Cynyddu maint testun

Golwg360

Annibyniaeth: Y cam nesaf i Blaid Cymru?

Cyhoeddwyd Mai 7, 2011 gan Ifan Morgan Jones. 3 Sylw.

Tagiau: Etholiad Cynulliad 2011


Ieuan Wyn Jones, arweinydd Plaid Cymru
Roedd nifer o wynebau digon digalon ymysg rhengoedd Plaid Cymru tua 4am bore ddoe. Roedd Llanelli wedi ei golli a seddi eraill yn y fantol. Y cyntaf i leisio’i farn oedd yr AC Rhodri Glyn Thomas, a awgrymodd nad oedd ymgyrch Plaid Cymru wedi bod yn ddigon da ac nad oedd unrhyw archwaeth am glymblaid arall â’r Blaid Lafur.

Wedi iddyn nhw gael cyfle i asesu’r etholiad yma yng nghyd destun y blynyddoedd blaenorol rydw i’n meddwl y bydd Plaid Cymru yn codi eu calonnau. Bydd eu methiant nhw a llwyddiant Llafur yn rhoi cyfle iddyn nhw gamu yn ôl ac ail-asesu beth y maen nhw’n gobeithio ei gyflawni dros y blynyddoedd nesaf. Eu problem pennaf nhw yn yr etholiad yma oedd eu bod nhw wedi bod yn reit lwyddiannus wrth gael beth oedden nhw ei eisiau allan o’r glymblaid gyda Llafur ers 2007 – mewn ffordd roedden nhw wedi cyrraedd diwedd eu rhestr siopa.

Un broblem arall i’r blaid oedd amseru’r refferendwm. Fel y mae methiant y refferendwm ar y system bleidleisio amgen wedi ei ddangos, roedd hi’n syniad da cynnal Refferendwm Cymru ar ddiwedd y senedd diwethaf. Yn wahanol i Nick Clegg, roedd Plaid Cymru wedi bod yn trafod a gosod y seiliau ar gyfer eu refferendwm llwyddiannus nhw am flynyddoedd cyn iddo ddigwydd, gan gynyddu’r gefnogaeth yn araf bach dros amser. Mae Alex Salmond wedi bod yn ddoeth iawn yn dweud y bydd yn cynnal refferendwm ar annibyniaeth yn 2014 yn hytrach nag yn syth bin.

Ond roedd y refferendwm mor fuan cyn yr etholiad nad oedd Plaid Cymru wedi cael cyfle i ailddiffinio eu hunain ar ôl y llwyddiant hwnnw. Beth oedd y cam mawr nesaf i’r Blaid ar ôl hynny? Ydi’r Blaid ei hun wedi eistedd i lawr a thrafod y peth eto?

Mae rhai wedi bod yn cymharu methiant Plaid Cymru â buddugoliaeth yr SNP, ond rydw i’n credu fod hynny’n annheg. Mae Senedd yr Alban wedi cael grymoedd deddfu ers dros ddeg mlynedd erbyn hyn. Mewn gwirionedd mae Cymru a Phlaid Cymru heddiw tua’r un lle ag oedd yr Alban a’r SNP nôl yn 2003, os nad 1999.

Os ydi refferendwm Alex Salmond yn 2014 yn llwyddiant, mae gan Blaid Cymru gyfle da o arwain Cymru i’r un cyfeiriad cyn diwedd y ddegawd. Heb yr Alban fe fyddai’n anodd iawn i’r Blaid Lafur sicrhau mwyafrif yn San Steffan, ac yn llawer haws i’r Ceidwadwyr. Gallai Plaid Cymru gymryd mantais o hynny a gwthio am lawer iawn rhagor o ddatganoli, neu hyd yn oed annibyniaeth.

Sylwadau

TuHwnt , Mai 7, 2011 6:42 pm

Er fy mod wedi bod yn gefnogol i annibynniaeth yn y gorffennol ac er fy mod yn dal hyd heddiw yn hoff o’r syniad o weld Cymru annibynnol yn y dyfodol pellach, am y tro mae’n rhaid i Blaid Cymru osod ei hymdrechion nid ar annibynniaeth ond ar baratoi Cymru ar gyfer annibyniaeth.

