Cynyddu maint testun

Golwg360

Amynedd yw amod llwyddo

Cyhoeddwyd Hydref 6, 2010 gan Rhiannon Michael. 1 Sylw.

Ac fe ddaeth y gwelliannau! 140 i  gyd -y mwyaf o welliannau mae mesur yn y Cynulliad erioed wedi ei weld. Ac mae newidiadau sylfaenol. Gallwn ni hefyd ddisgwyl mwy o welliannau gan yr ACau yfory. Mae’r Llywodraeth yn gobeithio’u bod nhw’n ymateb i bryderon yr ymgyrchwyr iaith orau allan nhw. Rwy’n rhagweld protestiadau a chwynion am “fess-hir” yn parhau.

Tri pheth sy’n sefyll allan ar yr edrychiad cyntaf. Yn hytrach na’r llu o gymalau gwamal yn trafod statws, mae’r datganiad moel: “Mae statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru.” Bydd rhaid aros i weld beth fydd ymateb Cymdeithas yr Iaith a Bwrdd yr Iaith -nid dyma beth gynigion nhw ond efallai byddan nhw’n hapus bod datganiad di-amwys.

Rôl y Comisiynydd yw mater arall sydd wedi achosi cryn drafod. Dim ond heddiw daeth galwad gan Fwrdd yr Iaith i waith hyrwyddo’r iaith orffwys gyda’r Comisiynydd. Ymddengys y bydd y Comisiynydd yn cael “hybu’r” iaith ond nid ei hyrwyddo.  Bydd swyddogaethau’r Comisiynydd yn cynnwys:

“(i) hybu defnyddio’r Gymraeg,
(ii) hwyluso defnyddio’r Gymraeg,
(iii) gweithio tuag at sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg,

(iv) cynnal ymholiadau i faterion sy’n ymwneud â swyddogaethau’r Comisiynydd, a

(v) ymchwilio i ymyrraeth â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg.”

Diwyg mwya’r Llywodraeth efallai o ran gwaith y Comisiynydd yw ymateb i’r alwad i sicrhau annibynniaeth y Comisiynydd. Lle’n wreiddiol roedd sôn am dymor o bum mlynedd i’r swydd gyda’r posibilrwydd o’i ail-ethol am ail dymor, dim ond un tymor gaiff Comisiynydd weithredu bellach, am uchafswm o 7 mlynedd. Y pryder gyda’r ddau dymor posibl oedd na fyddai’r Comisiynydd yn ymddwyn yn erbyn dymuniadau’r Llywodraeth yn ei bum mlynedd gyntaf yn y gobaith o gael ei ailbenodi. Fel hyn, fe fydd yn gweithredu yn gwybod na all gael y swydd eto. Ar waetha’r newid, digon posibl y bydd y cwynion yn parhau mai’r Llywodraeth sy’n mynd i benodi’r Comisiynydd, nid y Comisiwn.

Rhywbeth cwbl newydd yn y mesur yw’r Cyngor Partneriaeth y Cymraeg. Bydd yn gorff statudol fydd yn cynghori gweinidogion ar y strategaeth iaith Gymraeg ac yn cynnig arweiniad ar ddefnydd y Gymraeg  yng ngwaith adrannau’r Llywodraeth.

Does dim byd ar hawliau yn y mesur, o leiaf ddim yn y modd y mae Cymdeithas yr Iaith yn eu trafod. Mae’r Llywodraeth yn parhau i fynnu bod rhoi dyletswydd ar gyrff yn creu hawliau. Maen nhw’n edrych ar “hawliau grwpiau” tra bod Cymdeithas yn edrych ar “hawliau’r unigolyn.” Dyw ymateb Cymdeithas ddim wedi cyrraedd eto. Gwylier y gofod.

Fe fydd y Bwrdd yn ddig nad oes darpariaeth yn y gwelliannau i sicrhau dyfodol i gynlluniau iaith. Mae’r Llywodraeth yn cadarnhau na fydd “gwactod” rhwng dechrau cyflwyno safonau a diwedd effaith gyfreithiol cynlluniau iaith ond does dim bwriad o gael y ddwy system i weithio ochr yn ochr.

Mae’r mesur yn ben tost amlwg i’r Llywodraeth. Maen nhw am gyflawni addewid clymblaid Cymru’n Un ond gyda’r amser hir gymerodd y gorchymyn i drosglwyddo grym dros yr iaith o San Steffan i’r Bae dydyn nhw ddim wedi cael llawer o amser i lunio’r mesur. Roedden nhw bob amser yn disgwyl y byddai newidiadau mawr yn digwydd yn y mesur rhwng cam un a cham dau ond mae’n debyg iddyn nhw ddisgwyl mwy o gefnogaeth gan garedigion yr iaith wrth i’r broses fynd rhagddi. Mae’n “hanesyddol” o ddiwrnod eto heddiw medden nhw wrtha i. Cawn weld os yw’r ymgyrchwyr iaith yn cytuno, neu’n dal i feddwl bod cyfle yn cael ei golli. Am 18.23yh does dim ymateb wedi dod hyd yma.

Sylwadau

Emyr Lewis , Hydref 6, 2010 9:35 pm

Mae’n cymryd tipyn o amser i ddarllen a threulio 140 o ddiwygiadau i Fesur sydd eisioes yn gymhleth, ond ar fater statws yr iaith, mae arna’i ofn na allaf dderbyn honiadau’r Llywodraeth fod y diwygiadau yn cynnwys datganiad diamwys fod gan yr iaith Gymraeg statws swyddogol.

Mae’n wir bod Cymal 1(1) newydd y Mesur yn datgan fod yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.

OND, mae cymal 1(2) yn tanseilio hynny. Mae hwnnw’n cyfyngu effaith gyfreithiol statws swyddogol y Gymraeg i ddeddfau ac is-ddeddfau sy’n ymwneud a’r materion a grybwyllir yn y cymal hwnnw.

Hynny yw, nid oes grym cyfreithiol annibynnol o gwbl gan y datganiad yng nghymal 1(1) fod yr iaith Gymraeg yn iaith swyddogol yng Nghymru.

Nid yw cymal 1 fel mater o gyfraith yn newid statws yr iaith o gwbwl.

Hefyd, nid oes datganiad fod yr iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg yn gyfartal. Mae son am “weithio at” beidio a thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ond nid yw hynny’n gwneud y ddwy iaith yn gyfreithiol dan y gyfraith.

Gobeithio wir y bydd meincwyr cefn o bob plaid yn dilyn y consensws trawsbleidiol (gwirioneddol hanesyddol) a gafwyd yn y Pwyllgor Deddfu, a chynnig gwelliant sy’n gwneud datganiad gwirioneddol ddiamwys am statws swyddogol a chyfartal y Gymraeg.

§

Ychwanegu Sylw

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.