Cynyddu maint testun

Golwg360

Oes angen mynd i Brifysgol?

Cyhoeddwyd Awst 26, 2009 gan Llinos Dafydd. 1 Sylw.

Tagiau: Addysg

Mae’n gyfnod o orfoledd i glwstwr o bobol ifanc, ac eraill yn pendroni ynglŷn â mynd i’r coleg neu beidio.  Mae’n gallu bod yn straen, yn ôl Llinos Dafydd, gohebydd cyffredinol i Golwg, sy’n parhau i astudio ym Mhrifysgol Bywyd. Dyma hi i fwrw’i bol …

Fory, bydd miloedd o ddisgyblion yn clywed eu canlyniadau TGAU, ac yn gorfod penderfynu a ydyn nhw am aros yn yr ysgol i wneud Lefel A neu gamu i’r byd gwaith.

Dyw’r penderfyniad ddim mor hawdd ac y bu, hyd yn oed i’r swots mwya’ serennog. Gyda chymaint yn cysgodi rhag y dirwasgiad dan doeon prifysgolion does dim gwarant y bydd eich Lefelau A yn ddigonol i sicrhau lle bellach.

Hefyd, o’r flwyddyn nesaf ymlaen, mae’n debyg y bydd y Lefelau A yn anoddach, ac yn gofyn am atebion fwy dadansoddol.

Gall hynny arwain at lai o lwyddiant Lefel A – a straen ychwanegol i ddisgyblion i gyrraedd yr A* newydd fydd yn cael ei gyflwyno, gyda’r nod o ddangos y gwahaniaeth rhwng y disgyblion disgleiriaf a’r gweddill.

Mae gofyn i ddisgyblion neidio drwy gylchoedd uwch ac uwch bob blwyddyn, ond wrth i’r canlyniadau wella mae llai o barch tuag at Lefel A bob blwyddyn hefyd.

Wneith y ‘swots’ oroesi, fwy na thebyg, ond beth am y rhai sy’n crafu’r C neu sy’n brwydro am y B angenrheidiol?

Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, â theuluoedd yn meddwl am ffyrdd i arbed arian, bydd llai hefyd yn barod i gasglu dyled o tua £5,000 am bob blwyddyn y bydden nhw’n eu cael yn y coleg.

Gyda mwy a mwy yn mynd i’r brifysgol mae llai o llai o sylwedd i’r cyrsiau sy’n cael eu cynnig, ac mae nifer o’r myfyrwyr sy’n gadael yn wynebu tipyn o Catch-22 – bod angen profiad i gael swydd, ond does dim modd ennill profiad heb swydd.

Gyda’r holl gymylau yma dros eu pennau, mae’n debyg y bydd nifer sy’n cael eu graddau TGAU yfory yn penderfynu mentro i’r byd mawr heb radd y tu ôl i’w henwau.

Mae’n sicr y bydden nhw wedi magu’r un faint o brofiad gwaith mewn pum mlynedd o lafur nac mewn dwy o gwblhau arholiadau Lefel A, a thair wedyn o ddiota.

Trwy wneud pethau ar liwt eu hunain, neu drwy hyfforddiant gan gyflogwyr, byddai modd llwyddo’n well yn yr ysgol brofiad, a dod allan ohoni’n gyfoethocach o lawer – hyd yn oed os wneith e’ gymryd amser.

Ara’ bach mae dal iâr, medden nhw, ac yn sicr does dim angen addysg Prifysgol i gyflawni hynny.

Sylwadau

Rhys Llwyd , Ebrill 25, 2010 9:50 pm

Dwi’n cytuno nad oes angen mynd i’r Brifysgol, ond dwi hefyd yn credu y dylech achub ar y cyfle os ydy’r drws yn agor i chi.

Dwi wedi bod yn rhyw botsian mewn Prifysgol ers 7 mlynedd nawr (3 is-raddedig yn Aber, a 4 ôl-raddedig ym Mangor) ond yn ystod y cyfnod yna dwi wedi cael profiad bywyd hefyd. Wedi gwneud llawer o waith sy’n talu a llawer o waith gwirfoddol ac yn credu fod hynny, yn ystod y 7 mlynedd, wedi cyfrannu cymaint at fy addysg ag y gwnaeth y cyrsiau eu hunain. I mi nid rhywbeth roeddw ni’n mynd bant i wneud oedd mynd i’r Brifysgol ond rhan integral o fy nghyfraniad i, gobeithio, i Gymru. Rwy’n cyfri fy nghyfraniad i’r ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg yr un mor, os nad yn bwysicach, na’m gradd dosbarth cyntaf o edrych ar fy nghyfnod yn y Brifysgol.

Y broblem ydy’r bobl yma sy’n mynd i’r Brifysgol jest i yfed, a dyna lle mae’r rhanfwyaf o ddyledion yn cael eu casglu hefyd.

O bori’n ôl ar hen gofnodion maes-e o 2002 cyn i mi fynd i’r Brifysgol gellid gweld fod fy marn a’m aeddfedwrwydd wedi newid cryn dipyn yn y Brifysgol. Mae’n siwr fod peth o hynny oherwydd mod i wedi aeddfedu ac yn hyn, ond mae marn wedi newid ac wedi ei grisialu hefyd ar rai pethau oherwydd fy mhrofiadau bywyd ar un llaw a dysg ar y llaw arall yn y Brifysgol. Pe na baw ni wedi mynd i’r Brifysgol dwi’n weddol argyhoeddedig y buasw ni wedi palu drwy weddill fy mywyd gyda’r run rhagafarnau ag yr oeddwn yn eu dal yn ddeunaw oed. Bellach mae rhai o’r rhagfarnau wedi mynd a rhai o’r rhagfarnhau wedi troi’n argyhoeddiadau sydd wedi eu meddwl allan yn gall.

Amwni mae’r hyn yr ydw i’n dweud yw fod fy nghyfnod estyngedig yn y Brifysgol wedi prynnu amser i mi yn ysgol bywyd – rhywbeth fuasw ni ddim wedi ei gael o fynd syth mewn i swydd 9-5 yn ddeunaw. Efallai fod hynny yn gwneud i mi swnio fel “doss” ond credw chi fi dwi wedi arfer gweithio oriau lot hirach na 9-5 rhwng pob dim dros y blynyddoedd diwethaf.

Dyna rai meddyliau o’m mhrofiad i beth bynnag, gan sylwi, efallai, na fuesi’n fyfyriwr nodweddiadol!

§

Ychwanegu Sylw

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.