Cynyddu maint testun

Golwg360

Newyddiaduriaeth dinesydd

Cyhoeddwyd Ionawr 27, 2012 gan Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Dim sylw.

Tagiau: Hyper-lleol



Mae Sion Richards yn fyfyriwr ymchwil yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae’n gweithio ar brosiect ar y cyd â Golwg360 i ddatblygu newyddion hyper-leol ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg,
a ariennir trwy gynllun Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS).

Yma mae Sion yn trafod newyddiaduriaeth dinesydd…

Mae’r term newyddiaduriaeth dinesydd, neu Citizen journalism wedi bodoli ym maes y cyfryngau ers sawl blwyddyn.

Terminoleg sydd wedi newid y ffordd mae cyfryngau’r newyddion yn cael ei greu a’i ddosbarthu gan drawsnewid yr hen system draddodiadol, sydd yn ymddangos ar yr olwg gyntaf yn elitaidd wrth fwydo gwybodaeth i’r gynulleidfa. Mae’r cynnwys a’r wybodaeth erbyn hyn wedi ei selio ar wybodaeth a ffynonellau aml-gyfrwng wedi ei ddarparu gan y defnyddwyr, sydd, ar adegau, yn cydweithio a gwella’r gwaith mae’r newyddiadurwr proffesiynol yn ei wneud.

Trefn o gydweithio ar lefel ddemocrataidd, sy’n siapio ein gweledigaeth o’r byd o’n hamgylch, gan helpu sefydliadau newyddion i ddarparu dadansoddiad mwy cywir a gwir o’r wybodaeth maent yn ceisio darparu.

Yn wir mae sefydliadau megis y BBC a S4C wedi annog gwylwyr yn y gorffennol i gysylltu gydag awgrymiadau, adborth neu gyfraniad i raglenni penodol, ond nid ydym wedi gweld y twf sylweddol o ddeunydd a defnydd gan y cyhoedd, yn enwedig wrth gynhyrchu newyddion/dogfen ar y  teledu a radio.

Newyddion wedi newid

Mae newyddion wedi newid dros y deng mlynedd ddiwethaf. Mae’r ffordd rydym yn ei ddarllen, ei ddefnyddio a’r ddarpariaeth i’r gynulleidfa yn hollol wahanol. Mae hyn i gyd yn effaith o dechnoleg newydd, a’r enghraifft bwysicaf, y ffôn gamera.

‘Mainstream media providers often use images and eyewitness accounts provided by citizens as elements within news stories’. (Redden & Witschge,2010;184)

Mae Lewis D’Vorkin yn ymhelaethu fod defnydd lluniau, fideo a cof llygaid dystion hefyd yn gwella dealltwriaeth y cyhoedd o sefyllfaoedd penodol, ‘first-hand accounts of breaking news … that can better understand[ing]’. (D’Vorkin,2005 cited in Allan,2006;166)

Ond mae enghraifft benodol  o ddefnydd llygaid dystion a defnydd y cof a’i annibynadwyedd, megis achos saethu Jean Charles De Menezes, a’r ansicrwydd o amgylch ffeithiau a ddarparwyd gan lygaid dystion o ran symudiadau De Menezes cyn ei ladd yn 2005 yn orsaf danddaearol Stockwell,Llundain.

Dyma ymchwil benodol gan y BBC, y Brifysgol Agored a Heddlu Manceinion sydd yn edrych ar ddefnydd y cof ac annibynadwyedd o ran cyfleu tystiolaeth mewn sefyllfaoedd o bwysau uchel, megis llygaid dystion mewn achos o lyfryddiaeth,  http://news.bbc.co.uk/1/hi/magazine/8617945.stm

Bomiau Llundain

Dechreuad y ffôn gamera fel dyfais i ddarparu a chasglu cynnwys newyddiadurol mewn sefyllfa o wir ddiddordeb i’r cyhoedd yn nol yn 2005, adeg bomiau terfysg Llundain ar y 7 Gorffennaf 2005.

