braf yw bod yn rhan o rhif #1 eleni.

Well i mi gael crys-t “#1 Golwg360″

§

Rhys Wynne , Tachwedd 16, 2010 9:40 pm

Diolch am yr atebion Ifan. Beth sy’n rhyfedd ydy, tra’n darllen y blog yma yn y llyfrgell ar Internet Explorer, doedd y blogiau ddim yn cael eu rhestru yn ôl y diwethau i ddiweddaru (ar y top), roedd mewn trefn gwbl ar hap, ond adre ‘ma heno ar Firefox, mae’n gweithio’n iawn.

Sylwais nad yw’r ddolen Umap yn gyflawn. Bach mwy o gefndir yma: http://haciaith.com/2010/11/10/umap-casglu-trydar-adar-gwlad-y-basg/
Mae’n swnio’n addawol iawn.

§

Golwg360 , Tachwedd 16, 2010 10:12 pm

Hmmm, bydd rhaid i mi ymchwilio i hynny. Firefox ydw i’n tueddu i’w ddefnyddio, a falle mod i wedi methu byg mewn browser arall.

Diolch, Rhys

§

Gareth Jones , Tachwedd 16, 2010 10:17 pm

O mam bach!

dwi di darllen pethau ffordd anghywir eto! Pethau Bychain yn rhif 10, dim rhif 1… doh!

§

Golwg360 , Tachwedd 16, 2010 10:36 pm

Sori Gareth. Bydd angen dau grys-t arnot ti.

§

Shadrach Jenkins , Tachwedd 16, 2010 10:38 pm

Mae ambell beth ar http://llanwmawrhallt.blogspot.com/ yn cracing hefyd.

§

Gareth Jones , Tachwedd 17, 2010 12:10 am

Edit or sylw sa’n dda ;)

§

Carl Morris , Tachwedd 17, 2010 4:08 pm

Diolch Ifan.

Meddwl am Pethau Bychain…

Dw i wedi bod yn meddwl am hwn yn ddiweddar hefyd. Ond mae’r dyfodol o ddiwrnod i ddathlu’r iaith arlein yn dibynnu ar y gymuned. Dyn ni ddim wedi trafod y dyfodol o Pethau Bychain eto.

Ddylen ni hyrwyddo rhywbeth gyda chyfryngau mawr o gwbl (a creu “disgwyliadau”) neu ffrindiau ac ein rhwydweithiau yn unig?

Ddylai fe bod yn digwyddiad o gwbl neu rhywbeth arall? Os digwyddiad, diwrnod neu wythnos?

Os ti eisiau tyfu’r presenoldeb o’r iaith Gymraeg arlein am bawb, pa fath o broject faset ti ddylunio?

Dw i wedi copio hwn i’r blog Pethau Bychain yma os fydd pobol eisiau cyfrannu meddyliau.

§

Rhodri , Tachwedd 17, 2010 9:19 pm

Diolch am y ddolen. Wastad yn neis cael rhywun yn dod i fideobobdydd o rywle ond Twitter a Facebook! Mae’r nifer prin o ymwelwyr sy’n dod at y wefan o ddolen ar wefannau eraill yn dangos y gwendid mawr sydd na yn y byd blogiau Cymraeg. Does dim economi dolenni. Hynny yw, does dim llawer o ffyrdd, o lwybrau, i bobol ddod at y deunydd sydd ar gael.

Petai’r Gymraeg ar-lein yn wlad, byddai’n wlad trydydd byd. A dweud y gwir, byddai’n llai na hynny, byddai mwy fel ynys fach yn y Môr Tawel sydd efo cwpwl o gannoedd o frodorion ac ambell dwrist yn ymweld bob yn hyn a hyn!

Wn i ddim beth yw’r ateb. Byddai gallu bachu sylw yn amlach gan wasanaethau poblogaidd Cymraeg megis Golwg360, BBC Cymru neu S4C (pa rai eraill sydd yna?) yn fendith, ond er mwyn gwneud hynny rhaid cael y deunydd. Ac ydyn ni’n credu bod digon o ddeunydd, a deunydd digon diddorol i amrwiaeth o bobol i wneud hynny’n bosibl?

Beth, er enghraifft, petai Golwg360 yn amlygu un cofnod blog/tudalen MySpace/fideo da bob dydd ar eu tudalen flaen neu mewn blwch hysbyseb?

Mae gwaith curadu cynnwys yr un mor bwysig ag ydi creu ei hun. Mae gan newyddiadurwyr yr unfed ganrif ar hugain rôl bwysig mewn dangos y ffordd i’w darllenwyr. Dylai fod rhan benodedig o ddiwrnod gwaith rhai newyddiadurwyr. Mae’n *rhaid* i i ffeindio ffyrdd newydd o ddod â chynnwys Cymraeg da at lygaid mwy o bobol.

