Cynyddu maint testun

Golwg360

Brwydr tros gydraddoldeb i’r gymdeithas hoyw

Cyhoeddwyd Gorffennaf 6, 2010 gan Malan Wilkinson. 1 Sylw.

Tagiau: cydraddoldeb

Malan Vaughan Wilkinson sy’n trafod yr hawl i gyplau hoyw gynnal priodasau crefyddol…

Mae yna gryn drafod ar hyn o bryd ynglŷn â chaniatáu i gyplau hoyw fwynhau elfennau crefyddol mewn partneriaethau sifil.

Fe fyddai cael gwneud hynny yn newyddion da iawn i’r gymdeithas hoyw ac i minnau sy’n hoyw. Am y tro cyntaf fe fydden ni’n cael cynnwys cerddoriaeth, symbolau a darlleniadau crefyddol mewn seremonïau.

Ddoe, cefais y fraint o drafod hyn ar raglen Taro’r Post, ynghyd a Liz Morgan o fudiad Stonewall a Dr. Iesyn Daniel o Aberystwyth.

Heb os, roedd clywed rhai o’r dadleuon yn erbyn caniatáu’r elfennau crefyddol mewn seremonïau hoyw yn sioc go iawn i’r system.

Mae’n anodd gen i gredu bod rhai agweddau mor hen ffasiwn a hynafol ynglŷn â chyplau hoyw a’u lle mewn cymdeithas yn parhau i fodoli yn 2010.

Eilradd

Ers 2005 mae’r llywodraeth wedi caniatáu partneriaethau sifil ac mae hynny’n cydnabod bodolaeth cyplau hoyw i ryw raddau.

Ond dyw bod mewn ‘partneriaeth’ ddim yr un fath a phriodas. Mae ganddyn nhw statws gwbwl eilradd i barau priod heterorywiol o hyd.

Pam felly? Beth yw’r gwahaniaeth rhwng par hoyw sy’n caru ei gilydd, a chwpwl heterorywiol sy’n caru ei gilydd, mewn gwirionedd?

Brwydr tros gydraddoldeb yw’r frwydr i gynnwys elfennau crefyddol mewn partneriaethau hoyw, felly.

Dydw i ddim yn gofyn i bobol fy hoffi i na’r ffaith fy mod i’n hoyw – dim ond am yr hawl i fod yn gyfartal.

Byddai caniatáu elfennau crefyddol mewn seremonïau hoyw yn dod a chyplau gam yn nes at statws swyddogol, cydradd – sy’n hawl yn fy marn i.

Mae’n gwbwl wrthun i mi fod rhai yn cyfiawnhau gwahaniaethu rhwng cyplau hoyw a heterorywiol, yn enw crefydd a thraddodiad. Mae’n rhagrithiol.

Siawns mai un o brif werthoedd crefydd a Christnogaeth yw cariad. I garu eich cyd-ddyn yn ddiamod ac i beidio â gwahaniaethu.

Ond mae rhai Cristnogion yn mynnu cyfaddawdu ar yr egwyddor elfennol hon hyd yn oed – drwy ddatgan nad yw cariad rhwng dau ddyn neu ddwy ddynes yn ‘naturiol!’

Gallwn ddamcaniaethu  a dehongli adnodau unigol o’r Beibl hyd ddydd y farn. Ond i mi, mae cariad heterorywiol a gwrywgydiol yn gwbwl naturiol.

Mae’n real ac mae’n gariad  llawn daioni. Dyma’r cariad ydw i’n ei weld yn y Beibl. Mae cariad  – boed rhwng dyn a dynes, dau ddyn neu ddwy ddynes – yn rhywbeth i’w ddathlu.

Mi fedra i gadarnhau nad ydw i wedi bod yn smalio caru menywod eraill drwy gydol fy mywyd! Greddf naturiol yw caru merched i mi – nid dewis neu weithred annaturiol.

Y frwydr

Mae llai a llai o bobol yn mynd i’r capel erbyn hyn, ac rydw i’n credu bod rhaid i arweinwyr crefyddol ymarfer y cariad hwn sydd mor greiddiol i neges yr ysgrythur a symud ymlaen os ydyn nhw am droi’r trai.

Mae rhai, wrth gwrs,  wedi bod yn fwy na chefnogol i achos y gymdeithas hoyw. A dw i ddim yn credu bod ambell i lais anoddefgar yn cynrychioli pob un o Gristnogion heddiw. Mae’r gefnogaeth ydw i eisoes wedi’i dderbyn yn dilyn y rhaglen ddoe yn brawf pendant o hynny.

Drwy brotestio, ehangu ymwybyddiaeth a brwydro’n ddiwyd  am hawliau mae’r gymdeithas hoyw wedi cyrraedd lle y mae hi heddiw – wedi blynyddoedd o orthrwm.

Does dim amheuaeth yn fy meddwl i mai mwy o wthio bydd angen i ennill hawl cyfartal i gael bod mewn priodas. I fod yn gydradd. Rhywbeth sy’n debygol iawn o ddigwydd yn hwyr neu’n hwyrach.

Ond am y tro – ymlaen a’r frwydr!

Sylwadau

holwr , Gorffennaf 6, 2010 10:36 pm

Beth yn union yw “cymdeithas hoyw”? Ai awgrym yw hyn y dylai hoywon ffurfio cymdeithas ar wahân i’r gymdeithas ‘heterorywiol’? Neu ai cyfieithiad gwael yw hyn o’r ‘gay community’ Saesneg (term sy’n ddigon dwl ei hunan)?

Beth sy’n bod ar derm syml megis ‘pobl hoyw’ neu ‘hoywon’? Onid hawliau i unigolion fyddai dan sylw wedi’r cyfan, ac nid hawl i unrhwy ‘gymdeithas’ neu ‘gymuned’?

Onid gwell fyddai i ni i gyd fedru byw mewn cymdeithasau a chymunedau cymysg, heb fecso am rywioldeb etc.?

§

Ychwanegu Sylw

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.