Cafodd deunydd fideo/sain, negeseuon, lluniau a.y.b. eu gyrru i’r BBC o fewn munudau i’r ffrwydrad gyntaf, fel mae Helen Boaden, Cyfarwyddwr newyddion y BBC yn crynhoi , ‘People were sending us images within minutes of the first problems, before we even knew there was a bomb…some of them are just general comments, but a lot are first-hand accounts. If people are happy about it – and, if people have contacted us, they usually are – we put our programmes in contact with them’.  (Cited in independent on Sunday, 10 July 2005 cited Allan, 2010; 148)

Gan edrych nôl dros y flwyddyn ddiwethaf, mae straeon mwyaf y byd wedi cael eu harddangos trwy luniau amatur. Wyneb gwaedlyd Gaddafi, Gwanwyn Arabaidd a’r terfysgoedd ar hyd Lloegr drwy gydol  haf 2011. Mae’r deunydd a ddefnyddiwyd ar sgrin i gyd yn seiliedig ar ddefnydd aml-gyfrwng personol llygad dystion, neu amateur footage fel mae rhai yn ei alw.  Dywedai Richard Sambrook, erbyn hyn cyn-gyfarwyddwr y BBC World Service a Global News ‘… When major events occur, the public can offer us as much new information as we are able to broadcast to them. From now on, news coverage is a partnership’, sydd yn dangos neges glir o’r angen i gyd weithio er lles democrataidd o fewn cynnwys  newyddion.

Trwy ddefnyddio un o buzzwords eraill ym myd y cyfryngau, User Generated Content (U.G.C), ar wefannau megis Youtube.com a safleoedd aml gyfrwng tebyg, mae cynhyrchwyr erbyn hyn yn creu rhaglenni dogfen yn seiliedig ar ddeunydd llygad dystion sydd ar gael .

Enghraifft benodol yw Japans Tsunami: Caught on Camera. Rhaglen ddogfen (darlledwyd ar Channel 4, 8.30pm, 11/12/11) am drychineb a ddigwyddodd yn Siapan llynedd. Cafodd y rhaglen ei chreu o gynnwys fideos byrion oddi ar ffonau symudol wrth ddogfennu’r Tsunami yn taro trefi arfordirol yn Siapan, gan ddinistrio popeth o’i flaen mewn mater o eiliadau. Rhaglen a dangosodd wir ystyr Citizen Journalism trwy ddangos deunydd llygad dystion o’r trychineb.

Dim croeso gan bawb

Yn amlwg mae defnydd cynnwys aml-gyfrwng wedi blaguro ers technoleg a dyfodiad y we ddatblygu, ond nid ar bob achlysur mae’r cyfryngau confensiynol yn barod i groesawu rhai straeon a gwybodaeth, sydd wedi codi’r flwyddyn ddiwethaf.

‘The appeal of blogging as a counterpoint to mainstream reporting is readily apparent, especially when one sets it against the current tendencies toward homogeneity and standardization which increasingly characterize market driven journalism’ (Allam,2006; 173)

Mae hyn yn wir gyda sylwebaeth y cyfryngau ar brotestiadau ‘Occupy Wall Street’ yn Efrog Newydd. Mae sawl enghraifft o’r cyfryngau confensiynol yn bychanu gwerth ac ystyr y symudiad i’r Americanwyr cyffredin.

Dyma rhai enghreifftiau o ‘sefydliadau mawr’ yn bychanu gwerth y protestiadau, gyda blog Joanna Weiss yn Boston Today ac erthygl Ginia Bellafante yn y NYTimes, y ddwy yn gwneud hwyl am ben y sefyllfa, a Bellafante yn brandio’r symudiad fel ‘syrcas’.

Mae hefyd sawl enghraifft ar wefan YouTube o newyddion Americanaidd yn bychanu neu ddim yn deall pwrpas y protestiadau. Mae’r enghraifft yma yn dangos dryswch o ran cyflwynwyr Fox News,  gan gwestiynu bwriad y protestwyr.

Ond mae sawl blog yn darparu sylwebaeth o’r brotest. Sylwebaeth llygaid dystion o newyddion a gwybodaeth gan y protestwyr, megis gwefan http://wearethe99percent.tumblr.com/.

