Cynyddu maint testun

Golwg360

Coron Gwlad…

Lansiwyd ymgynghoriad ar strategaeth iaith Llywodraeth y Cynulliad ddoe. Ar y cyfan, mae pobol yn croesawu cyhoeddiadau fel hyn. Dim byd newydd ddoe. Mewn ffordd mae hyn yn beth gwael. Petai’r peth yn fwy dadleuol, byddai mwy o sylw fel welon ni gyda’r mesur iaith.

Y gwir yw nad oes unrhyw beth pwysicach na chael strategaeth iaith gydag amcanion clir fel sydd gan hon. Heb fod y bobol sy’n medru’r Gymraeg yn ei siarad hi, does dim pwrpas cael Mesur Iaith i’w gwarchod hi. Does dim pwynt gwarchod rhywbeth nad yw pobol eisiau ei hachub. Mae’r strategaeth yn cydnabod bod y niferoedd sy’n dweud eu bod nhw’n gallu siarad Cymraeg yn cynyddu ond am wneud yn siwr bod y bobol hynny yn siarad Cymraeg. Mae’r strategaeth werth ei darllen yn ei chyfanrwydd.

Mae’n egluro sut mae’r Llywodraeth yn gobeithio annog rhieni ifanc i feithrin y Gymraeg yn eu plant ifanc 0-5 oed, ac i wneud y Gymraeg yn iaith y teulu. Mae’n trafod pwysigrwydd gwneud y Gymraeg yn iaith “difyrrwch” nid dim ond iaith ysgol er mwyn ei gwneud hi’n iaith apelgar i bobol ifanc yn eu harddegau, ei gwneud hi’n “cwl.” Mae’n sôn am bwysigrwydd creu’r iaith yn iaith y gweithle fel bod pobol gyffredin yn magu hyder yn eu Cymraeg -fyddai’n rhoi stop ar y frawddeg ddiflas honno “o, na dyw ‘Nghymraeg i ddim digon da” sydd i’w glywed yn fynych pan fydd rhywun yn ceisio dechrau sgwrs gyda rhywun anhyderus eu hiaith. (Problem fawr i newyddiadurwyr wrth ddod ar draws siaradwyr Cymraeg i glywed eu barn am hyn ar llall y ‘vox pops’ bondigrybwyll yw bod pobol sy’n amlwg yn gallu siarad Cymraeg yn iawn yn dweud na allan nhw siarad am nad yw eu Cymraeg nhw’n ddigon safonol -diffyg hyder yn amlwg.)

Fel mae Bwrdd yr Iaith a’r Gweinidog Treftadaeth yn ei ddweud, dyma’r unig strategaeth o’i bath yn y byd sydd mor bellgyrhaeddol ei bwriad i warchod iaith leiafrifol. Mae’r ddogfen dan ymgynghoriad nes mis Chwefror ac mae’r Llywodraeth eisiau clywed oddi wrthom ni bobol gyffredin sut allan nhw wella arni a sut i wneud y Gymraeg yn iaith hyfyw. Gobeithio wir y bydd hi’n llwyddo.

Sylwadau

Macsen , Rhagfyr 14, 2010 5:28 pm

Dwi’n croesawu’r ddogfen … fy mhryder fwyaf i yw a bydd hi’n cael ei gwerthredu. Yn syml, does gen i fawr o fydd mewn elfennau o’r gwasanaeth sifil yng Nghymru (nid y gwasanaeth sifil Gymreig, sylwch) ac yn y cynghorau sir.

Mae Ceredigion a Môn wedi bod waeth nag aneffeithiol.

Gydag ad-drefnu cynghorau mae dadl gref iawn er mwyn arbed arian ac arbed y Gymraeg i ddod a’r hen sir Gwynedd yn ôl gan gynnwys Môn a Dyffryn Conwy (ond hepgor Llandudno o bosib er mwyn osgoi dadleuon dibendraw).

Dod nôl â’r hen Ddyfed ond gan hepgor De Penfro (am yr un rheswm â Llandudno).

Y gamp nawr yw cael prosiectau cynhyrfus i godi calon a hyder y gymuned Gymraeg a thynnu pobl at ei gilydd. Gweithio’n gymunedol yn lleol ac efallai gwneud mwy o gylch chwaraeon a hamdden.

Felly, croesawu ond am weld beth yw’r ffurf o wneud yn siwr fod y Cynulliad a’r cynghorau sirol yn cadw at eu gair ac at ysbryd y ddogfen.

§

Jon Thomas , Rhagfyr 15, 2010 10:23 am

Rwy’n cytuno a Macsen, mae ‘na nifer fawr iawn o strategaethau da, ond dyw’r mwyafrif ddim yn cael eu gweithredu.

Un o’r enghreifftiau gwaethaf ydy polisïau Llywodraeth Cymru ar yr iaith Gymraeg. Maen nhw’n son am gynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle yn eu strategaethau, ond, ar yr un pryd maen nhw’n drafftio eu dogfennau eu hunain i gyd yn y Saesneg, hyd yn oed y rhai am y Gymraeg! Mae’n warthus.

§

Ychwanegu Sylw

Dynodir blychau angenrheidiol â *.

Ni chaiff eich cyfeiriad e-bost ei gyhoeddi. Wrth anfon y ffurflen rydych yn cytuno â thelerau ac amodau Golwg360.