Er fod digon o ymdeimlad cryf Cymreig dros pob cwr o Gymru fel a ddangoswyd yn y refferendwm fis Mawrth, mae’n amlwg bod rhywbeth o’i le pan mai dim ond llai na 10% sydd yn credu y gallai Cymru fod yn annibynnol (o’r pol piniwn a gyhoeddwyd ar adeg y refferendwm). Y prif reswm am hyn yw economi Cymru. Yn ffodus i’r Alban mae ei chyfoeth yn golygu fod gosod yr achos ar gyfer anibyniaeth yn dasg haws. Nid yw hi felly yn rhesymol i gymharu Cymru a’r Alban gan ein bod mewn stad economaidd llawer gwanach, ac felly yn yr un modd nid yw hi’n rhesymol i baldaruo am annibyniaeth i Gymru sydd ddim yn barod ar ei chyfer. Eto.

Fy ngobaith ar gyfer Plaid Cymru felly yw ei bod yn ymdrechu i gryfhau economi Cymru trwy fel y gallem gael sail cryf ar gyfer dadlau tros annibyniaeth.

§

CGT , Mai 7, 2011 8:51 pm

Wedi hanner canrif fel Sosialydd rhonc, yr wyf yn dechrau poeni am effaith y ddogma hynny ar gyflwr economi Cymru. Mae gan y blaid Lafur fudd arbennig mewn cadw’n gwlad yn dlawd ac yn llwyr ddibynnol ar y sector cyhoeddus. Mae cyfran helaeth o’r boblogaeth bellach, yn anffodus, wedi eu cyflyrru i feddwl mai’r wladwriaeth sy’n creu cyfoeth, ac nad oes arnynt obaith na dyletswydd i weithio. Yn yr achos yma, maent yn dychwelyd at y ‘nanny-state’ sydd ond yn bod bellach yn llawn yng Nghymru , o dan reolaeth Llafur. Mae bygythiad ail don o Sosialaeth wedi gyrru map gwleidyddol Cymru yn ol i’r oes cyn 1999 , ond mae cynnydd arswydus ym mhleidlais y Toriaid h.y. mae cyfran helaeth o’r etholwyr yn credu fod torri’n helaeth ar wario cyhoeddus yn beth da . Os yw Cymru am greu annibyniaeth, rhaid anghofio am gwyno am bethau fel Barnett a S4C – mae’n rhoi’r argraff hollol anghywir . Yr oedd y syniad o gwmni peifat di-elw yn eithraidol – on rhaid dechrau coleddu’r sector breifat fwy-fwy , oherwydd ni allwn fydd obeithio am annibyniaeth tra’n crefu am arian o Lundain i dalu am gadw’n gweithlu’n ddiwaith , a thrin poblogaeth sy’n gynyddol afiach.
Mae’r Alban wedi cadw sawl diwydiant cynhyrchu a sector breifat gref mewn meysydd eraill- mae’r Albanwyr yn fwy o gyfalafwyr a bancwyr na ni erioed. Mae ein traddodiadau
(clodwiw) yn ein atal rhag cystadlu mewn byd cyfalafol weithiau.

§

Llywelyn , Mai 7, 2011 11:31 pm

IE am annibyniaeth yn bendant gan fod yr SNP wedi cael canlyniad ardderchog yn yr etholiad. OS wneith yr Alban bledlisio IE yn eu refferendwm ar annibyniaeth yn 2014 neu beth bynnag a chael cwpwl o flynyddoedd llewyrchus o fod yn wlad annibynnol yna dwi’n gobeithio all fod yn sbardun am fwy o bwerau neu hydynoed frwydro am annibyniaeth lawn. Os ydi Montenegro yn gallu sefyll ar ei thraed gyda phoblogaeth o 660,000 i gymharu a 2.9 miliwn yn Nghymru! Dwi’n meddwl mae angen i’r Blaid wneud newididiadau mawr yn eu ideoleg y blaid a’i gwerthoedd mewn Gwleidyddiaeth yn ogystal peidio ymyrryd mewn unhryw glymblaid a Llafur y tymor yma gan benodi Arweinydd newydd neu efallai gwahodd Adam Price fel ymgeisydd ar gyfer yr etholiad nesa yn 2016.

§

Ychwanegu Sylw

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.