Dim ond barn ar bwy sydd yn dweud y gwir yw’r ddadl nesaf, a dibynadwyedd y ffynonellau.

Law yn llaw

Yn amlwg mae lle i newyddiaduraeth broffesiynol a newyddiaduriaeth dinesydd i gyd-fyw, a chyd-weithio, gan ddatblygu a gwella sefyllfa newyddiaduraeth yn gyfan gwbwl.

Mae Stuart Allan yn disgrifio sut mae’r don newydd o citizen journalism yn bwysig ar gyfer newyddion a gwybodaeth gan ddatgan ‘attention is similarly drawn to the value of the blog format as ‘a vehicle for breaking news’. (Allan, 2006; 122) Mae’n dangos fod mynegiant y cyhoedd ar lefel gymdeithasol yn galluogi materion pwysig frwydro eu ffordd i mewn i brif ddiwylliant darlledu, hyd yn oed os ydynt yn cael eu portreadu mewn ffordd anffafriol.

Gan orffen gyda dyfyniad gan Redden & Witschge, a sut mae dyfodiad technoleg, y we a defnydd citizen journalism wedi torri ffiniau mewn darlledu newyddion a’i greu yn gyfrwng democratig o fewn safbwynt y we- ‘The internet is the fastest growing platform for news… democratiz[ing] news production and reinvigorate democracy’ (Redden & Witschge,2010;184)

Beth ydy hyper-lleol?

Cyhoeddwyd Ionawr 4, 2012 gan Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Dim sylw.

Tagiau: Hyper-lleol, Sion Richards


Hafan Caerdydd.biz
Mae Sion Richards yn fyfyriwr ymchwil yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae’n gweithio ar brosiect ar y cyd â Golwg360 i ddatblygu newyddion hyper-leol ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dyma’r ail flog yn trafod ei ymchwil, lle mae’n trafod ystyr y term ‘hyper-lleol’.

Drwy fy astudiaeth hyd yn hyn, un o’r termau sy’n codi’n rheolaidd wrth astudio newyddiaduriaeth fodern a dyfodol y maes ar y rhyngrwyd yw’r term ‘hyper-lleol’.

Buzzword y byd newyddiaduriaeth a sector marchnata newyddion, sydd yn ffocysu ar destunau, newyddion perthnasol a lleol i’r darllenwyr.

Ond sut mae newyddion a sylwebaeth leol yn gwahaniaethu rhwng newyddiaduriaeth leol, ar hyn sydd yn dod o dan derminoleg ‘hyper-lleol’?

Rwyf am egluro’n fras gan ddefnyddio rhai ffynonellau academaidd a blogiau i egluro beth yw ‘hyper-lleol’ o fewn y byd newyddiaduriaeth, yn ogystal â sut gall y derminoleg helpu’r darllenwyr i ddarganfod gwybodaeth a’i ddefnyddio, gan hefyd efallai wella safle Golwg360.

Diffinio hyper-lleol

Mae’r byd rydym ynddo i’w weld yn bodloni ar y gair ‘lleol’. ‘Prynwch yn lleol’, ‘bwytewch yn lleol’, ‘gwnewch beth bynnag yn lleol’. Mae hefyd delfryd ideolegol Jeremy Hunt o deledu lleol mewn 6 ardal yng Nghymru, (sy’n methu’r canolbarth yn llwyr) – gyda Bangor a’r Wyddgrug yn y Gogledd ac Abertawe, Caerdydd, Caerfyrddin a Hwlffordd yn y de.  Syniad sydd yn wych i’r cymunedau lleol, ond yn bersonol rwyf yn amau’n gryf a fyddant yn llwyddiant.

Ond sut mae diffinio lleol, a lle mae’r ffiniau yn dechrau a gorffen ym myd y we. Ac yn bwysicach byth – lle a sut mae ‘hyper-lleol’ yn addas yng Nghymru ac yn y Gymraeg?

Drwy ddarllen sawl erthygl academaidd a blogiau ar y we, nid oes term penodol yn egluro beth yw ‘hyper-lleol’, a beth yn union sy’n ei wneud yn wahanol i sylwebaeth leol. Er hyn mae sawl ffynhonnell yn honni fod hyper-lleol wedi cyrraedd i achub newyddiaduriaeth – maes sydd yn ôl un meddylfryd yn anffodus, ar ei gliniau.