Felly dyma’r her: mae un gofnod flynyddol am flogiau Cymraeg yn dda, ond oes posib i wefannau fel Golwg360 wneud cyfraniad felly bob dydd o’r flwyddyn? Beth am gael cyfres o interns i wneud y job dros gyfnod prawf o 3 mis?

Dyna fyddai’n newid pethau.

A falle…falle, bydden ni’n gweld mwy o flogiau, gwella safon, a phwy a ŵyr…gallen ni symud oddi ar yr ynys yn y Môr Tawel i fod yn rhan o gyfandir….

§

Golwg360 , Tachwedd 17, 2010 11:05 pm

Diolch am y neges Rhodri.

Dw i’n deall dy ddadl, ond dw i’n credu bod angen cwch sy’n hwylio’r ddwy ffordd ar yr ynys dychmygol yma. Ychydig iawn o ddolenni sy’n dod i mewn i Golwg 360 a Blog Golwg 360 o flogiau Cymraeg. Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn dod yn uniongyrchol i’r wefan, neu drwy Google/Twitter/Facebook.

Rydw i wedi cymryd camau er mwyn rhoi mwy o ddolenni i flogiau eraill – dyna pam ychwanegais i’r blogroll i lawr yr ochor chwith ‘cw. (Sdim hyd yn oed Blogroll ar fideobobdydd, os ga’i ddweud!)

O ran treulio eu hamser yn hybu blogiau, mae gan ein newyddiadurwyr fywyd eitha bishi yn cynnal y wefan craidd 24/7. Mater o amser yw hi yn anffodus. Ond mae’r blog yma a lle pawb yn gwbwl agored ynglŷn a gwahodd aelodau o’r cyhoedd i gyfrannu, a creu’r cynnwys fwy ymylol nad oes gan y newyddiadurwyr amser i’w ysgrifennu.

Pe bawn i’n aelod lleyg o’r rhithfro a ddim yn aelod o’r staff, beth fyddwn i’n ei wneud fyddai gwirfoddoli i greu ryw fath o ‘Pump am y Penwythnos’ ar gyfer Blog Golwg 360, ac ailgyfeirio rywfaint o’r traffig hyfryd i gyfeiriad yr holl flogiau ydw i’n eu gwerthfawrogi cymaint. Ond falle mai dim ond fi yw hwnna!

Ifan

§

Gareth Jones , Tachwedd 18, 2010 2:58 pm

Mae croeso i ti greu ‘pump am y penwythnos’ gwadd ar http://metastwnsh.com Ifan, neu unrhyw un arall sydd eisiau gwneud a dweud y gwir.

Mae Metastwnsh yn agored i bawb gyfrannu

§

Carl Morris , Tachwedd 18, 2010 2:58 pm

Petai’r Gymraeg ar-lein yn wlad, byddai’n wlad trydydd byd. A dweud y gwir, byddai’n llai na hynny

Os petai’r Gymraeg arlein yn wlad trydydd byd, beth yw’r “brain drain”?

Ateb 1: Facebook

Gweler “brain drain” ar Wikipedia
http://en.wikipedia.org/wiki/Brain_drain

§

Rhys Llwyd , Tachwedd 19, 2010 9:08 am

I ddechrau, diolch am fy nghynwys yn y rhestr unwaith eto eleni er fod y blog wedi bod ar gau am 4 mis cyfan ac wedi bod yn dawel iawn am weddill y flwyddyn. Gobeithio fydd y flwyddyn sydd i ddod yn gyfnod mwy bywiog i’r blog unwaith eto.

Beth bynnag, un blog newydd i chi sydd a diddordeb ymhethau’r ffydd gadw golwg arno dros y flwyddyn nesaf yw’r blog ar y wefan yma: http://eglwysibroaled.com/ Feed i’r elfen blog ohono yw http://eglwysibroaled.com/?feed=rss2 neu mae dolen i’r pyst diweddaraf i lawr ochr dde y wefan. Mae trefn y wefan yn golygu y bydd yna o leiaf 52 o byst newydd yna bob blwyddyn felly beth bynnag am y cynnwys mi fydd yna gysondeb anghyffredin yn yn y cyhoeddi.

§

Beth yw blog? , Rhagfyr 16, 2010 11:12 am

[...] i’n gwenu wrth ddarllen hyn gan Ifan Morgan Jones yn ddiweddar: Mae [Morfablog] wedi tawelu dros y blynyddoedd a bellach yn debycach i ffeil ble all [...]

§

Ychwanegu Sylw

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.