Cynyddu maint testun

Golwg360

Un sydd ddim yn Cyw-ilyddio

Cyhoeddwyd Ionawr 5, 2011 gan Llinos Dafydd. 2 Sylw.

Tagiau: S4/C

Dros y dyddiau diwetha’, mae rhai wedi bod yn beirniadu S4C am ddangos hysbysebion yn ystod gwasanaeth plant Cyw. Mae Llinos Dafydd, un o newyddiadurwyr Golwg, yn mynd yn erbyn y llif…

Mae yna fore-godwr yn tŷ ni – wel dwy i ddweud y gwir, ond mae’r un ifanca’ yn rhy fach i leisio’i barn bach 4 mis oed. Mae’r un fach benfelen arall, sydd bron yn bedair mlwydd oed yn ddigon tebol o ddweud ei dweud, ac mae hi’n hoffi dechrau ei diwrnod gyda’i ffrind, Cyw.

Am 7.45 y bore pan dw innau’n trio hel popeth ynghŷd ar gyfer y diwrnod, rhaid dweud fy mod i’n fwy na pharod i estyn y peiriant pwdryn i fy merch hynaf er mwyn iddi gael ei ffics dyddiol o gartŵns Cymraeg. Sam Tân ac Igam Ogam ydy’r ffefrynnau, gyda llaw. A dw innau’n cael llonydd i glatsho bant gyda sortio dillad, gwneud y pecynnau bwyd, ac ambell waith gaf i eiliad i gribo fy ngwallt hyd yn oed, cyn gorfod gadael y tŷ am 8 er mwyn mynd a’r plant at y warchodwraig, yna anelu trwyn y car tuag at Llambed i wneud diwrnod o waith.

Ond daeth cri bore ddoe – “Fi mo’yn Cyw!” – roedd hi’n ddiwedd y byd. Pan edrychais i ar y teledu, roedd hysbyseb bwyd cath ar y sgrin, ac yn amlwg doedd hynny ddim yn plesio fy merch fach, a oedd yn disgwyl helyntion a helbulon trigolion Pontypandy.

Dw i wedi clywed sawl un yn achwyn bod S4C wedi dechrau dangos hysbysebion yn ystod gwasanaeth dyddiol Cyw – ac mae’n siŵr y bydden i’n un o’r rheini pe bawn i’n gweld hysbysebion teganau a siocledi.

Ond mae’r holl hysbysebion dw i wedi eu gweld wedi eu hanelu at oedolion – boed yn ryw siampŵ neu’i gilydd, yn fwyd ci neu’n bapur tŷ bach. A beth sy’n bod gyda hynny?

Os ydy e’n ffordd i S4C i wneud arian, gan sicrhau dyfodol i’r sianel, wel fel mam, dw i’n ddigon hapus bod y rhain yn ymddangos – cyn belled eu bod nhw ddim yn dangos rhai sydd wedi’u hanelu’n uniongyrchol at blant bach.

Mae hysbysebion yn amlwg yn dod ag arian i mewn, felly gosodaf bluen yn het S4C – ond yn amlwg, nid pluen oddi ar adenydd Cyw, achos dw i ddim eisie ei gweld hi’n glanio ar y ford fwyd fel ein cinio dydd Sul.

Sylwadau

Sion , Ionawr 5, 2011 8:56 pm

Cytuno. Mae angen arian ar S4C ac mae angen iddyn nhw ddangos i’r awdurdodau eu bod nhw’n ceisio dod ag arian i fewn. ‘Mod fod dim hysbsebion tegannau adeg y Dolig dwi’n hapus!

§

Dewi , Ionawr 5, 2011 9:53 pm

Anghytuno’n llwyr!! Dwi heb weld yr hysbysebion eto ond dwi’n anghytuno’n llwyr a’r syniad.

Dwi ddim isio’n ferch fach ni cael ei ddychryn gan hysbysebion am ‘loans direct’, neu weld plant yn crio ar hysbysebion NSPCC. (sydd tro ar ôl tro ar y sianel dydd a nos bron iawn) Dim ots gen i beth yw gofynion OFCOM.

A dwi ddim isio hi glywed unrhyw Saesneg chwaith yn ystod Cyw.

Bydd rhaid i ni nawr stopio gwylio ar y teledu a throi at wylio’r rhaglenni ar-lein yn unig.

Mae’r datblygiad yma’n hynod o biti. Mae llawer wedi canmol ac enghreifftio Cyw fel yr unig beth werth chweil ar y sianel. Mae rhaid bod ‘na ddulliau eraill o arbed neu ennill arian.

§

Ychwanegu Sylw

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.