Mae ymchwil academaidd Emily T. Metzgar, Prifysgol Indiana, U.D.A. David D. Kurpius, Prifysgol Louisiana, U.D.A. a Karen M. Rowley ,Prifysgol Louisiana, U.D.A. o’r enw ‘Defining Hyperlocal: Proposing a framework for discussion’ yn mentro creu diffiniad gan ymchwilio i’r maes yn yr America.

Mae’r darn yn cymharu chwe safle gwe, sydd yn honni eu bod yn safleoedd ‘hyper-lleol’. Gyda model ariannol pob un yn wahanol – rhai wedi ariannu a rheoli gan gwmnïau newyddiadurol sydd ag elw mawr, a rhai wedi eu rheoli gan ddinasyddion brwdfrydig am ddim arian o gwbl.

Yr hyn mae’r ymchwil yn datgelu yw bod y gwefannau yn rhannu chwe phrif elfen graidd er mwyn cael eu labelu’n safleoedd ‘hyper-lleol’.

  • Elfen Ddaearyddol ‘leol’
  • Defnydd y gymuned yn yr ardal ‘leol’
  • Adrodd newyddion gwreiddiol
  • Gynhenid i’r we
  • Llenwi bylchau newyddion sydd yn cael eu methu gan newyddiadurwyr
  • Ymgysylltiad dinasyddion gyda’i gilydd.

Mae’n dangos yn glir mai’r elfennau sydd yn bwysig ar gyfer creu safleoedd ‘hyper-lleol’ yw defnydd y cyhoedd, ei brwdfrydedd ar gyfer adrodd gwybodaeth, brwdfrydedd yn y gymdeithas a phlatfform ar lein i greu hyn.

Gwefannau ‘Hyper-lleol’ yn y Gymraeg

Enghraifft o wefan ’hyper-lleol’ drwy’r Gymraeg yw www.caerdydd.biz mae’r wefan yn rhoi sylw i ddigwyddiadau’r ddinas, gyda rhestr eang o bethau sy’n digwydd ar newyddion diweddaraf.

Mae www.borthcommunity.info yn enghraifft wych o safle ‘hyper-lleol’ tu allan i ddinas, sydd yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau a newyddion ardal Borth, ger Aberystwyth.

Mae’r ddwy wefan yn talu sylw i wybodaeth yr ysgolion lleol, newyddion gan y cynghorau lleol a materion cyfoes eraill sydd yn bwysig yn y cymunedau.

Mae defnydd y cyhoedd yn allweddol i’r ddwy enghraifft, wrth ddarparu’r cynnwys sydd yn allweddol i redeg y gwefannau, gan hefyd godi ymwybyddiaeth o’r digwyddiadau a newyddion yn yr ardaloedd maent yn gweithredu ynddynt.

Gellir dadlau fod tudalennau ar safleoedd megis Facebook yn ‘hyper-lleol’. Mae tudalennau newyddion am gymunedau ar gael yn rhwydd, lle gall y cyhoedd wneud sylwadau a chynnwys eu negeseuon, gwybodaeth ac ati ar y tudalennau hynny. Mae hyn yn wir hefyd gyda Twitter.

Gwerth ‘hyper-Lleol i Golwg 360 yn 2012

O ran Golwg360, y ddelfryd a gobaith yw ymestyn at gymaint o bobol ag sydd bosib trwy’r iaith Gymraeg. Mae’r newyddion, manylion digwyddiadau a gwybodaeth o bob cwr o Gymru yn allweddol i’r gwasanaeth mae Golwg yn darparu i’r genedl. Wrth gwrs maen anodd iawn i griw bach, sydd wedi’i wasgaru o amgylch Cymru weithio ar lefel ‘hyper-lleol’.

Fel y dywedais yn fy mlog cyntaf – bwriad ‘hyper-lleol’ Golwg360 yw creu hafan seibr ar gyfer gwybodaeth Gymraeg, gan gasglu gwybodaeth o wefannau ‘hyper-lleol’ eraill, a’u  dosbarthu i gynulleidfa eang. Bydd hyn o fudd i wefannau ‘hyper-lleol’ sy’n bodoli eisoes fel modd o yrru traffig at eu gwybodaeth hwythau.

Mae fy mhrosiect yn dechrau cymryd siâp wrth weithio gyda mentrau iaith, blogiau a gwefannau, wrth geisio casglu gwybodaeth a dilynwyr er mwyn ehangu gwefan Golwg360, ac i greu yn lleoliad byrlymus ar gyfer gwybodaeth o bob math ym myd y Cymry.

Gobeithio cawn weld datblygiadau yn ystod misoedd y gwanwyn.

Dilyn esiampl Gwlad y Basg?

Cyhoeddwyd Tachwedd 22, 2011 gan Sion Richards. 3 Sylw.

Tagiau: Goiena, Hyper-lleol, Sion Richards



Mae Sion Richards yn fyfyriwr ymchwil yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae’n gweithio ar brosiect ar y cyd â Golwg360 i ddatblygu newyddion hyper-leol ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd yn blogio’n rheolaidd am ei ymchwil, a dyma’r cofnod cyntaf.

Does ddim cwestiwn fod hinsawdd cyfryngau yng Nghymru ar fin, ac angen newid. Mae sefydliadau mwyaf y byd darlledu Cymraeg, S4C ar BBC, yn dioddef o’r hinsawdd economaidd, bwyall ariannol Mr Hunt ai gymdogion yn y blaid Geidwadol  … ac o safbwynt S4C, trafferthion mewnol, ac ar sgrin.

Mae’r cyfryngau wedi newid, ac yn dal i newid. Mae’r defnydd o buzzwords megis ‘Hyperlocal’ a Citizen / Guerilla Journalism yn bla o fewn y byd cyfryngau,  ac yn enwedig newyddiaduriaeth.

“The idea is to get residents involved”, ( Moskowitz, 2010)

“Fill perceived gaps in coverage of an issue or region and to promote civic engagement.” (Metgar, Kurpius & Rowley,2011)

A dyma be sydd wedi digwydd ers blynyddoedd yng Ngwlad y Basg, defnyddio cyfryngau amgen i ddarlledu beth mae’r bobl isio ei glywed drwy gyfrwng traddodiadol y radio , print a’r we.

Radio llwyddiannus Gwlad y Basg

Radio Pirate Hala Bedi Irratia sydd yn dal sylw Txema Ramirez de la Piscina (2010) yn ei erthygl ‘Basque Country as Alternative Media Laboratory’.

Mae’r erthygl yn crynhoi dyfodiad radio pirate yr 1980au a’r symudiadau celfyddydol a diwylliannol yn y cyfnod, a sut mae symudiad tanddaearol diwylliannol yn gallu, ar brydiau sbarduno symudiad i fywyd cymunedol gyda dyfalbarhad ac ymroddiad chefnogwyr.

Mae Hala Bedi Irratia wedi bodoli ers dros 25 mlynedd ac yn darlledu am 24 awr y dydd – sydd ddim yn ddrwg am orsaf sydd mewn theori, ddim yn gyfreithlon. Gyda miloedd o wrandawyr y dydd, mae’r orsaf yn ddyledus i sawl gweithiwr di-dâl.

Modelau Cymreig

Yn wir mae fformat y papur bro yn creu’r un math o waith trwy ddefnydd weithwyr gwirfoddol ac yn ôl Gwilym Huws

“they are something more than just a newspaper… they are as integral a part of their localities as the school, the football club or the village hall.” (Huws, 1996; 93)

Ond efallai nad ydynt cweit wedi symud i’r unfed ganrif ar hugain, eto.

Erbyn heddiw mae sawl symudiad tanddaearol yng Nghymru yn darparu cynnwys aml gyfrwng ar lein, a thrwy hyn yn cadw’r deunydd yn lleol ac yn llenwi’r bylchau sydd yn cael eu methu gan sefydliadau darlledu mwy.

Mae’r wefan Amrwd yn ennill ei chlod gan enwau fel Huw Stephens o’r byd radio, gan ddarparu cerddoriaeth gan artistiaid ifanc am ddim trwy gyfrwng podlediadau rheolaidd o dan yr enw ‘Jazz Ffync a Gemau Fideo’ gan ddau o’r cyfranwyr.

Mae hefyd prosiectau megis Fideo Bob Dydd, umap Cymraeg , (y diweddar) Radio Amgen a Podlediadau Nyth i enwi rhai sy’n darparu cynnwys amgen ar-lein trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasu.

Mae ‘na hefyd ddatblygiad newydd ‘Radio’r Cymry’ fel mae’n cael ei alw ar hyn o bryd, a all efallai lenwi’r twll sydd wedi ei adael gan orsafoedd Cymraeg megis Radio Ceredigion a Champion?

Rôl Golwg360.com

Felly a oes le i Golwg 360, fel gwasanaeth newyddion cenedlaethol,  gamu i’r blwch a chasglu’r holl wybodaeth / cynnwys Cymraeg i greu hafan seibr cenedlaethol Gymraeg sydd yn ddibynadwy ar ddeunydd crai ‘user generated content’?

Cyfeiriais ynghynt at Wlad y Basg, mae safle Goiena yn ei wneud yn effeithiol trwy gasglu sawl ffynhonnell allanol ai ddarparu i gynulleidfa fwy eang o fewn y wlad.

Yr hyn mae Goiena wedi ei wneud yn effeithiol ydi casglu cyfryngau lleol diwedd yr ugeinfed ganrif e.e. radio pentrefi, teledu lleol a chyfryngau print lleol – megis papurau bro – a’u haddasu i fformat cyfryngau lleol aml blatfform ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Wrth greu perthynas â chyfryngau lleol, mae Goiena wedi creu uned o gyfryngau lleol, sydd yn galluogi Goiena i gynnal swyddi a chadw’r elfen gymunedol yn gryf o fewn fframwaith y cwmni.

Trwy ddod a sawl newyddiadurwr o lefel guerrilla i’r proffesiynol maent yn galluogi’r cwmni i ddarparu arbenigedd mewn pynciau a meysydd penodol e.e. chwaraeon lleol, iechyd, addysg ac ati. Maent wedi caniatáu i newyddiadurwyr sticio at feysydd maent yn arbenigo ynddynt, ond gan ddarparu’r wybodaeth i’r cyhoedd ar lefel ehangach trwy gyfrwng  gwefan/papur print Goiena.

Aildrefnu i oroesi

Fe wnaethon Goiena aildrefnu gan fod angen iddyn nhw feddwl am gynaliadwyedd.

Oedd yr unedau lleol yn rhy fach i gynnal y safon/math/ansawdd roedden nhw eisiau? Beth oedd y model economaidd gorau – aros yn fach efo costau bach neu fynd yn fwy efo costau mwy? Beth oedd arwyddocâd y lleol, ar ôl 25 mlynedd o gyfryngau lleol? Oedd pobl yn dal i fyw’r un fath? Ble oedd y lleol / yr ardal yn cychwyn ac yn gorffen ym meddyliau’r boblogaeth?

Eu penderfyniad nhw oedd bod rhaid mynd dipyn bach yn fwy – y dyffryn i gyd ac nid y pentrefi unigol – er mwyn cynnal (a) safon newyddion/cynnwys (b) gallu defnyddio amlgyfryngau (c) model economaidd cynaliadwy (ch) ardal ystyrlon i fywydau pobl.

Felly, a all darpariaeth cynnwys gymysg o hyper-lleol a newyddiaduriaeth broffesiynol, amlgyfrwng drwy’r iaith Gymraeg – gan ei weithredu drwy un wefan benodol -  dangos i Mr Hunt fod yr iaith yn fyw, ac yn bwysig i drigolion pob dydd yng Nghymru?

Croeso i’r 21st century? Neu obaith seibr-ffantasi?

*Diolch yn fawr i Elin Haf, o adran Theatr,Ffilm a Theledu, Brifysgol Aberystwyth.